Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 30 Ionawr 2019.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am ddechrau gyda'ch cyfres olaf o gwestiynau ynghylch AGIC a'u hannibyniaeth. Ydynt, maent yn gweithredu'n annibynnol. Gwnaethant benderfyniadau ynghylch pwy i'w gweld a sut i gynnal yr ymchwiliad. Credaf eu bod wedi gweld tua 40 o wahanol bobl, aelodau staff presennol ac aelodau staff o'r gorffennol, yn ogystal â theuluoedd y tair menyw, ynghyd â theulu Christine James, a gafodd ei llofruddio gan Kris Wade fel y gwyddom.
Cafodd yr adroddiad ei ryddhau i'r menywod a oedd wedi cwyno, eu teuluoedd neu eu cynrychiolwyr, wythnos cyn cyhoeddi'r adroddiad. Yn ogystal, cyfarfu AGIC â'r menywod wythnos cyn yr adroddiad. Yna rhyddhawyd yr adroddiad iddynt ar 28 Ionawr. Ac, ar 28 Ionawr, cynhaliodd AGIC sesiwn friffio dechnegol ar gyfer y wasg, a darparu copi o'r adroddiad i chi. Mater i AGIC yw cyhoeddi'r adroddiad, ac nid mater lle cafwyd unrhyw fath o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth nad oedd casgliadau'r ymchwiliad a'r broses i gyrraedd y casgliadau hynny yn gwbl annibynnol.
Rwyf am ddychwelyd at y pwynt rydym yn sôn amdano—tair o fenywod agored i niwed y gwnaed cam mawr â hwy. Ac mae'n ddrwg iawn gennyf fod y tair ohonynt wedi cael cam, nid yn unig gan unigolyn o fewn y gwasanaeth iechyd, ond gan y ffordd y gwnaeth y gwasanaeth cyfan ymateb i'r gŵyn wedyn, ac yn arbennig yr ymateb wedi'r gŵyn gyntaf, lle cydnabyddir na chafodd y mater ei adnabod fel mater diogelu ar unwaith a'i drin yn unol â hynny. Fe gafodd yr ail a'r drydedd gŵyn eu trin felly. Fel y gwyddom, penderfynodd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â bwrw ymlaen ag erlyniad. Nawr, mae hynny y tu allan i gylch gwaith y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn wir. Ond rwy'n cytuno, rydych yn dechrau drwy gredu'r sawl sy'n gwneud y gŵyn—mae'n rhaid i hwnnw fod yn fan cychwyn i chi. Fel arall, gwyddom na fyddwn yn annog pobl i wneud cwynion fel y dylent, ac yna ymdrin â'r cwynion mewn modd sensitif pan fyddant yn cael eu hymchwilio.
Af ymlaen, rwy'n credu, at y ddau bwynt arall a godwyd gennych—o ran cynllun gweithredu a beth fydd yn digwydd nesaf, o fewn ychydig wythnosau, bydd angen i'r bwrdd iechyd gyflwyno cynllun gweithredu i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ni fyddant yn cyflwyno'r cynllun hwnnw i'r Llywodraeth, bydd yn mynd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a fydd yn penderfynu a yw'r cynllun gweithredu hwnnw'n ddigonol. A diau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dychwelyd i weld pa gynnydd, gan gynnwys cyflymder a chysondeb y cynnydd, y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud mewn perthynas ag ymdrin â'r argymhellion hynny. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â thri argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth.
O ran eich galwad am fesurau arbennig a newid arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd, wrth gwrs, mae'r prif weithredwr yn newydd ac nid oedd yn ei swydd pan gynhaliwyd yr adolygiad bwrdd gwaith, nac yn wir pan ddigwyddodd y digwyddiadau, ac o ran y bwrdd ei hun, nid oes unrhyw awgrym gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y dylid gwneud newidiadau ar lefel y bwrdd. A hoffwn atgoffa'r Aelod ac eraill sydd yma neu'n gwylio bod gwneud bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn destun mesurau arbennig yn rhywbeth sy'n digwydd yn dilyn cyngor gan brif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn wir. Pe bai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ystyried hynny'n briodol, byddent wedi dweud hynny a byddai cyfle wedi bod i gynnal cyfarfod arbennig o dan y statws uwchgyfeirio.
Felly, rwy'n derbyn cyngor ar y materion hyn gan bobl sy'n gwbl annibynnol, ac mae hynny'n rhoi sicrwydd i bobl Cymru nad ydym yn gwneud sefydliadau gofal iechyd yn destun mesurau arbennig neu'n eu tynnu allan o fesurau arbennig er mwyn bodloni gwleidydd yn y Llywodraeth neu tu allan, a dyna'n bendant yw'r peth cywir i'w wneud. Ond rwy'n benderfynol y bydd y gwasanaeth iechyd yn ymdrin â'r argymhellion yn yr adolygiad annibynnol hwn ac y bydd yn gwneud hynny o ddifrif ac yn fuan.