1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargeinion twf yng Nghymru? OAQ53379
Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae bargeinion twf ar wahanol gamau aeddfedrwydd ledled Cymru, gan adlewyrchu gwahanol amseroedd cychwyn. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i fod yn bartner llawn yn natblygiad a darpariaeth bargeinion llwyddiannus i bob rhan o Gymru.
Un o heriau bargeinion twf yng Nghymru, o'i gymharu â Lloegr, lle'r oedd llawer yn mynd o'r blaen, yw bod Llywodraeth Cymru yn bartner pwysig arall yn yr ystafell, y mae angen ei chytundeb i gyflawni bargeinion, a bydd ganddi, yn briodol, wahanol bwysleisiau, ac efallai mewn rhai meysydd, gwahanol flaenoriaethau i Lywodraeth y DU. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ei phresenoldeb, a'r gofyniad hwnnw am gadarnhad ychwanegol, yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd i helpu i fwrw ymlaen â bargeinion twf yn hytrach na'u rhwystro neu eu harafu nhw mewn unrhyw ffordd, ac yn benodol rhoi cymorth i gynghorau lle efallai nad oes ganddyn nhw yr un lefel o seilwaith a chyllideb â rhai o'r bargeinion twf eraill?
Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y cymhlethdod ychwanegol y mae Mark Reckless yn cyfeirio ato, ond rydym ni wedi bod yn bartneriaid cadarnhaol a pharod erioed yn yr ymdrech i greu bargeinion twf mewn gwahanol rannau o Gymru. Cadarnhawyd bargen ddinesig Abertawe gan y Prif Weinidog blaenorol ar y cyd â Phrif Weinidog y DU, gan ddangos y gwaith a wnaed ar y cyd gydag awdurdodau lleol, a gydag eraill â buddiant, a chyda'r sector preifat, yn y rhan honno o Gymru. Ac rydym ni'n bwriadu chwarae rhan gadarnhaol yn y gogledd hefyd, lle bu fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn cyfarfod â'r bwrdd uchelgais economaidd yn ystod y 10 diwrnod diwethaf. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r digwyddiad a gynhaliwyd yma yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf o ran bargen ar gyfer y canolbarth. Ac yn yr holl gyd-destunau hynny, sy'n wahanol ac yn peri gwahanol heriau, bydd Llywodraeth Cymru yn bresenoldeb cyson, ac yn bresenoldeb cadarnhaol gyson hefyd.
Dwi wedi galw am arian ychwanegol a ffocws ychwanegol i fargen twf y gogledd, o ganlyniad i gyhoeddiad Hitachi ynglŷn â Wylfa Newydd, ac mi ellid ychwanegu cyhoeddiad Rehau yn Amlwch at hynny hefyd. A thra mod i'n nodi a chroesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn barod i roi rhagor o arian i'r fargen twf yn y gogledd, os daw arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi yn ymwybodol o bryderon y gallai newid y fargen twf rŵan arwain at oedi yn y broses. Os felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried rhyw fath o gynllun cyllido yn ychwanegol at y fargen twf, ac yn rhedeg mewn paralel â'r fargen twf, er mwyn dod â'r hwb angenrheidiol yna i Ynys Môn, ar yr adeg heriol yma?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn. Wrth gwrs, rŷn ni'n gallu gweld beth ddywedodd e am y pryderon yn y gogledd, ar ôl Wylfa, os bydd hwnna'n cael effaith ar y fargen twf, sy'n tynnu pethau yn ôl. Mae'r Gweinidog hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi mwy o arian i fewn i'r fargen twf yn y gogledd nawr, ar ôl Wylfa. Ac rŷn ni wedi dweud, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, os bydd mwy o arian yn dod o'r Deyrnas Unedig, ein bod ni'n fodlon edrych a allwn ni roi mwy o arian i fewn i'r fargen hefyd, i helpu pobl yn y gogledd ar ôl beth sydd wedi digwydd yn Wylfa, ac yn ehangach ar yr ynys yn benodol.
Prif Weinidog, i'm hetholwyr i yn Islwyn, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn cynnig y posibilrwydd gwirioneddol o weddnewid ein cymunedau. Nod y fargen ddinesig yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac ysgogi gwerth £4 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat. Pa gymorth ychwanegol, felly, a goruchwyliaeth y gall Llywodraeth Cymru eu cynnig i'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a beth all cymunedau Islwyn ei ddisgwyl ei weld yn realistig o ffrwyth yr ymdrechion hyn?
Wel, diolch i Rhianon Passmore am hynna. Yn union fel yn fy ateb i Mark Reckless, cyfeiriaf at gyfranogiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn bargeinion dinesig ledled Cymru. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi cyfarfod ddoe ag Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a chadeirydd bwrdd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd, i drafod cynnydd o ran y fargen honno a phethau y gallwn ni eu gwneud i barhau i'w chynorthwyo. Gwn fod gan fargen ddinesig prifddinas Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mewn tai yn yr ardal, i ddod â safleoedd segur i ddefnydd buddiol; i ychwanegu rhagor o fuddsoddiad at seilwaith trafnidiaeth yr ardal, i fynd ochr yn ochr â'r rhan ganolog honno o fargen Caerdydd sef y cynllun metro. Yn hynny o beth, gall pobl sy'n byw yn ardal yr Aelod, ac yn ehangach, edrych ymlaen at well cysylltedd, cyfleoedd economaidd newydd, lefelau sgiliau uwch ymhlith pobl sy'n byw yn Nhorfaen, ac mae hynny i gyd yn rhan o'r cynllun uchelgeisiol sydd gennym ni ar y cyd â'r 10 awdurdod lleol sy'n rhan o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd.