1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Chwefror 2019.
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch lliniaru tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ53372
Diolchaf i Jayne Bryant am hynna. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan drafod materion trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar dde-ddwyrain Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Mae llygredd aer a achosir gan dagfeydd traffig llonydd rheolaidd ar yr M4 yn ardal Casnewydd eisoes ar lefelau uchel. Mae'n broblem hirsefydlog, sy'n parhau i waethygu, ac yn cynrychioli risg sylweddol i iechyd fy etholwyr i. Mae cludiant cyhoeddus gwell, rheolaidd, dibynadwy a fforddiadwy yn bwysig i Gasnewydd, ond ni fydd yn datrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae'r ystadegau traffig dangos yn eglur nad pobl Casnewydd yw prif achos y tagfeydd, ond nhw yw'r rhai sy'n gorfod byw gyda'i ganlyniadau yn feunyddiol.
Pan fo digwyddiadau ar y draffordd, fel yr oedd y bore yma i'r ddau gyfeiriad, mae tagfeydd a llygredd aer yn tagu Casnewydd ymhellach. Prif Weinidog, mae hwn yn fater sy'n gofyn am atebion tactegol byrdymor a strategol hirdymor. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid yw gwneud dim yn ddewis. Tra ein bod ni'n aros yn eiddgar am ganlyniadau'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, a wnewch chi ystyried ffurfio tasglu o arbenigwyr, sy'n cynnwys pobl, busnesau a chynrychiolwyr lleol, i ystyried y dewisiadau uniongyrchol sydd ar gael?
Llywydd, a gaf i ddweud bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, er bod y ddadl ar lawr y Cynulliad yn canolbwyntio yn gwbl ddealladwy ar adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol a'r hyn y gallai hwnnw ei wneud yn y dyfodol, mae hynny rai blynyddoedd i ffwrdd, yn anochel, beth bynnag fydd canlyniad hynny, tra bod y problemau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn broblemau sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghasnewydd? Gwn ei bod wedi cyfarfod gyda'r Gweinidog yn y diwrnodau diwethaf i drafod y camau hynny sydd eisoes yn cael eu cymryd yn ardal Casnewydd i fynd i'r afael â'r materion y mae Jayne Bryant wedi tynnu sylw atynt.
Nawr, mae'r syniad o ffurfio tasglu o arbenigwyr i edrych, fel y dywedodd, ar y dewisiadau uniongyrchol yn ymddangos i mi fel un deniadol iawn. Gofynnaf i'r Gweinidog, Ken Skates, ei drafod gyda Jayne Bryant yn uniongyrchol ac ymhellach. Mae gwaith a wnaed eisoes gyda'r awdurdod lleol o ran cynlluniau ansawdd aer lleol, felly byddai gan grŵp gorchwyl a gorffen o'r fath waith y byddai'n gallu manteisio arno wrth geisio llunio rhai atebion ar unwaith i'r anawsterau a wynebir yn y rhan honno o Gymru, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am godi'r posibilrwydd hwnnw gyda ni y prynhawn yma.
Prif Weinidog, cyhoeddwyd datganiad yr wythnos diwethaf, wedi ei lofnodi gan ddwsinau o fusnesau ac arweinwyr cyngor, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Roedd y llofnodwyr yn cynnwys Syr Terry Matthews a phenaethiaid busnesau fel Aston Martin, Tata ac Admiral—cwmnïau a ddisgrifiwyd gan gyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru fel pobl sydd â'u bys ar guriad calon economi Cymru.
Cyhuddodd un cwmni eich Llywodraeth o oedi i roi amser i'w hun a chwilio am resymau i beidio ag adeiladu'r ffordd liniaru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r busnesau a'r arweinyddion cyngor hyn bod gohirio penderfyniad yn dal economi Cymru yn ôl ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i roi dyddiad pan fydd y mater hwn yn cael ei ddwyn gerbron y Cynulliad hwn? Mae wedi bod ar y gweill ers yr wyth i 10 mlynedd diwethaf bron, ac mae bob diwrnod sy'n mynd heibio yn ychwanegu at y gost o adeiladu, neu ba ffordd bynnag yr hoffech chi feddwl amdano. Mae angen taer i'r ffordd hon gael ei datblygu, a gwneud yn siŵr o'r tagfeydd hyn, a fyddai'n gwella ein heconomi, ein hiechyd, ein haddysg ac, yn fwy nag unrhyw beth arall, ein chwaraeon. Diolch.
Wel, Llywydd, roeddwn i'n gwrando pan ofynnodd arweinydd yr Aelod yr union gwestiynau hynny i mi yn gynharach y prynhawn yma ac nid wyf i'n credu y gwnaf i gymryd amser yr Aelodau drwy ailadrodd yr un atebion, gan fod yr Aelodau wedi clywed yr un cwestiynau eisoes.