– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 5 Chwefror 2019.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: y wybodaeth ddiweddaraf am fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans.
Diolch. Y llynedd, cyhoeddodd y cyn-weinidog cyllid ddatganiad ysgrifenedig ynghylch datblygiad y model buddsoddi cydfuddiannol i'n helpu i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith cyhoeddus.
Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi disgrifio droeon yn y Siambr hon sut mae ein cyllidebau cyfalaf yn crebachu o ganlyniad i bwyslais digyfaddawd Llywodraeth y DU ar gyni. Torrwyd 10 y cant oddi ar ein cyllideb cyfalaf mewn termau real o ganlyniad i'r polisïau cynni hyn. Yn 2019-20, mae hyn yn golygu y bydd gennym ni £200 miliwn yn llai i'w wario nag oedd gennym ni yn 2010-11, ond mae ein cynlluniau a'n galw am fuddsoddiad cyfalaf yng Nghymru wedi parhau i dyfu.
Ychydig fisoedd yn ôl, roedd Canghellor y Trysorlys yn datgan fod cyni ar ben a'i fod yn cyhoeddi cyllideb i ryddhau buddsoddiad i sbarduno ffyniant ar gyfer y dyfodol. Aeth yn ei flaen wedyn i roi dim ond £2.6 miliwn o gyfalaf ychwanegol i'r Cynulliad hwn fynd i'r afael â phob angen buddsoddiad sydd heb ei ddiwallu sydd gennym ni yn y flwyddyn i ddod. Dyma'r cyd-destun y bu'r Llywodraeth hon yn gweithio ynddo i geisio gwneud defnydd llawn o'r holl ffynonellau o gyllid cyfalaf sydd ar gael i ni, ac i ddatblygu ffynonellau newydd ac arloesol o ariannu, gan gynnwys y pŵer i gyhoeddi bondiau a model buddsoddi cydfuddiannol Cymru.
Er bod arnaf i eisiau canolbwyntio yn yr amser sydd gennyf y prynhawn yma ar y model buddsoddi cydfuddiannol a'r datblygiadau diweddaraf, fe hoffwn i hefyd ddweud ychydig eiriau o ran gallu cael arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop a'n perthynas yn y dyfodol ar ôl Brexit.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ynghylch ei safbwynt ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop. Fe wnaethom ni alw ar y DU i aros yn bartner tanysgrifio yn y banc—rhywbeth yr ydym ni'n credu a fyddai wedi bod yn gyraeddadwy pe byddai'r DU wedi dangos yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop: mae benthycwyr yn elwa o gost cyfalaf llai ac mae aelod-wladwriaethau yn eu swyddogaeth fel buddsoddwyr yn elwa o adenillion graddol ar fuddsoddiadau. Fel y mae pethau, gyda neu heb gytundeb, ar 29 Mawrth, bydd y DU yn gadael Banc Buddsoddi Ewrop yn ddisymwth. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi unrhyw drefniant diogelu ar waith, ac eithrio cynnig i roi £200 miliwn o gyfalaf ychwanegol i Fanc Busnes Prydain yn 2019. Does dim ond angen imi nodi bod Banc Buddsoddi Ewrop dros y 10 mlynedd diwethaf wedi buddsoddi ar gyfartaledd mwy na £5 biliwn y flwyddyn yn y DU i ddangos pa mor bitw yw'r trefniant diogelu hwn. Dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Tŷ'r Arglwyddi, yn gynnil braidd, bod diffyg unrhyw gynigion ystyrlon gan y Llywodraeth Geidwadol ynglŷn â pherthynas gyda Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu ddewisiadau domestig amgen yn siomedig. Ar y lleiaf, mae'r Llywodraeth hon eisiau i'r Deyrnas Unedig anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau perthynas ystyrlon gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Rhaid i'r berthynas honno gynnwys mandad clir i Fanc Buddsoddi Ewrop barhau i fuddsoddi yma, gan ddarparu'r arian a'r arbenigedd y mae benthycwyr cyhoeddus a phreifat wedi gallu dibynu arnyn nhw ers mwy na phedwar degawd.
Gan droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Cyllid am roi ystyriaeth briodol i'r model buddsoddi cydfuddiannol tuag at ddiwedd y llynedd. Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni wedi ymrwymo i gyflawni tri chynllun gan ddefnyddio'r ffurf arloesol hon o gyllid: cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, buddsoddiad ychwanegol yng ngham nesaf rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a Chanolfan Ganser newydd Felindre. Gyda'i gilydd, mae gan y cynlluniau hyn werth cyfalaf o fwy na £1 biliwn, ac ni fyddent yn fforddiadwy o'n cyllidebau cyfalaf cyfredol, sydd wedi'u disbyddu. Pe na byddem ni wedi datblygu'r model, byddai prosiectau fel y rhain yn gorfod aros eu tro nes bod digon o gyfalaf ar gael, ac er gwaethaf yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gan San Steffan ynglŷn â diwedd cyni, nid yw'r rhifyddeg gyllidebol yn adlewyrchu hyn o gwbl.
O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach. Yn wir, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn disgwyl i bob awdurdod contractio yng Nghymru gynnal adolygiadau o'u contractau menter cyllid preifat hanesyddol a chanfod ble mae modd gwneud arbedion.
O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny. Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Byddwn yn gofyn i holl gynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol gael arfarniad buddsoddi trwyadl y model pum achos—dull arfarnu achrededig rhyngwladol, y mae Llywodraeth Cymru yn gydberchennog arno. Mae Gweinidogion Cyllid y G20 wedi mabwysiadu egwyddorion y model yn sail ar gyfer safon fyd-eang o ran arfarnu buddsoddi mewn seilwaith.
Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'r DU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw. Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf.
O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad. Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau.
Cytunais y mis diwethaf, yn ddibynol ar gwblhau gwaith diwydrwydd dyladwy yn foddhaol, y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 15 y cant o gyfanswm y gofyniad cyfalaf risg ar gyfer y cynllun i ddeuoli ffordd yr A465, wrth ddisgwyl penderfyniad i ddechrau adeiladu. Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat. Er bod pob cyfalaf risg, drwy ddiffiniad, yn fuddsoddiad gydag elfen o risg, rydym ni'n disgwyl i'n buddsoddiad ennill elw i'r sector cyhoeddus y gellir ei ailfuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus eraill.
Mae'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth wedi penderfynu gwneud y gorchmynion ar gyfer y cynllun hwn. Cyhoeddwyd llythyrau hysbysu ddoe. Bydd yn rhoi manylion pellach am gynnydd y prosiect hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod y pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, ac rydym ni wedi bod yn benderfynol yn ein hymrwymiad i wneud popeth yn ein gallu i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU. Ochr yn ochr â'r pecyn tair blynedd o fesurau ariannol ychwanegol a gyhoeddwyd gennym ni cyn y gyllideb derfynol, rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol ill dau.
Bydd prosiectau cyfalaf yn elwa o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru o 65 y cant o'r costau, a bydd prosiectau sy'n defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn elwa o gyfraniad lled-gymharol gan Lywodraeth Cymru o 81 y cant o'r costau. Bydd ysgwyddo rhagor o faich, er yn heriol, yn darparu cymorth ychwanegol gwerthfawr i'n partneriaid darparu yn y cyfnod hwn o gyni. Mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i ni gyflawni mwy mewn partneriaeth. Bydd y Gweinidog Addysg yn nodi manylion pellach am y gyfradd ymyrraeth mewn datganiad ysgrifenedig cyn bo hir. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Cyllid am ddatganiad heddiw? Rwy'n credu mai dim ond yr wythnos diwethaf y gofynnais i'r Prif Weinidog am y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol—rwy'n credu eich bod chi'n eistedd yn y Siambr ar yr un pryd, Gweinidog—felly yn sicr dyna effeithlonrwydd. Gan hepgor y rhagymadrodd arferol sy'n nodwedd o ddatganiadau nifer o Weinidogion am gyni, ceir rhai materion pwysig iawn yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad. Fe hoffwn i sôn am rai o'r rheini fy hun.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu eich safbwynt ar Fanc Buddsoddi Ewrop? Bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r banc, ac fe wyddom ni fod gwledydd eraill, fel Sbaen, wedi bod yn defnyddio'r cyllid ers talwm ar gyfer cynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd a phrosiectau seilwaith eraill. Felly, swyddogaeth fy mhlaid fu galw am fwy o fuddsoddiad o Fanc Buddsoddi Ewrop ers tro byd. Nid ydym ni wedi gwneud yr un peth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y DU ychwaith. Ac rwy'n credu eich bod chi'n gywir—mae angen i ni bwyso am aelodaeth barhaus, neu bartneriaeth neu bartneriaeth gyswllt, neu beth bynnag y gallai hynny fod, gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Gadewch inni beidio ag anghofio y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd angen ffyrdd Cymru a'r DU i gyrraedd yno o hyd—o leiaf rwy'n tybio mai dyna sut fydd hynny'n gweithio—unwaith y byddwn ni yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae angen buddsoddi yn ffyrdd y DU, yn rhan o seilwaith Ewropeaidd, os nad Undeb Ewropeaidd, ehangach.
Gan droi at yr agwedd ar eich datganiad sy'n ymwneud â sylwedd: rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi'r defnydd o'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer rhaglenni megis cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465, a grybwyllwyd gennych chi; rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain—unwaith eto, y mae cefnogaeth eang iddi—a grybwyllwyd gennych chi; a hefyd Canolfan Ganser newydd Felindre. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr amserlenni ar gyfer y prosiectau hyn, ac yn wir yr amserlenni ar gyfer cael y modelau buddsoddi cydfuddiannol hynny ar waith yn llawn ac yn derfynol?
Mae monitro'r prosiectau hyn yn mynd i fod yn hollbwysig, o gofio rhai o'r achosion o werth gwael am arian—unwaith eto, y cyfeiriasoch chi atyn nhw, ac y cyfeiriodd y Prif Weinidog atyn nhw'r wythnos diwethaf—prosiectau menter cyllid preifat blaenorol, a ddigwyddodd dros gyfnodau sylweddol o amser, o dan Lywodraethau o liwiau gwahanol, a bod yn onest. Rwyf yn cydnabod hefyd, o'r blaen, yn aml, roedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y cynlluniau hynny, felly bydd monitro yn hollbwysig yn hyn o beth, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni'r wythnos diwethaf.
A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y model pum achos? Mae'n amlwg yn bwysig bod y gwaith monitro yn gadarn, ac mae hyn yn swnio'n drawiadol ar yr wyneb ond, wrth gwrs, gan feddwl yn ôl i'r adeg pan gyflwynwyd prosiectau menter cyllid preifat yn wreiddiol, roedd llawer, ar yr wyneb, o ddadleuon synhwyrol iawn ar gyfer y model menter cyllid preifat a'r math o effeithlonrwydd a fyddai'n dod yn sgil hynny, ac yn sicr ni ddigwyddodd hynny, naddo? Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr nad yw'r model buddsoddi cydfuddiannol yn dioddef rhai o'r problemau a wynebwyd gan y model menter cyllid preifat a bod gwersi wedi'u dysgu.
Hefyd, fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau meddal ac fe wnaethoch chi sôn am beidio â defnyddio arian ar gyfer cyfarpar cyfalaf—nid oes amheuaeth gennyf nad ydych chi'n gywir mewn rhai neu nifer o achosion, ond dim ond meddwl wyf i tybed a yw'n briodol cael gwrthwynebiad cyffredinol i ddefnyddio arian buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer pob cyfarpar cyfalaf, er enghraifft. Efallai'n wir y gallwch chi ddadlau dros hynny, ond rwyf ychydig yn bryderus y gallem ni gael sefyllfa yn y pen draw lle mae'r model buddsoddi cydfuddiannol mewn gwirionedd mor anhyblyg yna, efallai yn y dyfodol—os ydym ni eisiau sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol, mae hyn yn bwysig—efallai na fydd rhai cynlluniau yn hyfyw pryd y gallen nhw fod fel arall. Felly, fyddwn i'n ddiolchgar i gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny.
A wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am eich ymdrechion i wella tryloywder? Rydych chi'n dweud y caiff cyfranddaliad y Llywodraeth ym mhob cynllun ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir gan Weinidogion. Pa broses gaiff ei defnyddio i ddewis y cyfarwyddwyr hynny a pha mor dryloyw fydd y prosesau hynny?
Ond diolch am eich datganiad. Rwy'n credu bod cefnogaeth eang ym mhob rhan o'r Siambr hon i'r model buddsoddi cydfuddiannol, ac rwy'n croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud heddiw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n rhoi ychydig o atebion i rai o'r cwestiynau a holwyd.
Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny'r prynhawn yma, a diolch yn fawr i chi hefyd am eich cefnogaeth i'n safbwynt ni ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, oherwydd, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o arian ac arbenigedd i ni yma yng Nghymru. Mae wedi darparu swyddogaeth allweddol inni, mewn gwirionedd, yn cefnogi buddsoddiad tymor hir i wella tai cymdeithasol yma yng Nghymru, addysg, ynni, seilwaith, trafnidiaeth a seilwaith dŵr. Mae wedi cynnwys cefnogi buddsoddiad gan Dŵr Cymru, er enghraifft, ar draws y wlad, gan gynnwys Ysgol Gynradd Stebonheath yn Llanelli, lle mae'r prosiect Glawlif yn helpu i leihau gorlif carthion i Fôr Hafren. Roedd hefyd yn gymorth i ariannu ail bont Hafren a ffordd ddeuol yr A55 o Gaer i Gaergybi, yn ogystal â ffyrdd newydd yn ne a gorllewin Morgannwg, Dyfed a Gwent, a soniodd yr Aelod am bwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith hwnnw.
Mae benthyciadau diweddar o Fanc Buddsoddi Ewrop wedi cefnogi buddsoddi mewn addysg yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi campws newydd Prifysgol Bae Abertawe, a thorri costau gwresogi ym Mhrifysgol Bangor, er enghraifft, ac mae hefyd wedi darparu cymorth ar gyfer ein rhaglen tai cymdeithasol, gan ddarparu cartrefi newydd yn ogystal â gwella tai presennol, gan weithio gyda 10 o gymdeithasau tai gwahanol ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae Banc Buddsoddi Ewrop hefyd wedi cefnogi buddsoddiad allweddol yng nghwmni Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, yn amlwg, mae'n ffynhonnell bwysig o gyllid, ond hefyd yn ffynhonnell bwysig o arbenigedd. Ac mae'r manteision ychwanegol hynny o arbenigedd wedi dod i'r amlwg i raddau helaeth iawn drwy'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud i ddatblygu prosiect metro de Cymru, er enghraifft, sydd wedi elwa'n fawr iawn yn wir ar yr arbenigedd masnachol, sydd wedi cyfrannu at y broses gaffael, tra bod buddsoddiadau blaenorol eraill yng Nghymru wedi elwa hefyd ar arferion gorau y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi gallu dwyn ein sylw ni atyn nhw hefyd.
O ran y prosiectau penodol, gallaf roi'r newyddion diweddaraf am yr A465. Fel y gwyddoch chi, daeth yr ymchwiliad lleol cyhoeddus i ben ar ddiwedd mis Mai 2018. Soniais yn fy natganiad bod y Gweinidog wedi cytuno i wneud y gorchmynion. Felly, bydd penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cam nesaf yn awr o ran caffael yn yr wythnosau nesaf, a bydd y newyddion diweddaraf ar gael gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth mewn cysylltiad â hynny.
O ran y prosiect yn Felindre, y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn datblygu cyfres o achosion busnes amlinellol ar gyfer darparu Canolfan Ganser newydd Felindre ar safle'r Northern Meadows yn yr Eglwys Newydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r ymddiriedolaeth i gwblhau'r prosiect pwysig hwn i sicrhau bod monitro priodol ar gyfer hynny ar waith. Mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu i sicrhau mynediad i'r safle ar hyn o bryd, ac mae rhai trafodaethau manwl yn digwydd gydag amrywiaeth o gyrff a sefydliadau eraill i wneud yn sicr y gall hynny ddigwydd, ac ochr yn ochr â hynny, wedyn, mae achos busnes y gwaith galluogi yn cael ei ddatblygu, tra bo'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'r cynllun diweddaraf yn sôn am ddyddiad cwblhau ar ddiwedd 2023, gydag agoriad yn hanner cyntaf 2024.
Unwaith eto, dim ond megis dechrau yr ydym ni gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol o ran sut y gall hynny gefnogi ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac mae Kirsty Williams yn bwriadu cyhoeddi datganiad arall ar y mater hwn cyn bo hir.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at dryloywder, a dyna un o fanteision y model buddsoddi cydfuddiannol—bydd tryloywder yn allweddol—hefyd y sicrwydd y bydd gwybodaeth ar gael i Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n awyddus iawn ein bod ni yn achub ar bob cyfle i roi gwybodaeth drylwyr i Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, a bydd gofynion adrodd penodol i Lywodraeth Cymry fel cyfranddaliwr a hefyd fel cleient. Caiff y manylion penodol hynny eu nodi yn y cytundebau prosiect a gytunir arnyn nhw gyda'n partneriaid o ran cyflawni'r prosiectau hyn.
O ran cyfarpar cyfalaf, rwy'n credu mai'r penderfyniad cywir yw peidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer hwnnw, ond yn amlwg mae dewisiadau eraill o ran sut y byddwn ni'n ariannu hwnnw. Mae'n fater mewn gwirionedd, o ddod o hyd i'r ffynhonnell fwyaf priodol o gyllid ar gyfer y math o bethau yr ydym ni eisiau eu caffael.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Wrth gwrs, dwi'n cytuno efo'r bwriad yn fan hyn, sef yr angen i chwilio am ffyrdd arloesol o hybu buddsoddiad yn ein hisadeiledd ni: isadeiledd sydd yn dangos ôl clir o danfuddsoddi yn hanesyddol—a'r tanfuddsoddiad yna, dwi'n eich atgoffa chi, yn dod gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros y blynyddoedd. Er, wrth gwrs, dwi'n cytuno bod oes llymder wedi dyfnhau'r broblem.
Felly, oes, mae eisiau edrych ar ystod o fodelau sydd ar gael neu a all gael eu datblygu. Dwi'n edrych ymlaen i weld datblygiad yr egwyddor o godi arian drwy fondiau Llywodraeth. Gaf i hefyd ddweud fy mod i'n falch o glywed cyfeiriad yn y datganiad at ein perthynas ni efo Banc Buddsoddi Ewrop, yr EIB? Mae'n bryderus iawn bod diffyg sylw na sicrwydd yng nghanol llanast Brexit i sut i ddiogelu'r math o fuddsoddiad sydd ar gael drwy'r EIB ar hyn o bryd, a dwi'n cytuno y dylid sicrhau bod y berthynas efo'r EIB yn parhau yn y dyfodol. Dwi wedi bod i bencadlys yr EIB yn Lwcsembwrg, ynghyd â nifer o aelodau'r Pwyllgor Menter a Busnes yn y Cynulliad diwethaf, a sylweddoli'r awch sydd yna a'r gallu sydd yna o fewn y Banc Buddsoddi Ewropeaidd i chwilio am brosiectau y gallen nhw eu cefnogi er budd buddsoddiad hirdymor yn cryfhau ein hisadeiledd ni, a dwi'n ofni beth sy'n digwydd os ydy hynny'n cael ei golli.
Ond, i droi at y model buddsoddi cydfuddiannol, mae fy mhlaid i wedi rhoi croeso gofalus i ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar y model hyd yma. Yn wir, un rhwystredigaeth dŷn ni wedi ei leisio ydy diffyg uchelgais, o bosib, o ran faint y gallwn ni edrych i'w godi neu ei fuddsoddi yn defnyddio'r model yma. Ond, wrth gwrs, mae eisiau bod yn ofalus iawn a nodi mor, mor bwysig ydy cael y model yn iawn. Dŷn ni yn, yn annatod, mae'n siŵr, yn mynd i fod yn dwyn cymariaethau efo PFI, ac mae'r Gweinidog wedi dwyn cymariaethau heddiw er mwyn ceisio tawelu rhai ofnau. Mae rhai pobl yn mynd i edrych ar beth ydy diffiniad y model yma a beth ydy diffiniad PFI a'u gweld nhw yn eithaf tebyg, ond dwi'n meddwl mai'r hyn dŷn ni'n chwilio amdano fo ydy sicrwydd bod risg yn gorwedd yn y lle iawn, achos, a bod yn blaen, mi oedd llawer gormod o gynlluniau PFI yn dangos mai bach iawn oedd y risg oedd yn cael ei chymryd gan fuddsoddwyr preifat, a hynny tra yn eu gweld nhw'n gwneud elw mawr.
Felly, allaf i ofyn i'r Gweinidog, yn dilyn cyfres o addewidion bod hwn yn wahanol, pa gamau sydd yn mynd i fod yn cael eu cymryd i werthuso'r cytundebau wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau i sicrhau bod y cydbwysedd risg wedi cael ei daro yn iawn ac nad oes yna or-elwa? Achos partneriaeth, cydfuddsoddiad a system gydfuddiannol ydy hon i fod, ac mi ydyn ni drwy'r amser angen bod yn gwerthuso i sicrhau mai dyna sydd gennym ni, achos tra bod buddsoddwyr, yn deg iawn, angen gweld bod yna return hirdymor teg i ddod o wneud buddsoddiad, dŷn ni angen sicrwydd bod yna werth am arian i'r pwrs cyhoeddus.
Ac, yn ail, o bosib yn cyfeirio yn ôl at ein rhwystredigaeth ni ynglŷn â diffyg uchelgais ar hyn o bryd, allwch chi roi awgrym i ni o'r camau nesaf ar gyfer chwilio am fuddsoddiadau pellach yn defnyddio'r model newydd yma a rhoi gair o eglurhad ynglŷn â sut mae blaenoriaethu'n mynd i ddigwydd? Oherwydd, cyn yr etholiad diwethaf, mi oeddem ni ym Mhlaid yn sôn am roi'r pŵer i flaenoriaethu ym maes isadeiledd i gorff hyd braich o'r Llywodraeth. Mi fyddai gen i ddiddordeb mewn gwybod i ba raddau mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn edrych am gyngor ac arweiniad a thrafodaeth civic ynglŷn â gosod y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio'r model newydd yma yn y ffordd mwyaf effeithiol.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Fe hoffwn i ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ddweud nad oes diffyg uchelgais o ran ein huchelgeisiau seilwaith ar gyfer Cymru. O ran i ba gyfeiriad yr awn ni nesaf, mae'n amlwg bod gennym ni ein cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ein fframwaith datblygu cenedlaethol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a'r comisiwn seilwaith, ac rwy'n credu, gyda'i gilydd, y bydd y tri pheth hyn yn ein helpu ni mewn gwirionedd i glustnodi a chanolbwyntio ar ble mae angen inni wneud y buddsoddiadau mwyaf strategol bwysig ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod.
O ran bondiau, gall, yn sicr, fe all Llywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau, ac rydym ni wedi ennill y pwerau newydd i wneud hynny er mwyn helpu i ariannu ein buddsoddiad mewn seilwaith, ac, yn sicr, ar adeg pan fo ein cyllidebau cyfalaf yn parhau i ostwng, mae'r rhain yn rhoi inni'r gyfres lawn o bwerau benthyca y gallwn ni eu defnyddio i wireddu'r cynlluniau buddsoddi seilwaith uchelgeisiol hynny ledled Cymru, ond y peth pwysig i'w gofio yw nad yw ein gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu ein gallu i fenthyca. Felly, mae manylion penodol y bondiau yma y gallem ni fod yn dymuno eu cyhoeddi yn y dyfodol yng Nghymru eto i'w penderfynu oherwydd ni fyddem ni ond yn defnyddio'r bondiau hynny pan fo'r holl ffurfiau eraill rhatach o gyfalaf wedi eu disbyddu, a byddai unrhyw arian a godir gan fondiau Llywodraeth Cymru yn amlwg yn cael ei gyfrif yn erbyn ein terfyn benthyca hefyd, sydd yn un o atyniadau mathau eraill o gyllid y byddem yn sicr yn eu dewis yn gyntaf.
O ran eich sylwadau ynglŷn â Banc Buddsoddi Ewrop, rwy'n eu croesawu'n fawr. Rwy'n credu inni nodi'n glir iawn gyda'n gilydd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y byddai hi'n fwy buddiol inni yma yng Nghymru pe byddem ni'n aros yn bartner tanysgrifio gyda Banc Buddsoddi Ewrop oherwydd y manteision uniongyrchol i'n heconomi yn sgil hynny, nid yn unig o ran buddsoddi, ond hefyd yr arbenigedd hwnnw yr wyf i wedi cyfeirio ato o'r blaen. Ac, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, mabwysiadodd Tŷ'r Arglwyddi adroddiad a oedd yn dweud bod buddsoddi yn seilwaith y DU wedi elwa ar fwy na €118 biliwn o arian a fenthycwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop, ond, yn anffodus, roedd hefyd yn sôn am y gostyngiad sylweddol mewn cyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop ers y refferendwm a sbarduno Erthygl 50 ac yn cwyno am y ffaith, er gwaethaf colli ein mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl Brexit, nad yw'r Llywodraeth Geidwadol wedi dweud fawr ddim am unrhyw berthynas â Banc Buddsoddi Ewrop yn y dyfodol neu unrhyw ddewisiadau domestig eraill posib.
Cyfeiriodd yr Aelod at y gwahaniaethau rhwng y model buddsoddi cydfuddiannol a'r fenter cyllid preifat, ac fe geir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd y cyfeiriais i atyn nhw yn fy natganiad. Y cyntaf yw y byddwn ni'n gofyn am fanteision cymunedol eang iawn o'n prosiectau model buddsoddi cydfuddiannol. Rwy'n credu bod hyn yn wahaniaeth pwysig ac allweddol. Er enghraifft, byddwn yn edrych ar swyddi a grëwyd, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer lleoliadau gwaith graddedig, lleoliadau disgybl. Byddwn yn gofyn am ymgysylltu ag ysgolion, mentrau cymunedol, mentrau cadwyn cyflenwi, gwaith gyda mentrau cymdeithasol, ac, hefyd, yn amlwg, cymorth ar gyfer ein busnesau bach a chanolig. Felly, ceir rhai gwahaniaethau allweddol mewn gwirionedd rhwng menter cyllid preifat a'r model buddsoddi cydfuddiannol.
Un arall o'r gwahaniaethau allweddol hynny, mewn gwirionedd, fydd y gofynion hynny y byddwn ni'n eu gosod ynghylch cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Felly, er enghraifft, i ddarparu cynaliadwyedd amgylcheddol, bydd egwyddorion cynllunio allweddol ar gyfer Canolfan Ganser Felindre yn cynnwys y defnydd o adnoddau naturiol ac effeithlonrwydd ynni ym mhob maes posib. Yr A465—wrth wella diogelwch, cysylltedd a thagfeydd yn yr ardal leol, bydd hefyd yn gwella cydnerthedd ffyrdd eraill Cymru gan ddod yn ffordd amgen yn ystod cyfnodau o dagfeydd, cynnal a chadw neu ddigwyddiadau mawr, a bydd yr ardal leol hefyd yn gweld gwelliannau mewn llwybrau troed, llwybrau beiciau, gwell draenio a'r nod o wella ffitrwydd corfforol a theithio llesol. A bydd gwelliannau amgylcheddol nodedig hefyd yn cael eu darparu gan y cynllun o ran lleihau perygl llifogydd a lleihau perygl llygredd i gyrsiau dŵr. A bydd yn rhaid i'r mannau newydd hynny—y mannau dysgu newydd a adeiladwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gyflawni sgôr A Tystysgrif Perfformiad Ynni ynghyd â rhagoriaeth BREAM. Felly, fe allwn ni ddefnyddio'r dulliau hyn yn y trafodaethau y byddwn ni'n eu cael gyda phartneriaid posib yn y dyfodol.
Caf fy hun yn llais amheugar iawn ar y mater hwn ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol. Er, mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl achub ar y cyfle i siarad â swyddogion y Gweinidog ar ddau achlysur, rwyf wedi cael rhyw gysur ynghylch y mecanweithiau adrodd a manylion y gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol a fydd yn digwydd a hefyd y cytundebau prosiect a'r mecanweithiau adrodd a fydd yn gysylltiedig â'r rheini. Felly, mae cysur, ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cadw pethau'n bur gyfrinachol ynghylch sut y bydd y pethau hyn yn digwydd tan yn ddiweddar. Gallai hygyrchedd a gwybodaeth am y model buddsoddi cydfuddiannol wedi bod yn well o lawer, er fy mod i bellach wedi dod o hyd i eglurhad ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar dudalen beta.gov.wales. Mae yna chwe pharagraff o wybodaeth eithaf syml i'r cyhoedd ynglŷn â buddsoddi cydfuddiannol ynghyd â dogfennau technegol. Fodd bynnag, pe bawn i'n rhiant ac ysgol fy mhlentyn yn cael ei hadeiladu drwy ddefnyddio cyllid y model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r iaith a ddefnyddiodd y Gweinidog yn ei datganiad yn gysur imi. Er enghraifft:
Bydd y buddsoddiad hwn ar delerau cydradd, gyda buddsoddwyr ecwiti preifat
Ac rydym ni wedi cytuno, ar gyfer cam nesaf rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, y byddwn yn cynyddu'r cyfraddau ymyrryd ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy'r model cyfalaf a'r model buddsoddi cydfuddiannol.
Nid wyf yn credu fod hynny yn agored iawn i'r cyhoedd ac nid wyf yn credu ei fod yn rhoi llawer o gysur i rieni'r plant hynny a fydd mewn ysgolion band B yr unfed ganrif ar hugain. Felly, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wneud yr wybodaeth ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol yn hygyrch tra bo prosiectau yn cael eu paratoi, ac yn enwedig pan fo nhw'n cael eu cyflawni ac wedyn? Mae'n rhaid cael cynlluniau i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r bobl hynny sy'n pryderu ond nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn gwybodaeth dechnegol.
Diolch am y sylwadau hynny. Roeddwn yn falch y cawsoch chi'r cyfle i gwrdd â swyddogion a sgwrsio gyda nhw am y model buddsoddi cydfuddiannol. Fe fyddwn i'n sicr yn cynnig sesiynau briffio technegol i unrhyw Aelodau sy'n awyddus i wybod mwy ynglŷn â sut mae'r model yn gweithio ac i ateb unrhyw gwestiynau technegol manwl sydd ganddyn nhw. Mae'n rhaid imi ddweud fodd bynnag nad wyf i'n credu y bu'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gyfrinach—mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddo mor bell yn ôl â 2011, pan yr oedd ein maniffesto yn sôn am edrych ar ffyrdd arloesol o ariannu seilwaith cyhoeddus. Mae'r model wedi esblygu dros amser, felly rydym ni wedi bod yn benthyca gan yr Alban a Lloegr lle bo'n briodol, gan ddysgu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, addasu i reolau cyfrifyddu lle bo angen, ac mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn brosiect sy'n deillio o'r dysgu hwnnw i raddau helaeth iawn a'r her a'r addasu sydd wedi bod yn digwydd, sy'n beth da, rwy'n credu.
Bu gweinidogion yn goruchwylio'r prosiect hwn yn ofalus ers y cychwyn. Rwy'n gwybod i'r Cabinet drafod cyllid arloesol dair gwaith yn ystod y weinyddiaeth flaenorol ac ystyriwyd diweddariadau achlysurol hefyd gan is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer seilwaith. Yn y tymor presennol, mae'r Cabinet wedi ystyried ddwywaith eisoes y model buddsoddi cydfuddiannol ac fe wnaeth fy rhagflaenydd ddatganiadau ar y model buddsoddi cydfuddiannol ar ddau achlysur eisoes yn y tymor hwn—felly, ym mis Chwefror 2017 ac ym mis Mehefin y llynedd—yn ogystal â phwysleisio swyddogaeth bwysig y model buddsoddi cydfuddiannol mewn cyhoeddiadau niferus, megis y diweddariad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru a'r gyllideb ddrafft. Felly, nid yw'n gyfrinach mewn unrhyw fodd, ond rwyf i'n sylweddoli ac yn deall eich pryder y dylai'r model buddsoddi cydfuddiannol fod yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch i bobl sydd â diddordeb, yn arbennig, rwy'n credu, o ran ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sy'n brosiect hynod gyffrous a fydd yn trawsnewid amgylcheddau dysgu plant ledled Cymru.
Wrth lansio'r model buddsoddi cydfuddiannol, dywedodd y Prif Weinidog, pan yr oedd yn Weinidog Cyllid:
'Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau gorfodol pwysig tymor hir i sicrhau manteision cymunedol, i greu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr Cymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cefnogi cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar ein harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat a ddewiswyd er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn. Pan rydym ni'n buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran yr hyn sydd wedi cael ei sicrhau mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran mynediad at wybodaeth sydd ar gael i'r bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.'
Nid wyf yn credu y gall unrhyw un ganfod unrhyw broblemau yn ymwneud â hwnnw. Fodd bynnag, mae'n fodd o ddenu cyllid preifat i wasanaethau cyhoeddus fel nad yw ynghlwm wrth ofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, fellly mae hynny'n cadw'r Trysorlys yn fodlon, ac nid yw hynny'n fenter cyllid preifat, sy'n cadw'r gweddill ohonom ni'n fodlon. Ond rwy'n bryderus ynghylch cost refeniw'r cyfalaf yn y dyfodol o dan y model hwn. Rwyf wastad yn bryderus ynghylch cost refeniw yn y dyfodol unrhyw arian sydd wedi ei fenthyg, yn cynnwys fy arian fy hun. Rydym ni'n gwybod ei fod yn ddrutach na defnyddio cyfalaf Llywodraeth Cymru neu ddefnyddio'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.
Mae gennyf dri chwestiwn: a ydych chi'n derbyn bod bondiau ar gael dim ond i gadw cyfraddau'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn isel, ac nac ydych chi'n disgwyl i Lywodraeth Cymru eu defnyddio, ond eu bod yn bwrw cysgod dros y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a phe byddech chi'n cynyddu eich cyfraddau, fel y gwnaethant gyda llywodraeth leol, yna byddai llywodraeth leol yn dechrau dweud, 'Wel, fe allwn ni gyhoeddi bondiau', ac maen nhw'n dal i ostwng y cyfraddau? Fe wnaethoch chi sôn am elw o 15 y cant ar yr hyn yr ydym ni wedi ei fuddsoddi, ond onid yw hynny'n ddim ond ni'n cael ein harian ein hunain yn ôl, hynny yw, os ydym ni wedi ei fuddsoddi, daw'r arian yn ôl, a dim ond ein harian ni sy'n mynd i mewn, onid ydym ni felly dim ond yn cael ein harian ein hunain yn ôl? Ac, mewn gwirionedd, y cwestiwn allweddol yw: beth yw'r gyfradd enillion gymedrig a roddir i'r rhai sy'n darparu cyllid preifat drwy'r model hwn? Rydym ni'n gwybod y gellir benthyca arian yn gymharol rad, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod terfyn ar yr hyn y gallwn ni ei fenthyg. Os gallem ni fenthyca'n ddarbodus, byddai pob un o'r ffyrdd arloesol hyn o wneud pethau yn ddiangen. Byddem yn defnyddio, fel y gall awdurdodau lleol, y model arloesol—yn hytrach na model arloesol, byddem yn defnyddio ein gallu i fenthyca'n ddarbodus, a byddai hyn i gyd yn cael ei wneud drwy fenthyca'n ddarbodus, y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yw hynny, a fyddai'n rhatach. Os yw'r Gweinidog yn mynd i ddweud wrthyf na fydd hynny'n rhatach, fe hoffwn i weld y ffigurau. Felly, mewn gwirionedd, i ddychwelyd at y tri chwestiwn hynny, y prif un yw: faint o elw mae'r rhai sy'n benthyca yn ei wneud?
Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r materion hynny. Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaethoch chi am fenthyca darbodus a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud hynny. Cawsom dipyn o drafodaeth am hyn yn ystod fy ymddangosiad diwethaf gerbron y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch chi ac eraill yn y Pwyllgor Cyllid ynghylch y mater hwn.
O ran y bondiau, er bod gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i gyhoeddi'r bondiau hynny, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i wneud hynny, oherwydd ein bod yn gallu benthyca drwy'r gronfa benthyciadau cenedlaethol, sydd yn gyffredinol yn cynnig cyfraddau llog is na bondiau Llywodraeth Cymru. Mae'r pŵer i gyhoeddi bondiau, fodd bynnag, yn bwysig, oherwydd ei fod yn golygu bod ffordd arall i Lywodraeth Cymru fenthyg pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu cynyddu ein cost benthyca.
O ran y cwestiwn am gyfradd gymedrig enillion ar gyfer prosiectau, wel, ar hyn o bryd rydym ni'n mynd i chwilio am bartneriaid i gyflawni'r prosiectau hyn ochr yn ochr â ni, felly, bydd llawer o'r manylion yn rhan o'r drafodaeth y byddwn ni'n ei chael yn y dyfodol agos gyda'r rhai sydd â diddordeb. Hoffwn ddweud ynglŷn â'r mater o bwysigrwydd penodi cyfarwyddwr y byrddau, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar y manylion ynghylch sut y gallai'r penodiad hwn weithio i sicrhau y byddai gan y sawl a benodir y sgiliau a'r profiad i ymgymryd â'r swyddogaeth honno, oherwydd mae hynny i gyd yn rhan o'r ffordd bwysig y byddwn ni'n ceisio ei defnyddio i ddwyn partneriaid i gyfrif o ran cyflawni.
Mae nifer o bobl wedi codi'r mater o risg, a byddwn yn gweithredu dulliau adrodd sy'n cefnogi sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i ymgymryd â diwydrwydd dyladwy wrth gwblhau dyfarniadau contract. Bydd ein trefniadau yn helpu i roi rhybudd cynnar am unrhyw gyflenwyr sy'n strategol bwysig a allai fod yn dioddef anawsterau ariannol, ac rydym ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael i ddatblygu darlun mor gynhwysfawr â phosib o gyflenwyr sy'n strategol bwysig ar draws y sector cyhoeddus fel y gallwn ni a chleientiaid yn y sector cyhoeddus ddeall yn glir y perygl posib o or-ddibynnu ar rhy ychydig o gyflenwyr.
A bwriad ein dulliau o weithredu polisïau caffael yw datblygu sylfaen gyflenwi amrywiol, gystadleuol, a sicrhau bod arferion busnes teg yn llifo drwy'r cadwyni cyflenwi hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.