1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr. Mae gennyf rai cwestiynau ynglŷn â chyllid ôl-Brexit. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r gronfa ôl-Brexit £1.6 biliwn ar gyfer trefi Lloegr. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r cyllid canlyniadol y gallwn ei ddisgwyl yng Nghymru o ganlyniad i hwnnw?
Diolch yn fawr. Roedd y cyhoeddiad hwn yn gwbl annisgwyl i ni ac rydym yn dal i geisio deall gyda Llywodraeth y DU i ba raddau y mae'r arian hwn yn arian newydd. Deallaf fod oddeutu £1 biliwn ohono yn arian newydd, o bosibl. Felly, credaf ein bod yn edrych ar gyllid canlyniadol o oddeutu £50 miliwn, os cadarnheir ein bod wedi deall yn iawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddai trefi yn gwneud cynigion am y £600 miliwn arall, a byddai modd i ninnau wneud cynigion am yr arian hwnnw, neu gael cyllid canlyniadol ohono, o bosibl, ond yn anffodus, mae’n anodd iawn cael eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn. Rwy'n gweld hyn fel llwgrwobr i drefi ledled Lloegr. Nid yw'n cynnig unrhyw beth yn debyg i'r math o arian y byddem, yng Nghymru yn sicr, wedi'i ddenu o'r Undeb Ewropeaidd—£350 miliwn y flwyddyn. Nid yw’r cyllid canlyniadol o £50 miliwn yn ddim o gymharu â hynny, os yw'r ffigur hwnnw’n gywir.
Ac wrth gwrs, cytunaf y bydd yn anodd iawn inni gynnal y math o lefelau ariannu rydym wedi elwa ohonynt yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae cronfeydd eraill i’w cael hefyd. Cyhoeddwyd pecyn cyllido yn ddiweddar ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr sydd â phorthladdoedd. Cyhoeddwyd £140 miliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ddiweddar. A allwch roi'r diweddaraf inni ar y cyllid canlyniadol i Gymru yn sgil hynny?
Gallaf, o ran cyllid y porthladdoedd, ein dealltwriaeth ni yw nad yw’r cyllid hwnnw’n arian newydd; dim ond arian a ailgyhoeddwyd. Felly, ni fydd unrhyw gyllid canlyniadol yn dod i Lywodraeth Cymru yn sgil hynny.
O ran y £140 miliwn a ddarparwyd i gyllideb Gogledd Iwerddon yn 2019-20, mae hwnnw'n achos cryn bryder i Lywodraeth Cymru gan fod gennym gytundeb clir â Llywodraeth y DU o ran ein datganiad polisi cyllid. Mae ein datganiad polisi cyllid yno i gynnig cyllid teg ar draws y gwledydd, ac yn sicr, nid yw hyn yn cydweddu â'i ysbryd na'i eiriad.
Byddai Llywodraeth Cymru wedi disgwyl oddeutu £246 miliwn o gyllid canlyniadol am yr arian ychwanegol a roddwyd i Ogledd Iwerddon. Codwyd y mater penodol hwn gennym yn nhermau tegwch y cyllid a roddwyd i Ogledd Iwerddon yn ystod ein cyfarfod pedairochrog ar gyllid. Mae Gweinidogion yr Alban yn teimlo’r un mor rhwystredig â ninnau, ac rydym yn parhau i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn. Ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos hon, yn mynegi ein pryder mawr ac yn cynnig cyfle i'r Canghellor ddefnyddio datganiad y gwanwyn i gywiro rhywbeth sy'n amlwg yn anghywir.
Rwy'n cydymdeimlo â rhwystredigaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ond mae cymaint o hyn yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn bod yn adweithiol. Y cwestiwn yma yw: pwy sy’n bod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau cytundebau cyllido i Gymru, ar ôl Brexit, neu ar hyn o bryd o ran hynny? Cynhaliais drafodaethau gyda rhai unigolion y bore yma ynglŷn â’r syniad o barthau rhydd ar gyfer masnachu neu borthladdoedd rhydd. Lle mae'r cynigion yn cael eu paratoi i Gymru allu manteisio ar y mathau posibl hyn o fodelau newydd? Mae gogledd-ddwyrain Lloegr wedi paratoi cynnig eisoes er mwyn manteisio ar y posibilrwydd o ddatblygu ardaloedd porthladdoedd rhydd newydd.
Y cwestiwn yw: ar bwy y gallwn ddibynnu i ymladd dros Gymru? Ymddengys i mi na allwn ddibynnu ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrthi’n ailddiffinio'i hun yn llais Llywodraeth y DU yng Nghymru yn hytrach na chynrychiolaeth Cymru yng Nghabinet y DU. Felly, mae'n rhaid inni ddibynnu ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau cytundebau ar ein cyfer. Ymddengys i mi fod gan 10 Aelod o un blaid wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon fwy o ddylanwad na Llywodraeth ein gwlad. Felly, pryd y gallwn ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru'n gwneud mwy o ymdrech i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynllunio a dadlau’r achos dros gyllid ychwanegol i Gymru yn y cyfnod cwbl allweddol hwn wrth inni wynebu ansicrwydd Brexit?
Buaswn yn gwrthod unrhyw awgrym nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n gyflym a chydag egni gwirioneddol ar y mater penodol hwn ers peth amser bellach. Cynhelir nifer o gyfarfodydd rhwng y Prif Weinidog, Prif Weinidog y DU, y Gweinidog Brexit a'i gymheiriaid a rhwng fy nghydweithwyr a minnau, a phob Gweinidog sydd â diddordeb portffolio penodol yn y maes hwn.
Yn ystod y cyfarfod pedairochrog ar gyllid, buom yn siarad yn benodol ynglŷn â’r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'. Fe ddywedasom yn glir iawn, pe ceid Brexit 'dim bargen', y dylid darparu cyllid ychwanegol i Gymru er mwyn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â chanlyniad a fyddai’n drychinebus. Mae’r Canghellor wedi dweud eisoes y gallai datganiad y gwanwyn a fydd yn digwydd yr wythnos nesaf fod yn ddigwyddiad ariannol llawn, ond eto, dywed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wrthym na fydd datganiad y gwanwyn yn ddim mwy na digwyddiad gweinyddol nad yw hyd yn oed yn gwarantu galwad ffôn i Lywodraeth Cymru gan na fydd yn cynnwys unrhyw feysydd o ddiddordeb penodol i'r gwledydd datganoledig.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff llais Cymru ei glywed ac y caiff difrifoldeb y materion sy'n ein hwynebu ei glywed. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn defnyddio'r arian sydd gennym i ddatblygu syniadau arloesol er mwyn mynd i'r afael â'r perygl o Brexit ‘dim bargen’, ond hefyd yr heriau a achosir yn sgil Brexit o unrhyw fath, a dyna pam, wrth gwrs, fod gennym ein cronfa bontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn, sy'n gwneud dyraniadau ar draws y bywyd Cymreig er mwyn sicrhau ein bod yn barod iawn ar gyfer Brexit—yn barod iawn i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a allai godi, ond yn barod iawn hefyd i ymdopi â thrychineb posibl Brexit ‘dim bargen’.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn eich holi ynglŷn â chaffael. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a chaffael cyhoeddus yng Nghymru yn gyffredinol?
Gallaf, yn sicr. Byddwch wedi clywed datganiad y Prif Weinidog pan oedd yn gyfrifol am y portffolio cyllid yn ôl ym mis Medi, a amlinellai'r ffaith ein bod yn mabwysiadu ymagwedd newydd tuag at gaffael yng Nghymru, ac y byddwn yn gweithredu uned lai gyda mwy o ffocws o lawer, gan leihau nifer y contractau mawr o oddeutu 60 i oddeutu 30, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd â mwy o ffocws, ac ymagwedd sy'n rhoi mwy o ystyriaeth i fuddiannau lleol a rhanbarthol, sef yr hyn y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym eu bod ei eisiau o'r drefn gaffael pan ofynasom iddynt tuag at ddiwedd y llynedd.
Diolch, Weinidog. Pan ofynnais i'ch rhagflaenydd—fe gyfeirioch chi at y datganiad—sy’n eistedd ar eich llaw chwith yn awr—yn eistedd yno beth bynnag—ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol—yn gorfforol, hynny yw—ym mis Hydref 2018, dywedodd wrthyf fod cwsmeriaid yn teimlo
'y byddai ymagwedd gyfunol at gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei sicrhau'n well drwy haen ranbarthol gryfach'— rydych newydd gyfeirio at hynny—
'yn hytrach na chyflawni pethau ar lefel genedlaethol.'
Ac o ganlyniad,
'Ni fydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau ar ei ffurf bresennol, a bydd yn newid i fod yn sefydliad gyda phresenoldeb rhanbarthol a lleol cryfach, ac yn sefydliad sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod y sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gwario arian cyhoeddus mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfleoedd newydd' sydd i ddod. Weinidog, yn benodol, sut y gwelwch y drefn gaffael gyhoeddus yng Nghymru yn gweithio yn y dyfodol ar y sail ranbarthol rydych newydd ei chrybwyll? Sut y bydd y sail ranbarthol honno’n cael ei chefnogi, a sut y bydd y cynlluniau hynny’n cyd-fynd â'r ymagwedd newydd tuag at ddatblygu economaidd rhanbarthol, fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Felly, wrth inni symud i drosglwyddo timau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru i swyddogaethau newydd, byddwn yn sicr yn ystyried ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gaffael, a ddaeth i ben ym mis Chwefror. Byddwn yn ystyried y sylwadau y mae'n rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu gwneud o ran ein cynorthwyo i lywio ein ffordd ymlaen. Ond rydym wedi ymgysylltu â chymorth y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i helpu i lunio ein dulliau o weithredu yn y dyfodol, ac rydym yn awyddus iawn i ddysgu o'u profiadau penodol, a hwythau wedi gweithio ar fentrau caffael ledled y DU a ledled yr UE. Mae enghraifft Preston yn aml yn cael ei chrybwyll fel un sydd wedi bod yn hynod o lwyddiannus o ran sicrhau bod caffael o fudd i'r gymuned leol.
Byddwn hefyd yn edrych ar y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud drwy ein rhaglenni peilot Swyddi Gwell yn Nes Adref. Credaf eu bod yn cynnig cyfleoedd arbennig inni sicrhau cymaint o fudd â phosibl o'n buddsoddiad, nid yn unig o ran sicrhau bod arian yn cylchredeg o fewn yr economi leol, ond ei fod yn darparu budd i bobl sydd allan o waith ar hyn o bryd, er enghraifft, y bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad gyflogaeth ar hyn o bryd, yn ogystal ag ystyried beth arall y gallwn ei wneud i ddefnyddio caffael fel ysgogiad o ran ein hagenda ddatgarboneiddio.
Diolch. Rwyf wrth fy modd bob tro y bydd Gweinidogion yn cyfeirio at ymchwiliadau cyfrifon cyhoeddus, gan wisgo fy het fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw wrth gwrs. Ar wahân i'r gwaith a wnaed gan y gyfrifon cyhoeddus yn y maes hwn, yn ôl cwestiwn ac ateb ysgrifenedig diweddar yn y Cynulliad yn 2018, aeth 22 y cant o'r gwariant ar gaffael gan Lywodraeth Cymru ar gontractau adeiladu gwerth dros £500,000 i gwmnïau y tu allan i Gymru—rydych newydd grybwyll y mater hwnnw. Mae'r golled honno yn cynrychioli cyfle a gollwyd i fuddsoddi yng nghadwyni cyflenwi Cymru, ac o ganlyniad, cyfleoedd a gollwyd i gryfhau economi Cymru ymhellach. Nawr, pan ydym wedi sôn am hyn yn y Siambr yn y gorffennol, gwn eich bod chi a'ch rhagflaenwyr wedi dweud bod problemau'n codi, wrth gwrs, o ran rhoi contractau i gwmnïau o Loegr. Wrth gwrs, mae hynny'n rhan hanfodol o economi'r DU hefyd, ond rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn awyddus i weld mwy o gymorth, mwy o gyfleoedd i gwmnïau Cymru a chwmnïau lleol.
Rydych wedi sôn am y sail ranbarthol a'r ymchwiliad cyfrifon cyhoeddus. Heb achub y blaen ar eich ymateb i hwnnw, a allwch ddweud wrthym sut yn eich barn chi y bydd y cynllun gweithredu economaidd ac agweddau eraill ar bolisi Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cwmnïau Cymru, cwmnïau lleol, yn cael cyfran deg o'r gacen pan fydd contractau caffael yn cael eu dosbarthu yng Nghymru yn y dyfodol?
Diolch yn fawr am hynny, ac rwy'n siŵr fod y gwaith a wnawn o ran gwella a chynyddu'r manteision cymunedol o ganlyniad i'n buddsoddiad yn un ffordd y gallwn sicrhau bod cwmnïau lleol a phobl leol yn elwa. Felly, erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 519 o brosiectau wedi creu 2,465 o gyfleoedd gwaith, gyda dros 102,000 o wythnosau o hyfforddiant wedi eu darparu hefyd. Felly, yn sicr, mae llawer o waith y gallem fod yn ei wneud o ran budd cymunedol, a llawer iawn o waith y gallem fod yn ei wneud hefyd o ran y cod ymarfer moesegol i sicrhau bod y bobl hynny ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi, boed wedi'u lleoli yng Nghymru neu yn rhywle arall, yn cael eu trin yn dda, yn cael eu talu'n dda, ac yn amlwg, fod eu hawliau yn y gwaith yn cael eu parchu.
Felly, credaf fod caffael yn faes sy'n barod iawn am ffocws gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru o ran sicrhau y gallwn gylchredeg cymaint o'r arian a fuddsoddwn, sicrhau ei fod yn parhau i gylchredeg yma yng Nghymru, ond edrych hefyd ar yr ystod eang o fuddion eraill y gallwn eu sicrhau yn sgil caffael.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi bod yn edrych ar restr y Gweinidog o gyfrifoldebau ac maent yn cynnwys, ymhlith llawer o bethau, cyfeiriad strategol a rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru, buddsoddi strategol, cyfrifyddu ac archwilio ariannol, a gwerth am arian ac effeithiolrwydd.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad o'r enw 'Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau', a hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau sy'n deillio o hynny. Y brif feirniadaeth a oedd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn yr adroddiad hwnnw oedd nad oedd Llywodraeth Cymru
'wedi trosi’n llwyr ei gweledigaeth ar gyfer adnewyddu’r economi yn rhaglen gydgysylltiedig o gymorth ariannol i fusnesau', a bod y Llywodraeth
'wedi monitro prosiectau unigol ar wahân, ond nid yw wedi llwyddo i reoli cymorth ariannol i fusnesau fel rhaglen'.
Rydym wedi gweld sawl ffiasgo, a restrir yn yr adroddiad, gan gynnwys: ffiasgo enwog Griffin Place Communications, y grant sefydlu o £600,000 ar gyfer 127 o swyddi, a gollwyd i gyd; Oysterworld, datblygwr gemau cyfrifiadurol, a gafodd gyfanswm o £1.5 miliwn; Mainport Engineering, cwmni saernïo a pheiriannu; a Kancoat, wrth gwrs—achos enwog arall—llinell gynhyrchu ar gyfer araenu coiliau metel. Mae'r rhain yn fenthyciadau a grantiau amrywiol iawn a roddwyd. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthyf pa gamau y mae wedi eu cymryd a pha drafodaethau y gall fod wedi'u cael yn y Llywodraeth ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw ychydig fisoedd yn ôl, i sicrhau nad yw unrhyw gymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gybolfa dameidiog o grantiau, ond yn rhaglen gydgysylltiedig gyda gweledigaeth glir a rheolaeth briodol.
Buaswn yn anghytuno â'r disgrifiad o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer busnesau, ond mae hwn yn faes sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers dod i'r portffolio, ac rwy'n archwilio beth arall y gallem ei wneud i fodloni ein hunain pan gaiff grantiau eu rhoi, ac yn wir, pan gaiff benthyciadau busnes eu rhoi, y gallwn fod yn sicr ein bod yn buddsoddi yn y cwmni iawn ac yn ymgymryd â'r lefel gywir o risg gyda'r cwmnïau hynny.
Felly, un peth y gallem geisio'i sicrhau o bosibl yw bod gennym swyddogion penodol yn ymdrin â phrosiectau penodol, ac y gall Gweinidogion gyfarfod â hwy'n rheolaidd i oruchwylio'r benthyciadau hynny. Mae'n rhaid imi ddweud bod strwythur archwilio enfawr eisoes ar waith yn Llywodraeth Cymru o ran sicrhau y gwneir buddsoddiadau cywir a da â'r arian a fuddsoddwn.
Nid wyf yn gwbl argyhoeddedig ein bod yn gwneud llawer o gynnydd eto o'r ateb hwnnw, sy'n ei ystyried yn waith sy'n mynd rhagddo. Ond mae argymhellion yr archwilydd cyffredinol ynghylch gwaith rheoli risg Llywodraeth Cymru yn bwysig hefyd. Dywed fod
'Tîm Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru yn asesu risgiau ar gyfer prosiectau unigol yn unig, a hynny ar wahân, ac nid oes ganddo archwaeth risg ddiffiniedig ledled ei raglenni ar gyfer darparu cymorth ariannol i fusnesau.'
Mae hwnnw'n bwynt cyffredinol ynglŷn â'r strwythur yn ei gyfanrwydd neu'r sail ddamcaniaethol y seilir cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau arni. Rwyf wedi edrych drwy Gofnod o Drafodion y Cynulliad ac ar wefan Llywodraeth Cymru, ac ychydig iawn sydd yno i gadarnhau beth yw'r ymagwedd tuag at reoli risg ac archwaeth risg. Felly, beth yn union y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y ceir ymagwedd glir a chadarn tuag at gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru? Oherwydd rydym yn ymdrin â symiau sylweddol o arian yma, sy'n golygu, wrth gwrs, os cânt eu peryglu, na allwn eu gwario ar bethau eraill gwerth chweil.
Diolch. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad neu'n cynnig grant neu fenthyciad o swm penodol o arian, rwy'n goruchwylio hynny a fy mwriad yw ystyried pob un o'r penderfyniadau hynny a wneir gan fy nghyd-Aelodau. Ac rwy'n darparu her i fy nghyd-Aelodau, gan eu holi ynglŷn â fforddiadwyedd, ynglŷn â phroffiliau talu, ynglŷn â gwerth am arian a gwariant effeithlon, ac archwilio i ba raddau y mae'r penderfyniadau ariannu hynny a wneir, neu'r penderfyniadau grant hynny a wneir, yn cynrychioli gwerth am arian o ran eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau trosfwaol Llywodraeth Cymru fel y'u nodir yn ein rhaglen lywodraethu. Felly, yn sicr, mae gennyf lefel o ddiddordeb personol yn hyn o beth, ond yn amlwg, mae'n rhaid i benderfyniadau ariannu unigol gan Weinidogion unigol gael eu gwneud yng nghyd-destun eu rheolaeth gyllidebol eu hunain hefyd.
Rwy'n cydnabod bod hwn yn bwnc sydd o gryn ddiddordeb i'r Gweinidog, ac mae hynny'n galonogol, ond credaf ein bod ymhell o fod yn argyhoeddedig y bydd hyn yn cynhyrchu unrhyw ganlyniadau ymarferol. Dywedodd yr archwilydd cyffredinol hefyd yn yr adroddiad nad yw Llywodraeth Cymru
'wedi rhoi systemau a phrosesau ar waith i gynhyrchu gwybodaeth ar gyfer llunio adroddiadau cyhoeddus ynghylch a yw ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau, yn gyffredinol, wedi cyfrannu at gyflawni ei chanlyniadau bwriadedig.'
Mewn geiriau eraill, adroddiad cynnydd ar ba mor llwyddiannus y mae'r prosiect wedi bod yn gyffredinol.
Bu'n rhaid cael gafael ar lawer o'r wybodaeth, mewn rhai achosion, nid o gyhoeddiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru ei hun o'r wybodaeth, ond bu'n rhaid i newyddiadurwyr a gwrthbleidiau gwleidyddol gael gafael arni drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Er enghraifft, cafodd y gwasanaeth archebu bwyd ar-lein, kukd.com, £1 miliwn, a methu â chreu'r 100 o swyddi a addawyd; a Bad Wolf—achos enwog wrth gwrs—rhoddwyd £4 miliwn i'r cwmni, gyda bron i hanner y ffigur hwnnw'n cael ei dalu i'r prif weithredwyr eu hunain. Yn y pen draw, gwnaeth y cwmni golled o £3.1 miliwn. Felly, mae'r rhain yn achosion lle mae'r trethdalwr wedi'i flingo heb unrhyw fantais o gwbl. Mewn achosion o'r fath, does bosib ei bod yn hanfodol bwysig, er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd yn y ffordd y gwerir arian cyhoeddus, fod Llywodraeth Cymru yn bod mor onest ac agored â phosibl.
Felly, a all roi sicrwydd i mi, o ran gwerth am arian ac effeithiolrwydd, y bydd yr adroddiadau cyhoeddus ar arian grant i fusnesau yn gwella yn y dyfodol?
Diolch am godi hynny, ac yn sicr, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i ba gamau y gellid eu cymryd o ran cynyddu tryloywder, ond o fewn cyfyngiadau sensitifrwydd masnachol, yn amlwg, i'r busnesau dan sylw yn ogystal ag o fewn cyd-destun adroddiad yr archwilydd cyffredinol.
Cwestiwn 3, Lynne Neagle.