7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:46, 6 Mawrth 2019

Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma, fel aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Allaf i longyfarch y Cadeirydd am grynodeb gwych o'r sefyllfa, achos mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig? Cytundeb sydd gyda ni fan hyn rhyngom ni, fel y ddeddfwrfa, a'n Llywodraeth ni yn y fan hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen er mwyn hyrwyddo'r broses o graffu.

Wrth gwrs, yn enwedig gyda'r cefndir Brexit dŷn ni wedi clywed amdano fo, achos beth wnaeth hybu datblygiad yr adroddiad yma oedd y ffaith bod y broses Brexit ar fynd heibio, mae yna dyndra naturiol. Dŷn ni wedi bod yn siarad amdano fo nifer o droeon—y tyndra rhwng posibilrwydd o golli pwerau o fan hyn i San Steffan, ond hefyd mae yna dyndra arall, fel oedd Suzy Davies yn sôn amdano, o bwerau'n cael eu sugno o'r ddeddfwrfa yma i'r Llywodraeth yma. Mae yna dyndra mewn dwy ffordd, o golli pwerau o'r ddeddfwrfa i'n Llywodraeth ein hunain a hefyd i'r Llywodraeth arall i fyny ar ben arall yr M4.

Felly, dyna pam mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig, achos dŷn ni wedi gweld colli pwerau. Dwi ddim yn mynd i ailadrodd hanesion ynglŷn â Deddf Cymru 2017, ond, wrth gwrs, yn y pwyllgor bob dydd Llun rŵan, fel y mae Suzy wedi cyfeirio, dŷn ni'n gweld toreth o ddeddfwriaeth gynradd ac eilradd yn dod ein ffordd ni achos ymadael ag Ewrop.

Wrth gwrs, mae yna bwysau amser ac mae yna bwysau gwaith affwysol ar swyddogion yn y lle yma, a hefyd, i fod yn deg, yn San Steffan, i gael popeth yn ei le mewn amser. Ond, wrth gwrs, dŷn ni hefyd yn gweld bod yna botensial, o leiaf, fel y mae Suzy wedi'i ddweud, ein bod ni yn gallu colli pwerau. Dŷn ni wedi gweld pethau fel—cawsom ni drafodaeth yr wythnos yma ar y defnydd o'r gair 'national' i olygu 'Prydeinig', yn lle national yn golygu 'Cymru'. Wel, roeddwn i'n credu ein bod ni wedi bod drwy hynna. Hynny yw, yn nhermau deddfwriaeth, dŷn ni nôl i fod yn region. Wel, nid dyna beth mae'n anthem genedlaethol ni, y byddwn ni yn ei chanu ddydd Sadwrn, yn ei dweud. Dŷn ni'n dweud, 'Gwlad. Gwlad.'—dŷn ni ddim yn canu, 'Rhanbarth. Rhanbarth', sori. Mae pethau fel yna yn bwysig. Mae pobl yn dweud, 'Dim ond geiriau—', ond eto mae pob cyfreithiwr yn dweud, 'Wel, y geiriau sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd.'

Hefyd, wrth gwrs, pan fo San Steffan yn deddfu drosom ni, dŷn ni'n hoff iawn o'u haelioni nhw, wrth gwrs, yn naturiol, yn deddfu drosom ni, yn enwedig mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i ni ers dros 20 mlynedd, ond mi fuasem ni hefyd yn licio gweld y ddeddfwriaeth honno yn ddwyieithog, achos mae gennym ni iaith swyddogol yn y fan hyn a enwir y Gymraeg, ac mae yna ambell esiampl dŷn ni wedi'i nodi yn y pwyllgor dros yr wythnosau diwethaf pan dŷn ni'n cael deddfau uniaith Saesneg sydd yn mynd i chwarae allan yma yng Nghymru.

Mae pethau fel yna—. Mae pobl yn dweud, 'O, pwysau amser—nid oes eisiau mynd ar ôl y manylion, Dai, a chreu trwbl', ac ati, ac ati. Ond, dyna sut mae pethau—anghysondebau—yn gallu digwydd. Hefyd, drwy ddefnyddio'r esgus, 'Mae'n rhwyddach, wrth gwrs, efo'r holl staff ac egni sydd yn San Steffan, iddyn nhw wneud popeth drosom ni nawr, hyd yn oed mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli i ni'—. Wel, mae yna beryg yn hynna achos dylen ni fod yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli drosom ni ein hunain; dylai fod yna Fil amaeth Cymru, nid dibynnu ar Fil Amaeth Prydain Fawr. Dylai fod yna Fil pysgodfeydd Cymru, dim Bil Pysgodfeydd Prydain Fawr.

Gwelsom ni LCM ddoe ynglŷn â llesiant anifeiliaid—yr animal welfare LCM—buom ni'n ei drafod ddoe. Buasai’n ddigon hawdd fod wedi gwneud y Ddeddf yna yma yng Nghymru achos dau gymal oedd hi. Dau gymal oedd hi, ond chawsom ni ddim cyfle i graffu arni yn fan hyn nes bod y peth wedi digwydd. Roedd e’n fait accompli, i ddefnyddio iaith arall. Hynny yw, mae’r gallu yma a dylai fod yna reidrwydd inni fod yn datblygu ein deddfwriaeth ein hunain yn fan hyn gan fod y pwerau gyda ni rŵan, a dim defnyddio’r ffaith ein bod ni’n gadael Ewrop, mae popeth ar frys, does yna byth digon o amser, mae’n rhaid inni wneud pethau’n gyflym, a San Steffan sy’n gwneud popeth er ein mwyn ni, ond mae yna bethau yn gallu cael eu colli yn hynna.

Gwelsom ni efo’r LCM ar international healthcare arrangements fod yna bosibilrwydd real yn fan yna, nes i San Steffan newid eu meddwl, eu bod nhw’n mynd i ehangu eu pwerau yn y maes iechyd mewn maes sydd wedi’i ddatganoli fan hyn ers 20 mlynedd. Dydy hynna ddim yn iawn. Beth oedd eisiau oedd jest trosglwyddiad o functions syml. Gwnaeth San Steffan drio ychwanegu at eu pwerau nes i ni yn fan hyn ddarganfod hynna, er tegwch i bawb. Felly, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus, ac mae’r protocol hyn yn hanfodol i hynna. Diolch yn fawr iawn ichi.