9. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:14, 6 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a diolch yn arbennig i'r deisebydd, Stuart Davies, am gyflwyno'r ddeiseb i'r Cynulliad. Ddoe ddiwethaf bu'n rhaid i fy ngŵr fynychu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am biopsi poenus iawn ar ei brostad. Felly, mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Mae'r ffaith y gallai fy ngŵr a channoedd o ddynion tebyg iddo gael llwybr cyflymach a llai poenus gyda llai o risg at ddiagnosis, ond fod hynny'n cael ei wrthod iddynt, yn annerbyniol.

Mae gan MRI amlbaramedr botensial i drawsnewid y llwybr canser y prostad, ond nid yw ar gael i bawb. Gorfodir dynion i dalu dros £1,000 am sgan mpMRI oherwydd nad yw ar gael o dan y GIG yn eu rhan hwy o Gymru. Nid yw fy mwrdd iechyd lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn. Pe baem yn byw 15 milltir i'r gogledd-ddwyrain, byddai fy ngŵr wedi cael sgan mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, a fyddai wedi rhoi'r manylion gorau posibl a mwyaf cynhwysfawr i'w dîm oncoleg am iechyd y prostad. Byddai hyn o bosibl wedi dileu'r angen am y biopsi poenus ac ymyrrol a gafodd ddoe. Gallai fod wedi golygu na fyddai'n rhaid iddo dreulio dyddiau, wythnos neu ddwy efallai, mewn poen tra'i fod yn gwella. Efallai y gallai fod wedi osgoi'r angen i fyw gyda sgil-effeithiau'r moddion gwrthfiotig pwerus y bu'n eu cymryd, ac y bydd yn parhau i'w cymryd, i osgoi'r bygythiad o sepsis.

Dros y ffin yn Lloegr, mae'r GIG wedi ei gwneud hi'n orfodol i fabwysiadu MRI amlbaramedr erbyn 2020. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd yng Nghymru, ond mae'n araf oherwydd diffyg radiolegwyr hyfforddedig. Rwy'n croesawu'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi tuag at wella'r ddarpariaeth MRI ledled Cymru, yn ogystal â sefydlu Academi Ddelweddu Cymru. Ond nid yw hyn yn helpu heddiw. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o'n capasiti MRI. Lle na all bwrdd iechyd gynnig mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, dylai atgyfeirio at fyrddau iechyd eraill neu'r sector preifat. Ni ddylid gorfodi dynion i ddod o hyd i £1,000 i ariannu sganiau MRI preifat oherwydd eu bod yn digwydd byw mewn rhan o Gymru nad yw'n cynnig y llwybr canser y prostad chwyldroadol hwn. Gwasanaeth iechyd gwladol sydd i fod gennym, nid saith gwasanaeth iechyd rhanbarthol. Rhaid rhoi terfyn ar y loteri cod post heddiw. Rhaid inni gynnig y llwybr triniaeth gorau, cyflymaf a mwyaf effeithiol sydd ar gael heddiw. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb a'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.