1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mawrth 2019.
2. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i'r afael â'r ffordd y mae dosbarth cymdeithasol yn pennu cyfleoedd bywyd pobl yng Nghymru? OAQ53578
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni er mwyn helpu i oresgyn y ffordd y mae cyfleoedd bywyd wedi eu dosbarthu yn annheg gan amgylchiadau economaidd. Bydd y Comisiwn Gwaith Teg a benodwyd gan fy rhagflaenydd yn adrodd yn fuan ac yn ychwanegu at y rhestr o gamau gweithredu sydd ar gael i ni yn y maes hwn.
Prif Weinidog, pan ddaw babi i'r byd hwn yng Nghymru, bydd y dosbarth cymdeithasol y caiff ef neu hi ei eni iddo yn effeithio ar bob agwedd ar ei fywyd, boed ei ddisgwyliad oes, ei ddisgwyliad oes iach, y safonau a'r cymwysterau a phrofiad o addysg y mae hi neu ef yn eu cael, ei swydd, enillion gydol oes, safonau byw, ansawdd bywyd. Yn llawer rhy aml, mae'r rhai sy'n cael eu geni i grwpiau incwm is o dan anfantais ym mhob un o'r agweddau hynny ac, yn wir, llawer o rai eraill. Felly, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni'n cytuno, Prif Weinidog, bod cyfiawnder cymdeithasol, cyfle a chanlyniadau cyfartal, yn galw am strategaeth effeithiol, cyfres o bolisïau, sy'n ymdrin â'r holl anfanteision hynny y ceir profiad ohonynt yn rhy aml. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynyddu ei hymdrechion i sicrhau Cymru decach?
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn pwysig iawn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud bod cyfleoedd economaidd yn pennu cyfleoedd cymdeithasol, ac mae eich perthynas â'r economi ar ddechrau eich bywyd yn cael cymaint o effaith ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi. Ond, fel y gŵyr John Griffiths, mae ein hymrwymiad i Gymru fwy cyfartal hefyd yn golygu lleihau'r bwlch rhwng y rhai sydd â mwy nag y bydd angen arnynt fyth, nac y maen nhw'n gwybod beth i'w wneud ag ef, a'r rhai sy'n cael trafferth bob dydd i ddiwallu'r anghenion mwyaf sylfaenol sydd ganddynt. Ac nid yn unig y mae cymdeithasau mwy cydradd yn hybu cyfleoedd economaidd gwell, ond maen nhw'n pennu'r cyfleoedd sydd gennych chi ar ddechrau bywyd. Bydd plentyn benywaidd sy'n cael ei eni yn Japan heddiw, ar gyfartaledd, yn byw i fod yn 100 mlwydd oed, ac mae hynny oherwydd bod y bwlch rhwng brig a gwaelod cymdeithas yn Japan y lleiaf o'r math o economïau y mae Japan yn eu cynrychioli.
Nawr, yma yng Nghymru, rydym ni'n benderfynol, yn rhan o'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o greu Cymru fwy cyfartal, ac mae hynny'n golygu, fel y mae John Griffiths wedi ei ddweud, buddsoddi yn y blynyddoedd cynharaf hynny, y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hynny o fywyd plentyn, oherwydd y ffordd y mae hynny'n parhau i wneud gwahaniaeth i weddill y cwrs bywyd. Dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r cyfnod sylfaen yn ein hysgolion, i wneud yn siŵr bod dysgu drwy chwarae yn golygu bod plant o'r cefndiroedd hynny yn dysgu o'r dechrau bod ysgol ac addysg iddyn nhw yn ogystal â phawb arall. Yn y gyllideb a basiwyd ar lawr y Cynulliad hwn ym mis Ionawr, gwnaethom fwy na dyblu'r swm o arian sy'n mynd i'r gronfa mynediad grant datblygu disgyblion newydd, ac mae hwnnw, eto, yno i wneud yn siŵr, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni'n cydraddoli rhai o'r cyfleoedd annheg a roddir i blant, fel y gall y buddsoddiadau hynny barhau i gael eu teimlo yn ystod gweddill eu bywydau.
Prif Weinidog, mae dosbarth cymdeithasol, incwm yr aelwyd a chyfoeth personol i gyd yn effeithio ar gyfleoedd bywyd rhywun ac yn dylanwadu ar eu cyfleoedd mewn ysgolion, eu ffordd o fyw a pha mor hir y byddan nhw'n byw. Rydych chi newydd sôn am brofiad Japan. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, o'r rhaglen mesur plant, yn dangos y dosberthir mwy na 1,000 o blant yng Nghymru sy'n dechrau'r ysgol fel bod yn ddifrifol ordew. Roedd y ffigurau hyn ar eu huchaf ymhlith y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru, fel Merthyr Tudful—mae'r gyfradd uchaf o ordewdra difrifol ymhlith plant yng Nghymru ym Merthyr. Os bydd pethau yn parhau fel y maen nhw, mae'n bosibl iawn mai'r genhedlaeth bresennol hon o blant fydd y gyntaf i fyw bywyd byrrach na'u rhieni. Mae hwnnw'n ffigwr truenus—mae honno'n stori drist iawn. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i adolygu strategaeth gordewdra ei Lywodraeth yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn i weld beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem o blant o gefndiroedd tlotach sydd dros eu pwysau i raddau peryglus yng Nghymru?
Wel, Llywydd, mae'n gwestiwn pwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud wrth yr Aelod bod disgwyliad oes ymhlith rhai pobl sy'n fyw heddiw yn gostwng mewn rhai rhannau o'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf un ers i'r ffigurau hynny gael eu casglu yn y ffordd y cânt eu casglu nawr. A dyna effaith y cyni cyllidol a welir yn ein cymdeithas. Ac rwyf i'n credu'n bersonol bod gordewdra ymhlith plant bach iawn yn digwydd o ganlyniad i gyni cyllidol hefyd. mae'n dod o'r ffyrdd y mae'n rhaid i deuluoedd sydd â'r lleiaf oll ar gael i'w wario brynu bwyd sy'n llenwi plant yn gyflym, gan roi hwb iddyn nhw ar unwaith. Ac os nad oes gennych chi'r dewisiadau y mae arian yn caniatáu i chi eu gwneud, yna, yn y pen draw, rydych chi'n gwneud y mathau o ddewisiadau sy'n arwain at y ffigurau y mae Mohammad Asghar wedi cyfeirio atyn nhw. Felly, dyma sut y mae'r materion hynny o gyfiawnder iechyd yr un mor gysylltiedig â chyfiawnder economaidd. Ac wrth gwrs mae angen i ni wneud gwahaniaeth ym mywydau'r plant hynny, oherwydd mae'r cychwyn hwnnw mewn bywyd, cyrraedd yr ysgol eisoes yn rhy drwm ac yn ordew, yn mynd i gael effaith ar lesiant hirdymor y plentyn hwnnw. Ond, yn y bôn, mater economaidd yw hwnnw—mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gan y teuluoedd hynny gyfleoedd gwirioneddol i ffynnu, ac nid wyf i'n credu bod mynd i'r afael ag ef ar wahân i'r amodau ffurfiannol hynny yn mynd i wraidd y broblem.