– Senedd Cymru am 3:00 pm ar 26 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw, ac ar gyfer newid trefn y rheoliadau sydd i'w trafod yn eitemau 4 a 5 yn yr agenda y mae hynny. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn, Gweinidog: byddwch yn cofio, yn ystod datganiad busnes yr wythnos diwethaf, bod Jenny Rathbone a minnau wedi sôn am sgrinio serfigol yng Nghymru? Dywedodd Sgrinio Serfigol Cymru bod traean o'r menywod o dan 30 oed yn anwybyddu gwahoddiadau i gael eu profi ar gyfer canser ceg y groth. Yn Lloegr, mae pryderon diweddar ynghylch y gyfradd isel o fenywod sy'n cael y prawf wedi arwain at lansio prosiect arbrofol pan fo menywod yn cael y cyfle i gynnal prawf ceg y groth gartref. Mae’r trefnwyr yn gobeithio cynnig pecynnau hunan-samplu i dros 20,000 o fenywod o fis Medi eleni ymlaen. A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mater hwn, gan gyfeirio'n benodol at ba un a yw e'n bwriadu cynnal prosiectau arbrofol tebyg yma yng Nghymru?
Ac o ran ail ddatganiad, Gweinidog, gofynnaf yn ddiymhongar i chi edrych ar sut mae Jacinda Ardern—Prif Weinidog Seland Newydd wedi gosod esiampl o sut i ddiogelu a sut i ymddwyn a sut i ymateb cyn ac ar ôl y sefyllfa a ddigwyddodd i'w gwlad hi. Mae mosgiau Cymru wedi eu diogelu’n dda, ond rwy'n credu bod lleoedd crefyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer crefydd ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, ond eto mae pobl yn cynnal ymosodiadau terfysgol difrifol a sarhaus ar y mannau crefyddol hyn. Mae hyn yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Byddai'n well gennyf gael datganiad gan y Gweinidog i wneud yn siŵr bod mannau crefyddol yng Nghymru wedi eu diogelu, a hefyd bod cymunedau yn cael y sicrwydd ein bod ni yma i’w helpu, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n byw mewn gwlad heddychlon a chymwynasgar a chariadus yn y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater yna. Rwyf yn gobeithio, yr wythnos diwethaf, fy mod i wedi gallu rhoi golwg cyffredinol da o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â sgrinio serfigol yng Nghymru, sy’n ddull gwahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch ar y mater penodol a godwyd gennych chi ynghylch pecynnau profion cartref, ac fe fyddwn ni’n sicr yn edrych ar y prosiect arbrofol hwnnw sy’n cael ei gynnal yn Lloegr yn ofalus iawn i weld beth sydd arnom angen ei ddysgu yn y fan yma, oherwydd, fel yr ydych yn dweud, menywod ifanc yn arbennig sydd bellach ddim yn dod ymlaen i gael profion sgrinio ceg y groth. Cyfeiriais yr wythnos diwethaf at yr ymgyrch #loveyourcervix sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac mae hwnnw’n ceisio ymgysylltu â menywod ifanc yn benodol er mwyn eu hannog i fynd i gael y profion hynny. Rwyf wedi gweld tystiolaethau pwerus iawn gan bobl ifanc ar y teledu hefyd, felly rwyf yn credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd weithio'n galed arno gyda'n gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth ohono.
Rwy'n gobeithio, unwaith eto, bod y datganiad a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn dilyn yr ymosodiad terfysgol erchyll yn Seland Newydd wedi tawelu meddwl cymunedau ac unigolion i ryw raddau o ran lefel y gwaith sy’n parhau i gael ei wneud drwy gydol y flwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod ni’n diogelu cymaint ag sy'n bosibl ar gymunedau, a sicrhau, fel yr ydych yn ei ddweud, bod Cymru’n agored ac yn oddefgar ac, fel yr ydych yn ei ddweud, yn lle cariadlon i bawb yn ein gwlad.
Trefnydd, heb os, fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyhoeddiad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu tynnu’n ôl o gonsortiwm addysg ardal ranbarthol ERW ym mis Mawrth 2020. Nawr, yn amlwg, mae ERW wedi bod trwy gyfnod anodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn ystod y misoedd diwethaf, ar ôl i swyddog Llywodraeth Cymru gael ei benodi’n rheolwr gyfarwyddwr dros dro, ymddengys bod cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud o ran cyfeiriad strategol ERW. Nawr, pe byddai Castell-nedd Port Talbot yn tynnu'n ôl o ERW, fe fyddai’n canfod mai ef fyddai'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu y tu allan i gonsortiwm addysg ranbarthol, ac mae pryderon wedi eu mynegi gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru ynghylch yr effaith bosibl y gallai’r symudiad hwn ei gael ar ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r awdurdodau lleol eraill sy'n aros yn ERW. Rwyf yn ymwybodol bod arweinyddion cynghorau o ranbarth ERW wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol ddoe i drafod y mater. O gofio'r ansicrwydd y mae hyn yn ei achosi yn lleol, a gaf i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y mater penodol hwn? Rwyf yn siŵr y byddech chi’n cytuno ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n cyrraedd sefyllfa lle gall ERW ganolbwyntio ar ddarparu gwelliannau i ysgolion yn hytrach nag ymdrin â materion aelodaeth ac ariannol sy’n tynnu sylw oddi wrth hynny.
Diolch am godi hyn, ac, wrth gwrs, mae gweithio'n rhanbarthol yn hanfodol os ydym am godi safonau yn ein system ysgolion. Ac mae gan pob un ohonom ni ddyletswydd i weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, yn enwedig yn y maes pwysig hwn. Fel yr ydych yn ei ddweud, fe wnaeth y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gwrdd ag arweinyddion cynghorau ERW i drafod y mater hwn ymhellach. Rwyf yn credu, yn y lle cyntaf, os yw'r Aelod yn fodlon, y byddaf yn gofyn i'r Gweinidogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y cyd ynghylch y trafodaethau hynny a ffordd bosibl o symud ymlaen.
Trefnydd, a gawn ni amser i drafod rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd y Llywodraeth a sut mae awdurdodau cynllunio yn gweithredu'r canllawiau? Ddoe, cwrddais i â rhieni y tu allan i gatiau Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Mae hon yn ysgol newydd sbon sydd ychydig oddi ar yr A40 ar Ffordd Llwyn Helyg sy'n arwain i’r ystad ddiwydiannol, ac mae terfyn cyflymder o 40 mya yno. Bydd unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r darn hwnnw o ffordd yn sylweddoli pa mor brysur a chyflym yw’r ffordd benodol honno. Felly, a dweud y gwir, ni allaf gredu bod Cyngor Sir Penfro wedi adeiladu yno heb flaenoriaethu, yn anad dim, diogelwch plant. Nid oes fawr ddim mesurau diogelwch o werth ar waith, er gwaethaf cwynion gan rieni. Yn fy marn i, mae’r angen am derfyn cyflymder o 20 mya yn eithaf amlwg, heb sôn am fesurau eraill i arafu traffig, a lle diogel hefyd er mwyn i blant groesi'r ffordd honno.
Felly, yr hyn y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo yn y fan yma yw deall sut y gall awdurdodau lleol fod mor anghyson wrth ddarparu mesurau diogelwch ar y ffyrdd y tu allan i ysgolion y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. Ac fe hoffwn i wybod, Gweinidog, pa un a ellid gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro ar y mater hwn fel eu bod nhw’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif cyn i ddamweiniau ddigwydd, nid wedyn, fel sy'n digwydd y tu allan i borth yr ysgol benodol hon.
Diolch i Joyce Watson am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr, a gwn ei bod hi hefyd wedi ei godi yn uniongyrchol gyda Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. O ganlyniad, mae ef wedi gofyn i'w swyddogion gysylltu'n uniongyrchol â Chyngor Sir Penfro i fynegi'r pryderon hyn. Ac fe ofynnaf i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.FootnoteLink
Trefnydd, a gawn ni ddatganiad—rwy'n amau mai atoch chi yr wyf yn cyfeirio hyn, ond byddaf yn derbyn eich cyfarwyddyd chi yn ôl ataf innau—ynghylch yr hysbysebu masnachol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda gorsafoedd radio lleol? Yn fy ardal fy hun, mae gennyf dair gorsaf radio lleol, ac mae pobl yn tanysgrifio iddyn nhw’n dda, ydyn maen nhw. Mewn gwirionedd, mae Bro Radio, sydd wedi ei lleoli yn y Barri, yn dathlu ei degfed pen-blwydd eleni gyda chyflwyniad gwobrau nos Sadwrn, ac rwyf yn cymeradwyo Nathan a’r tîm sy'n ymwneud â'r orsaf radio honno. Ond o ystyried y gynulleidfa gymharol fach sy'n gwrando, a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei slotiau hysbysebu, mae’r orsaf wedi ei heithrio rhag llawer o hynny—sef y gallu i fanteisio ar lawer o’r gwariant hysbysebu hwnnw. Rwyf yn siŵr nad dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, ac felly fe fyddwn i’n croesawu cyfle i’r Llywodraeth nodi ei safbwynt ynghylch sut y gallai ryddhau mwy o allu i’r incwm hwnnw gyrraedd radio cymunedol pan mai llawer o’r gynulleidfa sy’n gwrando ar radio cymunedol yw’r union gynulleidfa y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chyrraedd gyda’i negeseuon ynghylch iechyd y cyhoedd, er enghraifft, a llawer o’r negeseuon eraill. Ac mae’n ymddangos y byddai mân addasiadau i’r system yn rhyddhau symiau sylweddol o arian ar gyfer sector teilwng iawn yn ein cymunedau. A phan edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd i radio masnachol yma yng Nghymru—rwyf yn credu mai’r wythnos nesaf y bydd y newidiadau’n digwydd yn Global radio—mewn gwirionedd, gellir ymestyn yr ôl troed ar gyfer radio lleol gyda'r amgylchedd cywir. Felly, a gawn ni ddatganiad, naill ai gennych chi, neu gan y Dirprwy Weinidog sydd â'r cyfrifoldeb am hyn?
Diolch am godi'r mater hwn, ac fe fyddwch chi'n cofio, yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan Alun Davies, fy mod i wedi gallu mynegi pryderon sydd gennym o ran y penderfyniadau diweddar ynghylch gorsafoedd radio masnachol a'r effaith y gallai hynny ei chael ar eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth newyddion gorau posibl ar gyfer y poblogaethau lleol. Ond rydych chi'n mynegi pwynt da a byddaf yn sicr yn edrych ar hyn ac yn ysgrifennu atoch yn dilyn hynny.
Mae menyw o’r Rhondda wedi cysylltu â mi y mae ei merch sy’n 23 oed wedi dioddef bygythiad i’w hiechyd yn ddiweddar. Ar ôl cael symptomau, fe aeth am brawf gwaed, a phan yr oedd hi yn y clinig, fe ddarllenodd boster gwybodaeth am ganser ceg y groth ac fe sylweddolodd bod ganddi bob un o’r symptomau a ddisgrifiwyd ar y poster, namyn un. Pan ddywedodd hi wrth y meddyg am ei phryderon, fe ddywedodd y meddyg wrthi na châi hi brawf ceg y groth oherwydd ei bod hi o dan 25 oed. Nawr, roedd hyn yn ystod wythnos pan yr oedd pob un ohonom ni’n cael ein hannog i fynd am ein prawf ceg y groth, ac fe ddywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros tan ei bod hi dros 25 oed cyn y gallai hi gael y prawf. Gymaint oedd y pryder yn y teulu am y symptomau yr oedd y fenyw ifanc hon yn eu harddangos, fel eu bod nhw wedi trefnu apwyntiad gyda gynecolegydd mewn ysbyty preifat y bore canlynol. Bu'r fenyw a’i theulu yn poeni am ddwy wythnos a hanner wrth ddisgwyl am ganlyniadau’r prawf, a oedd yn glir, diolch byth.
Nawr, roedd y teulu hwn yn ffodus, roedden nhw’n gallu fforddio talu i fynd yn breifat, ond beth pe na byddai ganddyn nhw’r arian i gael prawf ceg y groth yn breifat? Rwyf yn cytuno â mam y fenyw hon pan ddywedodd hi, 'Os oes symptomau yn cael eu hysbysebu a bod rhywun yn arddangos y symptomau hynny, onid synnwyr cyffredin yw cael ymchwiliad?' Felly, fe hoffwn i gael datganiad ynghylch polisi'r Llywodraeth ar hyn, ac yn y datganiad hwnnw rwyf eisiau i'r Gweinidog iechyd egluro beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar sgrinio menywod o dan 25 oed sydd â symptomau o ganser ceg y groth. A oes eithriadau i’r rheol oedran gyffredinol? Ac fe hoffwn gael gwybod hefyd pa fecanweithiau sydd ar waith i ad-dalu’r teulu hwn am eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i fynd yn breifat er mwyn cael y tawelwch meddwl y dylen nhw fod wedi gallu ei gael drwy ein GIG.
Diolch yn fawr iawn am godi hynna. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ei ddeall, fe fyddai'r meddyg teulu wedi gallu cyfeirio'r unigolyn ar gyfer y prawf a ddisgrifiwyd gennych. Fodd bynnag, o gofio'r diddordeb sydd mewn canser ceg y groth, ac rwyf i'n falch iawn bod hynny'n wir, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog iechyd gyhoeddi datganiad sy'n mynd i'r afael â'r holl faterion sydd wedi eu codi yn y datganiad busnes yr wythnos hon a'r wythnos diwethaf.
Tybed a allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch cyflog teg i weithwyr y gwasanaeth sifil. Byddwch yn ymwybodol bod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol—y fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o bryd—yn pleidleisio’n ddirgel tan 29 Ebrill ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol. Nawr, maen nhw'n canolbwyntio ar Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau codiad cyflog teg i weithwyr Llywodraeth hanfodol yn dilyn degawd o wasgu ar gyflog. A ydych chi’n cytuno â mi y dylid cynyddu cyflogau’r gwasanaeth sifil yn uwch na chwyddiant yn unol â gofynion Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, er mwyn unioni, i ryw raddau, degawd o driniaeth annheg a gweision sifil yn cael eu defnyddio fel bwch dihangol mewn polisïau cyni? Ac a wnewch chi ymrwymo i gael dadl fel y gallwn ni gael trafodaeth ynglŷn â sut y gallwn ni gefnogi'r sector hwn yma yng Nghymru?
Roedd yr ail ddatganiad yr oeddwn i'n dymuno gofyn amdano yn ymateb i rywbeth yr ydym eisoes wedi ei drafod heddiw, ond roeddwn i'n awyddus i bwysleisio hynny eto, mewn cysylltiad â gofyn am ddatganiad Llywodraeth ar gydlyniant cymunedol. Rwyf yn credu bod angen i ni ddeall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ganlyniad uniongyrchol i’r ymosodiad yn Seland Newydd, nid yn unig yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud bob diwrnod o'r wythnos. Gwn y bu llai o bobl yn y gweddïau dydd Gwener yr wythnos diwethaf na fyddai wedi bod yn bresennol fel arall yn y ddinas hon hefyd oherwydd yr ofn yr oedden nhw’n ei deimlo oherwydd y sefyllfa bresennol tuag at y boblogaeth Foslemaidd. Nid yw hyn yn ymwneud â chydlyniant cymunedol o ran y grwpiau sy’n siarad gyda’i gilydd, ond y presenoldeb gweledol y bydd y gymuned yn ei deimlo gan yr heddlu, gan yr awdurdodau, fel eu bod nhw’n teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau eu hunain. Felly, rwyf yn eich annog i gyflwyno’r datganiad hwnnw fel y gallwn rannu hynny â chymunedau yma yng Nghymru ac y gallwn ymgysylltu â nhw mewn modd cadarnhaol.
Diolch am godi'r ddau fater yna. O ran y cyntaf, gan fod trafodaethau ynglŷn â chyflog yn parhau ar hyn o bryd, mae'n debyg nad yw hi'n briodol i mi ddweud unrhyw beth arall ar hyn o bryd. Ond o ran cydlyniant cymunedol, rwyf wedi bod yn cael rhai trafodaethau gyda fy nghyd-Weinidogion ynghylch y math o ddatganiadau y mae Aelodau yn eu cyflwyno ar ddydd Mawrth yn y datganiad busnes, a'r math o ddatganiadau y maen nhw'n gofyn amdanyn nhw wrth inni gynllunio ein rhaglen datganiadau a dadleuon wrth symud tuag at ddiwedd tymor yr haf. Gwn fod y Gweinidog â chyfrifoldeb, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, yn sicr yn dymuno cyflwyno datganiad sy'n edrych ar fynd i'r afael â hiliaeth, a gallai hyn fod yn rhywbeth y bydd cyfle i'w drafod yn y datganiad hwnnw.
Mi hoffwn i wneud cais am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae yna achos arall wedi bod yn fy etholaeth i yn ddiweddar, yn fferm Llety yn Rhosybol, lle mae nifer o ddefaid ac ŵyn wedi cael eu lladd. Dwi'n gwybod bod hwn yn fater mae Llyr Gruffydd yn fan hyn wedi bod yn llythyru â'r Llywodraeth arno fo, a Ben Lake yn llythyru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd. Dŷn ni hefyd mewn trafodaethau efo Aelod o Senedd yr Alban, lle mae Emma Harper yno wedi bod yn argymell deddfwriaeth a allai gael ei gyflwyno yn yr Alban er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yma rŵan. Yn ôl beth dŷn ni'n ei weld, mae'r Llywodraeth yma yn credu bod hwn yn fater wedi'i ddatganoli. Mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn credu bod popeth posib yn cael ei wneud. Yn amlwg, mae'r broblem yn parhau. Felly, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi dadl yn amser y Llywodraeth, lle byddwch chi yn gallu cael cyfle i egluro'r hyn mae'r Llywodraeth, yn eich tyb chi, yn ei wneud, a ninnau yn gallu cael cyfle wedyn i gynnig gwelliannau ynglŷn ag, o bosib, deddfwriaeth a allai symud pethau yn eu blaen o ran diogelu da byw yng Nghymru.
Diolch i chi am godi'r mater hwn ac, yn amlwg, mae mater perchenogaeth gyfrifol ar gŵn yn eithriadol o bwysig, ac rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ofidus iawn oherwydd hanesion tebyg i'r rhai a welwyd yn ddiweddar. Rwy'n credu mai'r ffaith yw bod y ddeddfwriaeth ar y maes hwn yn gymysglyd. Mae'n gymysgedd o elfennau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli, ond mater heb ei ddatganoli yw gorfodaeth yr heddlu o Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953. Wedi dweud hynny, rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae'r Gweinidog wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, ac yn yr wythnos diwethaf mae hi wedi bod mewn dau ddigwyddiad lle mae perchnogaeth ar gŵn wedi bod yn brif destun. Byddwn yn parhau i weithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig fel rhan o aelodaeth o weithgor y Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Heddlu i sicrhau bod unrhyw newidiadau posibl i ddeddfwriaeth yn berthnasol i'n pwerau datganoledig ni.
Diolch i'r Trefnydd.