5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diogelwch Adeiladau

– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 2 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:51, 2 Ebrill 2019

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—diogelwch adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i wneud pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi. Mae gennym enw da am wneud yn union hynny. Ers datganoli'r cyfrifoldeb am dân yn 2005, mae nifer y tanau mewn anheddau wedi gostwng yn is ac yn gyflymach yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU. Wedi dweud hynny, nid ydym ni'n gallu bod yn hunanfodlon ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i'r amlwg yn dilyn y tân ofnadwy a'r methiannau yn Nhŵr Grenfell. Yn wir, mae'n hynny'n parhau i ddigwydd, a chaiff ei adlewyrchu yn ein dull ni o weithredu.

Mae'r dystiolaeth honno'n cynnwys cyflwyniadau i'r ymchwiliad cyhoeddus, y profion sy'n parhau, yn ogystal â rhai sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, ar ddeunyddiau adeiladu a drysau tân, ac, wrth gwrs, yr argymhellion yn rhan o adolygiad y Fonesig Judith Hackitt o'r rheoliadau adeiladu a diogelwch tân. Er bod ei hadolygiad hi wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU ac mae'n ymwneud â'r sefyllfa yn Lloegr, rydym yn cydnabod ei ddilysrwydd yng nghyd-destun Cymru, nid yn lleiaf oherwydd, yn 2012, etifeddwyd yr un system ag sydd mewn grym yn Lloegr. Rydym felly'n cydnabod disgrifiad Hackitt o system nad yw'n addas i'r diben. Mae hwnnw'n asesiad damniol.

Roedd y Fonesig Judith Hackitt yn glir yn ei hargymhellion fod yn rhaid i ymateb effeithiol fod yn eang a chydlynol. Mae hyn yn cydnabod cymhlethdodau'r system bresennol, sy'n un o ddeddfwriaeth yn gorgyffwrdd a swyddogaethau a chyfrifoldebau sy'n aneglur yn aml. Mae'n system a nodweddir gan drefniadau rheoli annigonol ac anghyson a gorfodaeth wan. Mae'n amgylchedd a nodweddir gan y ras i'r gwaelod, gan fynd ar ôl elw ar draul safonau. Cafwyd diystyriaeth syfrdanol weithiau o leisiau a phryderon y trigolion. Yn fyr, ceir llawer i'w gywiro a chydnabyddiaeth bod gwneud hynny'n gofyn am herio'r system gyfan. Rydym wedi ymrwymo i osod cyd-destun polisi a deddfwriaethol sy'n adlewyrchu ac yn mynd i'r afael â'r risgiau a'r dystiolaeth—dull a fydd yn gwneud ein disgwyliadau cadarn yn eglur iawn ac yn cefnogi ac ysgogi ein safonau uchel a chydymffurfiaeth lawn.

Yn amlwg, mae angen inni ddwyn ein partneriaid gyda ni i wneud yn siŵr bod ein bwriadau ni'n seiliedig ar brofiad a'r hyn sy'n wirioneddol, a'u bod yn gallu cael eu gwireddu. Mae angen systemau effeithiol arnom ni i gyflawni ein nodau cyffredin. Yn rhan o'r broses honno, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol y llynedd. Mae hwn wedi bod â rhan allweddol wrth argymell y ffordd ymlaen. Ym mis Ionawr, fe wnes i gadarnhau y byddwn i'n rhannu cyngor y grŵp arbenigol gyda chi ac roeddwn i'n falch o'i gyhoeddi'r wythnos hon. Fy ymateb cyntaf yw ei fod yn cynnig dadansoddiad eang a defnyddiol. Hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r grŵp am eu hamser a'u hystyriaeth fywiog a gofalus o ystod eang o faterion anodd. Mae cyfansoddiad y grŵp yn golygu ein bod wedi gallu manteisio ar arbenigedd ar draws proffesiynau a sectorau. Yn ei dro, mae'r grŵp wedi elwa hefyd ar gyfraniad swyddogion o Lywodraethau'r DU a'r Alban, adeiladwyr tai, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, academyddion ac eraill.

O'm rhan fy hun, rwyf i nawr am gymryd amser i fyfyrio ar argymhellion y grŵp cyn rhannu fy ymateb gyda chi ym mis Mai, fel y nodais o'r blaen. Byddaf yn cynnwys, yn rhan o'r ymateb hwnnw, gynllun prosiect eglur, gan sefydlu blaenoriaethau ac amserlenni ar gyfer ein camau nesaf. Bydd hefyd yn ystyried gwaith sy'n cael ei ddatblygu mewn rhannau eraill o'r DU, ond a fyddai'n werthfawr yng nghyd-destun Cymru—er enghraifft, gwaith y National Fire Chiefs Council yn sefydlu dealltwriaeth gliriach o risg, ac eiddo'r grŵp ymateb diwydiant, gan nodi datrysiadau dan gyngor y diwydiant i bennu a chyflawni safonau cyson o broffesiynoldeb.

Rwyf wedi dweud cyn hyn fy mod wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion sy'n ymarferol ac yn gymesur, a bydd rhai ohonyn nhw'n tynnu ar waith ar lefel y DU. Nid yw'n fwriad gennyf i fod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol, ond ni fyddaf i'n oedi cyn gwahaniaethu pryd y ceir cyfle i fod yn fwy effeithiol a gwneud pobl yn fwy diogel. Un cwestiwn sy'n codi ar unwaith, wedyn, yw: pa adeiladau a ddylai gael eu cynnwys mewn system newydd i Gymru? Fel llawer o'r materion hyn, caiff ei gymlethu gan nifer o ffactorau a chydag ychydig yn unig o dystiolaeth gadarn i'w ategu ar hyn o bryd.

Roedd y Fonesig Judith yn argymell y dylai'r hyn y mae hi'n cyfeirio atyn nhw fel 'adeiladau preswyl o risg uchel' fod yn rhai mwy na 30 metr o uchder. Rydym yn eglur nad yw hynny'n mynd yn ddigon pell. Yn gyffredin â Lloegr, cymerodd ein gwaith ni i nodi adeiladau ei fan cychwyn o'r rheoliadau cyfredol, sy'n dechrau o 18m. Mae Hackitt yn argymell 30m neu dalach, a cheir safbwyntiau eraill a fyddai gosod y marc ar 11m, sef pedwar llawr fel arfer. Er hynny, nid yw uchder yn unig o reidrwydd yn mynegi digon o ran y peryglon ac yn arbennig y perygl i bobl sy'n agored i niwed. Byddwn yn edrych yn drylwyr, felly, ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch risg a'r goblygiadau ymarferol wrth inni ddod i gasgliad cytbwys, effeithiol ac ymarferol.

O ran cwmpas adeiladau ac fel arall, mae'r cyngor yn nodi sawl maes cymhleth y byddan nhw'n elwa ar ddadansoddiad mwy manwl. Byddaf yn ystyried y ffordd orau o asesu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ac yn amlinellu cynigion cadarn. Bydd y penderfyniadau y down iddynt yn helpu i ysgogi ateb cytbwys, system gyfan. Mae'n amlwg i mi, er hynny, wrth inni symud at y cam nesaf yn ein gwaith, ein bod yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Roedd yn amlwg iawn bod ein penderfyniad i fynnu bod yr holl dai newydd a'r rhai sy'n cael eu haddasu i fod â systemau i lethu tân yn bresennol yn un cywir, a gwn, Dirprwy Lywydd, y byddwch chi'n arbennig o falch o'm clywed i'n cydnabod hynny.

Un argymhelliad o'r cyngor y byddaf i'n ei dderbyn yn y fan a'r lle yw ein bod ni'n hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Mae tystiolaeth gadarn yn cefnogi effeithiolrwydd systemau chwistrellu dŵr o ran rhwystro marwolaethau. Rwyf wedi gofyn i swyddogion lunio dewisiadau ar gyfer sut y gallwn hyrwyddo ôl-osod ymhellach mewn blociau o adeiladau uchel ar draws sectorau.

Gyda'n partneriaid, rydym wedi nodi cyn hyn y blociau o adeiladau preswyl uchel yng Nghymru, hynny yw, y rhai sy'n 18m neu fwy. Rydym nawr yn ychwanegu at y gronfa ddata a rannwyd gydag awdurdodau lleol â gwybodaeth gadarn am ehangder y systemau chwistrellu yn yr adeiladau hynny. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau tân ac achub a'r awdurdodau lleol ac eraill yn parhau i ddatblygu a rhannu gwybodaeth allweddol. Yn wir, mae honno'n nodwedd allweddol o'r hyn y mae'r Fonesig Judith Hackitt yn ei alw'n 'edefyn euraid'.

Er bod systemau chwistrellu'n gallu bod yn effeithiol, rydym hefyd wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth ynglŷn â chladin. Yn unol â hynny, ymgynghorwyd ar wahardd deunyddiau llosgadwy rhag cael eu defnyddio ar flociau uchel sy'n adeiladau preswyl. Gan weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr arbenigol, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac, yn fwy penodol, mae nifer o faterion technegol wedi codi. Rwy'n rhagweld cyflwyno gwelliannau i'r rheoliadau yn ystod yr haf eleni.

Rwy'n falch o ddweud bod y gwaith o dynnu cladin o ddeunydd cyfansawdd alwminiwm a rhoi rhywbeth arall yn ei le yn parhau ar gyflymder mawr. Mae pob adeilad a nodwyd bellach naill ai wedi cael ei adfer neu mae gwaith yn cael ei wneud arno. Ni ofynnwyd i lesddeiliaid na thrigolion ariannu'r gwaith hwn. Rwy'n croesawu gwaith a phenderfyniadau perchnogion yr adeiladau a'r datblygwyr am ddangos cyfrifoldeb wrth ddwyn y gwaith hwn i ben.

Ar draws y system, mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod yna weithlu cymwys sydd â'r gallu priodol. Rydym yn aros am gasgliadau grŵp ymateb y diwydiant a'i waith ar gymhwysedd, ond rydym eisoes yn ymgysylltu â darparwyr hyfforddiant yng Nghymru i ymdrin ag anghenion ein system yn y dyfodol. Mae darparwyr yn datblygu cyrsiau newydd i wella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o faterion diogelwch tân hanfodol. Bydd fy swyddogion i'n parhau â'r drafodaeth hon. Rydym yn awyddus i Lywodraeth Cymru allu cefnogi'r gwaith angenrheidiol a sicrhau hefyd ei fod yn cael ei integreiddio yn llawn i fesurau ehangach i wella cymhwysedd proffesiynol.

Rwyf wedi cyfeirio at y pwysigrwydd a roddwn ar systemau llethu tân. Rydym wedi ariannu ein gwasanaethau tân ac achub ers tro byd i gynnal gwiriadau diogelwch yng nghartrefi pobl a rhoi offer am ddim megis larymau mwg a gwelyau sy'n gallu gwrthsefyll tân. Mae cryn dystiolaeth bod y gwiriadau hyn yn achub bywydau ac yn amddiffyn eiddo. Bob blwyddyn, bydd y gwasanaeth yn cwblhau rhwng 50,000 a 60,000 o wiriadau o'r fath, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd yn y perygl mwyaf.

Fel y dywedais ar y cychwyn, rydym ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein hanes o gadernid. Pan fydd hi'n bosib ac yn briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith neu yn y byrdymor. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, bydd angen mwy o fanylu ac ystyriaeth ar rai materion. Mewn rhai achosion, bydd hynny'n gofyn ac yn arwain at newid deddfwriaethol. Yn anochel ac yn briodol, bydd hyn yn cymryd amser, ac felly y dylai fod. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cael hyn yn iawn. Byddwch yn gallu gweld o'm hymateb manwl ym mis Mai ac o'n cynllun prosiect, gydag amserlenni eglur, ein bod yn symud gyda myfyrdod a chyflymder priodol i gyflwyno newid gwirioneddol ystyrlon.

Byddaf yn edrych ymlaen at roi'r wybodaeth honno ichi, ond wrth gloi heddiw, hoffwn fynegi fy niolch unwaith eto i'r grŵp arbenigol am fynd i'r afael â'r heriau anodd, pellgyrhaeddol hyn. Bydd eu gwaith nhw yn ein helpu ni i lunio a mireinio ein hymateb i'r materion ac yn sicrhau, yn y pen draw, ein bod yn cadw ein trigolion yn ddiogel yn eu cartrefi. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:59, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Ac a gaf i hefyd, Dirprwy Lywydd, gydnabod y cyfraniad rhagorol yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol?

Credaf fod cyhoeddi'r cyngor hwn gan y grŵp arbenigol yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau adeiladau yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y cynnydd y bydd y Llywodraeth yn ei wneud nawr gyda gweithredu ei argymhellion, a bydd ymateb llawn i ni ym mis Mai. Gwaith pwysig iawn yw hwn ac mae'n gofyn am ddadansoddiad llawn. Rwy'n falch o glywed bod y Gweinidog eisoes wedi derbyn argymhellion y panel ar ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau blociau uchel, gan fod hynny'n rhywbeth a argymhellwyd gan adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ddiogelwch tân mewn adeiladau blociau uchel. Roeddwn i'n rhan o'r pwyllgor pan wnaeth y gwaith hwnnw, ac rwy'n gwybod ei fod wedi dylanwadu ar waith y panel.

Un peth sydd wedi bod yn amlwg iawn i mi ers trychineb Grenfell yw nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben, fel y dywedodd y Gweinidog eto heddiw'n wir, ac fel y canfu adroddiad Hackitt hefyd. Mae'r ffaith y gallai trychineb ar y raddfa hon ddigwydd yn yr unfed ganrif ar hugain yn sioc i bawb ohonom, ac fe wnaeth ganolbwyntio sylw ar adeiladau preswyl uchel eraill ledled y wlad, gan gynnwys y sector preifat—nid yn unig ddiogelwch o ran dylunio, adeiladu a rheoli blociau adeiladau preswyl, ond hefyd sut yr ydym ni'n clywed ac yn parchu barn y bobl sy'n ymgartrefu mewn adeilad bloc uchel. Rydym ni yn y Blaid Geidwadol yn cytuno'n llwyr â chasgliadau adroddiad y pwyllgor yn ogystal ag adroddiad y panel arbenigol, y dylai ei argymhellion fod yn sail erbyn hyn i system fwy cadarn.

Un bwlch sy'n peri pryder ar hyn o bryd yw absenoldeb deiliad dyletswydd pendant yn ystod y broses o ddylunio a saernïo'r adeilad, dryswch yn ystod trosglwyddo'r cyfrifoldeb pan fydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau, a gorgyffyrddiad dryslyd o ran y cyfrifoldeb am y rheoliadau amrywiol. Yn ogystal â hynny, roeddwn i'n bryderus o ddarganfod nad oes yna unrhyw set glir o safonau neu ddisgwyliadau ar gyfer llawer o'r proffesiynau sy'n ymwneud â dylunio a saernïo'r adeiladau hyn, neu gynnal a chadw diogelwch tân mewn adeiladau sydd â phobl yn byw ynddyn nhw, a'r materion o ran cynhwysedd, a all amharu ar allu rheolyddion i wneud eu gwaith nhw. Mae'r rhain yn faterion difrifol iawn wir. Mae cyngor ddoe ei hun yn mynegi,

'Mae angen sicrhau bod y diwygio yn uchelgeisiol ac yn hyrwyddo newid diwylliant sy'n ddigonol o fewn y sector.'

Rwyf i o'r farn bod y ffaith fod llawer o'r argymhellion yn gorgyffwrdd ag adroddiad y pwyllgor yn tystio i'r angen am newid diwylliant o ran diogelwch. Drwy gydol yr adroddiad hwn, gwelir yn amlwg yr angen am ddeddfwriaeth newydd sylweddol i gyflawni nifer o'r argymhellion ar gyfer newid, ac mae'n bwysig bod y rhaglen ddeddfwriaethol yn gydlynol yn y dyfodol. Ond rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor gyflym â phosibl, gan roi diwydrwydd dyladwy wrth gwrs, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cael cydweithrediad llawn holl bleidiau'r Cynulliad. Pe gallai'r ddeddfwriaeth honno ddigwydd yn y Cynulliad hwn, credaf y byddai hynny'n dyst ffyddlon i'r flaenoriaeth yr ydym i gyd yn ei rhoi i'r gwaith hwn. Ond rwy'n sylweddoli bod honno'n alwad uchelgeisiol.

Fel y nodwyd gan y panel, bydd hyn, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w wneud yn iawn, ac mae'r Gweinidog yn gwbl briodol yn edrych ar y materion hyn â difrifoldeb dyladwy fel y gallwn ni gael yr ymateb llawnaf posibl. Ond mae'r angen yn eglur am waith yn y cyfamser, ac rwy'n gobeithio y bydd yr angerdd a ddangosodd y Gweinidog y prynhawn yma yn para ym mis Mai, fel ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ni a hynny mor gyflym ag y gallwn ni. Er enghraifft, yn y lle cyntaf, diwygio neu uno cronfeydd data, ac ymgysylltu'n well â thrigolion—credaf fod hynny'n bwysig iawn. Roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at hynny funud yn ôl. Fe wnes i gyfarfod â chynrychiolwyr o gymdeithasau tai fore heddiw, ac roedden nhw'n nodi y bydden nhw'n cynnal yr ymarfer ymgysylltu hwn fel mater o flaenoriaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yr ysbryd hwnnw i'w weld yn ymateb Llywodraeth Cymru hefyd.

I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r panel am ei waith trylwyr. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu cyflwyno. Rwy'n gwybod y gall Llywodraeth Cymru ddibynnu ar gefnogaeth y grŵp Ceidwadol yma i wneud hyn yn iawn, ond mae angen ei wneud yn iawn a hynny ar fyrder. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:04, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu cyfraniad David Melding yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â phob dim a ddywedodd ef. Ein bwriad yw cyflwyno newidiadau i'r rheoliadau adeiladu—rhan A, rwy'n credu, yn y rheoliadau adeiladu—cyn gynted â phosibl. Ond, fel yr oedd ef yn cydnabod, mae dyletswydd arnom ni i wneud yn siŵr, wrth wneud y newidiadau hynny, eu bod nhw'n newidiadau cadarn a fydd yn sicrhau'r newid sydd yn ofynnol yn y system.

Dirprwy Lywydd, i'r Aelodau hynny sydd wedi cael y cyfle i weld y cyngor  amlinellol, ceir, ar dudalen 15 y cyngor hwnnw, gyfrifydd hwylus iawn o'r system newydd arfaethedig ar gyfer Cymru a'r mannau amrywiol ar hyd y trywydd hwnnw y byddwn yn awyddus i'w hystyried. Ceir ambell ran a fydd yn gofyn am rywfaint o newid deddfwriaethol, ond canllawiau yw rhannau eraill a safonau eraill yn y diwydiant, a rhywfaint o hynny, fel y dywedodd ef yn gywir, yw'r safonau proffesiynol yr oeddwn innau hefyd wedi fy synnu'n fawr nad oedden nhw yn y system eisoes.

Cefais y fraint o gael cyflwyniad gan y grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau a gyflwynodd ei ganfyddiadau i mi, a chawsom drafodaeth fach am hynny. Cefais fy mhlesio'n fawr gan ehangder ac ystod a manylion eu hystyriaeth, ond hefyd gyda'r atebion wirioneddol ymarferol yr oedden nhw'n eu cyflwyno. Nid oedd y rhain yn atebion di-symud, wedi eu goreuro; atebion ymarferol iawn oeddent mewn gwirionedd a oedd yn deillio o ddiwydiant, gwybodaeth a'r angen am adeiladu neu ôl-osod adeiladau ar fyrder ac wedyn i gael system gadarn ar waith a fyddai'n sefyll prawf amser. Felly, rwy'n croesawu ei sylwadau ef, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod yn ôl gyda'r cynigion manwl ynghylch yr amserlenni ac ati ym mis Mai pan fyddwn ni'n rhoi'r ymateb llawn.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:06, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall y byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn ddiweddarach ym mis Mai ar ymateb y Llywodraeth i'r grŵp arbenigol, ond mae gennyf i nifer o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ichi nawr. Rydych yn dweud eich bod yn derbyn yr argymhelliad y dylid hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu, ac rydych yn gofyn i swyddogion lunio dewisiadau ar gyfer hyrwyddo ôl-osod mewn blociau adeiladau ymhellach, ond tybed a fyddech chi'n derbyn nad blociau adeiladau yn unig y dylem ni fod yn hyrwyddo ôl-osod ynddyn nhw. Os ydych chi'n derbyn hynny, a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion gynnwys sut y gallwn annog ôl-osod yn y sector rhentu preifat fel rhan o'r ymdrech gyffredinol i godi safonau yno? A fydd yr ymateb manwl yn cynnwys targedau 'CAMPUS' yn hytrach na dyheadau? Yna'n fwy cyffredinol, mae'r DU yn un o'r ychydig wledydd lle nad oes system drwyddedu orfodol ar gyfer adeiladwyr, sy'n rhywbeth sydd wedi cael ei godi gyda ni. Felly a wnaiff y Llywodraeth roi ystyriaeth yn ei hymateb ynghylch a oes angen i Gymru symud ymlaen a dechrau trwyddedu adeiladwyr tai a chwmnïau adeiladu? Gwyddom fod perygl i ddiogelwch pan gaiff gwaith amhriodol ei gyflawni. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:07, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiynau hynod bwysig hynny. Fel yr wyf yn gobeithio fy mod wedi ei egluro yn y datganiad, nid ydym wedi pennu beth fydd lefel y risg y byddwn ni'n rhoi sylw iddi. Mae'r grŵp wedi gwneud nifer o argymhellion yr ydym ni'n awyddus i'w harchwilio. Rwy'n credu fy mod i wedi egluro nad oeddwn i o'r farn bod argymhelliad y Fonesig Hackitt yn addas ar gyfer Cymru am ei fod yn rhy uchel. Ond, yn hollol; gallai ysbyty dau lawr fod â nifer o faterion ynghlwm wrth yr adeilad na fyddai gan dŷ pedwar llawr ag un set o risiau efallai, ac ati. Felly, rydym yn rhoi ystyriaeth i'r hyn yw ystod y preswylwyr sy'n agored i niwed a'r hyn y gallem ni ei wneud i hyrwyddo hynny. Mae cartrefi preswyl ac yn y blaen yn amlwg yn perthyn i wahanol gategorïau. Bydd hynny'n rhan o'm hymateb manwl i, gan fynd yn ôl i'r man y credwn fod angen i ni fynd â'r system. Dyna'r hyn yr ydym ni'n edrych arno.

Bydd y cyngor yn edrych wedyn ar y sector rhentu preifat ac ar yr ôl-osod, ac mewn gwirionedd mae gennyf grŵp arall yn edrych ar ddatgarboneiddio'r stoc dai yn gyffredinol. Felly, byddaf yn ystyried sut y gallwn ni ddod â'r ddau beth ynghyd. Oherwydd ceir mater yma o ddiogelwch tân, Dirprwy Lywydd, y byddwch chi'n gyfarwydd iawn ag ef, ond mae hefyd yn cynnwys y math o inswleiddio sydd gennych chi a symudiad aer i mewn i'r adeilad ac ati. Felly, mewn gwirionedd, gallwch weld y synergedd rhwng y ddau adolygiad a byddaf i'n wirioneddol falch o allu tynnu'r ddau beth hynny ynghyd.

O ran y trwyddedig—. Ar y targedau CAMPUS, yn bendant. Byddwn yn golygu rhoi targedau yng nghynigion y cyngor a rhoi amserlenni ar gyfer pryd y dylem allu cydymffurfio â nhw. Fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, byddwn yn edrych i weld a oes modd inni gael deddfwriaeth neu newid yn y rheoliadau yn y tymor Cynulliad hwn, ac os na allwn, pa mor gyflym y gellir ei rhoi ar waith fel drafft ar gyfer y Cynulliad nesaf fan bellaf. Nid wyf i o'r farn y bydd a wnelo hyn ddim â gwleidyddiaeth bleidiol mewn unrhyw ffordd. Felly, cyn gynted ag y gallwn ni ei baratoi, bydd yn mynd drwodd.

O ran cael adeiladwyr trwyddedig, ceir adran gyfan yn y cyngor ynglŷn â safonau ac arolygwyr cymeradwy a'r ffordd y mae'r system yn cydsefyll. Felly, rwy'n hoffi'r pwyntiau a wnaeth Leanne Wood. Maen nhw'n bwyntiau dilys iawn, ond nid wyf yn dymuno ymateb ar hyn o bryd oherwydd mae hynny'n rhan o'n hymateb ni i'r ffordd y caiff arolygwyr adeiladu eu trwyddedu a hefyd sut y bydd yr adeiladwyr tai eu hunain yn cwblhau eu gwaith. Felly, mae arnaf ofn y bydd hynny'n rhan o'r ymateb ym mis Mai.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:09, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd groesawu cyhoeddiad y cyngor fel cam pwysig ymlaen o ran diogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr wyf i'n ei gadeirio, wedi bod yn edrych ar fater diogelwch tân mewn adeiladau blociau uchel ers trychineb fawr Tŵr Grenfell yn 2017.

Fel y soniodd David Melding, rydym wedi edrych ar lawer o'r materion sydd yn y cyngor, yn wir, holl ddiben—neu un o ddibenion mawr—ein hadroddiad ni oedd hysbysu'r cyngor hwnnw, yn ogystal â hysbysu polisi a gweithredu Llywodraeth Cymru yn gyffredinol o ran y materion hyn. Felly, rwy'n falch iawn, o ddarllen y cyngor am y tro cyntaf, yr ymddengys ei fod ar yr un sail â chasgliadau ac argymhellion ein hadroddiad ni.

Yn benodol, roedd yr argymhelliad i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor wedi galw amdano ers 2017, ac fe wnaethom ni alw am ddeddfwriaeth newydd yn y tymor cyfredol. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn ymateb i David Melding a Leanne o ran y materion hynny. Roedd y pwyllgor yn sicr yn amlwg eu barn, pe gellid gwneud hyn yn nhymor presennol y Cynulliad, y byddai hynny'n fuddiol iawn wir.

Ac fe fyddwn, yn amlwg, yn cael ymateb llawn i'r cyngor ym mis Mai, Gweinidog, fel yr amlinellwyd gennych. Serch hynny, tybed a oes unrhyw beth y gallech chi ei ddweud erbyn hyn mewn cysylltiad ag un neu ddau o faterion eraill. Un yw'r asesiad blynyddol o risgiau tân ar gyfer yr adeiladau hynny dan sylw y mae'r cyngor yn argymell y dylid cael deddfwriaeth arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn adlewyrchu ein hargymhelliad yn ein hadroddiad ni, a tybed a allech chi ddweud unrhyw beth yn fwy ynghylch pa bryd y caiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno, y tu hwnt i'r hyn yr ydych chi wedi ei fynegi eisoes.

O ran y capasiti yn y sector rheoli adeiladau, mae'r Aelodau wedi crybwyll hyn ac mae'n amlwg yn bwysig iawn yn y cyngor ac yn eich sylwadau chi eich hun. Clywsom fod gwasanaethau rheoleiddio o fewn awdurdodau lleol yn aml yn dioddef yn enbyd yn sgil toriadau'r awdurdodau lleol, sy'n destun pryder gwirioneddol. A oes unrhyw beth arall y gallech chi ei ddweud, Gweinidog, o ran sut y gall Llywodraeth Cymru wneud ei gorau i ymdrin ag argymhellion y cyngor ynglŷn â'r materion capasiti hynny a chynyddu cymhwysedd yn y sector rheoli adeiladau hwnnw?

Ac yn olaf, o ran y defnydd o systemau chwistrellu mewn adeiladau preswyl a blociau uchel a'r argymhelliad yr ydych chi wedi ei dderbyn o'r cyngor, ac, yn wir, o adroddiad fy mhwyllgor i fy hun, tybed—. O ran yr ymateb i'n hadroddiad ni, Gweinidog, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn ystyried sut arall y gellid annog ôl-osod systemau chwistrellu, a tybed a ydych chi ar hyn o bryd yn gallu dweud unrhyw beth mwy am sut y gallech chi ddwyn yr argymhellion hynny ymlaen yn fwyaf effeithiol.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:13, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, gan ddechrau gyda'r olaf, rwy'n croesawu sylwadau John Griffiths yn fawr ac yn cytuno ag ef yn llwyr fod y cyngor o'r un farn i raddau helaeth iawn ag adroddiad y pwyllgor, a braf iawn yw hynny—ein bod ni'n gallu symud ymlaen gyda'n gilydd.

Gan weithio'n ôl, mae rhai o'r pethau y mae ef yn eu codi, yn wir, yn bethau y bydd angen inni ymateb iddyn nhw yn eu cyfanrwydd yn yr adroddiad yn gyffredinol. Rwy'n credu y bydd y mater ynglŷn ag asesiadau risg tân ymledol, y credaf fod David Melding wedi ei godi ar sawl achlysur ac yn sicr yr edrychodd y pwyllgor arno, yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ei gyfanrwydd yn y broses y mae'r cyngor yn ei nodi. Mae'n gynhwysfawr iawn, y broses a nodir, gyda rhai arosfannau ynddo ar gyfer archwiliadau, ac yn y blaen, felly byddwn yn edrych i weld beth ellir ei wneud ynglŷn â hynny.

A cheir cyfnodau ynddo. Felly, mae adeiladau newydd ynddo—sut mae rhoi rheoliadau adeiladu ar waith ar gyfer adeiladau newydd—ond hefyd mae'r argymhellion cyfnod meddiannaeth ynddo, ac rwy'n awyddus iawn i edrych yn ofalus ar y cyfnod meddiannaeth: yr hyn y dylid ei gyflawni drwy ôl-osod, ond yna'r hyn ddylai'r drefn archwilio barhaus fod, fel y dywedodd ef. Oherwydd mewn gwirionedd, wrth i'r dechnoleg newid a'r wybodaeth newid, mae'n bosib iawn y daw rhywbeth gwych i'r fei ymhen tair blynedd nad oes neb yn yr ystafell hon wedi meddwl amdano eto, ac rydym eisiau gallu ymgorffori pethau newydd o ran diogelwch tân, pethau digidol, efallai, neu beth bynnag, i'r asesiad hwnnw heb orfod dibynnu ar ddeddfwriaeth i'w cyflwyno nhw.

Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'n bod ni am roi ystyriaeth i'r ymateb a'r ffordd y byddwn ni'n cyflwyno'r rheoliadau i geisio paratoi cymaint â phosib ar gyfer y dyfodol a chaniatáu i asesiadau risg tân edrych ar arfer gorau fel y mae nawr wrth wneud yr asesiad. Felly, bob tro y gwneir yr asesiad, rydych chi'n ystyried arfer gorau o'r newydd unwaith eto, ac os bydd pethau wedi newid yn y cyfamser, byddech chi'n disgwyl i bobl uwchraddio i'r lefel honno, oherwydd credaf mai dyna'r broblem mewn gwirionedd. Byddai'n rhaid inni edrych i weld yr hyn y gellir ei roi ar waith i ariannu hynny. Os ydym eisiau gwneud hynny drwy'r sector rhentu preifat, er enghraifft, bydd angen inni allu deall effeithiau'r buddsoddiad cyfalaf, neu beth bynnag, a allai fod yn ofynnol. Bydd angen inni ystyried yn ofalus sut mae'r system yn cydbwyso'r cymesuredd â sicrhau bod pobl yn cael y diogelwch tân gorau.

Felly, dyna pam yr wyf yn amharod i ateb ar hyn o bryd, oherwydd rydym eisiau edrych ar lawer o'r materion hyn yn eu cyfanrwydd cyn y byddwn yn cyflwyno'r cynigion am y rheoliadau a hefyd am y math o newid diwylliant, os hoffech chi, sy'n mynd gyda nhw.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:15, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Un o'r meysydd yr oeddem ni'n bendant yn flaengar ynddo—ac i ddeddfwriaeth ein Dirprwy Lywydd y mae'r diolch am hynny—oedd gosod systemau chwistrellu mewn adeiladau. Ei gweledigaeth a'i phrofiad hi wnaeth helpu i fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n siŵr y gwnaiff pawb ymuno â mi i'w llongyfarch hi ar y ddau beth hynny.

I symud ymlaen oddi wrth hynny at ddiogelu yn y dyfodol, un o'r materion—nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn y mae pobl eraill wedi ei ddweud, felly rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddau faes. Un o'r meysydd allweddol yw hyfforddi’r gweithlu yn y dyfodol. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, a hynny'n gwbl briodol, mae pethau'n symud yn gyflym, ac mae'r defnyddiau a'r systemau yn symud yr un mor gyflym. Felly, un warant y bydd ei hangen arnoch chi yw y bydd y gweithlu’n cael ei hyfforddi mewn modd sy’n rhoi hyder iddyn nhw i wneud y swyddi hynny. Wrth gwrs, fe ddaw'r hyder hwnnw gan grŵp ymateb y diwydiant, ac rwy’n gwybod eich bod chi'n aros am ymatebion gan y grŵp hwnnw. Felly, rwy’n gofyn, os oes gennych chi amserlen, pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r ymatebion hynny gael eu cyflwyno.

Wrth gwrs, y peth allweddol arall yw'r defnyddiau a ddefnyddir. Unwaith eto, mae defnyddiau yn esblygu ac yn cael eu defnyddio, a dyna'r hyn, yn anffodus, a ddigwyddodd yn yr achos hwn ac a achosodd yr holl broblemau hynny. Felly, unwaith eto, mae profi'r defnyddiau hynny’n hollbwysig, ond hefyd adeiladwaith yr adeiladau y maen nhw'n cael eu rhoi ynddyn nhw, fel ein bod ni'n berffaith fodlon eu bod nhw wedi eu hadeiladu mewn modd sy’n cadw’r bobl oddi mewn iddyn nhw mor ddiogel â phosibl pe byddai tân.

I symud ymlaen, ynglŷn â hynny, mae gennym ni Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae honno'n gwneud darpariaethau i gynnal profion diogelwch trydanol bob pum mlynedd o leiaf. O ystyried bod hynny wedi ei ohirio, rwy'n gobeithio y bydd ystyriaeth yn hynny i brofion trydanol ar offer, oherwydd yn aml iawn—yn wir, mewn llawer iawn o achosion—diffygion trydanol sy'n achosi'r tanau yn y lle cyntaf.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:18, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n meddwl bod Joyce Watson yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn yna, ac wedi gorgyffwrdd â phwynt na wnes i ymateb iddo yng nghyflwyniad John Griffiths, a dweud y gwir, rwyf fi newydd sylweddoli, sef y mater ynghylch y cymhwysedd a'r arolygwyr adeiladu. Felly, ceir adran gyfan yn y cyngor ynglŷn ag arolygwyr cymeradwy a'u cymhwysedd nhw, a sut y gallai awdurdod cymwys ar y cyd weithio rhwng yr awdurdod lleol, yr arolygwyr a'r grŵp diwydiant adeiladu.

Un o'r rhesymau pam rydym am ymateb ym mis Mai yw oherwydd yr hoffem gael y fantais o ymateb ac argymhellion y grŵp cyn inni symud ymlaen. Rydym ni'n ceisio sicrhau y bydd pobl yn cyflogi pobl â'r cymwyseddau cywir, a bod yr arolygwyr adeiladu yn gallu cynnal arolygiad priodol nid yn unig o’r gwaith ond o'r gweithlu, os hoffech chi, fel na all neb, wyddoch chi, ofyn i rywun rhywun, talu isafswm cyflog iddyn nhw a gofyn iddyn nhw wneud y gwaith, oni bai eu bod nhw'n cael eu goruchwylio gan unigolyn cymwys â chymwysterau a phopeth felly. Rydym ni'n aros am ymateb y grŵp i hynny.

Ceir awgrym diddorol yn y cyngor ynglŷn â'r awdurdod cymwys ar y cyd, ac rydym yn awyddus i edrych arno'n ofalus iawn. Mae’n cyflwyno haen newydd o fiwrocratiaeth, mae'n debyg, a byddwn yn dymuno gweld a yw hynny'n gweithio ac a oes ffyrdd gwell o wneud hynny yng Nghymru. Ond rwy'n derbyn yr egwyddor yn llwyr: ei bod yn rhaid torri'r cyswllt—rwy'n credu bod David Melding a Leanne wedi sôn am hyn hefyd a dweud y gwir—rhwng swyddogaethau'r adeiladwr, yr arolygydd, y cymeradwywr a'r arolygiad wedyn. Felly, yn y cyngor, ceir pwyntiau i ymaros lle gellir gwneud asesiad annibynnol. Felly, mae angen i ni edrych ar y system.

Rwy'n awyddus iawn hefyd i edrych ar y system sy’n talu awdurdodau lleol am waith arolygu adeiladu ac a yw hynny'n achosi gwrthdaro buddiannau, ac os felly, yr hyn y gallwn ni ei wneud am y peth, a dyna’r cynnig ynghylch yr awdurdod cymwys ar y cyd. Felly, mae gennym lawer i'w ystyried cyn i ni ddod â’r cynigion manwl gerbron. A dyna pam yr hoffem gymryd ein hamser i wneud yn siŵr bod y system yr ydym ni’n ei rhoi ar waith yn iawn, fel ei bod hi’n addas at y diben a'n bod ni'n rhedeg rhai achosion prawf drwyddi i wneud yn siŵr nad ydym yn cael canlyniadau anfwriadol, ac ati. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chymesuredd, onid yw, sef disgwyl i bobl fuddsoddi'r swm cywir yn niogelwch tân eu hadeilad, heb ei gwneud yn amhosib bron i rywun allu cydymffurfio? Felly, mae'n ymwneud â chael y cymesuredd hwnnw'n gywir.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:20, 2 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.