4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 3 Ebrill 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru? 298
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae mwyfwy o unigolion yn credu mai dewis olaf yw mynd i'r ysbyty, ac mae mwy o bobl ifanc yn derbyn eu gofal o fewn eu cymuned leol bellach. Er mwyn helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd angen gofal cleifion mewnol, rydym wedi buddsoddi £42 miliwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan arwain at ostyngiad yn nifer y rheini sy'n cael eu hanfon o'r ardal.
Nodwyd y sefyllfa o ran mynediad yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 25 Chwefror. Mae diweddariad pellach ar y ffordd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mewn ymateb i lythyr a anfonwyd gan Gadeirydd y pwyllgor hwnnw ar 7 Mawrth.
Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr fod cyfyngiadau'n parhau i fod yn angenrheidiol yn yr unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru, sy'n golygu nad ydynt yn gallu gofalu am bobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw unwaith eto am gamau gweithredu ar hyn yn eu hadroddiad ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac wrth wneud hynny, maent wedi pwysleisio eu bod wedi bod yn codi'r pryderon hyn ers mor bell yn ôl â 2013. Mae fy mhwyllgor wedi bod yn codi hyn gyda Llywodraeth Cymru ers ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' y llynedd.
Rwy'n deall bod llawer mwy o bobl ifanc yn cael eu trin gan dimau yn y gymuned bellach, ond mae yna rai, serch hynny, sydd angen mynd i uned ar gyfer cleifion mewnol. Ac ni all fod yn iawn fod rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yn gorfod cael eu lleoli y tu allan i Gymru, ymhell oddi wrth eu teuluoedd a chymorth. Mae hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â sut yr awn ati mewn modd effeithiol i sicrhau ansawdd a diogelwch lleoliadau o'r fath, sy'n gallu bod cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Weinidog, pryd y gallwn ddisgwyl i'n hunedau cleifion mewnol fod mewn sefyllfa i dderbyn pobl ifanc sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu gyflawni hunanladdiad? Yn y cyfamser, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni fod prosesau cadarn a chynhwysfawr ar waith i sicrhau bod unrhyw leoliadau y tu allan i Gymru yn ddiogel ac o ansawdd da? Ac yn olaf, o ystyried nad yw rhagweld y perygl y bydd rhywun yn cyflawni hunanladdiad yn wyddor fanwl, yn enwedig mewn person ifanc, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd claf ifanc nad yw wedi'i nodi fel claf risg uchel yn cael gofal diogel yn ein hunedau cleifion mewnol CAMHS?
Diolch i chi am y cwestiynau dilynol. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd a difrifoldeb y mater hwn. Gan nad ydym yn gallu cael capasiti llawn, fel y byddem ei eisiau fel arall, mae'n gyfuniad o ffactorau gwahanol yn yr uned yng ngogledd Cymru o gymharu â de Cymru, ond rydym yn credu bod nifer lai na deg o blant a phobl ifanc wedi'u lleoli y tu allan i Gymru oherwydd y cyfyngiadau hynny. Felly, mae llai na deg yn nifer fach, ond mae gan bob person deulu a chyd-destun, ac nid dyna'r math o ofal a lleoliad gofal rydym eisiau gallu ei ddarparu. Nid dyna y mae'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud a'r cyfalaf i fod i'w ddarparu ychwaith.
Mewn perthynas â Thŷ Llidiard, a grybwyllwyd gennych yn benodol, fe fyddwch yn ymwybodol fod angen i ni wneud gwelliannau i'r ystâd ffisegol. Mae rhan o'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau; disgwylir y bydd gweddill y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau o fewn y flwyddyn 2019-20. Rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod a'r ddau bwyllgor sydd â diddordeb yn y mater hwn i roi arwydd cliriach o ran pryd y dylai'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.
O ran eich pwynt ehangach am—. Os hoffech, dau bwynt ychydig yn wahanol. Un ar sut rydym yn rhoi sicrwydd i ni'n hunain ynglŷn ag ansawdd y gofal y tu allan i'r ardal a'r tu allan i'r wlad: mae honno'n her go iawn ac yn her i'r comisiynwyr a'r fframwaith sy'n cael ei ddarparu a'i fonitro drwy wasanaeth sicrhau a gwella ansawdd. Maent yn cynnal archwiliadau safle ac yn monitro perfformiad, ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn derbyn adroddiadau misol rheolaidd gan y ddwy uned sy'n darparu gofal yng Nghymru ar hyn o bryd.
Felly, unwaith eto, rwy'n cydnabod y pwynt rydych yn ei wneud nad yw hi bob amser yn bosibl dweud a yw rhywun yn cael teimladau hunanladdol. Felly, mae'r her yn ymwneud â gwneud yn siŵr fod ansawdd y gofal yn briodol. Dyna ran o'r her o ran pam nad ydym yn derbyn rhai pobl i'r unedau hynny yn awr lle mae honno'n risg y gwyddys amdani. Ond dyna pam fod adroddiadau rheolaidd yn cael eu gwneud i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, i'r tîm ansawdd, tra bo proses uwchgyfeirio ar waith. Ac mae honno'n broses uwchgyfeirio ychwanegol—nid dyna'r ffordd arferol o weithredu oherwydd mae gennym bryderon ynglŷn â'n capasiti i reoli gofal yn ddiogel. Nid yw'n sefyllfa rwyf fi nag unrhyw un arall eisiau bod ynddi. Byddaf yn darparu'r diweddariadau a nodais i'r Aelodau ac yn benodol i'r pwyllgorau, a byddaf yn amlinellu'n fanylach yn y llythyr y byddaf yn ei anfon at y pwyllgor iechyd—byddaf yn sicrhau bod copi yn mynd i'r pwyllgor plant a phobl ifanc, oherwydd rwy'n cydnabod bod gan y ddau bwyllgor ddiddordeb uniongyrchol yn y mater hwn—a byddaf yn parhau i wneud hynny hyd nes ein bod mewn sefyllfa wahanol.
Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n falch iawn fod Lynne Neagle wedi codi'r mater hwn unwaith eto yn y Siambr y prynhawn yma, oherwydd, fel y gwyddoch, mae uned iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc, gyda chapasiti cleifion mewnol, yn fy etholaeth fy hun, yn nhref Abergele. Cafodd ei hadeiladu bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, yn ôl yn 2009, gyda chapasiti o 18 o welyau, i wasanaethu ardal gogledd Cymru, ac yn anffodus, nid yw'r gwelyau hynny erioed wedi cael eu defnyddio'n llawn neu ar agor yn llawn, ac rydym yn dal i wynebu'r posibilrwydd y bydd unigolion yn cael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o ogledd Cymru pan nad oes ond 12 yn unig o'r gwelyau wedi'u comisiynu yn ein huned flaenllaw ein hunain ar hyn o bryd.
Nawr, rwy'n siŵr y gallai mwy o bobl elwa o'r cyfleuster hwn pe bai wedi'i lenwi hyd at gapasiti llawn o ran y defnydd o welyau. Rwy'n siŵr y byddai rhai pobl yn cael eu hanfon i ogledd Cymru o'r tu allan i ardal gogledd Cymru hefyd er mwyn llenwi'r gwelyau hynny pe baent ar gael. Ac rwy'n meddwl tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw ar ba gamau a gymerir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sicrhau bod digon o welyau yng ngogledd Cymru ar gyfer y bobl ifanc a allai fod angen cyfleusterau cleifion mewnol yn ein rhanbarth. Rwy'n derbyn y bydd yna achosion arbenigol weithiau lle bydd angen darpariaeth arbenigol iawn na ellir ei darparu yn un o'r unedau mwy cyffredinol hyn. Rwy'n deall ac yn derbyn y gallai hynny ddigwydd o bryd i'w gilydd, ond yn amlwg, mae yna bobl ifanc a allai elwa o'r cyfleusterau hyn yng Nghymru sy'n cael eu hanfon dros y ffin i Loegr ar hyn o bryd. Gallwn fonitro ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal yn hawdd. Nid oes problem gyda'r comisiynwyr yn gorfod wynebu'r her o fonitro rhywbeth gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae hyn yng Nghymru, o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, a gaf fi ofyn, a fyddwch yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru i gynyddu capasiti cleifion mewnol yn Abergele, a pha waith sy'n cael ei wneud o fewn y bwrdd iechyd i recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol ychwanegol, os oes angen, er mwyn gofalu am y gwelyau ychwanegol hynny, os ydych yn bwriadu eu hagor?
Mae dau bwynt rwy'n credu y dylwn ymateb iddynt. Y cyntaf yw'r pwynt am y nifer o welyau sydd gennym. Rydym wedi llenwi'r capasiti a gomisiynwyd yn Nhŷ Llidiard. Nid ydym wedi llenwi'r capasiti a gomisiynwyd—ac mewn gwirionedd, rydym yn comisiynu 12 o'r 18 gwely posibl—yng ngogledd Cymru. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r cymhlethdod a'r lle sydd ei angen, ond mae hefyd yn ymwneud, yn rhannol, â staff. Ac felly, mae 10 o welyau wedi cael eu comisiynu ac yn cael eu defnyddio, ac maent wedi gallu cynyddu i 12; bu'n rhaid iddynt symud yn ôl i lawr i 10, oherwydd heriau o ran recriwtio staff i weithio'n barhaol yn y cyfleuster, felly rwy'n cydnabod bod staffio'n broblem. Ac nid yw adnoddau'n broblem—nid yw fel pe bai'r bwrdd iechyd yn gwrthod penodi staff neu'n cadw swyddi'n wag; mae'n ymwneud â'n gallu i recriwtio pobl i'r gwasanaeth. Ac felly rydym yn gweithredu 10 gwely gan ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
Mae'r her arall, mae'n debyg, yn ymwneud â nifer y gwelyau a gomisiynwyd beth bynnag. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae canllawiau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dangos ein bod uwchlaw'r lefel poblogaeth/gwelyau y maent yn awgrymu y dylai fod gennym ar draws y wlad. Ond o ran adolygu ein capasiti, byddwn yn cael ein llywio gan lefel yr angen wrth gwrs, ac yn gweld faint o bobl y gallwn eu gwasanaethu. Fel y dywedais, oherwydd nad ydym wedi llwyddo i staffio'r holl welyau a gomisiynwyd gennym yn ddiogel, rwy'n cydnabod bod nifer lai na deg o blant a phobl ifanc o Gymru wedi mynd allan o'r wlad pan allent fod wedi bod yn y cyfleusterau GIG Cymru hynny fel arall. Felly, mae'n broblem go iawn i'r holl blant a phobl ifanc hynny a'u teuluoedd, ac felly, ydw, rwy'n benderfynol o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf y byddwch chi a'r Aelodau eraill yn ei disgwyl—a'r ymrwymiad a roddais i Lynne Neagle ynglŷn â gwneud yn siŵr fod y ddau bwyllgor pwnc yn cael y newyddion diweddaraf ar gynnydd.
A gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Lynne Neagle, a Darren Millar, am ddifrifoldeb y sefyllfa? Dywed y Gweinidog fod lefel y capasiti ar hyn o bryd yn adlewyrchu lefel yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl yn y boblogaeth, ond yn amlwg, nid yw'n adlewyrchu lefel yr angen, os ydym yn parhau i fod â chyfleusterau llety y tu allan i Gymru ar gyfer y nifer fach honno o bobl ifanc. O gofio bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ein bod yn credu ein bod yn sôn am nifer lai na deg yma, a oes mwy y gall y Gweinidog ei wneud i gynyddu'r capasiti a sicrhau bod y capasiti yn y lleoliadau cywir, yn ogystal â bod wedi ei staffio'n ddiogel? A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi na ddylid trin pobl ifanc gyda'r cyflyrau difrifol hyn y tu allan i Gymru heblaw bod eu cyflwr yn gwneud hynny'n angenrheidiol—os yw eu cyflwr mor anarferol fel na allem—nid yn unig na allwn ar hyn o bryd, ond fel na allem—ddarparu'n ystyrlon ar gyfer yr angen penodol iawn hwnnw yn ein gwlad ein hunain? Ac o dderbyn popeth y mae wedi'i ddweud heddiw, y bydd yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â hyn, mae yna ymdeimlad bach ein bod, fel y dywedodd Lynne Neagle, wedi bod yn codi'r materion hyn ers nifer o flynyddoedd. Ond os ydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle mae pobl ifanc yn cael eu trin y tu allan i Gymru—hyd yn oed os ydym i gyd yn derbyn nad dyna rydym eisiau ei weld—pa gamau pellach y gall y Gweinidog eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc sy'n cael eu trin y tu allan i Gymru yn cael eu monitro'n briodol, ein bod yn gwybod bod eu gofal yn cyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl yma yng Nghymru, a bod gweithwyr proffesiynol priodol, yn ogystal â'u teuluoedd, yn ymweld â hwy'n rheolaidd, i wneud yn siŵr eu bod mor ddiogel a chyfforddus a, buaswn yn dweud, mor hapus ag y gallant fod?
Credaf fod dau gwestiwn yno. O ran yr ail un, ynglŷn â'r model ac ansawdd y lleoliadau y tu allan i Gymru, credaf fy mod wedi ymdrin â hynny mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnodd Lynne Neagle yn ei chwestiwn atodol. A byddaf yn sicr yn mynd i'r afael â hynny er mwyn darparu lefel ysgrifenedig o fanylder i'r ddau bwyllgor, fel y nodais yn yr ymrwymiad a roddais mewn ymateb i gwestiynau Lynne Neagle.
Ar eich cwestiwn arall, ynglŷn â chapasiti ac angen, rwy'n hapus i roi sicrwydd iddi—ac i'r holl Aelodau—fy mod yn disgwyl i ni roi ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw GIG Cymru ond yn helpu i leoli plant a phobl ifanc y tu allan i Gymru oherwydd eu bod angen hynny, yn hytrach nag oherwydd capasiti. Ac felly wrth gwrs, bydd angen inni edrych ar y capasiti sydd gennym a gweld bod hwnnw'n cyd-fynd â'r angen. Mae'r canllawiau—a chanllawiau ydynt, yn hytrach na rheol bendant gan y coleg brenhinol—yn awgrymu bod gennym ddigon o gapasiti, os ydym yn gallu staffio'r lleoedd hynny'n ddigonol. Ac yng ngogledd Cymru y mae'r broblem fwyaf mewn perthynas â staffio priodol mewn gwirionedd. Byddwn yn gallu sicrhau wedyn—rydym yn disgwyl na fydd staffio'n broblem gyda'r capasiti a gomisiynwyd yn Nhŷ Llidiard—fod yr holl welyau hynny wedi'u staffio'n briodol ac yn ddiogel. Felly, rwy'n hapus i gadarnhau nad yw hyn yn fater o oddef yn ddiderfyn y ffaith bod pobl yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru pan nad yw eu hanghenion gofal yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd i'r lleoliad hwnnw.
Weinidog, credaf y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi ymdrin ag achosion sy'n peri gofid yn aml mewn perthynas â'r agwedd benodol hon ar ofal ac rydym yn sôn am rai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rwyf wedi cael profiad o achosion lle nad yw'r cynllun triniaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn, mewn gwirionedd, ar ôl i unigolion gael eu derbyn fel cleifion mewnol ac maent wedi gorfod mynd yn ôl i ofal ac mae hyn yn aflonyddgar iawn. Hefyd weithiau, mae lle i wella'r ffordd y mae rhieni a gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau triniaeth. Pan fo cleifion yn arddangos y symptomau gofidus hyn, mae angen i ni sicrhau, pan fo cleifion yn gadael gofal cleifion mewnol, eu bod yn parhau i dderbyn triniaeth arbenigol iawn—triniaeth ddwys—ac yn fwyaf arbennig, fod y gwaith diagnostig sydd angen ei wneud yn cael ei wneud yn effeithiol, oherwydd weithiau, ceir amheuaeth go iawn ynglŷn â'r llwybr gorau ar gyfer yr unigolion hyn sydd mewn trallod mawr yn aml iawn.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wna'r Aelod yn llwyr. Rwyf fi, fel Aelod etholaeth, wedi cael gwaith achos ac wedi cyfarfod â theuluoedd sydd mewn sefyllfa anodd iawn ac nad ydynt yn teimlo eu bod wedi cael cefnogaeth dda gan y system. Felly, nid yn unig ein bod wedi rhoi adnoddau—adnoddau ariannol a mwy o staffio—i'r gwasanaeth CAMHS cyffredinol, ond wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â'n gwaith atal ac ymyrraeth gynharach, yn ogystal â'r ymateb i 'Cadernid Meddwl', a hefyd mewn gwirionedd, y pwynt ynglŷn â pha gefnogaeth sydd ar gael, ar ôl iddynt gael eu derbyn, i'r bobl sydd wedi'u derbyn i ofal cleifion mewnol.
O ran adroddiad thematig Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—y newyddion cadarnhaol yw eu bod wedi canfod at ei gilydd fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael profiadau da o ofal, gyda staff a oedd yn dosturiol ac yn darparu gofal urddasol yn canolbwyntio ar unigolion. Ond mae hynny'n amlygu, unwaith eto, ei fod yn bosibl, a dyna pam hefyd fod cymaint o angen gwella profiadau'r bobl hynny lle nad ydym yn credu bod hynny wedi digwydd a pham y gwn y byddwch wedi gweld, ac y bydd Aelodau eraill wedi gweld, enghreifftiau o lle nad yw teuluoedd yn teimlo bod hynny wedi digwydd. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, nid yn unig mewn sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a byrddau iechyd, ond rhwng y gwasanaeth iechyd a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth i weld a ydym yn cyflawni ein dyheadau.
Os oes gan yr Aelod enghreifftiau unigol o achosion lle nad yw teuluoedd yn credu bod hynny wedi digwydd, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cael manylion am y rheini er mwyn gallu eu codi'n uniongyrchol gyda'r rhan honno o'r gwasanaeth iechyd.
Mewn perthynas ag achos Claire Greaves—yr achos trasig—roedd hwn yn amlwg yn achos o anorecsia yn ogystal ag anhwylder personoliaeth o oedran cynnar. Fel rhan o'r adolygiad ar anhwylderau bwyta, hoffwn wybod a ydych yn ystyried trafodaeth, trafodaeth ehangach, ar anhwylderau bwyta mewn uned neu unedau cleifion mewnol yng Nghymru, nid yn uniongyrchol o ganlyniad i hyn, ond o ganlyniad i'r galw sydd wedi bod, dros flynyddoedd lawer, gan gleifion a gofalwyr.
Pan oedd Mark Drakeford, y Prif Weinidog presennol, yn Weinidog iechyd, dywedodd ei fod yn benderfynol o ddod â llawer o'r bobl ifanc a oedd mewn unedau dros y ffin yn ôl i'r wlad hon, ac efallai y gallwn drafod lefel y gofal yn yr achos hwn, neu efallai ddim, ond yr hyn sy'n bwysig yma yw bod gennym lefel o ddarpariaeth yn y wlad hon lle mae pobl yn ddigon agos at eu hanwyliaid fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn y mathau hyn o sefyllfaoedd. Felly, rwy'n awyddus i ddeall beth y gallwch ei wneud i sicrhau ein bod yn cael trafodaeth agored am bosibiliadau'r dimensiwn ychwanegol hwn na chafodd ei gynnwys yn y fframwaith gwreiddiol oherwydd y ffordd y cafodd y fframwaith ei ddarparu ar sail y ffocws rhanbarthol. Credaf fod yr amser wedi dod pan fo gwir angen inni edrych ar y model hwnnw eto, nid yn unig ar gyfer yr achos hwn ynddo'i hun, ond ar gyfer pobl ifanc eraill ledled Cymru sydd yn yr un sefyllfa.
Unwaith eto, rwy'n cydnabod bod hwn yn fater real a difrifol. Gyda llawer o blant a phobl ifanc sy'n cael mynediad at wasanaeth CAMHS ac sy'n cael eu trin, gwyddom fod anhwylderau bwyta yn rhan o'r rheswm pam eu bod yn defnyddio'r gwasanaeth CAMHS ac yn derbyn gwasanaeth arbenigol. Mae gennym arian i ddod â mwy o bobl yn ôl i'r wlad hon, ond rydym yn cydnabod nad ydym wedi gwneud cymaint ag y byddem wedi'i ddymuno. Mae'r pwynt roeddwn yn ei wneud, mewn ymateb i gwestiwn Helen Mary, yn ymwneud â sicrhau mai angen, yn hytrach na chapasiti, sy'n penderfynu lle mae pobl yn cael eu trin. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ar anhwylderau bwyta y mae Jacinta Tan a'r tîm o bobl, gan gynnwys pobl ag anhwylderau bwyta, wedi cyfrannu ato, a bydd yna ymateb yn amlwg. Ac rwy'n fwy na hapus i gael dadl agored am y ddarpariaeth sydd gennym, sut y mae honno'n cyd-fynd â'r ddarpariaeth y credwn y dylem ei chael, a sut y gallwn fod mewn sefyllfa wahanol. Felly, mae fy meddwl yn gwbl agored ynglŷn â'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud, ac fel rwy'n dweud, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, a gwn y bydd gennych chi ac Aelodau eraill gwestiynau i'w gofyn a sylwadau i'w gwneud a gobeithio y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer bwrw ymlaen mewn ffordd well.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch. Mae'r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma i'w ateb gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Helen Mary Jones.