Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 1 Mai 2019.
Roedd y cyhoeddiad am ddyfodiad Pinewood i Gaerdydd bum mlynedd yn ôl yn llawn cyffro ac edrych ymlaen. Gobeithiwyd y byddai'r brand yn dod â budd amcangyfrifedig o £9 miliwn i economi Cymru. Codwyd gobeithion y byddai'r cyfle a gâi ei ddarparu yn rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yng Nghymru ar lefel ryngwladol, ac eto, bedair blynedd yn unig yn ddiweddarach, chwalwyd pob gobaith pan benderfynodd Llywodraeth Cymru derfynu'r brydles a'r cytundeb cydweithredol a oedd ganddi gyda'r cwmni. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd? Fe ddylai. Y llynedd, buom yn trafod prosiect arall a gafodd groeso mawr gan ei fod yn gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Methodd prosiect Cylchffordd Cymru o ganlyniad i swyddogion yn gwneud camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a diffyg crebwyll. Unwaith eto, codwyd gobeithion a'u chwalu wedyn gan y llanastr a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â phrosiect pwysig.
Roedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cylchffordd Cymru yn galw am ddulliau llywodraethu cadarn ac effeithiol a sianeli cyfathrebu mewnol i warantu na fydd materion o'r fath yn codi eto. Fodd bynnag, mewn perthynas â Pinewood, synnodd y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gontract nad oedd yn glir o ran y trefniadau gweithredu. Hefyd, methodd y trefniadau cydweithredu â nodi rolau a chyfrifoldebau pob partner yn glir. Yr hyn a berai'r pryder mwyaf i'r pwyllgor oedd ansawdd anghywir, anghyflawn a gwael y cyngor a roddwyd i Weinidogion ar fwy nag un achlysur. Mewn tystiolaeth lafar, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwerthusiad annibynnol wedi'i gynnal cyn caffael yr adeilad yng Ngwynllŵg, ond wedyn daeth yn amlwg fod cyflwr yr adeilad fel y'i nodwyd yn anghyson â'r angen i gyflawni atgyweiriadau hanfodol i do'r adeilad, y gwelwyd ei fod yn gollwng. Mae'n anhygoel fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chomisiynu syrfëwr strwythurol i arolygu'r adeilad cyn ei brynu, sy'n arfer cyffredin mewn unrhyw fusnes neu eiddo pan fyddwch yn prynu. Rhagdybiodd Llywodraeth Cymru y byddai'r adeilad wedi'i gynnal a'i gadw i safon resymol am ei fod yn cael ei werthu gan fuddsoddwr rhyngwladol neu sefydliadol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, Ddirprwy Lywydd. Sylwaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas â chaffael arolygon. Ni allwn ond gobeithio y bydd y canllawiau arferion gorau y dywedir eu bod yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
Daeth enghraifft arall o ddiffyg diwydrwydd dyladwy yn glir mewn perthynas â mater TAW ar y cytundeb noddwr. O dan y cytundeb, byddai Llywodraeth Cymru yn talu £438,000 y flwyddyn i Pinewood i farchnata a hyrwyddo'r stiwdio. Yn fuan ar ôl llofnodi'r cytundeb, sylwyd bod y TAW wedi'i hepgor. Golygodd hyn fod cost flynyddol y nawdd yn codi £87,600 i £525,000 i gyd. Mae'r methiant hwn i gael cyngor arbenigol ar oblygiadau TAW yn dangos diffyg gallu o fewn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygiad cynigion i ymrwymo i gytundebau masnachol ansafonol gyda chwmnïau preifat yn ddigon cadarn.
Lywydd, drwy gydol eu cyfnod mewn grym, mae record Llywodraeth Cymru wedi bod yn frith o benderfyniadau gwael sydd wedi colli arian i'r trethdalwr mewn modd mor wastraffus: prosiect Cylchffordd Cymru, gwerthu tir drwy gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, Kancoat, Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel y dywedodd Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei ragair i'r adroddiad hwn, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dysgu o'i phrofiadau yn y gorffennol ac yn dangos bod gwersi wedi'u dysgu o ran ei dull o ariannu busnesau preifat. Ni allwn ond gobeithio y bydd yn gwneud hynny. Diolch.