Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 1 Mai 2019.
Roeddwn eisiau diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynnal yr adroddiad hwn. Roeddwn eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Edrychasom yn gyntaf ar y mater hwn fel rhan o'n hymchwiliad i gynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu mawr yng Nghymru y llynedd, cyn i ni drosglwyddo'r mater i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i graffu arno ymhellach. Cynhaliwyd dwy sesiwn gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Roedd yn amlwg fod problemau penodol gyda'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf. Drwyddi draw, roedd y nod yn glodwiw, ond roedd y modd y'i gweithredwyd yn wael. Yn amlwg, rydym eisiau gweld Cymru'n cynnal cyfleuster stiwdio o'r radd flaenaf, fel y dywedwyd eisoes, ac rydym yn gwbl gefnogol i ymdrechion i godi proffil Cymru'n rhyngwladol yn y diwydiant ffilm. Fodd bynnag, roedd y cyngor a roddwyd i'r Llywodraeth yn seiliedig ar fodel nad oedd erioed yn addas i'r wlad hon. Fel y dywedwyd, cafodd y safle ei brynu heb arolwg strwythurol llawn; dywedwyd wrthym fod hyn yn cyfyngu ei ddefnydd i'r maes teledu yn unig, ac nid cynhyrchu ffilmiau. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, nid yw'r cytundeb gyda Pinewood
'yn eglur o ran trefniadau gweithredu,' ac nid oedd y cytundeb cydweithredol
'yn egluro rolau a chyfrifoldebau pob partner yn eglur.'
Mae bron pob agwedd ar y prosiect, o'r lleoliad i'r cytundeb rheoli i'r datganiadau blynyddol amcangyfrifedig, wedi cael eu profi'n ddiffygiol ers hynny.
Ar wahân i'r problemau gyda'r adeilad a'r cytundeb, a oedd yn destun pryder mawr i'r pwyllgor, rwyf eisiau sôn am ddiffyg tryloywder y Dirprwy Weinidog. Gwrthododd Llywodraeth Cymru ddatgelu manylion ei pherthynas â Pinewood, gan gyfeirio at sensitifrwydd masnachol. Fodd bynnag, nid oedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, ond yn hepgor un ffigur ariannol—sef gwerth y ffi reoli. Roedd y pwyllgor yn siomedig ei bod yn ymddangos bod sensitifrwydd masnachol yn cael ei ddefnyddio i osgoi cwestiynau anodd ynglŷn â gwerth am arian. Roedd holl natur ein trafodaeth gyda'r Dirprwy Weinidog yn anfoddhaol. Er enghraifft, gofynnwyd a oedd cynlluniau i adnewyddu'r ffermdy rhestredig Gradd II ar y safle a brynwyd gan y Llywodraeth, ac atebodd y Dirprwy Weinidog na fyddent ond yn gwneud hynny pe baent yn cael eu gorfodi i wneud hynny gan arolygydd cynllunio neu Cadw. Does bosibl na allwn ddisgwyl mwy gan yr aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am ddiogelu ein treftadaeth.
Ym mis Ionawr 2018, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth fy nghyd-Aelod Adam Price, a dyfynnaf:
'Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood'.
Fodd bynnag, fel y nodir yn glir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ym mis Tachwedd 2017 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gytundeb â Pinewood, lle byddai costau gweithredu'r cyfleuster, ynghyd â thalu ffi reoli Pinewood, bellach yn cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i fod yn bryderus, er gwaethaf ceisiadau am wybodaeth gan amryw o Aelodau Cynulliad, na fyddai'r wybodaeth hon yn gyhoeddus o hyd oni bai am yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru, a byddai Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd yng Nghymru yn dal i fod yn y tywyllwch.
Mae angen i ni wybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eu buddsoddiad mewn cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yn llwyddiant. Hyd yn hyn, mae eu hymwneud â Pinewood wedi bod yn frith o gamgymeriadau amatur, y dywedir wrthym eu bod yn destun adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, a ddosberthir i weddill Llywodraeth Cymru, ond maent yn gamgymeriadau mor sylfaenol fel na ddylid bod wedi eu gwneud yn y lle cyntaf.
Yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn tangyflawni'n ddifrifol. Ni chawsom unrhyw ateb clir i'n cwestiwn ynglŷn ag a oedd y refeniw blynyddol a amcangyfrifwyd o'r cytundeb â Pinewood wedi'i ddiwygio i adlewyrchu perfformiad gwirioneddol y cytundeb cydweithredol. Ym mis Mawrth, gofynnais i'r Dirprwy Weinidog am ddiweddariad ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, a dywedwyd wrthyf y byddai un yn cael ei ddarparu ym mis Rhagfyr, fel rhan o ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu na chafwyd unrhyw wybodaeth gyfredol ar y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau ers mis Mehefin y llynedd. Mae ein rhanddeiliaid yn y diwydiant yn haeddu gwybod beth yw'r gyfradd enillion ar fuddsoddiadau a wneir gydag arian cyhoeddus yn gynt na hynny.
Rydym yn falch o glywed bod y gofod stiwdio bellach yn cael ei rentu i Bad Wolf, ond hoffwn i'r Dirprwy Weinidog ddweud wrthym beth yw'r ffigurau diweddaraf ar gyfer gwariant ac elw ar fuddsoddiad o'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau, beth yw'r incwm rhent a dderbynnir gan Bad Wolf, a sut y mae hyn yn cymharu ag unrhyw gostau parhaus sydd gan Lywodraeth Cymru. Ac a all y Dirprwy Weinidog ddatgan yn glir a yw safle Gwynllŵg bellach yn cynhyrchu elw i Lywodraeth Cymru ai peidio? Mae'r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn deall y gwerth am arian o'n hymrwymiad ariannol i'r un prosiect hwn. Ond mae'r diffyg tryloywder cyffredinol a brofwyd gennym wrth ymwneud â Llywodraeth Cymru yn parhau i lesteirio ein hymchwiliadau i'r ffordd orau y gall y Llywodraeth gefnogi a chynnal y diwydiant bywiog hwn. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen yn llawer mwy tryloyw ynglŷn â'i pherthynas â Bad Wolf, ac na fydd galw am adroddiad gan y swyddfa archwilio cyn i fanylion pwysig am benderfyniadau gwariant cyhoeddus ddod i'r amlwg.