– Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
Daw hynny â ni at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar e-chwaraeon. Dwi'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7044 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng 15,000 a 40,000 o gefnogwyr.
2. Yn nodi bod Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith tueddiadau eraill o ran technoleg.
3. Yn croesawu argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y gall y sector e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy:
a) godi statws e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol, a sylw yn y cyfryngau; a
b) cynyddu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn rhaglenni datblygu lwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU a'r 'Transfuzer'.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru;
b) ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth ryngwladol e-chwaraeon yng Nghymru;
c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gynnydd, erbyn 1 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sydd—credaf ei bod yn deg dweud—yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n bwnc sy'n ffres ac yn gyffrous iawn yn fy marn i, ac mae iddo botensial ar gyfer twf sylweddol yng Nghymru os yw'n cael y gydnabyddiaeth a'r sylw haeddiannol yn sgil ei lwyddiant hyd yma.
Ledled y byd, mae gwledydd yn croesawu ffenomen e-chwaraeon a gemau rhithwir cystadleuol, er gwaethaf stigma parhaus, ac mae'r cynnydd mwyaf i'w weld yn y gwledydd hyn, wrth iddynt fanteisio ar fuddion economaidd enfawr y sector, tra'n rhoi cyfleoedd pellach i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm cystadleuol. Ar yr un pryd, mantais y diwydiant hwn yw ei fod hefyd yn annog pobl i gofleidio llawer o'r sgiliau digidol a thechnolegol craidd sy'n dod yn fwyfwy pwysig yn ein byd digidol, modern.
Bum mlynedd yn ôl, ni fyddech wedi gallu dychmygu cystadlaethau gemau fideo yn cael eu darlledu ar yr un sianel â chwaraeon traddodiadol, ond mae pethau'n newid. Diolch i boblogrwydd aruthrol e-chwaraeon, a ysgogwyd i raddau helaeth gan y genhedlaeth sy'n ffrydio'r rhyngrwyd, mae'r tirlun adloniant wedi trawsnewid yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Nawr, mae e-chwaraeon wedi bod o gwmpas ers cyhyd â'r diwydiant gemau fideo ei hun, ac maent yn cyfeirio'n gyfunol at chwarae gemau fideo cystadleuol gan chwaraewyr proffesiynol ac amatur. Yn ôl yn y 1990au cynnar, roedd yn bodoli'n syml drwy fod grŵp o ffrindiau yn eistedd o amgylch consol Sega Mega Drive neu Nintendo 64. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd yn y nifer sy'n gwylio gemau ac ymgysylltiad chwaraewyr wedi dyrchafu e-chwaraeon i fod yn ddiwylliant prif ffrwd fel camp broffesiynol ddilys gyda niferoedd enfawr o ddilynwyr yn fyd-eang. Rydym i gyd wedi clywed am League of Legends, Call of Duty, FIFA a Halo 5. Yn 2018, amcangyfrifodd Goldman Sachs fod cynulleidfa fisol fyd-eang e-chwaraeon yn 167 miliwn o bobl, ac erbyn 2022, mae'n amcangyfrif y bydd y gynulleidfa yn cyrraedd 276 miliwn, neu, i'w roi mewn persbectif, cynulleidfa sy'n debyg o ran maint i NFL yr Unol Daleithiau heddiw. Mae amcangyfrifon eraill yn honni bod gan e-chwaraeon $900 miliwn o refeniw blynyddol—dyna refeniw'r gamp—a 380 miliwn o wylwyr ar draws y byd. Felly, ni waeth pa fesur a ddefnyddiwn, gallwn weld maint y diwydiant, ac mae rhywfaint o ddadlau ynglŷn â'i faint ar hyn o bryd oherwydd ei fod yn tyfu mor gyflym.
Mae'r potensial, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg yn eang, ond eto, nid yw Cymru wedi chwarae ei rôl lawn na'r rôl y gall ei chyflawni, er gwaethaf rhywfaint o weithgarwch clodwiw, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Ond dyma ddiwydiant sydd eto i gyflawni ei botensial llawn mewn gwirionedd, ac os gallwn fynd ati yn awr i fanteisio ar y tueddiadau hyn, gallwn fod yn arweinydd go iawn.
Mae dinasoedd eraill yn y DU yn manteisio ar botensial y diwydiant gyda Birmingham a Llundain, er enghraifft, yn cynnal pencampwriaethiau gemau rhithwir cystadleuol mawr eleni a disgwylir y byddant yn denu torfeydd o 21,000 a 30,000 yn y drefn honno. Mae'n syndod faint o ddiddordeb sydd gan wylwyr yn y cystadlaethau hyn. Dychmygwch yr effaith y gallai hyn ei chael ar economïau a busnesau lleol yng Nghymru pe baem yn denu'r gwylwyr hyn ac yn eu gweld yn dod o bob cwr o'r byd, o bosibl. I roi hyn mewn termau hanesyddol, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rwy'n siŵr fod llawer o bobl hen ffasiwn wedi dweud, 'O, y chwaraeon newydd hyn sydd wedi cael eu gwneud yn ddigwyddiadau rheolaidd yn ddiweddar, rygbi, criced a phêl-droed, nid ydynt yn ddim mwy na chwiw ac ni ddylem adeiladu stadia ar gyfer 30,000, 40,000 o bobl oherwydd ni fyddwn yn gwybod beth i'w wneud â'r mannau hyn mewn 10 mlynedd—byddwn yn tyfu tatws yno.' Ond yn ffodus, ni wnaethom fabwysiadu'r ymagwedd honno ac fe wnaethom adeiladu ar frwdfrydedd y Fictoriaid a'r Edwardiaid tuag at chwaraeon i wylwyr. Mae wedi bod yn rhan enfawr o'n diwylliant a'n heconomi o ganlyniad i hynny.
Yn wir, mae byd e-chwaraeon a chwaraeon corfforol traddodiadol bellach yn cydgyfarfod. Ceir llawer o enghreifftiau o dimau chwaraeon yn cymryd rhan mewn e-chwaraeon, gan gynnwys Paris Saint-Germain, Manchester City, West Ham United, AS Roma a brandiau Fformiwla 1 fel McLaren, i enwi rhai yn unig. Ac yn wir, mae mentrau fel yr e-Uwch Gynghrair a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni—pencampwriaeth e-chwaraeon FIFA lle bydd clybiau'r Uwch Gynghrair yn cystadlu'n erbyn ei gilydd—a Chyfres E-Chwaraeon Fformiwla 1, a phencampwr y gyfres honno, ar y foment, yw'r e-chwaraewr proffesiynol o Brydain, Brendon Leigh.
Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol hefyd yn edrych ar e-chwaraeon, ac mae rhai o'n prifysgolion ledled y DU bellach wedi dechrau cynnig cyrsiau e-chwaraeon hyd yn oed, sy'n arwydd o'u dyfeisgarwch technolegol a'u potensial economaidd. Os edrychwn o gwmpas dramor am gymariaethau rhyngwladol, gallwn weld bod gwledydd eraill ymhell ar y blaen i ni mewn perthynas â datblygu'r sector hwn. Mae e-chwaraeon bellach yn rhan o'r diwylliant prif ffrwd yn Ne Corea, gyda'r wlad yn arwain yn fyd-eang ar ddatblygu gemau, e-chwaraeon a marchnata e-chwaraeon. Yn ddiweddar, mynychodd 40,000 o bobl bencampwriaeth e-chwaraeon y byd a chwaraewyd mewn stadiwm bêl-droed a ddefnyddiwyd yng Nghorea ar gyfer gêm gynderfynol Cwpan y Byd yn 2002, a datblygwyd diwylliant gemau drwy sefydlu caffis gemau. Mewn ymateb i'r poblogrwydd cynyddol, aeth Llywodraeth Corea ati i hyrwyddo e-chwaraeon, gan greu Cymdeithas e-chwaraeon Corea i ysgogi twf datblygiad gemau a chynyddu cyfranogiad mewn gemau ar-lein. A'r wythnos diwethaf, rhyddhaodd Llywodraeth Denmarc strategaeth e-chwaraeon swyddogol i feithrin twf domestig a rhyngwladol y sector gan ganolbwyntio ar amgylcheddau a chymunedau iach.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y cyfleoedd y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn eu cynnig i'n heconomi. Mae'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i archwilio potensial y sector hwn yn y DU ymysg tueddiadau technolegol eraill, felly mae angen i ni symud ymlaen hefyd. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon i Gymru, ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth e-chwaraeon ryngwladol yng Nghymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar ei chynnydd erbyn 1 Hydref fan bellaf. Os ydym eisiau sicrhau bod Cymru ar y blaen yn y duedd hon sy'n datblygu, mae angen i ni wneud hynny yn awr.
Rydym yn gweld astudiaethau newydd sy'n edrych ar y dylanwad y mae perfformiad mewn e-chwaraeon yn ei gael, megis y cydberthyniad rhwng cynnydd mewn gweithgarwch gwybyddol a gemau a'r effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl. Nawr, mae'n rhaid dweud bod rhai pryderon ynglŷn â'r modd y gwneir cysylltiad rhwng hapchwarae ag e-chwaraeon, ond nid yw'n greiddiol i'r gweithgaredd; mae'r gweithgaredd yn arloesol ac yn ddyfeisgar iawn i'r bobl sy'n chwarae'r gemau hyn, yn enwedig y chwaraewyr proffesiynol, a'r gwylwyr sy'n eu dilyn.
A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn siomedig ynghylch gwelliant y Llywodraeth? Mae'n dileu pwynt 4 a ddyfynais yn awr, o ran y camau gweithredu rydym eu hangen, a chredaf ei fod yn gwanhau'r cynnig rhywfaint. Ac yna mae'n disodli eitem 4 gyda'i welliant niwlog a braidd yn hunanglodforus ei hun. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn anfon neges unfrydol heddiw, os gallaf berswadio'r Cynulliad i gefnogi ein cynnig heb welliant, a chan gymryd bod gwelliant y Llywodraeth wedyn yn cael ei dderbyn, gan ei fod yn dal i adael y cynnig yn gyfan i raddau helaeth—ac fel y dywedais, mae angen anfon y neges unedig hon—buaswn yn dal i ofyn i Aelodau gefnogi'r cynnig os bydd yn cael ei ddiwygio. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau i'r hyn y gobeithiaf y byddwch yn cytuno sy'n drafodaeth bwysig y prynhawn yma.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector Diwydiannau Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol.
Yn ffurfiol. Diolch yn fawr.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bydd y rhan fwyaf ohonom yma heddiw yn ymwybodol fod e-chwaraeon yn creu lefel debyg o ddiddordeb a chyffro â Chwpan y Byd. Hyd yma, fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio'n llawn ar y manteision economaidd aruthrol sydd i'w hennill o hyrwyddo'r diwydiant hwn drwy hwyluso cydweithrediad â rhanddeiliaid.
Mae e-chwaraeon a'r diwydiant gemau rhithwir yn ffynhonnell adloniant sy'n arbennig o boblogaidd, wrth gwrs, ymhlith y boblogaeth wrywaidd. Yn gynyddol, mae'r diwydiant hwn wedi gwneud lle canolog i'w hun ar y rhyngrwyd ac yn y cyfryngau. Nawr, o gofio datblygiad technolegol aruthrol ein cymdeithas, a'n rhyng-gysylltiadau gwell â'n rhanbarthau, ein pobl a'n syniadau, mae poblogrwydd ac argaeledd gemau ar-lein wedi cynyddu.
Yn ôl NewZoo, roedd cynulleidfa e-chwaraeon y DU yn 2016 yn 6.5 miliwn, a disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu gyda mynediad gwell at lwyfannau ffrydio megis Sky Sports, YouTube a Twitch—nid wyf erioed wedi clywed am yr un diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gan y diwydiant hwn botensial difrifol i gyflymu ein twf economaidd, creu swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac arfogi'r rheini sy'n ymwneud â'r diwydiant hwn ac yn ymddiddori ynddo â'r sgiliau busnes, digidol a chreadigol a fydd yn rhoi Cymru ar y map o ran llwyddiant gemau ac e-chwaraeon, fel yr arweinydd presennol yn y maes, De Corea.
Yn ôl casgliadau adolygiad Bazalgette, crëwyd 300,000 o swyddi rhwng 2011 a 2015, ac erbyn 2030, rhagwelir y bydd 1 filiwn o swyddi newydd yn cael eu creu o fewn y diwydiant hwn. Yn 2016 yn unig, amcangyfrifodd Cymdeithas E-chwaraeon Prydain fod e-chwaraeon wedi cyfrannu £18.4 miliwn i economi'r DU yn 2016. O ystyried bod chwaraewyr gemau wedi gwario dros $5.6 biliwn yn y wlad sydd ar y brig, De Corea, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial llawn y farchnad gyffrous hon sy'n tyfu'n gyflym drwy ddechrau paratoi ar gyfer cydweithrediad â sefydliadau creadigol, busnesau gemau a'n prifysgolion ein hunain.
Yn wir, gan mai ein cenhedlaeth ifanc sy'n hybu'r ffyniant technolegol hwn a llwyddiant e-chwaraeon, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y manteision a ddaw yn sgil ehangu'r cydweithrediad â phrifysgolion Cymru, i ddatblygu partneriaethau â chwmnïau technolegol byd-eang, gan sicrhau buddsoddiad pellach a denu'r graddedigion mwyaf cymwys i Gymru. Mae prifysgolion Lloegr, megis Caerefrog a swydd Stafford, eisoes wedi datblygu cyrsiau a modiwlau e-chwaraeon a fydd yn arfogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes hwn â'r sgiliau a'r wybodaeth y byddant eu hangen yn y dyfodol.
At hynny, mae'n werth cydnabod bod Prifysgol De Cymru a Gemau Tiny Rebel yn ne Cymru wedi cydweithio â chwmnïau digidol a chreadigol megis Aardman Animations, ac maent wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith ymchwil i greu gêm rithwir newydd. Mae angen i'r math hwn o fuddsoddiad barhau ac ymestyn i gynnwys y gwaith o hyrwyddo digwyddiadau e-chwaraeon a all ddenu miloedd o wylwyr a datblygu seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd. Yn ddiweddar, yn Ne Corea, mynychodd 40,000 o bobl bencampwriaeth League of Legends y byd, a gellir cysylltu'r llwyddiant hwn â buddsoddiad Llywodraeth Corea ym maes telathrebu a'r rhyngrwyd. Felly rwy'n annog y Llywodraeth i ystyried y pwyntiau a wneuthum, ynghyd â'r pwyntiau a wnaeth fy nghyd-Aelod, David Melding, ac i ddechrau cydweithio â phartneriaid technolegol a chreadigol i roi'r cyfle gorau i Gymru, a'r Cymry, fanteisio ar y datblygiad byd-eang hwn. Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod David Melding am gyflwyno'r ddadl hynod ddiddorol hon heddiw? Roeddwn eisiau gwneud cyfraniad byr a dweud fy mod yn credu bod yr Aelod yn llygad ei le, wrth agor y ddadl hon, pan ddywedodd fod argaeledd y tueddiadau a'r talentau yn rhan amlwg o'r rheswm pam ein bod wedi gweld y fath gynnydd mewn e-chwaraeon a pham y bydd yn parhau i dyfu yn y dyfodol. Yn wir, mae PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y gallai marchnad y DU fod yn werth £5.2 biliwn erbyn 2021.
Felly, Ddirprwy Lywydd, sut y gallwn sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael cyfran o'r farchnad honno? Efallai y bydd yn dechrau gyda'n e-gystadleuaeth ein hunain yn y Cynulliad, oherwydd clywais fod fy nghyd-Aelod ar draws y meinciau, Darren Millar, wedi bod yn ymarfer yn galed i fy nghuro ar FIFA, felly tybed, Ddirprwy Lywydd, a hoffai'r Aelod gael gêm rhyw ddiwrnod ar ôl y Cyfarfod Llawn. [Chwerthin.] Ar nodyn mwy difrifol—mater ariannu—gwyddom fod cronfa arloesi digidol y Llywodraeth wedi helpu a chefnogi arloesedd technegol yn ogystal â sbarduno twf yn y diwydiant gemau.
Mae gogledd-ddwyrain Cymru yn arbennig mewn sefyllfa dda i fod yn rhan o'r twf hwn gyda'r cyllid rhanbarthol sydd ar gael, yn ogystal â chysylltiadau â dinasoedd mawr dros y ffin. Nawr, mae hynny'n bwysig, oherwydd gwyddom fod y DU yn dda am ddenu a chadw a hyfforddi gweithwyr medrus yn y sector digidol, gyda Llundain, Caergrawnt a Birmingham, fel y soniasom yn gynharach, yn gweithredu fel magnedau mawr. Ond, Ddirprwy Lywydd, gallai hynny olygu bod ardaloedd yng ngogledd Cymru—ar hyd arfordir gogledd Cymru i gyd—yn cysylltu â dinasoedd Lloegr dros y ffin, gan elwa ar y farchnad hon hefyd.
Mae Cymru eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yma yng Nghaerdydd, felly nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylem roi camau ar waith i gynnal yr e-Uwch Gynghrair newydd, fel y clywsom eisoes, neu fersiwn Ewropeaidd hyd yn oed. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud y byddai fy nhad-cu a fy ffrindiau agos yn hapus iawn, ond yr unig beth rwyf am ei ddweud yw ei fod yn destun gofid i mi mai Lerpwl a enillodd yr e-Uwch Gynghrair, er eu bod wedi chwarae'n dda iawn ddoe.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, credaf fod Cymru mewn lle gwych i arwain y ffordd mewn perthynas â'r diwydiant e-chwaraeon a sefyll ymysg y goreuon, ond yr hyn a wyddom yn sicr yw bod angen i ni adeiladu ar y gwaith a welsom hyd yn hyn, yn ogystal ag ystyried penderfyniadau'r Llywodraeth yn y dyfodol, megis penderfyniadau'n ymwneud â chronfeydd buddsoddi, goblygiadau treth a mynediad at weithwyr yn y diwydiant gemau yng Nghymru ar ôl Brexit. Diolch.
Mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl ar e-chwaraeon heddiw a hoffwn gytuno â llawer o'r sylwadau huawdl a wnaed gan fy nghyd-Aelod, David Melding, wrth iddo agor y ddadl hon. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, fodd bynnag, fod fy ngwybodaeth am y maes hwn braidd yn gyfyngedig, ond o'r hyn a ddarllenais dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, wrth geisio dod yn gyfarwydd â holl faes e-chwaraeon, mae hon yn drafodaeth sy'n tyfu'n gyflym ac mae'n drafodaeth y teimlaf nad ydym wedi rhoi sylw digonol iddi yng Nghymru, mae'n debyg, a dylem wneud mwy i gymryd rhan ynddi yn y dyfodol, oherwydd mae'n rhan arwyddocaol sy'n tyfu o'r diwydiannau creadigol, yng Nghymru ac yn y DU.
Nawr, soniodd David Melding am welliant y Llywodraeth. Rwy'n credu bod gwelliant y Llywodraeth yn haeddu canmoliaeth am ei greadigrwydd ei hun—ei fedrusrwydd, dylwn ddweud, yn osgoi mater e-chwaraeon a chanolbwyntio'r ddadl ar y diwydiannau creadigol. Fel y dywedodd David Melding, ar wahân i hynny, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth fel ag y mae, ond os bydd y gwelliant hwnnw'n cael ei dderbyn, byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd, oherwydd mae'r pwyntiau y mae'n eu gwneud am y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a'u cefnogi a'u hannog, yn bwyntiau a wnaed yn dda iawn ac maent yn haeddu cael eu cefnogi gan bob un ohonom yn y Siambr.
Ond os gallaf droi at y mater pwysig, roedd adolygiad Bazalgette yn gwneud rhai argymhellion pwysig yn y maes hwn, gan gydnabod potensial cynyddol e-chwaraeon i'r economi gan edrych ar ffyrdd y gallwn ochel rhag rhai o'r agweddau mwy negyddol sy'n deillio o'r ddadl hon, megis peryglon annog hapchwarae, a pheryglon annog pobl i gymryd rhan mewn rhai o'r agweddau llai corfforol ar fywyd y mae pobl yn eu hofni ac wedi'u hofni yn y gorffennol mewn perthynas ag e-chwaraeon, a gobeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i niwtraleiddio'r rheini, gan fod yna agweddau ar e-chwaraeon sy'n fuddiol ac y dylid eu hannog.
Mae un peth yn amlwg: mae e-chwaraeon a gemau, hoffi neu beidio, yn chwarae rhan gynyddol, ond rhan nad yw wedi cael digon o sylw, yn economi'r DU ac economi Cymru. Gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, gan fod gwasgariad daearyddol y swyddi yn y maes hwn yn anwastad. Yn wir, roedd yr ystadegau a welais yn dweud bod 46.7 y cant o swyddi'r diwydiannau creadigol wedi'u canoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ar hyn o bryd, gyda chanran fach yn yr Alban; 2.8 y cant yn unig yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwn y byddai pawb ohonom yn gobeithio newid hynny. Rwy'n credu bod modd goresgyn hyn, ond mae'n rhaid i ni dderbyn na fydd yn hawdd, ac mae'n cyffwrdd â nifer o feysydd eraill.
Mae'r adroddiad a grybwyllais yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng ansawdd a hygyrchedd cynhyrchiant a chysylltedd band eang, ac mae'n hawdd deall hynny. Mae'r diwydiannau creadigol, yn enwedig gemau ac e-chwaraeon, angen seilwaith rhyngrwyd a gwasanaethau cwmwl cyflym a dibynadwy. Felly, mae'n rhaid i safleoedd gael mynediad at fand eang cyflym iawn, a gwyddom, yng Nghymru, fod hynny wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag unrhyw oedi wrth gyflwyno cam 2 Superfast Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth gwrs, mae ardaloedd gwledig yn fy ardal i hefyd yn rhan o ddinas-ranbarth ehangach Caerdydd, ac mae'r rhanbarth hwnnw'n cynnwys buddsoddiad mewn technoleg ddigidol, fel y mae bargen ddinesig Abertawe, yn wir. Felly, gellir mynd i'r afael ag e-chwaraeon ar lefel dinas-ranbarth, nid ar lefel leol yn unig, neu lefel Cymru, yn wir.
Felly, beth yw manteision hyn oll? Wel, fel y dywedodd David Melding wrth agor y ddadl, mae manteision gwybyddol i'w cael o hyrwyddo'r maes hwn. Mae modd ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gall e-chwaraeon helpu i ddatblygu sgiliau megis gwella'r broses o wneud penderfyniadau, hyrwyddo gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu, a datblygu technoleg a sgiliau digidol. Mae'r rhain o fudd i nifer o feysydd o fewn a'r tu allan i'r sector digidol. Rydym yn gwybod am bwysigrwydd—. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am bwysigrwydd STEM i economi ehangach Cymru. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar wyddoniaeth yma yn y Senedd, grŵp sy'n cael ei gadeirio'n fedrus gan David Rees, mae'n faes sy'n bwysig i mi, a gwn ei fod yn bwysig i lawer o Aelodau Cynulliad eraill hefyd.
Mae cynllun gweithredu STEM Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r ffaith nad oes digon o bobl ifanc yn dewis pynciau gwyddonol a gyrfaoedd gwyddonol, ac mae hwn, i bob golwg, yn un maes lle gallwn, drwy ddefnyddio'r diwydiannau creadigol a datblygu e-chwaraeon, annog mwy o bobl iau i ddod yn rhan o'r sector hwn. Mae prifysgolion ar draws y DU eisoes ar y blaen. Mae Prifysgol Caerefrog wedi bod yn edrych ar y maes hwn. Gadewch i ni obeithio y bydd prifysgolion Cymru hefyd yn gwneud yr un peth, ond gadewch i bawb ohonom gefnogi'r cynnig hwn heddiw a bwrw ymlaen â'r gwaith o annog e-chwaraeon a chefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon. Yn wir, dyma'r tro cyntaf i'r pwnc hwn gael ei gyflwyno. Roedd yn ddiddorol gwylio'r siaradwyr cyntaf a meddwl pwy oedd â'r diddordeb mwyaf mewn e-gemau, David Melding, Janet Finch-Saunders neu Jack Sargeant. Rwy'n falch fod Jack Sargeant wedi datgelu mai ef ydoedd. Ni fuaswn wedi bod yn oedraniaethol mewn unrhyw ffordd drwy awgrymu nad un o'r ddau arall oedd â'r diddordeb mwyaf. Rwy'n chwarae e-gemau fy hun—nid o safon broffesiynol, ond mae gennyf fab 15 oed y gallaf ei guro ar FIFA o bryd i'w gilydd, a hoffwn gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Cynulliad.
Mae'n arwydd o sut rydym wedi symud ymlaen. Pan oeddwn yn gweithio yn y BBC, roeddem yn arfer cael cystadlaethau Subbuteo yn ystod amser cinio—nid oedd angen band eang cyflym ar gyfer hynny. Ond rydym yn sôn am y diddordebau, am y gweithgareddau hamdden, ac yn wir, fel rydym yn ei sefydlu yma, am gamp y dyfodol. A dywedaf hynny fel rhywun sy'n angerddol dros wthio'r agenda gweithgarwch corfforol ar gyfer plant ifanc yn arbennig. Ac nid wyf yn credu y dylem ddrysu rhwng cymorth i e-chwaraeon fel endid ynddo'i hun a bod hynny rywsut yn rhwystr i weithgarwch corfforol, oherwydd, yn amlwg, ni allwn feddwl yn y ffordd honno. Ond rwyf wedi dysgu llawer am y syniad o e-chwaraeon a sut y mae wedi tyfu fel grym economaidd dros y blynyddoedd diwethaf—y syniad fod gennym ddiwydiant £1 biliwn yma, y syniad fod gennym bencampwriaethau e-chwaraeon y byd, y syniad fod adrannau prifysgol yn cynnig cyrsiau'n cynnwys e-chwaraeon, y syniad fod gan golegau'r Unol Daleithiau glybiau e-chwaraeon sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn—
A wnewch chi gymryd ymyrraeth?
Wrth gwrs.
Diolch yn fawr. Roeddwn i jest eisiau tynnu sylw at y ffaith ces i'r pleser o ymweld â Choleg Llandrillo Menai yn ddiweddar, a'r adran yn fanna sydd yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu gemau. Ac roedd o'n dipyn o agoriad llygad i mi, oherwydd nid yn unig datblygu cysyniad gêm, ond datblygu'r feddalwedd a'r graffeg—mae angen cyfansoddi cerddoriaeth, mae angen storïo. Hynny yw, mae'r ystod o sgiliau sydd yn rhan o'r sector yma lawer iawn yn ehangach nag roeddwn i wedi ei feddwl. Ac roedd hi mor braf gweld myfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle yna i hyfforddi, datblygu syniadau, a datblygu mentrau hefyd. Roedd mentergarwch yn rhan o'r cwrs, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth a fyddai'n dod â budd i'r economi yn y pen draw, yn ogystal â budd i'r unigolion.
Dŷch chi yn hollol iawn, ac roeddwn i'n mynd i ddod ymlaen at y pwynt yna, fod hwn yn gorfod rŵan ddod at graidd yr hyn dŷn ni'n ei gynnig i bobl o ran cyfleon—mewn addysg yn gyntaf, a chyfleon mewn busnes. Beth sydd angen i Gymru ei ddangos, a pham ei bod hi mor bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i wneud gwaith ymchwil penodol yn y maes yma, fel mae'r mesur yn ei ofyn amdano, ydy ein bod ni'n chwilio am ffordd i fod yn flaengar, ein bod ni'n dweud bod Cymru'n eiddgar i fod ar y blaen. Ac, er mwyn gallu gwneud hynny, mae'n rhaid edrych ar beth sy'n digwydd allan yna, ac ystyried yn ofalus beth allwn ni ei gyflawni yng Nghymru, o osod uchelgais.
Mi fues i yn yr Alban yn ddiweddar—yn gwneud darn o waith ar geir trydan, fel mae'n digwydd, ac mi fyddaf i'n cyhoeddi adroddiad ar hynny yr wythnos nesaf. Mi fues i yn ninas Dundee. Newyddiaduraeth oedd y diwydiant mawr—jute, jam and journalism oedd y tair elfen i economi Dundee yn draddodiadol. Erbyn hyn, mae'r diwydiant gemau wrth galon y cyffro sydd yna yn Dundee ar hyn o bryd, a Rockstar North, un o'r cwmnïau mawr rhyngwladol yna ym myd y gemau, yn gyflogwr mawr yn lleol, ac yn arwydd i ni o'r hyn y gellir ei gyflawni o wneud y buddsoddiad iawn yn y lle iawn. Yn digwydd bod, mae Dundee hefyd yn flaengar iawn ym maes cerbydau trydan—dyna pam yr oeddwn i yno. A dwi'n meddwl mai beth sydd gennym ni yn fanna ydy arwydd, lle mae gennych chi gymuned, neu dref, neu wlad fel Cymru, yn penderfynu, 'Mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n benderfynol o'i wneud', yna mae'n bosib anelu tuag at y pwynt hwnnw.
Felly, dwi'n croesawu'r cynnig. Byddai, mi fyddai hi'n drueni pe bai cynnig y Llywodraeth yn cael ei basio. Er enghraifft, mae o'n nodi, onid ydy, y
'buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid...sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.'
Dŷn ni'n sôn yn fan hyn am sector penodol iawn o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru y mae angen buddsoddiad penodol iawn iddo fo. Felly, byddai, mi fyddai hi yn drueni pe bai hwnnw yn cael ei basio, ond gan bod y Ceidwadwyr fel cynigwyr y cynnig gwreiddiol yn awgrymu ac yn argymell y dylem ni gefnogi y cynnig beth bynnag, os y pasith hwnnw, mi wnawn ninnau yr un modd.
Mae'r sgiliau sy'n gysylltiedig ag e-chwaraeon a gemau, fel gwneud penderfyniadau, datrys problemau, llythrennedd digidol a chyfathrebu, yn creu goblygiadau mawr i'r economi. Maent yn arbennig o berthnasol i'r busnesau a seiliwyd ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gall hyrwyddo e-chwaraeon, a defnyddio gemau ar-lein i helpu, bwysleisio agenda STEM, gallai helpu i leihau'r bylchau sgiliau presennol yng Nghymru a thyfu economi Cymru. Tynnwyd sylw at hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gynhyrchodd ffigurau'n ddiweddar sy'n dangos mai Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n meddu ar y pum sgìl digidol sylfaenol. Gwelsant mai 66 y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sydd â'r pum sgìl sylfaenol, o gymharu â chyfartaledd y DU o 79 y cant. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i fynd i'r afael â phrinder sgiliau digidol lleol drwy sefydlu partneriaethau sgiliau digidol. Sefydlwyd y cyrff hyn er mwyn dod â busnesau rhanbarthol, y sector cyhoeddus, sefydliadau ac elusennau at ei gilydd i fynd i'r afael â heriau lleol fel diweithdra a bylchau sgiliau. Y pwynt yr hoffwn ei bwysleisio yw y bydd manteision ehangach yn deillio o annog mwy o bobl, yn enwedig pobl ifanc, i mewn i'r sector gemau digidol, oherwydd ei fod yn cadarnhau pynciau STEM.
Mae llawer iawn o ffyrdd o gymhwyso sgiliau a gaiff eu meithrin trwy gemau a datblygu gemau. Maent yn cynnwys gwell sgiliau gwneud penderfyniadau a sgiliau gwybyddol, gan hyrwyddo gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu a datblygu gwybodaeth ddigidol a allai fod o fudd i nifer o sectorau o fewn y sector digidol a'r tu allan iddo. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sgiliau pynciau STEM i'r economi. Awgrymodd adroddiad diweddar gan Lywodraeth y DU y bydd un o bob pum swydd newydd yn y Deyrnas Unedig erbyn 2022 yn galw am sgiliau o'r fath. Mae'n bwysig, felly, fod y system addysg yng Nghymru yn ymateb i'r her hon.
Roedd yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yn 2016 yn tynnu sylw at heriau sylweddol wrth ddarparu addysg yng Nghymru. Un o'r pwyntiau a wnaeth oedd nifer isel y merched a menywod sy'n astudio pynciau STEM. Aeth ymlaen i nodi a thynnu sylw at y nifer gymharol fach o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd sydd â chefndir a sgiliau sy'n benodol i STEM. Yn ôl yr adroddiad, 44 y cant o fyfyrwyr TGCh Safon Uwch a 12 y cant o fyfyrwyr cyfrifiadura safon uwch sy'n fenywod, a dim ond 28 y cant o athrawon ysgolion uwchradd sydd â chefndir STEM arbenigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i gynyddu'r cyflenwad o sgiliau STEM drwy sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn dilyn y pynciau hyn fel opsiwn. Mae gemau ar-lein ac e-chwaraeon yn arbennig o boblogaidd gyda phobl ifanc a nifer gynyddol o ferched. Gallai hyn arwain at fwy o fenywod yn dilyn pynciau sy'n seiliedig ar STEM, os cymerir mantais ar y diddordeb mewn gemau a datblygu gemau.
Mae ymchwil gan Brifysgol Surrey yn dangos bod merched 13 a 14 oed sy'n chwarae gemau am dros naw awr yr wythnos dair gwaith yn fwy tebygol o wneud gradd mewn STEM. Dywedodd Dr Anesa Hosein, awdur arweiniol yr adroddiad, a dyfynnaf:
dylai addysgwyr sy'n ceisio annog rhagor i ddewis pynciau gwyddorau ffisegol, technoleg, peirianneg a mathemateg (PSTEM) dargedu merched sy'n chwarae gemau, gan fod ganddynt ddiddordeb naturiol eisoes yn y pynciau hyn.
Aeth ymlaen i ddweud:
Mae angen i ni fod yn well am adnabod arwyddion yn gynnar i nodi pa ferched a allai fod â mwy o ddiddordeb mewn gwneud graddau PSTEM.
Cau'r dyfyniad. Ddirprwy Lywydd, gall defnyddio gemau ac e-chwaraeon i annog diddordeb mewn pynciau STEM fod o gymorth i ddatblygu myfyrwyr a graddedigion sgiliau lluosog gyda sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo'n uniongyrchol sy'n darparu sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hyn o fudd mawr i economi Cymru, i'r dyfodol ac i'n plant. Diolch.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno'r ddadl. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol o e-chwaraeon cyn gweld y ddadl hon ar yr agenda, ond rwy'n cydnabod gwerth posibl y diwydiannau creadigol i economi Cymru.
Mae e-chwaraeon a gemau fideo yn gyffredinol yn rhan werthfawr o'n sector creadigol sy'n tyfu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynnal pencampwriaethau e-chwaraeon. Dyna yw gwaith Cymdeithas E-chwaraeon Prydain, sy'n gallu, ac sydd yn cynnal cystadlaethau yn y DU. Roedd tîm o Ysgol John Bright yn ail yn adran Overwatch Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydain, a gynhaliwyd yn NEC Birmingham ychydig wythnosau yn ôl. Trefnir Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydain gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain ar gyfer myfyrwyr ysgol a choleg 12 oed a hŷn. Nododd arolwg o ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan mewn e-chwaraeon eu bod yn cynyddu lefelau canolbwyntio, ymddygiad a phresenoldeb. Mae e-chwaraeon yn tyfu yn eu poblogrwydd ond tua 3 miliwn yn unig o bobl yn y DU sy'n eu gwylio o hyd. Ni ddylem wario arian trethdalwyr yn hybu'r diwydiant hwn; yn lle hynny, dylid gwario adnoddau'r Llywodraeth ar sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i'w dwf yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod Cymru'n darparu'r amgylchedd cywir a bod ganddi ddigon o bobl â'r sgiliau angenrheidiol er mwyn i e-chwaraeon a'r sector gemau fideo yn ehangach allu ffynnu yng Nghymru.
Rhaid inni sicrhau hefyd nad ydym yn hyrwyddo gweithgaredd sy'n cynnig cyn lleied o ymarfer corff drwy annog pobl ifanc i chwarae gemau fideo yn unig yn y gobaith o fod yn seren e-chwaraeon sy'n enwog drwy'r byd. Yn wahanol i'r mwyafrif o chwaraeon traddodiadol, nid yw e-chwaraeon yn annog mwy o weithgarwch corfforol. Ac felly, byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru ac yn cydnabod bod eu dull o weithredu yn fwy tebygol o weld sector e-chwaraeon ffyniannus yng Nghymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud yn gyntaf gymaint o bleser ydy hi i mi fod ar fy nhraed yn wythnosol yn y Siambr yma yn trafod materion yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol? A dwi'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddod â'r pwnc yma gerbron, ac mae'n ymddangos ein bod ni, yn y ddadl yma yn barod, wedi canfod unoliaeth annisgwyl a phleserus iawn yn y Cynulliad Cenedlaethol ar draws y pleidiau, o'r diwedd. A dwi'n gweld bod y Prif Weinidog yn gwenu, ar ôl y dathliad mawr ddoe, fod gyda ni sail i unoliaeth mewn chwaraeon electronig. Dwi'n meddwl bod y term 'chwaraeon electronig' yn esbonio'n gliriach efallai yn y Gymraeg nag ydy e-sports yn Saesneg beth yw natur y chwaraeon yma, sef mai chwarae mewn defnyddiau digidol ac electronig a olygir, a hynny yn aml, ac fel arfer, yn digwydd ar y we.
Ond dwi'n ddiolchgar iawn i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth sydd yn sail i ni ddatblygu ein polisi fel Llywodraeth ymhellach. Fe wnes i gyfeirio'n fyr yn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y diwydiannau creadigol at y sector yma. Ond dwi'n derbyn nad ydy galw sector lle mae yna dros 450 o filiynau o bobl yn chwarae drwy'r byd—allwn ni ddim galw hwnna yn sector sydd yn sector gemau yn unig. Mae o'n sector ymarferiad digidol ac electronig ac mae'r cyfle i Gymru i gyfrannu i hwnna yn fater sydd o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru.
Dwi'n derbyn bod adroddiad Bazalgette, y cyfeirir ato fo yn y cynnig, wedi rhoi cysylltiad rhwng y diwydiant chwaraeon electronig a'r posibiliadau datblygu ar yr agenda yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n bwysig dweud ein bod ni yng Nghymru yn barod yn cyfrannu yn y cyfeiriad yma. Mae cyfraniad Mochi Mode, o Brifysgol De Cymru, yn 2017 fel busnes newydd a'r llwyddiant a gawson nhw. Mae cyfraniad Prifysgol Glyndŵr yn y gogledd yn cael ei chydnabod yn 2018 yn ganolfan y flwyddyn mewn hwb yn y maes yma yn gyfraniad sydd yn bwysig i ni fel Llywodraeth i fanteisio arno fo.
Mae'r meysydd twf yma yn datblygu potensial deallusol ac rydyn ni'n cytuno â hynny. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nad ydyn ni'n gosod dadl ffug rhwng y datblygiad deallusol wrth chwaraeon electronig yn erbyn y syniad o ddatblygiad corfforol drwy chwaraeon corfforol, oherwydd mae'r ddau beth yr un mor angenrheidiol i bobl ifanc, buaswn i'n tybio, ag i bobl o bob oed yn eu datblygiad fel dinasyddion ac fel personau. Yn yr ystyr yna, dŷn ni yn croesawu'r ymchwiliadau mae adran diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes yma, ac mi fyddwn ni yn dilyn yn ofalus yr hyn y maen nhw yn ei gyhoeddi ac yn ceisio manteisio arno fo wrth ddatblygu yr hyn rŷm ni'n ei wneud yma yng Nghymru.
Mae'n bwysig imi ddweud—a dyma oedd pwynt ein gwelliant ni fel Llywodraeth—fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth weithredol gadarn i dwf y sector yma. Yn y daith fasnach lwyddiannus i'r gynhadledd datblygu gemau yn San Francisco, roedd yna wyth cwmni gemau o Gymru yn arddangos eu cynnyrch. Bu cyfle i gwrdd â buddsoddwyr a mynd i ddigwyddiadau rhyngweithiol. Mae'r rhagolygon yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn dangos bod yna fusnesau o Gymru wedi sicrhau dros £300,000 o waith newydd ers y gynhadledd yna, gyda chytundebau gwerth £1 miliwn arall yn cael eu trafod ar yr un pryd.
A derbyn bod y sector yma yn newydd a bod yna heriau yn cael eu hwynebu, mae'n bwysig datgan ein bod ni eisoes yn edrych ar sawl menter ar draws y Llywodraeth sydd yn ymwneud â hyn. Mae'r uned digwyddiadau mawr, sydd o fewn yr adran rydw i yn ei rhannu â'r Gweinidog, yn trafod yn rhyngweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan gynnwys perchnogion hawliau a threfnwyr chwaraeon electronig, i achub ar gyfleoedd i ddenu digwyddiadau e-chwaraeon sylweddol i Gymru. Mae hynny'n cynnwys trafod gyda'r Gymdeithas Adloniant Rhyngweithiol Rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig, Cynghrair Gemau Ewrop ac ESL, sef perchnogion sawl eiddo mawr rhyngwladol yn y sector yma. Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi trafod â Chymdeithas E-chwaraeon Prydain.
Mae'n ymddangos i mi, felly, bod gyda ni sail i gytundeb ar y pwnc yma heddiw, a dwi'n croesawu hynny'n fawr iawn. Wedi derbyn hynny, rydym ni yn gweld bod yna her inni fel Llywodraeth i fod yn fwy rhyngweithiol, ac i gydnabod bod technoleg chwaraeon electronig yn datblygu ffurfiau newydd sydd hefyd yn galluogi pobl i gynyddu eu gweithgarwch cymdeithasol. Dydyn ni ddim yn gweld chwaraeon electronig fel rhywbeth sydd, o angenrheidrwydd, yn cau pobl i mewn uwchben eu sgriniau, ond bod yna gyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn cymdeithas estynedig fyd-eang. Felly, does yna ddim gwrthdrawiad, fel yr awgrymais yn gynharach, rhwng iechyd corfforol a diddordeb digidol a diddordeb mewn chwaraeon electronig.
Felly, i grynhoi, gan nad wyf i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad difrifol yn y ddadl hon, am unwaith—ac mae hynny'n rhoi pleser mawr i mi, fel un o'r Aelodau Cynulliad a oedd yn meddwl ar ôl datganoli y byddai bron pob plaid yng Nghymru yn gallu cydweithio â'i gilydd—efallai ein bod ni wedi cael rhagweliad o ddyfodol electronig llawen yn nemocratiaeth Cymru heddiw. Diolch yn fawr i chi.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Wel, rhaid imi ddilyn sylw ysbrydoledig y Gweinidog sef, wyddoch chi, efallai mai dyma'r byd a fydd bellach yn nodi 20 mlynedd nesaf datganoli, lle byddwn yn trafod pynciau y byddwn yn cytuno'n fras arnynt, ond pynciau sy'n dal yn hanfodol i'n cymdeithas—ac yn yr achos hwn yr economi a'r diwydiannau creadigol. Ond a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn ddadl hynod ddiddorol, llawn gwybodaeth a hael.
Dechreuodd Janet y cyfraniadau, a phwysleisiodd y gwerth adloniadol y mae pobl yn ei gael o gemau—ac maent yn rhyddhaol iawn i gynifer o bobl. Hynny yw, nid yw'n syndod bod pobl yn eu gwerthfawrogi ac yn eu mwynhau cymaint. Yna, edrychodd ar rai o ystadegau'r DU, nad oeddwn wedi tynnu sylw penodol atynt fy hun, ac amcangyfrif NewZoo o gynulleidfa o 6.5 miliwn yn y DU. Hi oedd y gyntaf o nifer o siaradwyr i sôn am y potensial ar gyfer swyddi yn y dyfodol.
Edrychodd Jack Sargeant ar dwf marchnad y DU, a siaradodd yn ymarferol iawn wrth alw am gystadleuaeth FIFA i'r Cynulliad. Darren—dyna fyddai'r gêm ddarbi mewn gwirionedd, o ardaloedd cyfagos yng ngogledd Cymru. Roeddwn i'n meddwl bod Jack wedi gwneud pwynt pwysig iawn: er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae wedi cael peth llwyddiant yn cynnal digwyddiadau mawr, a dylem gofio bod hwn hefyd yn faes a fyddai'n deilwng o gefnogaeth o'r fath.
Dywedodd Nick Ramsay fod ei wybodaeth yn gyfyngedig ond yn tyfu yn y maes hwn, ac yna cyflwynodd araith hynod gynhwysfawr a medrus, a aeth â ni i adolygiad Bazalgette a phwysigrwydd yr adroddiad gwirioneddol gynhwysfawr hwnnw. Unwaith eto, nid yw hynny'n rhywbeth y cyfeiriais ato, ond rwy'n credu ei fod yn waith ardderchog. A soniodd am bwysigrwydd seilwaith, band eang cyflym iawn, a nododd bwysigrwydd STEM, y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato hefyd.
Roedd y cyfrinachau'n llifo erbyn hyn, a dywedodd Rhun ei fod e'n chwaraewr e-gemau ac mae'n curo'i fab 15 oed ar FIFA o bryd i'w gilydd. Felly, efallai y bydd yn rhoi mwy o fanylion inni ynglŷn â ble y mae'n sefyll yn y gynghrair arbennig honno. Ond beth bynnag, efallai na ddylwn ymyrryd mewn cystadleuaeth deuluol. Ac mae'r byd wedi symud ymlaen cymaint ers y Subbuteo yn y BBC. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod o'r farn fod hwnnw'n ddarlun hyfryd. Ac ymyrrodd Llyr i sôn am ymweliad diweddar a wnaeth â choleg lle'r oedd y myfyrwyr yn datblygu gêm, a gweld yr ystod o sgiliau y galwai hynny amdanynt, credaf fod honno'n enghraifft fyw iawn.
Treuliodd Oscar y rhan fwyaf o'r amser ar STEM, gan adlewyrchu ei ddiddordeb hirsefydlog mewn sgiliau a phwysigrwydd gwneud penderfyniadau, datrys problemau, yn ogystal â'r sgiliau technegol a'r angen i leihau'r bwlch sgiliau. Ac mae yna berthnasedd clir yma o ran myfyrwyr yn meithrin y sgiliau yma tra'n gwneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau'n fawr. Ac rwy'n credu bod cyfle allweddol ar gyfer hynny, gan gynnwys i fenywod, sy'n aml heb eu cynrychioli'n ddigonol o ran astudio pynciau STEM.
Dywedodd Caroline hefyd ei bod yn newydd i'r pwnc, ond ei bod yn gweld ei botensial ar unwaith fel rhan o ddiwydiant creadigol. Credaf ei bod yn deg dweud mai Caroline, o'r holl siaradwyr, oedd y mwyaf laissez-faire o ran ei hymagwedd, yn y modd y croesawodd y twf o lawr gwlad i fyny a rhybuddio yn erbyn gormod o weithgarwch llywodraethol. Ond rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae'r farchnad yn ehangu, lle nad yw'n rhy llawn ar hyn o bryd. Mae llawer iawn o botensial yno, felly mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen, ac mae gan y Llywodraeth ran i'w chwarae yn hynny o beth, fel y gwelwn gyda phethau fel adolygiad Bazalgette, strategaeth Llywodraeth y DU sy'n datblygu, y gwaith yng Nghorea, a'r wythnos diwethaf yn Nenmarc. Felly, ni ddylem fethu'r gwersi y mae hynny'n eu dangos inni hefyd.
Ac yna, gorffennodd y Gweinidog drwy ddweud mai polisi sy'n datblygu yw hwn, dadl ddefnyddiol, a thybiwn ei fod wedi gwneud y pwynt pwysig tu hwnt na ddylem sefydlu e-chwaraeon a gemau yn arbennig drwy ddweud bod e-chwaraeon yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon go iawn. Wel, wyddoch chi, gallwch wneud y ddau; gallwch ragori yn y ddau beth. Gallwch fwynhau'r ddau. Nid dyna'r gystadleuaeth. Mae'r byd yn lle digon agored a chyffrous i gael gweithgaredd e-chwaraeon a gweithgaredd chwaraeon traddodiadol. Ac rwy'n credu iddo ddangos yn gyffredinol fod gan y Llywodraeth uchelgais a meddwl agored yma. Ceir ychydig o anghytuno rhyngom ynghylch y gwelliant, ond a gaf fi ddweud y buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio? Ond os caiff y cynnig ei ddiwygio, yna cefnogwch y cynnig fel y'i diwygiwyd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.