1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 14 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fis yn ôl, dywedasoch wrth y BBC y byddai cynhyrchion bwyd na fyddent ar gael i'r cyhoedd mewn archfarchnadoedd mewn achos o Brexit heb gytundeb. Dywedasoch nad oeddech chi'n credu y byddai hyn yn arwain at brinder bwyd i unigolion, ond y byddai'r effaith economaidd yn aruthrol i'r sector bwyd, yn enwedig i fusnesau sy'n dibynnu ar gynnyrch ffres. A allwch chi gadarnhau bod pob warws storio cynhyrchion wedi'u rhewi a'u hoeri yng Nghymru eisoes yn llawn i'r ymylon, hyd yn oed gyda'r oedi presennol i Brexit?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud y pwynt pwysig, Llywydd. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ychydig yn ôl, sef, cyn belled ag y mae'r siopau yn y cwestiwn, ni fydd gan bobl yr amrywiaeth a'r dewis o gynnyrch y maen nhw wedi dod i'w mwynhau yn ystod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. A bydd y rhai hynny yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu bwyd sy'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd yn gweld bod eu busnesau mewn perygl i'r un graddau os byddan nhw'n wynebu rhwystrau newydd yn sydyn—nid o ran tariffau ond o'r math nad ydynt yn dariffau—a fydd yn golygu y bydd bygythiad sylweddol iawn i rannau helaeth o gynhyrchwyr bwyd Cymru. Nid wyf i eisiau rhoi ateb pendant i'r Aelod heb fod yn sicr ei fod gen i o fy mlaen yn iawn, ond mae'n debyg bod fy nealltwriaeth yn agos at yr hyn yr oedd ef yn ei awgrymu—bod y sector bwyd eisoes yn defnyddio pa bynnag gapasiti sydd ganddo i baratoi ar gyfer y diwrnod pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Gallaf gadarnhau bod y sector storio oer yng Nghymru yn llawn i'r ymylon—mae wedi bod felly, rwy'n credu, ers rhai misoedd, a, Prif Weinidog, dylech chithau fod yn ymwybodol o hyn eich hun gan fod eich Llywodraeth eich hun, wedi ei chymell gan bryderon o fewn y sector, wedi comisiynu astudiaeth cyn y Nadolig i gapasiti storio oer yng Nghymru a gwblhawyd ym mis Ionawr. Nawr, pam ydych chi wedi gwrthod cyhoeddi'r astudiaeth honno, ac o gofio'r pryder dealladwy ymhlith y cyhoedd, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny nawr?
Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gen i, yn gofyn pa sylwadau yr oeddech chi wedi eu cael fel Llywodraeth ynghylch diffyg capasiti posibl ar gyfer cyfleusterau storio bwyd oer yng Nghymru, atebodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwbl agored eich bod chi ddim ond wedi cael sylwadau gan un busnes yn y sector. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, mai dim ond dau gwmni sydd yn y sector yng Nghymru, a bod yr un y cawsoch chi sylwadau ganddo—Wild Water Group—yn gweithredu dau o'r tri chyfleuster storio oer ar gyfer bwyd yng Nghymru? A allwch chi gadarnhau'n benodol eu bod nhw wedi gofyn i chi fuddsoddi ar frys i ddatblygu cyfleuster storio newydd oherwydd y pwysau y mae Brexit eisoes wedi ei roi ar y sector bwyd a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru? Rydych chi wedi gwneud yr union beth hwn ar gyfer cyflenwadau meddygol. O ystyried y diffyg capasiti mewn warysau yn y maes hwnnw, beth am wneud yr un peth ar gyfer bwyd, o gofio'r effaith aruthrol yr ydych chi eich hun yn honni y bydd y pwysau y bydd Brexit yn ei achosi ar gadwyni cyflenwi?
Wel, Llywydd, dim ond i ddweud nad wyf i'n ymwybodol o unrhyw gais sydd wedi dod yn uniongyrchol i mi i ryddhau adroddiad. Rwy'n hapus iawn i edrych i weld statws yr adroddiad hwnnw a pha un a fwriadwyd iddo gael ei ddosbarthu'n ehangach.
Mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi cyfarfod â'r consortiwm manwerthu y bore yma ac wedi cael sicrwydd ganddyn nhw ynglŷn â'r camau y maen nhw'n eu cymryd i sicrhau bod cyflenwadau o fwyd ar gael yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi canfod lle storio ym maes cyflenwadau meddygol i sicrhau bod parhad yn y cyflenwad, ond o ran y Llywodraeth, mae'n rhaid i ni gydbwyso bob amser gwario arian, sy'n brin, ar bethau yr ydym ni'n sicr y byddwn ni eu hangen, pe byddem ni'n canfod ein hunain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn erbyn y nifer fawr o ofynion eraill hynny ar ein cronfa bontio'r UE sy'n ymwneud â pharatoi busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar gyfer y dyfodol hirdymor yr ochr arall i Brexit.
Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n adolygu'r holl bosibiliadau yn rheolaidd, a phe byddem ni'n argyhoeddedig ei bod yn angenrheidiol i sicrhau mwy o gyfleusterau storio at y dibenion a amlinellwyd ganddo, yna byddem yn ystyried hynny'n gwbl ddifrifol. Nid ydym wedi cael ein hargyhoeddi o'r achos hyd yn hyn, ond nid yw hynny'n golygu na fyddem ni'n parhau i'w ystyried pe byddai gwybodaeth ychwanegol a gwell ar gael.
A gaf i ddweud, felly, Prif Weinidog, fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol i gyhoeddi'r astudiaeth hon. Chi, fel Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd, ond gofynnaf i chi unwaith eto nawr: a wnewch chi gyhoeddi'r astudiaeth honno, gan fy mod i'n credu bod gan y cyhoedd hawl i wybod? Gallaf ddweud wrthych chi hefyd, Prif Weinidog, mae gen i nifer o lythyrau oddi wrth gwmnïau yn y sector bwyd sydd i gyd yn honni y bydd y methiant i fuddsoddi mewn cyfleusterau storio oer yn arwain at ganlyniadau andwyol difrifol nawr. Mae rheolwr gyfarwyddwr un cwmni bwyd blaenllaw yng Nghymru yn mynegi ei bryder, a dyfynnaf, ynghylch prinder difrifol o gyfleusterau storio bwyd wedi'i oeri a'i rewi yng Nghymru. Mae cyfarwyddwr cadwyn gyflenwi un arall yn dweud ei bod yn hanfodol bod gennym ni fwy o ddewisiadau storio oer yn yr ardal leol er mwyn gallu parhau i gystadlu. Mae Kepak, sy'n cyflogi 700 o bobl yn ffatri gig St Merryn ym Merthyr yn dweud hyn:
Os nad oes cynnydd i gapasiti storio yng Nghymru, efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried trosglwyddo rhywfaint o gynhyrchiant o Ferthyr i safle yng Nghernyw, a allai gael effaith negyddol ar nifer y gweithwyr ym Merthyr.
Ac, yn ogystal â hynny, mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi dweud, heb gyfleusterau storio oer hirdymor ar gyfer cig oen, y gallai effeithiau Brexit 'heb gytundeb' fod yn drychinebus.
Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, o gofio eich bod chi eich hun wedi dweud y gallai Brexit 'heb gytundeb' gael effaith aruthrol ar y sector bwyd, o gofio bod cannoedd o swyddi yn y fantol nawr, bod dyfodol ffermio yng Nghymru mewn perygl ac y gallai diogelwch cyflenwadau bwyd yng Nghymru ei hun gael eu peryglu, pam ar y ddaear na wnaiff Llywodraeth Cymru fuddsoddi'r £3 miliwn i £4 miliwn yr amcangyfrifir sydd ei angen i lenwi'r bwlch yn y cyflenwad cadwyn oer? A pham ydych chi'n rhoi eich ffydd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chwmnïau dros y ffin, yn hytrach na meddwl am ateb yng Nghymru i broblem yng Nghymru yr ydych chi wedi ei gwaethygu drwy'r ddogn arferol o ddifaterwch, gwadu a diffyg gweithredu?
Mae'n anodd gwybod, Llywydd, ble i ddechrau, pan fo'n rhaid i chi geisio pigo esgyrn cwestiwn synhwyrol oddi wrth yr ormodiaith arferol na all arweinydd Plaid Cymru ei hosgoi. Felly, roedd cwestiwn synhwyrol yng nghanol popeth iddo ei lapio ynddo a dyma ateb synhwyrol iddo: rwyf i wedi dweud wrtho eisoes fy mod i'n hapus i adolygu'r adroddiad i weld a fwriadwyd iddo gael ei gyhoeddi, ac os bwriadwyd hynny, yna rwy'n hapus iawn i ystyried gwneud hynny.
Cyn belled ag y mae storio oer yn y cwestiwn, mae'n un o—mae'n un o—amrywiaeth eang o bethau yr ydym ni'n eu trafod gyda'r diwydiant, ac y mae'r diwydiant yn dweud y byddai eu hangen er mwyn gallu goroesi effaith drychinebus Brexit 'heb gytundeb'. Os mai dyma'r flaenoriaeth uchaf i'r diwydiant, yn y ffordd y mae'r Aelod yn ceisio ei awgrymu, yna byddwn yn hapus ei glywed yn uniongyrchol gan y diwydiant. Ac os mai dyna maen nhw'n ei ddweud wrthym ni, yna byddwn wrth gwrs yn trafod hynny gyda nhw yn rhan o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â gwaith difrifol Llywodraeth, sef gweithio ochr yn ochr â'r bobl hynny yng Nghymru a fyddai'n cael eu heffeithio gan Brexit 'heb gytundeb', i glywed ganddyn nhw ble maen nhw'n credu y byddai'r buddsoddiad y gallwn ni ei wneud ar y cyd â nhw yn cynrychioli'r defnydd gorau, ac os daw i'r amlwg mai storio oer—ganddyn nhw, yn hytrach na ganddo ef—yw eu prif flaenoriaeth, yna byddwn yn sicr yn gweithio gyda nhw ar hynny.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa mor dda y mae eich Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy yng nghyswllt cefnogi busnesau?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cannoedd o fusnesau ledled Cymru bob dydd. Rydym ni'n gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy, wrth gwrs, ar geisiadau am gyllid yr ydym ni'n eu cael, ac rydym ni'n parhau i gadw mewn cysylltiad agos â'r cwmnïau hynny yn ystod y cyfnod yr ydym ni'n cynnig cymorth iddyn nhw. A yw hynny'n golygu nad oes dim byth yn mynd o'i le? Wel, nac ydy, wrth gwrs.
Wel, gadewch i mi ddweud wrthych chi sut y mae eich Llywodraeth yn cynnal diwydrwydd dyladwy. Ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau ar filiynau o bunnoedd ar fenthyciadau gwael a phenderfyniadau busnes gwael. Cafodd Canolfan Cywain £3.4 miliwn, a beth ddigwyddodd? Fe'i caewyd. Cafodd Main Port Engineering £650,000 ac aeth i ddwylo'r gweinyddwyr. Prif Weinidog, hoffwn edrych yn agosach ar un cwmni yn benodol, 'ku-kd dot com'—neu kukd.com. Nawr, cyhoeddwyd yr ymchwiliad i'r dyfarniad o grant gwerth £1 filiwn i kukd.com gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2016, ac eto bron i dair blynedd yn ddiweddarach, rydym ni'n dal i aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar y mater hwn. Nid dyma'r tro cyntaf i ni gwestiynu atebolrwydd eich Llywodraeth ac am fod yn llai nag agored gyda ni, Prif Weinidog. Mae rhestr faith o brosiectau wedi'u rheoli'n wael wedi methu â bodloni disgwyliadau o bell ffordd ac wedi niweidio ffydd trethdalwyr. A gadewch i ni beidio ag anghofio'r camfarnau eraill gan Lywodraeth Cymru: Pinewood Studios, prosiect Cylchdaith Cymru, tanwerthu tir sy'n gysylltiedig â chronfa buddsoddi mewn adfywio Cymru, buddsoddiad busnes mentrus yn Kancoat, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwerthu coed Cymru mewn modd anghyfrifol. Nawr, gan eich bod chi'n honni eich bod yn cynnal diwydrwydd dyladwy fel Llywodraeth, ac er mwyn bod yn dryloyw, a wnewch chi nawr ymrwymo heddiw i gyhoeddi'r adroddiad ar kukd.com cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ni yn y Siambr hon graffu'n briodol ar weithredoedd eich Llywodraeth?
Llywydd, yn wahanol i'r aelod ac, mae'n debyg, ei blaid, rydym ni ar y meinciau hyn yn credu mewn buddsoddi mewn busnesau yma yng Nghymru. Yn sicr, nid wyf i'n ymddiheuro, am un eiliad, am y ffaith bod Llywodraethau Cymru olynol wedi ei hystyried yn ddyletswydd arnyn nhw i gynorthwyo busnesau yng Nghymru, i'w helpu i dyfu i greu gwaith yma yng Nghymru, ac os ydych chi'n mynd i wneud hynny ar sail hollol ddi-risg, lle nad ydych chi byth yn barod i gymryd siawns ar gwmni a allai droi'n rhan bwysig iawn o'n dyfodol economaidd yma yng Nghymru, yna, wrth gwrs, gallwch ddileu pob posibilrwydd o rywbeth yn mynd o'i le trwy beidio byth â gwneud dim. Os mai dyna yw polisi ei blaid ef, dylai ddweud wrthym ni yn y fan yma. Os nad yw'n credu y dylem ni fyth fod yn barod i fuddsoddi mewn busnes a allai, yn y pen draw, fethu â gwneud popeth y mae'n ei ddweud wrthym ni, wrth ein panelau arbenigol sy'n adolygu pob un o'r achosion hyn a'r penderfyniadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud, yna bydd pobl yn y dyfodol yn gwybod pe byddai ei blaid ef erioed wedi canfod ei hun mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau yma yng Nghymru, yna ni fyddai'n Llywodraeth a fyddai'n barod i wneud y pethau hynny sy'n caniatáu i fusnesau yma yng Nghymru ffynnu.
Dywedodd yr Aelod wrthyf bod diffyg tryloywder ac yna aeth ymlaen i roi rhestr o bethau y gallai ddim ond fod wedi gwybod amdanynt o ganlyniad i wybodaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei chyhoeddi. Mae fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn dweud nad yw'n ei chael hi'n anodd o gwbl cyhoeddi'r adroddiad y cyfeiriodd yr Aelod ato, felly bydd adroddiad arall y bydd ef yn gallu ei ddarllen, ac edrychwn ymlaen at ei safbwyntiau ar dryloywder pan fydd darn arall o wybodaeth sydd ar gael dim ond oherwydd bod y Llywodraeth hon yn barod i'w rhoi ar gael yn syrthio i'w ddwylo.
Wel, mae hyn yn ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd, Prif Weinidog. Rydym ni wedi aros tair blynedd am yr adroddiad hwn. Pam ar y ddaear nad yw'r adroddiad hwn wedi cael ei gyhoeddi hyd at yn awr? Felly, rwy'n cymryd o'r ateb yr ydych chi newydd ei roi i mi y bydd yn cyhoeddi'r adroddiad hwn maes o law, ond nid oedd hynny'n eglur o'ch ateb. Nawr, ceir o hyd—[Torri ar draws.] Ceir cwestiynau difrifol o hyd am y berthynas rhwng Plaid Lafur Cymru, cyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru a kukd.com. Nawr, mewn erthygl gan WalesOnline a gyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2015, ysgrifennodd Gweinidog yr economi ar y pryd, a dyfynnaf,
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn wedi sicrhau y bydd pencadlys busnes arall a sefydlwyd gan Mr Hussein yng Nghymru.
Fodd bynnag, ar 17 Tachwedd 2015, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â kukd.com i drafod eu trafferthion busnes parhaus a'r gostyngiad i'r swyddi a oedd yn cael eu creu. Yna, 10 diwrnod ar ôl y cyfarfod hwn, roedd kukd.com yn brif noddwr cinio gala Llafur Cymru lle'r oedd uwch reolwyr kukd.com ac uwch Weinidogion Llywodraeth yn bresennol. Awgrymaf i chi, Prif Weinidog: dylai tryloywder ac atebolrwydd a bod yn agored fod wrth wraidd gwleidyddiaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. O gofio nad yw'r adroddiad ar kukd.com wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn—ond rwy'n croesawu'r ffaith fy mod i'n credu i chi ddweud yn eich ateb efallai y byddwch chi yn ei gyhoeddi—a allwch chi gadarnhau y bydd yr ymchwiliad i'r cwmni hwn yn ystyried pa un a gynhaliwyd diwydrwydd dyladwy yn drylwyr a beth y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn ei ddysgu fel bod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n ddoeth yn y dyfodol?
Wel, rwyf i—. Dywedais yn fy ateb diwethaf, Llywydd, ar ôl i'r adroddiad gael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi, bydd yn cael ei gyhoeddi a bydd yr Aelod yn gallu ei ddarllen a gweld popeth sydd wedi ei gynnwys ynddo. Eisteddais mewn cyfarfod Cabinet y DU lle'r oedd y £30 miliwn y bu'n rhaid ei dalu i Eurotunnel mewn iawndal am benderfyniadau y mae ei blaid ef wedi eu gwneud yn San Steffan, yn ogystal â'r contractau sydd wedi cael eu canslo gan ei Lywodraeth ef erbyn hyn—£80 miliwn; £80 miliwn wedi ei daflu i ffwrdd ar yr un mater hwnnw. Nid wyf i angen gwrando ar areithiau hunangyfiawn gan arweinydd yr wrthblaid, oherwydd pe bawn i eisiau gweld lle mae arian yn cael ei daflu i ffwrdd gan awdurdodau cyhoeddus, nid oes angen i mi edrych ymhellach na'i blaid ef a'r ffordd y mae wedi ymdrin â'r un mater hwnnw. Ceir y nifer uchaf erioed, Llywydd, o fusnesau sydd â'u pencadlysoedd yng Nghymru erbyn hyn, ac ni fyddai hynny'n wir oni bai am y polisïau y mae'r Llywodraeth hon yn eu dilyn i gynorthwyo busnesau Cymru, trwy fuddsoddi ynddyn nhw pan fo dadl gref dros wneud hynny. Ac, os na fydd y buddsoddiadau hynny yn llwyddo i gyflawni'r hyn yr oeddem ni i gyd wedi ei obeithio ac wedi cael cyngor mai dyna fyddai'r mwyaf tebygol o gael eu derbyn ganddynt, yna wrth gwrs—wrth gwrs—rydym ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi o'r profiadau hynny, a dyna pam yr oedd yr Aelod yn gallu nodi'r enghreifftiau hynny y dechreuodd siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd—[Torri ar draws.]
Gareth Bennett, parhewch ac anwybyddwch gweddill y Siambr.
Prif Weinidog, weithiau rwyf i'n dychwelyd at bynciau yma yn y Siambr yr wyf i wedi holi yn eu cylch yn y gorffennol, gan ei bod hi'n ymddangos nad oes dim yn digwydd. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd y cam hwn gyda gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae hon yn ganolfan drafnidiaeth bwysig, wrth gwrs, nid yn unig i bobl yng Nghaerdydd ond i bobl ledled Cymru, a bydd defnyddwyr yn gwybod bod diffyg lle yn yr orsaf, yn enwedig pan fo digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd, pan fo pobl yn tueddu i gael eu gwasgu at ei gilydd yn yr orsaf fel sardinau mewn tun. Gwnaed addewid ers cryn amser i'r cyhoedd yng Nghymru y byddai'r orsaf drenau ganolog yn cael ei huwchraddio. Pryd ydych chi'n meddwl ein bod ni'n debygol o gael hynny?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod gorsaf drenau Caerdydd yn lleoliad prysur iawn o ran trafnidiaeth; mae 40 y cant o'r holl deithiau ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn cychwyn neu'n gorffen yng ngorsaf Caerdydd. Mae hynny'n rhoi syniad i chi pa mor bwysig ydyw i bobl yng Nghaerdydd, ond hefyd i Gymru benbaladr. Nawr, nid yw buddsoddi yng ngorsaf Caerdydd yn fater i Lywodraeth Cymru ond i Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cyfeirio eisoes y prynhawn yma at Mr Grayling a'i lwyddiant eithriadol fel Gweinidog. Ar y rhestr faith o bethau y mae wedi methu â rhoi sylw iddynt y mae'r ddadl ynghylch uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Nawr, rydym ni wedi dadlau'r achos dro ar ôl tro iddo berswadio Llywodraeth y DU i roi i Gymru gyfran deg o'r buddsoddiad yn y rheilffyrdd y byddem ni'n ei chael pe byddech chi ddim ond yn rhoi i ni y gyfran y mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chynrychioli o rwydwaith y DU yn ei chyfanrwydd. Nid ydym yn cael yn agos at gyfran deg. Nid yw'r llais sydd ei angen arnom ni gennym yn Llundain yn siarad dros Gymru i sicrhau y bydden ni'n ei gael, ac felly mae'n rhaid i ni weithio hyd yn oed yn galetach i berswadio'r Gweinidog trafnidiaeth yn Llywodraeth y DU i beidio ag ychwanegu hyn at ei restr faith o fethiannau.
Diolch am eich ymgysylltiad â'r cwestiwn a diolch am eich ymgysylltiad â llawer o'r cwestiynau yr wyf i wedi eu gofyn i chi. Nawr, yn anffodus, nid wyf i yma i graffu ar Chris Grayling a Llywodraeth y DU; rwyf i yma i graffu arnoch chi a'ch Llywodraeth. Rydych chi wedi dadlau'r achos hwn o'r blaen am y diffyg buddsoddiad, sydd—rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud. Yn anffodus, nid yw'n helpu defnyddwyr yr orsaf drenau, sy'n dal i aros i ryw fath o waith datblygu ddechrau. Nawr, efallai y byddai myfyrdod ehangach o sut y mae eich Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn cymryd i ystyriaeth y ffaith eich bod chi neu eich cyd-Weinidogion yn dweud wrthym ni bob wythnos eu bod nhw mewn rhyw fath o anghydfod ariannu gyda Llywodraeth y DU. Cawsom yr hurtrwydd yn ddiweddar o drigolion Cymru ddim yn cael mynd i gael triniaeth mewn ysbyty ddim ymhell dros y ffin yng Nghaer oherwydd hyn. Holl bwrpas cael Llywodraeth Cymru yma yn y Cynulliad yw bod pethau'n gweithio'n well i bobl Cymru. I'r arsylwr niwtral, efallai y bydd yn ymddangos mai'r cyfan sy'n digwydd mewn gwirionedd yw eich bod chi a'ch Gweinidogion yn rhedeg gweithrediad nad yw o fudd i bobl Cymru o gwbl, oherwydd y cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw gwastraffu amser yn rhoi'r bai am eich diffyg gweithredu ar benderfyniadau ariannu a wneir yn San Steffan a Whitehall. Prif Weinidog, onid yw pobl Cymru yn haeddu rhywbeth ychydig bach yn well gennych chi?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n gweld sut mae'r Aelod yn gwneud unrhyw hawliad o gwbl ei fod yr hyn y mae'n ei gyfeirio ato fel 'arsylwr niwtral'. Rwy'n gobeithio bod ei sylwadau ar orsaf drenau Caerdydd yn awgrym y bydd yn ymuno â ni i alw am ddatganoli'r cyfrifoldebau hynny, er mwyn i ni allu eu cyflawni'n uniongyrchol yma yng Nghymru. Nid wyf i'n siŵr ai dyna yw polisi ei blaid, ond, os mai dyna yw, byddwn yn falch iawn o wybod hynny.
A, ble y gallwn weithredu, fel yn yr orsaf fysiau wrth ochr yr orsaf drenau yng Nghaerdydd, yna Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithredu i sicrhau bod y cyllid ar gael a bod y cynllun ar waith ac y bydd yr orsaf fysiau yn cael ei datblygu mewn ffordd a fydd, cyn belled â'n bod ni'n cael y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, yn troi i'r ganolfan drafnidiaeth yr ydym ni wedi bod eisiau ei gweld erioed, gyda chyfnewidfa rhwng gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus yma yng nghanol ein dinas.
O ran y pwynt iddo orffen ag ef, am ysbyty Countess of Chester, gadewch i ni fod yn eglur: penderfyniad ysbyty Countess of Chester oedd hwnnw—penderfyniad unochrog gan y darparwr hwnnw, y bu'n rhaid i ni dreulio wythnosau erbyn hyn yn datgymalu'r cynllun yr oedden nhw wedi ei wthio oddi ar y wal a'i roi yn ôl at ei gilydd. Nawr, byddwch wedi gweld y datganiad y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei wneud, yn egluro sut, trwy gymryd y camau yr ydym ni wedi eu cymryd, y mae gennym ni gytundeb drwy'r Adran Iechyd erbyn hyn a fydd yn sicrhau bod ysbyty Countess of Chester yn parhau i drin cleifion o Gymru. Ond gwnaed y penderfyniad i beidio â thrin cleifion o Gymru yn unochrog ac, yn fy marn i, yn anghyfrifol ganddyn nhw, ac nid gennym ni yn sicr.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53866] yn ôl. Felly, cwestiwn 4—Mandy Jones.