1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad y Cenhedloedd Unedig sy'n datgan bod un filiwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol? OAQ53855
Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 2 a 3 gael eu grwpio.
Do, roeddwn wedi gwneud hynny, ond nid yw'r Aelod sy'n gofyn cwestiwn 3 yn y Siambr. Felly, ni ellir grwpio'r grŵp. Felly, atebwch y cwestiwn fel cwestiwn 2.
Diolch. Nid oeddwn wedi sylwi nad oedd yr Aelod yn bresennol, mae'n ddrwg gennyf.
Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â cholli bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, fynd ati'n rhagweithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy'r penderfyniadau a wnânt. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol ac ymarferol i grwpiau cymunedol allu rhoi camau ar waith yn eu hardal leol.
Diolch am eich ateb. Weinidog, nododd y platfform polisi gwyddoniaeth rhynglywodraethol ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau bum ffactor uniongyrchol sy'n sbarduno newid mewn natur, gyda'r effeithiau byd-eang mwyaf yn cynnwys newid o ran defnydd tir a môr, ecsbloetio organebau yn uniongyrchol, newid yn yr hinsawdd, llygredd, gan gynnwys slyri, plaladdwyr a chwynladdwyr, a rhywogaethau goresgynnol. Mae effeithiau'r gweithgareddau dynol hyn ar fioamrywiaeth wedi bod yn drychinebus, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, mae'r adroddiad yn mynd yn ei flaen i fod yn eithaf cadarnhaol, a dywed nad yw'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth, ond dim ond os gweithredir camau ar bob lefel, o'r lefel leol i lefel fyd-eang. A thrwy'r newid trawsnewidiol hwnnw, fe all natur wella.
Gwn eich bod wedi amlinellu rhai o'r newidiadau sy'n cael eu gwneud, a gwyddoch fy mod yn galw dro ar ôl tro am weithredu ar slyri a phethau eraill. Felly, pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio yn awr o leiaf i atal ac yna i wrthdroi'r difrod a wneir?
Diolch. Yn sicr, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn peri cryn bryder, ond fel chithau, roeddwn yn falch iawn fod yr asesiad byd-eang wedi cydnabod nad yw'n rhy hwyr i wrthdroi tuedd, ond mae angen y newid trawsnewidiol hwnnw y cyfeirioch chi ato er mwyn gwneud hynny. Credaf ein bod ar y blaen o ran cydnabod bod bioamrywiaeth yn sail i'n lles economaidd a chymdeithasol, a chredaf ei bod yn gymaint o her â'r newid yn yr hinsawdd. Mae gennym ein deddfwriaeth flaengar ac arloesol a'n polisi i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae gennym ein polisi adnoddau naturiol, sy'n nodi ein blaenoriaethau i'n galluogi i wrthdroi dirywiad. Rwyf am sicrhau ecosystemau mwy gwydn, a byddwn yn gwneud hynny drwy'r polisi. Mae gennym hefyd ein cynllun gweithredu ar adfer natur, ac rwyf wedi gofyn am ei adnewyddu. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd yn adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.
Yn sicr, rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am slyri a llygredd amaethyddol, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r rheoliadau y byddaf yn eu cyflwyno fis Ionawr nesaf. Rwy'n dal i weithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid ar y mentrau gwirfoddol gan y credaf ei bod yn well cael yr ymagwedd ddeuol honno.
Weinidog, rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr yn cytuno bod adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn sobreiddiol iawn ac yn nodi'r brys sydd ei angen i ddiogelu ein bywyd gwyllt.
Mae'r adroddiad yn nodi bod llygredd yn un o'r ffactorau uniongyrchol sy'n sbarduno dirywiad rhywogaethau, ac mae'n cynnwys llygredd plastig wrth gwrs. Mae llygredd plastig yn broblem enfawr, ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y pâl, rwy'n pryderu ynghylch yr effaith y gallai plastig morol ei chael ar boblogaeth y pâl yng Nghymru, yn enwedig ar ynys Sgomer.
Er eu bod yn gwneud yn gymharol dda yng Nghymru, mae palod ar y rhestr ambr o adar sy'n destun pryder cadwraethol yn y DU gan eu bod yn agored i newidiadau andwyol yn yr amgylchedd am fod eu poblogaeth fridio wedi'i chrynhoi ar nifer fach o safleoedd. O'r herwydd, mae cynnydd mewn llygredd plastig morol yn rhoi pwysau ar balod yng Nghymru a'r amgylchedd ehangach. O dan yr amgylchiadau, pa waith penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyfyngu ar y gwastraff sy'n cyrraedd ein moroedd er mwyn inni allu helpu i'w glanhau a diogelu ein bywyd gwyllt morol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?
Diolch. Credaf y byddaf yn clywed gan sawl Aelod am y rhywogaethau y maent yn eu hyrwyddo y prynhawn yma, o edrych ar y cwestiynau.
Credaf fod yr Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am lygredd morol, ac yn sicr, mae sawl ymgyrch wedi tynnu sylw at hynny. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ar yr agenda wastraff. Rydym yn rhoi nifer o fentrau ar waith, ond deallwn y bydd yn rhaid i ni wneud llawer mwy mewn perthynas â hyn. Credaf fod newid ymddygiad hefyd yn bwysig iawn, yn y ffordd y gwnaethom gydag ailgylchu, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno eleni hefyd.