1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 5 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gweld y byddwch yn cyfarfod â'ch cyd-Weinidogion addysg uwch yn yr Alban a Llywodraeth y DU cyn bo hir—efallai eich bod eisoes wedi gwneud hynny, nid wyf yn gwybod—i drafod Brexit a chanfyddiadau adolygiad Augar. Mae mater ariannu addysg ôl-16 wedi'i ddatganoli, wrth gwrs, ond mae'r systemau yn yr holl wledydd hyn yn cefnogi cystadleuaeth rhwng sefydliadau ledled y DU, a chyda 40 y cant o fyfyrwyr prifysgol o Gymru eisoes yn astudio yn Lloegr, gyda llai o draffig o lawer yn dod y ffordd arall, tybed beth oedd eich meddyliau cyntaf ynglŷn â chanfyddiadau'r adolygiad ynghylch prifysgolion a cholegau Cymru, pe baent yn cael eu rhoi ar waith yn Lloegr.
Er mwyn egluro i'r Aelod, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Lloegr. Rydym wedi trefnu cyfarfodydd pedairochrog rheolaidd ar fy nghais. Ac er y sicrwydd a gefais yn y cyfarfod diwethaf gan y Gweinidog Skidmore, mae'n drueni nad oedd ei weision sifil yn teimlo y gallent friffio fy ngweision sifil yn iawn cyn cyhoeddi adroddiad Augar, sy'n siomedig. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o gynnwys yr adroddiad, ac yn fy llythyr i The Times yn gynharach yr wythnos hon, dywedais yn glir iawn y bydd unrhyw gynnig i ddiwygio yn Lloegr yn llywio'r dewisiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, ond nid yn eu pennu. Rwy'n falch y bydd Cymru yn parhau i fod â'r system decaf, fwyaf blaengar a mwyaf cynaliadwy i fyfyrwyr yn y DU, hyd yn oed os caiff argymhellion Augar eu rhoi ar waith llawn yn Lloegr. Ond o ystyried yr anhrefn yn y Llywodraeth yn Lloegr, pwy a ŵyr?
Am ateb gwresog. Nid oeddwn yn awgrymu am eiliad y dylem fod yn dilyn arweiniad Lloegr yn hyn o beth. Meddwl yr oeddwn tybed beth fyddai effaith, neu beth gredwch chi fyddai effaith yr adolygiad penodol hwn ar brifysgolion Cymru, ac nid wyf yn credu fy mod wedi dysgu mwy o hyn. Un peth y mae Augar yn ei ddweud yn ei adolygiad, fodd bynnag, yw bod gwahaniaethau i'w cael eisoes rhwng systemau ariannu'r gwledydd, felly ni ddylai gwahaniaethau pellach fod yn broblem. Un o'r meysydd lle na cheir unrhyw wahaniaeth, hyd y gwelaf, yw bod telerau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, er bod y benthyciadau eu hunain yn wahanol yma, yn enwedig o ran y ffordd y caiff costau cynhaliaeth eu cynnwys a'u sybsideiddio—. Os nad oes gwahaniaeth ar hyn o bryd, a ph'un a ydym yn cytuno ai peidio ar gynigion penodol Augar, un peth y mae'n ceisio mynd i'r afael ag ef yw'r cwestiwn ynghylch nifer y benthyciadau sy'n cael eu dileu i bob pwrpas neu nad ydynt yn cael eu talu'n llawn dros amser, a tybed beth yw eich barn ynglŷn â'r broblem hon ar hyn o bryd—sut y gellir mynd i'r afael â hi mewn ffordd nad yw'n cael effaith andwyol ar incwm prifysgolion nac yn atal pobl rhag mynd iddynt.
Wel, mae'r Aelod yn gofyn i mi pa effaith y byddai adroddiad Augar, pe bai'n cael ei roi ar waith, yn ei chael ar system addysg uwch Cymru. Buaswn yn ei chyfeirio at y sylwadau a wnaed gan Brifysgol Caerdydd, ac yn wir, Prifysgol Cymru, fel corff cynrychioliadol AU yn ein gwlad, sydd wedi cyhoeddi briffiau yn amlinellu eu pryderon ynghylch cynnwys yr adroddiad, ac rwy'n siŵr nad yw eu pryderon ynghylch effaith ariannol yr argymhellion yn syndod i unrhyw un ohonom. Nawr, o gofio'r goblygiadau ariannol i Gymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, rydym wedi atgoffa Llywodraeth y DU yn gyson ac yn barhaus o botensial y goblygiadau hynny neu unrhyw newidiadau y maent yn penderfynu eu rhoi ar waith, a byddaf yn parhau i wneud hynny tra byddant yn ystyried eu hymateb ffurfiol i Augar.
Iawn, wel, Weinidog, dyna ddau gwestiwn nad ydych wedi'u hateb bellach. Rwyf wedi darllen briff Prifysgol Caerdydd, fel rydych chithau wedi'i wneud, yn amlwg. Roeddwn yn awyddus i wybod beth oeddech chi'n ei feddwl, ac rwy'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am y sefyllfa hon yn gyffredinol ynghylch benthyciadau heb eu talu, sy'n dod yn grantiau gan y Llywodraeth i bob pwrpas, a'r hyn y credwch y gallai Cymru ei wneud i wella'r sefyllfa mewn ffordd nad yw'n atal pobl rhag mynd i brifysgolion neu'n cyfyngu ar eu hincwm? Ac ni chefais ateb i'r cwestiwn hwnnw.
Mae addysg uwch, wrth gwrs, yn faes cystadleuol iawn, ac mae canlyniadau arholiadau'n bwysig pan all cynigion i fyfyrwyr gan brifysgolion alw am raddau uchel iawn. CBAC yw'r bwrdd arholi mwyaf o bell ffordd sy'n berthnasol i bobl ifanc 16 oed sy'n meddwl am y camau y maent am eu cymryd ar ôl hynny, a tybed a ydych yn poeni o gwbl, fel fi, am yr anawsterau yno—diffyg canllawiau adolygu, camgymeriadau ar y papurau Safon Uwch Ffrangeg, problemau technegol gydag arholiadau gwyddorau cyfrifiadurol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'r corff i dawelu'ch meddwl na fydd y problemau diweddar yn peryglu cyfleoedd myfyrwyr Cymru mewn arholiadau, ac felly eu gobaith o gael eu derbyn i brifysgol o'u dewis?
Dywed yr Aelod ei bod yn pryderu ynglŷn â phobl yn cael eu digalonni rhag ymgymryd ag addysg uwch. Yr hyn a wyddom o waith yr Athro Ian Diamond yw mai diffyg cefnogaeth gyda chostau byw ymlaen llaw yw'r rhwystr mwyaf i bobl rhag ymgymryd â chwrs prifysgol, yn enwedig os ydych yn fyfyriwr o gefndir anhraddodiadol heb rieni ag incwm sylweddol i'ch cefnogi. Dyna pam, hyd yn oed pe bai argymhellion Augar yn cael eu rhoi ar waith yn llawn yn Lloegr, y byddai gennym lefelau sylweddol uwch o grantiau nad ydynt yn ad-daladwy ar gael i israddedigion yng Nghymru.
Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau perthnasol iawn ynglŷn â pherfformiad CBAC. Mae fy swyddogion a Cymwysterau Cymru yn parhau i weithio gyda CBAC i nodi beth a ddisgwyliwn gan fwrdd arholi cenedlaethol ar gyfer ein cenedl.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Tra bo'r ymgynghoriad ar y cwricwlwm drafft yn mynd rhagddo mae'n briodol i drafod rhai agweddau ohono efo chi prynhawn yma, ac, yn gyntaf, hanes Cymru. Dwi newydd ddod o seminar wnes i ei gynnal ar gais Ymgyrch Hanes Cymru, ac yn fanno fe fynegwyd pryder y bydd cyfle gwych yn cael ei golli i ddysgu hanes Cymru ymhob ysgol os na fydd hynny'n hollol eglur yn y cwricwlwm newydd ac os na fydd adnoddau a hyfforddiant priodol ar gael.
Mae pobl ifanc Cymru yn dysgu am ddigwyddiadau fel boddi Tryweryn drwy furluniau, ac mae hynny'n wych, ond mae gan y gyfundrefn addysg rôl gwbl allweddol i ddysgu stori ein gwlad, rôl sydd, ysywaeth, ddim yn cael ei chyflawni ers degawdau—ddim yn gyflawn, beth bynnag.
Mae'r cwricwlwm drafft yn sôn yn gyffredinol, yn gysyniadol, am y profiad Cymreig, ond, pan fo rhywun yn edrych ar y canllawiau o dan y pennawd 'hanes', does yna ddim sôn am Gymru, y profiad Cymreig na hanes Cymru. Felly, hoffwn i wybod sut ydych chi'n bwriadu diwygio'r cwricwlwm drafft er mwyn adlewyrchu'r dyhead bod pob disgybl yng Nghymru yn cael gwybod am hanes ein gwlad ni.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y cwricwlwm drafft ar gael ar gyfer adborth ar hyn o bryd ac rwy'n siŵr y bydd hi, a phobl eraill, yn manteisio ar y cyfle i roi eu barn.
Credaf fod egwyddor cynefin yn un sydd wedi'i hymgorffori yn yr holl feysydd dysgu a phrofiad drafft, ac nid yw'n cyfyngu ei hun i'r cysyniad o addysgu plant am hanes Cymru. Rwyf am i stori Cymru—ei hanes, ei hiaith, ei diwylliant, ei daearyddiaeth, ei chyfraniad i'r byd—fod yn edefyn aur sy'n rhedeg drwy bob agwedd ar y cwricwlwm ac ni chredaf y dylem gyfyngu ein hunain i faes dysgu a phrofiad y dyniaethau neu un pwnc penodol yn unig.
Mi fyddai'n ddiddorol dod yn ôl at hwn ar ryw bwynt eto, gan, efallai, drafod beth yn union ydy'r diffiniad o 'cynefin', achos does yna ddim diffiniad yn y cwricwlwm drafft ohono fo, a mae hwnnw'n wendid, efallai.
Agwedd arall o'r cwricwlwm newydd sydd yn cael dipyn o sylw ydy addysg rhyw a pherthnasoedd, ac—dwi'n dyfynnu o'r cwricwlwm drafft—bydd dysgu
'Cymraeg, Saesneg, addysg grefyddol, addysg cydberthynas a rhywioldeb, a’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol' i gyd yn ddyletswyddau statudol. Felly, mae'n gwbl glir y bydd addysg rhyw a pherthnasoedd yn fandadol, sydd yn newyddion da, ac felly hefyd addysg grefyddol a chymhwysedd digidol. Ond dwi'n cael dipyn o anhawster deall rhesymeg dweud bod rhai elfennau o'r cwricwlwm newydd yn fandadol, tra'n eithrio elfennau pwysig eraill. Does yna ddim sôn yn y disgrifiad cyffredinol dwi newydd ei ddyfynnu am les a iechyd meddyliol. Mae hyn yn syndod i mi o gofio'r rhybuddion yn adroddiad 'Mind over Matter' y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Fedrwch chi egluro rhesymeg pam mae rhai materion yn fandadol a pham dyw materion eraill ddim yn y disgrifiad cyffredinol yna?
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chefnogaeth bersonol, ac yn wir, cefnogaeth ei phlaid i gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm ar sail statudol? Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Credaf fod y ddwy ohonom yn deall pam fod hynny'n bwysig iawn.
Yn y ddogfen wreiddiol, 'Dyfodol Llwyddiannus', gan Graham Donaldson, fe fyddwch yn gwybod ei fod wedi gwneud rhai argymhellion penodol ynghylch pam y dylai rhai pethau fod yn eglur ar wyneb y Bil. Rwyf wedi ychwanegu addysg cydberthynas a rhywioldeb at hynny mewn ymateb i'r gwaith a wnaed gan yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd a'r grŵp arbenigol a grëwyd pan ddywedasant yn glir iawn fod angen sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil ac yn elfen statudol o'r cwricwlwm, o gofio pwysigrwydd y pwnc hwnnw, ac o ystyried pwysigrwydd y pwnc hwn ym marn pobl ifanc eu hunain. Gwyddom o waith y Senedd Ieuenctid yma fod sgiliau byw yn flaenoriaeth bwysig iddynt, ac maent wedi bod yn gadarnhaol iawn ynghylch cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil.
Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn ynglŷn ag iechyd meddwl. Wel, fe fydd hi'n gwybod bod iechyd a lles yn un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn y cwricwlwm newydd. Mae'r ffaith bod y pynciau hynny a'r maes dysgu hwnnw wedi eu cynnwys a'r ffocws a roddwyd arnynt eto yn galonogol iawn ac mae'n ein rhoi mewn sefyllfa wahanol iawn i systemau addysg eraill o'n cwmpas. Byddaf yn myfyrio, o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ar sut y byddwn, drwy ddeddfwriaeth, yn gallu gwireddu fy nyhead i gael cwricwlwm eang a chytbwys ac i sicrhau y darperir yn ddigonol ar gyfer pob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad a'r datganiadau 'beth sy'n bwysig' oddi tanynt yng nghwricwla ysgolion lleol unigol.
Diolch, a dwi, wrth gwrs, yn croesawu cynnwys lles ac iechyd meddyliol yn greiddiol yn y cwricwlwm drafft, ond dwi dal yn petruso pam nad ydy o ddim yn y datganiad cyffredinol yna, sy'n greiddiol hefyd, tra bo addysg cydberthynas a rhywioldeb yno felly. Dwi'n stryglo i ddeall rhesymeg hynny rhyw ychydig, er yn croesawu bod yr addysg rhyw a pherthnasoedd yno. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen arbenigedd wrth ddysgu yn y maes penodol hwnnw, ac mae'r panel fu'n edrych ar hynny wedi cyflwyno nifer o argymhellion, a buaswn i'n licio jest diweddariad y prynhawn yma ar y mater o hyfforddi. Mae'r panel wedi galw am gynnwys hyfforddiant yn y maes addysg rhyw a pherthnasoedd fel llwybr penodol yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol, gan gynnwys cymhwyster lefel Meistr. Felly, faint o gynnydd sydd wedi bod ynglŷn â'r maes yna? Diolch.
Rydych yn gwbl iawn i siarad am yr angen i sicrhau bod gan ein gweithwyr proffesiynol yn ein hysgolion hyder i allu darparu gwersi addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol iawn. Gwyddom o waith Emma Renold ac o ymgynghori â phobl ifanc nad yw'r staff sy'n darparu'r gwersi hyn wedi cael hyfforddiant penodol bob amser ar yr elfennau hyn o'r cwricwlwm. Darparwyd adnoddau ariannol newydd yn benodol i weithio ar ddeunyddiau hyfforddi a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer yr athrawon sy'n darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn buddsoddi mwy na £21 miliwn dros ddwy flynedd mewn perthynas â chyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon wrth baratoi i roi'r cwricwlwm ar waith, a buaswn yn disgwyl i addysg cydberthynas a rhywioldeb ac iechyd a lles ffurfio rhan o'r cyfleoedd sydd ar gael. Rydym yn parhau i drafod natur arlwy'r cwricwlwm sydd ganddynt gyda'n darparwyr addysg gychwynnol i athrawon, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynghylch cymhwyster Meistr.FootnoteLink