2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i staff y GIG sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ53953
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr GIG Cymru ac undebau llafur drwy fforwm partneriaeth Cymru i gefnogi staff â phroblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn unol ag egwyddorion craidd GIG Cymru a nod pedwarplyg 'Cymru Iachach' ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig a chynaliadwy.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Roeddwn yn awyddus i godi'r mater hwn gan y gwyddom fod materion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn y GIG yn amlwg yn broblem, fel y maent ym mhob gweithle, ac er bod y rhwydweithiau cymorth gennym ar waith, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi y gallwn wneud mwy bob amser. Lywydd, weithiau mae'n rhaid i'r amgylchiadau mwyaf trasig ein hysgogi i weithredu. Dengys ffigurau syfrdanol a ddatgelwyd ar-lein yn ddiweddar fod mwy na 300 o nyrsys y GIG wedi cyflawni hunanladdiad dros y ffin yn Lloegr mewn saith mlynedd yn unig. Y nifer uchaf erioed oedd 54 yn 2015. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod sicrhau bod gennym y gefnogaeth gywir i staff y GIG yn bwysig iawn, nid yn unig ar gyfer diogelwch cleifion, ond hefyd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau fel yr amlinellir yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016? A gaf fi ofyn hefyd i'r Llywodraeth ddyblu ei hymdrechion i gefnogi staff arwrol ein GIG yma yng Nghymru, sy'n gofalu am bobl eraill bob dydd, felly nid yw ond yn deg ein bod ni oll yn gofalu amdanynt hwy?
Ie, rwy'n fwy na pharod i roi'r ymrwymiad ynglŷn ag ymagwedd y Llywodraeth at gefnogi ein staff yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n ymwneud nid yn unig â recriwtio'r niferoedd cywir o staff ar draws y gwasanaeth, ond hefyd y buddsoddiad ychwanegol a wnawn mewn hyfforddiant. Rwy'n falch o gadarnhau ein bod, mewn perthynas â Deddf lefelau staff nyrsio, yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad i gyflwyno'r Ddeddf, yn ogystal â sicrhau bod y dyletswyddau'n real yn y maes cyntaf rydym wedi'i ddewis. Ac o ran y gefnogaeth ehangach y dylai'r GIG ei darparu fel cyflogwr—y cyflogwr mwyaf yng Nghymru—mae hynny'n ffocws gweithgarwch penodol yn y fforwm partneriaeth. Un o'r pethau rwy'n edrych arnynt yw gwasanaeth lles a ddarperir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hwnnw'n un o brosiectau enghreifftiol Comisiwn Bevan ac mae wedi'i gyflwyno i'r fforwm partneriaeth fel rhan o'u hystyriaeth o arferion gorau i geisio cynnwys y cymorth a roddwn i'n staff GIG ymhellach.
Rwy'n falch fod y mater hwn wedi'i godi. Yn amlwg, mae iechyd meddwl yn fater sy'n effeithio ar bob maes, ond mae'n amlwg fod staff ein GIG yn agored i'w effeithiau. Fe sonioch chi—credaf mai yn ardal Abertawe y dywedoch fod yna elfen o arferion da. Mae'n amlwg yn bwysig fod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru cyn gynted â phosibl. Felly, a allech ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau, lle ceir arferion da mewn bwrdd iechyd lleol, y gall byrddau iechyd eraill nad ydynt o bosibl yn arddangos arferion da o'r fath elwa o'r gwersi a ddysgwyd?
Ie, rwy'n fwy na pharod i ehangu ymhellach gan ei bod yn enghraifft dda o sut rydym yn defnyddio ein system yma yng Nghymru. Mae'r fforwm partneriaeth yn dod â'r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd. Felly, mae'r fforwm partneriaeth eisoes yn cymryd camau i edrych ar yr arferion da hynny, eu dwyn ynghyd, a cheisio sicrhau wedyn fod y polisi a gytunwyd yn ddiweddar ar reoli absenoldeb yn y gweithle sy'n edrych ar atal, a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach ac i aros yn eu gwaith os oes modd, yn cael ei gefnogi gan enghreifftiau ymarferol o arferion da, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, ac yna ein bod ni'n deall sut y mae'r arferion da'n cael eu cyflwyno'n briodol ar draws ein gwasanaethau. Felly, mae'n enghraifft dda o edrych ar dystiolaeth, edrych ar arferion gorau, er mwyn dysgu o hynny ar draws y system.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi y gall staff ddioddef yn sylweddol o straen ar adegau o newid gwasanaeth, hyd yn oed os bydd y newid hwnnw i wasanaeth yn cyflawni gwelliannau yn y pen draw, o ran eu telerau ac amodau gwaith eu hunain. Clywodd y pwyllgor iechyd y bore yma gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gan yr ymddengys bod ganddynt ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol iawn at reoli straen eu staff drwy gyfnod o newid gwasanaeth angenrheidiol, a dealltwriaeth dda, yn fy marn i, o'r pwysau y bydd y staff hynny'n ei wynebu, er bod y staff eu hunain yn cydnabod y bydd y newidiadau hynny'n newidiadau er gwell. Pa gamau pellach y gall y Gweinidog eu cymryd—drwy'r fforwm partneriaeth, o bosibl, gan ei fod eisoes wedi cyfeirio at hwnnw yn ei atebion i Nick Ramsay ac i Jack Sargeant—i sicrhau, lle ceir arferion da yn y GIG o ran cefnogi staff drwy gyfnod o newid gwasanaeth, eu bod yn cael eu rhannu, a bod y cyfnodau hynny o straen anochel yn cael eu rheoli'n effeithiol fel nad ydym mewn perygl o wynebu sefyllfaoedd lle mae'r hyn sy'n anochel yn heriol yn troi'n sefyllfa sy'n ddrwg i iechyd meddwl a lles rhywun?
Rwy'n llwyr gydnabod bod gwahanol adegau o straen ym mywydau staff ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn arbennig i'r rheini sy'n ymdrin ag agweddau brys neu agweddau diwedd oes, mae straen penodol ynghlwm wrth hynny. Mae unrhyw elfen o newid gwasanaeth yn annifyr i unrhyw grŵp o staff mewn unrhyw ran benodol o fusnes, diwydiant neu'r sector gwirfoddol. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu'n fwriadol o hynny drwy'r fforwm partneriaeth, ond hefyd i ddysgu o ble mae'r newid gwasanaeth hwnnw eisoes wedi digwydd, ac yn digwydd ar hyn o bryd.
Rydym yn gweld newid sylweddol yn y gwasanaeth yn Hywel Dda, a'r hyn sydd wedi newid yn sylweddol ers y tro diwethaf i newid gwasanaeth gael ei argymell yw y cafwyd llawer mwy o ymgysylltiad â staff ar ddechrau'r broses honno. Fe fyddwch yn cofio, pan oeddech yn Aelod Cynulliad o'r blaen, fod llawer o'r staff yn Hywel Dda yn teimlo nad oeddent yn rhan o'r trafodaethau hynny mewn gwirionedd. A hyd yn oed yn awr, pan fo llawer mwy o gytuno ar sut y bydd pethau yn y dyfodol, mae yna heriau i weithio arnynt o hyd. Ac mae Aneurin Bevan yn enghraifft dda arall. Rydym yn newid y system yn Aneurin Bevan wrth greu Ysbyty Athrofaol newydd y Grange, ac yn asesu bod newid i'w gael mewn rhannau eraill o'r system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Felly, rydym yn dysgu am yr hyn sy'n digwydd yn awr yn ogystal ag yn y gorffennol. Y fforwm partneriaeth yw'r union le i sicrhau bod dysgu'n cael ei rannu ledled Cymru gyfan.