1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Mehefin 2019.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ54034
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys Canol De Cymru, wedi'u nodi yn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddi mewn pobl, lleoedd a busnesau drwy sgiliau, seilwaith a chymorth busnes.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Weinidog yr amgylchedd ddatganiad, datganiad ysgrifenedig, ar newid Llywodraeth Cymru i'w hymrwymiad i sicrhau allyriadau di-garbon erbyn 2050. Yn y paragraff olaf ond un, roedd yn dweud bod adroddiad y pwyllgor ar newid hinsawdd
'yn ei gwneud yn glir fod maint y newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd targed o sero net yn fwy nag unrhyw newid economaidd wedi'i gynllunio a welwyd yn yr oes hon'
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, pan gytunodd y Cabinet i'r ymrwymiad hwn ac yn wir ei ddatganiad ar argyfwng newid yn yr hinsawdd, y rhoddwyd modelu economaidd manwl ar gael fel y gall trigolion Canol De Cymru fod yn ffyddiog na fydd y model economaidd y mae'r Llywodraeth yn ei ddilyn yn peryglu swyddi ac yn peryglu ffyniant, a phan fo'n bosibl—pan fo'n bosibl—y bydd y papurau hynny ar gael i Aelodau edrych drostynt?
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o gadarnhau, wrth gwrs, bod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn yn seiliedig ar gyngor manwl. Ychydig iawn o is-bwyllgorau Cabinet sydd gennym ni, ond mae gennym ni is-bwyllgor Cabinet ar ddatgarboneiddio, lle caiff llawer iawn o waith manwl dros ben ei ystyried, ac sy'n sail i'r holl benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud. Cawsom, wrth gwrs, y 300 o dudalennau manwl iawn o gyngor gan y pwyllgor ar newid hinsawdd ei hun, a chafodd hynny i gyd ei ystyried yn briodol gan y Cabinet cyn i'm cyd-Aelod Lesley Griffiths wneud ei chyhoeddiad. Fe'i dilynwyd y diwrnod wedyn, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU hefyd yn derbyn cyngor y pwyllgor ar newid yn yr hinsawdd o ran pennu targedau allyriadau ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n siŵr bod cydweithwyr Andrew R.T. Davies yn y Llywodraeth yn Llundain hefyd wedi cael gweld y dadansoddiad sylfaenol y mae'r pwyllgor yn ei ddarparu er mwyn hysbysu ei benderfyniad hefyd.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Lafur Seland Newydd wedi cyhoeddi ei chyllideb llesiant fis diwethaf, a ddisgrifir fel y cyntaf yn y byd. Cyflwynodd dangosyddion llesiant cymdeithasol fel blaenoriaethau yn ei pholisi economaidd, yn hytrach na phwyslais cul ar gynnyrch mewnwladol gros neu werth ychwanegol gros. Gyda mentrau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r contract economaidd yma yng Nghymru, mae'n amlwg bod y math hwn o ddull yn cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni eisoes yn ei wneud. Felly, sut arall y gellir blaenoriaethu'r math hwn o ddull ym mholisi economaidd Llywodraeth Cymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Vikki Howells am y cwestiwn diddorol iawn yna? Wrth gwrs, mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn darganfod mwy am benderfyniad Llywodraeth Seland Newydd. Rydym ni'n ffodus o fod wedi cael cysylltiadau cryf erioed rhwng y Llywodraeth Lafur yma a'r Llywodraeth Lafur yn Seland Newydd. Roedd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn Seland Newydd nid mor bell yn ôl â hynny, yn edrych ar agweddau eraill ar waith y Llywodraeth honno, ac rydym ni wedi edrych ein hunain ar y cyfyngiadau ar werth ychwanegol gros, ar lawr y Cynulliad hwn. Rydym ni'n gwybod, os oes gennym ni ddiddordeb gwirioneddol mewn llesiant, nad yw gwerth ychwanegol gros yn ffordd dda o gael y darlun llawn hwnnw. Rydym ni'n gwybod bod gweinyddiaethau blaengar mewn mannau eraill yn edrych ar economeg llesiant, a'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu mynd ar drywydd hynny yng Nghymru yw drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei gomisiynu drwy'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—rhan o'n penderfyniad, hyd yn oed yn yr oes anodd sydd ohoni, bod Cymru yn parhau i fod yn wlad eangfrydig lle'r ydym ni'n dysgu oddi wrth eraill, lle'r ydym ni'n cymryd rhan mewn gweithgarwch ar y cyd â gwledydd mewn rhannau eraill o'r byd. Ac mae'r gwaith y mae Vikki Howells wedi cyfeirio ato wedi dwyn ffrwyth yn Seland Newydd ynghynt efallai nag yn unman arall, ond mae gan amrywiaeth ehangach o wledydd ddiddordeb mewn datblygu mesurau sy'n mynd y tu hwnt i'r ystod gul y mae gwerth ychwanegol gros yn ei gwmpasu, ac rydym ni'n sicr wedi ymrwymo, trwy Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a pholisïau economaidd eraill y Llywodraeth hon, i fod yn rhan o'r ymdrech ryngwladol honno.