1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Mehefin 2019.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gryfhau busnesau lleol? OAQ54039
Llywydd, mae cyflenwyr o Gymru yn ennill 52 y cant o'r gwerth £6.2 miliwn blynyddol o wariant caffael yng Nghymru erbyn hyn, i fyny o 35 y cant yn 2004. Ein nod yw cynyddu hyn ymhellach trwy'r cynllun gweithredu ar gaffael Cymru, sy'n cynnwys ymyraethau newydd yn y gadwyn gyflenwi i gynyddu cyfleoedd i fusnesau Cymru.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn amlwg, mae datgan argyfwng yn yr hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni leihau ein hallyriadau carbon ym mhopeth a wnawn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys lleihau milltiroedd bwyd. Pan ein bod ni'n ymwybodol bod y ffefryn yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Dorïaidd yn ymddangos yn benderfynol o'n tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb neu heb un ar y diwrnod a enwir yn briodol yn Nos Galan Gaeaf, pan fyddwn ni'n dathlu'r celfyddydau tywyll, bydd hynny wrth gwrs yn tarfu'n enfawr ar ein holl gyflenwadau bwyd, gan gynnwys codi prisiau unrhyw lysiau a ffrwythau yr ydym ni'n eu mewnforio. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi cynnydd i gynhyrchu garddwriaethol yng Nghymru, fel y gallwn ni gyflenwi cynnyrch lleol ffres i'n hysgolion, ein hysbytai a'n cartrefi preswyl.
Diolchaf i Jenny Rathbone am hynna, Llywydd. Roeddwn i yn Aberystwyth ddoe yn adeilad IBERS i annerch cyfarfod Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yn lle da iawn i wneud hynny, oherwydd yr hanes maith a llwyddiannus o fridio planhigion yn yr athrofa a'r ffordd y gall hynny gefnogi gwaith cynhyrchu bwyd lleol. Clywais lawer o syniadau diddorol a chalonogol sy'n cael eu datblygu yno yn rhan o unrhyw gytundeb twf canolbarth Cymru yn y dyfodol, i wneud cynhyrchu bwyd lleol yn ganolog i'r ffordd y bydd y cytundeb hwnnw'n cael ei ddatblygu gan ddefnyddio'r arbenigedd hwnnw. Pan siaradais i yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru, roedden nhw'n llwyr ymwybodol o'r pwyntiau y mae Jenny Rathbone newydd eu gwneud, yn bryderus iawn ynghylch y rhagolygon i'w diwydiant o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ofni'r hyn y bydd hynny'n ei olygu i amaethyddiaeth yma yng Nghymru, ond â diddordeb, yn bendant, mewn posibiliadau newydd ym maes garddwriaeth. Mae garddwriaeth yn rhan fach ond allweddol o gynhyrchiant amaethyddol yma yng Nghymru, a thrwy 'Brexit a'n tir', sef yr hyn yr oeddwn i yno i siarad â ffermwyr amdano, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu, gan gydweithio'n agos â nhw, ddangos bod dyfodol llwyddiannus i ffermio cynaliadwy yma yng Nghymru lle mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a'r ddarpariaeth o nwyddau cyhoeddus yn mynd law yn llaw, a lle mae cyfleoedd newydd ym maes garddwriaeth, am yr union resymau a amlinellwyd gan Jenny Rathbone, ar gael yn fwy i gymunedau ffermio yng Nghymru, fel bod cynhyrchu bwyd yn lleol i'w fwyta'n lleol, osgoi milltiroedd bwyd, cynorthwyo gydag effaith Brexit, darparu ffrydiau incwm dibynadwy i ffermwyr—yr holl bethau hynny yn dod at ei gilydd yn ein cynllun. Roeddwn i'n falch iawn o gael cyfle i archwilio hynny gydag ymarferwyr yn y byd ffermio ddoe, a chredaf fod gennym ni gyfres o gynhwysion yma yng Nghymru a fydd yn llwyddiannus ym maes ffermio, ond hefyd yn y materion amgylcheddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gaffaelwr mawr trwy Gymru gyfan, ac yn wir y sefydliadau sy'n atebol i Lywodraeth Cymru, ac felly mae gennych chi ddylanwad enfawr. Soniasoch am ymyraethau yn y gadwyn gyflenwi yn gynharach; a allwch chi, neu a ydych chi mewn gwirionedd, yn cyhoeddi canllawiau sy'n rhoi pwysoliad i sefydliadau fel y gallan nhw roi mwy o farciau i gwmni lleol, er enghraifft, a thrwy hynny helpu i gyfrannu tuag at ostyngiad i'n costau hinsawdd yn hytrach na dim ond, dyweder, dewis y rhataf bob amser? Oherwydd weithiau byddai cwmni sydd rhywfaint yn ddrutach ond sydd ddim ond i lawr y ffordd yn fwy buddiol o lawer i'r economi leol, i'r Llywodraeth ac i Gymru gyfan.
Diolchaf i Angela Burns am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, cyflwynir canllawiau i wasanaethau caffael yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn unol â'r llyfr rheolau ehangach y mae'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn gweithredu yn unol ag ef, ond diben y canllawiau hynny yw hoelio sylw'r bobl hynny sy'n ymgymryd â chaffael ar werth gorau yn hytrach na'r gost isaf yn y ffordd y maen nhw'n dyfarnu contractau. Mae'r ystyriaethau y mae Angela Burns newydd eu hamlinellu ynglŷn ag effeithiau mewn economïau lleol, ar gyflogaeth yn y lleoedd hynny, o ran osgoi niwed amgylcheddol drwy filltiroedd bwyd ac yn y blaen—mae pob un o'r rheini'n ystyriaethau dilys y mae caffael clyfar yn eu cymryd i ystyriaeth pan fydd yn canolbwyntio ar gael y gwerth gorau o wariant cyhoeddus, ac nid y pris rhataf yn unig.