– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 18 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar Wythnos Addysg Oedolion, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gydlynir gan Y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bob blwyddyn, rydym yn gweld dros 10,000 o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Addysg Oedolion. Mae'r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion, yn dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac yn ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau'n gadarnhaol. Bwriadaf ddefnyddio fy natganiad heddiw i dynnu sylw at yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn yn yr ysbryd Wythnos Addysg Oedolion.
Bydd Aelodau'n ymwybodol, yn fy nghytundeb blaengar gyda'r Prif Weinidog, ein bod ni wedi ymrwymo i archwilio sut y gallwn gyflwyno hawl Gymreig newydd i ddysgu gydol oes. Mae gwaith wedi dechrau o fewn y Llywodraeth a gyda'r sector dysgu oedolion ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am gynnal seminar diweddar ar y mater, ac rwyf wedi gofyn i CCAUC hyrwyddo a herio swyddogaeth prifysgolion o ran addysg oedolion, cymunedol a gydol oes sy'n seiliedig ar leoedd.
Euthum i wobrau dysgwr y flwyddyn sy'n oedolyn Inspire! ar 5 Mehefin, ac rwyf eisiau, unwaith eto, llongyfarch Andrea Garvey, a enillodd wobr dysgwr y flwyddyn sy'n oedolyn Inspire! eleni. Y gwobrau hyn yw'r llwyfan lansio ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, ac fe'm syfrdanwyd gan ymroddiad, cydnerthedd a dewrder y dysgwyr y cwrddais i â nhw. Roedd eu hagwedd tuag at ddysgu, eu penderfyniad i estyn am fywyd gwell a'u cryfder cymeriad llwyr yn rhyfeddol. Rwy'n gweld tebygrwydd yn nibenion ein cwricwlwm ysgol newydd—i ddatblygu dinasyddion a dysgwyr mentrus, ymgysylltiol ac uchelgeisiol. Ac mae'r un mor ddilys ystyried y rhain fel y dibenion ar gyfer dysgu gydol oes.
Os ydym am lwyddo i wneud Cymru yn genedl gref a hyderus, sef ein huchelgais, yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn pobl drwy gydol eu bywydau. Mae ein polisi dysgu oedolion yn rhoi blaenoriaeth briodol i sgiliau hanfodol, ac rydym yn cynnig y ddarpariaeth hon yng nghanol ein cymunedau lle mae ein dysgwyr yn teimlo'n ddiogel. Ond ni allwn ddiystyru'r niferoedd enfawr o bobl sydd angen ailsgilio neu wella. Ni allwn fforddio gadael i bobl aros ar waelod yr ysgol gan nad ydym wedi rhoi'r cyfle iddynt ddringo i fyny. Dyna pam yr wyf yn falch bod ein rhaglenni dysgu a chyflogadwyedd cymunedol yn cefnogi ein hoedolion mwyaf agored i niwed. Rydym yn darparu sgiliau hanfodol, cymwysterau a hyfforddiant paratoi at waith i gynorthwyo pobl i oresgyn rhwystrau rhag cael gwaith, wrth ailsgilio ac uwchsgilio dysgwyr sy'n gweithio ac yn ddi-waith.
Mae ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio ar waith bellach ac mae'n ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth gyrfaoedd proffesiynol er mwyn cael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn yr hydref, byddwn yn dechrau cynllun treialu dwy flynedd ar gyfer ein cyfrifon dysgu personol sydd â'r nod o gefnogi oedolion sydd mewn swyddi â chyflog isel neu sydd â sgiliau isel i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen naill ai i newid gyrfa neu i symud ymlaen i lefel uwch yn eu cyflogaeth bresennol. Llywydd, nid oes un diffiniad unigol o ddysgu oedolion. Mae'n cwmpasu dysgu ar bob lefel, o'r cyfnod cyn mynediad hyd at radd, ac mae'n digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau, o ganolfannau cymunedol i'n prifysgolion. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu mynediad at addysg bellach ac uwch, gan sicrhau bod unrhyw ddysgwr sydd â'r potensial i elwa ar addysg ôl-16 yn cael cyfle i'w gyflawni.
Heno, byddaf yn mynd i dderbyniad i ddathlu hanner canmlwyddiant y Brifysgol Agored. Ers i'r Brifysgol Agored agor ei drysau gyntaf ym 1969, mae dros 200,000 o fyfyrwyr yng Nghymru wedi astudio gyda nhw. Mae'r Brifysgol Agored yn darparu cyfleoedd dysgu o bell i tua 9,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n golygu mai dyma'r darparwr mwyaf o addysg uwch ran-amser yn y wlad. A hi yw'r Brifysgol fyd-eang sydd hefyd yn brifysgol leol i bawb. Rwy'n teimlo'n falch iawn bod y Brifysgol Agored wedi'i chontractio i ddatblygu ein rhaglenni addysg athrawon newydd a fydd yn ehangu cyfranogiad mewn addysgu. Bydd y llwybrau newydd hyn i addysgu yn chwalu rhwystrau, gan ddarparu cenhedlaeth gyfan o athrawon o wahanol gefndiroedd, gwella profiad dysgu disgyblion yn ein hysgolion ac, yn hollbwysig, cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu.
Wrth gwrs, mae dysgu rhan-amser o bell hyblyg yn gwneud cyfraniad economaidd, cymdeithasol ac unigol sylweddol ac mae ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr wedi gweld y Brifysgol Agored yn adrodd am gynnydd mewn ceisiadau o bron i 50 y cant, a chynnydd o fwy na thraean yn nifer yr israddedigion rhan-amser sy'n cael cymorth i fyfyrwyr. Bydd tua hanner y myfyrwyr rhan-amser yr ydym yn eu cefnogi'n ariannol eleni yn cael y lefel uchaf o grant cynhaliaeth ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr sydd ag ymrwymiadau ariannol eraill yn eu bywydau. Byddwn i'n atgoffa'r Aelodau mai Cymru yw'r unig wlad yn Ewrop i ddarparu cymorth cynhaliaeth cyfatebol mewn benthyciadau a grantiau ar draws moddau a lefelau astudio. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar gymhellion i ôl-raddedigion a chymorth i ddysgwyr hŷn yn fuan iawn.
Mae'r wythnos hon hefyd yn nodi wythnos ffoaduriaid, a dydd Iau, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, byddaf yn lansio'r prosiect integreiddio ffoaduriaid, AilGychwyn. Bydd y fenter hon yn cynnig siop un stop i ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn darparu cymorth a chyngor ar faterion amrywiol, gan gynnwys darpariaeth addysg a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill.
Mae ymgyrchoedd fel Wythnos Addysg Oedolion yn hanfodol. Dathliad yw'r wythnos hon; dathliad o bob agwedd ar ddysgu oedolion, a bydd yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd gyda llu o weithgareddau'n cael eu cynnal ar draws ein cenedl. Ni ellir byth tanbrisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn dysgu, ar bob lefel. Gall cymryd rhan mewn gweithgaredd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fod y cam cyntaf allweddol yn ôl i ddysgu ac ar lwybr i greu bywyd newydd a gwell, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac ymunaf â hi i longyfarch Andrea Garvey. Nod Wythnos Addysg Oedolion yw codi ymwybyddiaeth o werth dysgu oedolion, dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau'n gadarnhaol. Y ffaith yw, mae dysgu oedolion yn allweddol i economi flaengar ac amrywiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhoi'r gallu i weithlu Cymru feithrin sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn gwella canlyniadau cyflogaeth. Felly mae'n hanfodol bod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw gyfnod yn eu gyrfa, boed hynny drwy ddysgu mewn gwaith neu astudiaeth bersonol.
Er gwaethaf manteision cymdeithasol ac economaidd, dros y blynyddoedd, mae nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned wedi gostwng yn sylweddol. Mae addysg i oedolion wedi wynebu ergyd toriadau Llywodraeth Lafur Cymru ers amser, sydd wedi llesteirio gallu'r sector i ddarparu cyrsiau hyblyg, cyson a hygyrch, gan gyfrannu at y gostyngiad yn y niferoedd a gofrestrodd. Mae ond yn iawn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'n llawn i roi blaenoriaeth i'r sector ymylol hwn, er mwyn sicrhau y gall Cymru gynnig safon uchel o gyfleoedd dysgu i oedolion yn gyson ym mhob rhan o Gymru—gogledd, dwyrain, de a gorllewin.
Y prif heriau sy'n wynebu dysgwyr sy'n oedolion yw sut i gydbwyso gwaith ac ymrwymiadau teuluol ynghyd â rhwystrau ariannol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog: pa gymorth y mae Gyrfa Cymru yn ei roi i oedolion sy'n ceisio manteisio ar gyfleoedd addysgol? Sut y gellir gwneud gwell defnydd o Gyrfa Cymru er mwyn darparu cymorth a chyngor wedi'i deilwra i oedolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd, yn ogystal â phobl ifanc?
Yn 2016, nododd adroddiad Estyn ar ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned:
Yn y rhan fwyaf o bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned mae gostyngiadau ariannol wedi cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth a lefelau staffio.
Ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod darparwyr dysgu oedolion yn cael y cyllid a'r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen yn amlwg?
Yn olaf, Gweinidog, yn 2017, dywedodd dogfen bolisi Llywodraeth Cymru ar ddysgu oedolion yng Nghymru—fel mater o ffaith, yr oeddech chi yn dweud—ac rwy'n dyfynnu:
Byddwn yn ariannu'r ddarpariaeth o Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol hyd at lefel 2.
Ac rydych yn parhau i ddweud:
Byddwn yn parhau i gefnogi'r ddarpariaeth o Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol hyd at lefel 2.
A ydych wedi cynnal unrhyw asesiad effaith i weld pa mor effeithiol fu'r cymorth ar gyfer cymwysterau o'r fath? Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r hyn sydd angen ei wneud yn fwy i helpu oedolion sy'n dysgu cymwysterau newydd i ennill cymwysterau uwch yng Nghymru? Hefyd, mae'r maes hwn angen pobl ag anableddau, rhai materion eraill, lleiafrifoedd ethnig, LGBT ac yn enwedig cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y maes hwn. Mae'r angen hynny'n ddirfawr i wella'r sector hwn. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am gydnabod pwysigrwydd dysgu oedolion a'r gwir effaith a gaiff hynny ar unigolion ac ar y gymdeithas ehangach? Rwy'n credu, Llywydd, imi grybwyll yn fy natganiad fod gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio ar waith nawr. Diben y gwasanaeth newydd hwn yw darparu ac ymateb i'r union faterion a gododd yr Aelod, drwy sicrhau bod oedolion yn gallu cael cyngor gyrfaoedd proffesiynol a all eu helpu i gael mynediad i addysg oedolion, dysgu seiliedig ar waith, cyfleoedd hyfforddiant ychwanegol, i'w helpu nhw i gyrraedd eu nodau.
Rwyf hefyd yn cydnabod—. A gofynnodd yr Aelod beth arall yr ydym ni'n ei wneud. Soniais yn fy natganiad y byddwn yn cael cynllun treialu newydd ar gyfer cyfrifon dysgu personol yn yr Hydref. Mae'r rheini'n benodol ar gyfer pobl sydd mewn gwaith. Yn aml, mae ein cynlluniau cyflogadwyedd wedi canolbwyntio ar y rheini—yn ddealladwy, yn gwbl briodol—y rhai pellaf oddi wrth gyflogaeth, ond mewn gwirionedd rydym yn gwybod bod pobl mewn gwaith sydd angen cyfleoedd arnyn nhw i uwchsgilio ac ailsgilio, a bydd y cynllun treialu'n ymyrraeth werthfawr ar gyfer y gweithwyr penodol hynny.
O ran cyllid ar gyfer rhan-amser, nid yw'r Aelod yn anghywir. O ystyried effaith cyni, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac nid yw'n afresymol bod penderfyniadau blaenorol wedi canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd amser llawn i'n pobl ieuengaf. Mae'n ddewis anodd, ond credaf fod rhesymeg yn sicr y tu ôl i flaenoriaethu'r dysgwyr hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, lle gallwn, o gofio'r sefyllfa ariannol anodd yr ydym ynddi o hyd, yw dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi dysgu oedolion yn gyffredinol. Felly, er enghraifft, rydym wedi cyflwyno dull ariannu rhan-amser newydd sy'n diogelu'r ddarpariaeth o Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, sgiliau sylfaenol ac ailsefyll TGAU, ond mae hefyd yn dyrannu gweddill y cyllid hwnnw ar lefel data poblogaeth ar draws pob coleg. Felly, wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, lle bynnag yr ydych yng Nghymru, rydym yn gobeithio ail-ymgysylltu darpariaeth ran-amser, a fu'n rhy dameidiog yn y gorffennol. Rydym yn cyflwyno trefniadau pontio yn y flwyddyn ariannol hon i sicrhau na fydd yr un coleg unigol ar ei golled. Ond, bydd canlyniad y diwygiad hwn yn golygu y bydd mynediad i addysg bellach ran-amser yn llawer tecach nag a fu yn y gorffennol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni i gyd gydnabod pwysigrwydd Wythnos Addysg Oedolion ac i ddiolch i bawb—fel sydd wedi cael ei wneud yn barod—yn y sector sydd yn gweithio mor ddiwyd yn y maes yma. Dwi'n cydnabod ei fod yn beth pwysig iawn, yn rhan o'n cymdeithas ni, fod pobl yn gallu dysgu pa bynnag oedran ydyn nhw, pa bynnag bwnc yw e, os ydyw e ynglŷn ag ailsgilio neu os ydyw e yng nghyd-destun jest eu bod nhw eisiau dysgu rhywbeth newydd mewn cyfnod o fywyd. Felly, rwy'n credu mai dyna sydd yn bwysig—ein bod ni'n cydnabod dysgu am yr hyn ydyw e yn hytrach na dysgu er mwyn cael rhyw fath o arholiad ar y diwedd.
Mae gen i gyfres o gwestiynau. Yn sicr, yr wythnos yma, dŷn ni wedi clywed bod 180 o swyddi wedi'u peryglu yn Allied Bakeries. Dŷn ni wedi clywed, yn sicr, fod swyddi yn y fantol yn Ford ym Mhen-y-bont. Mae hynny wedyn yn mynd i effeithio ar y system addysg oherwydd mae'n siŵr bod nifer fawr o'r bobl hynny sydd yn gweithio yn y sectorau yma yn mynd i eisiau ailsgilio ac eisiau ffeindio swyddi eraill. Blwyddyn diwethaf, fe wnaethom ni glywed y Future Advocacy think tank yn rhagfynegi bod un mewn tair swydd yng Nghymru mewn perygl o awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar, ac mai Alyn and Deeside yw'r etholaeth fwyaf bregus a fydd yn gweld yr ergyd fwyaf sylweddol. Felly, o ystyried yr impact economaidd sydd ohoni, o ystyried rhai o'r ffactorau awtomeiddio, a allwch chi ddweud wrthym ni os ydych chi wedi ystyried y rhagolygon yn ddifrifol? Pa ddarpariaethau y gallwch chi eu gwneud i ailsgilio ac uwchsgilio y bobl hynny sydd yn mynd i fod yn gofyn am hynny? Sut ydych chi'n mynd i gynnwys hynny o fewn y system addysgu i oedolion? Wedyn, yn dilyn o hynny, pa drafodaethau a ydych chi wedi’u cael gyda Gweinidog yr economi i liniaru effeithiau datblygiad awtomeiddio ar ein gweithwyr, a'r effaith a gaiff hynny ar gyfleoedd o fewn y sectorau penodol dwi wedi siarad amdanynt yn flaenorol?
Mae nifer ohonom ni wedi cael e-byst gan Age Cymru, a dŷch chi wedi trafod y ffaith eich bod chi'n mynd i wneud datganiad penodol ar bobl hŷn, felly diolch am hynny. Ond, dŷn ni wedi cael e-byst gan Age Cymru yn dweud bod dysgu gydol oes, a'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol, yn bwysig i nifer fawr o bobl hŷn i ennill sgiliau newydd a gwybodaeth. Dŷn ni wedi cael y Bevan Foundation yn dweud mai dim ond un mewn 20 o ddysgwyr mewn addysg gymunedol sydd yn 65 mlwydd oed neu'n hŷn. Mae rhesymau fel lleoliad cyrsiau, diffyg hygyrchedd cyfleusterau, diffyg ystod cyrsiau a diffyg hysbysebu, yn enwedig diffyg hysbysebu i ffwrdd o'r we, yn rhwystrau iddyn nhw allu ymwneud ag addysg yn y ffordd y bydden nhw'n hoffi. Felly, beth yw'ch asesiad chi o ddysgu gydol oes fel arf lles, yn ychwanegol iddo fod yn brofiad i ennill sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad gwasanaethau ac adnoddau, fel bod dysgu gydol oes yn cael ei weld fel arf i ddelio â chamau mewn bywyd, gan gynnwys unigrwydd, ymddeoliadau, galar ac yn y blaen? Wedyn, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog llywodraeth leol i wella hygyrchedd a symudedd mewn llyfrgelloedd a chanolfannau addysg eraill i sicrhau nad yw'r rhain yn rhwystrau ar gyfer dysgu?
Y drydedd elfen sydd gen i: rydych chi wedi clywed gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, dwi'n credu, ynglŷn â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae colegau addysg bellach a phobl yn y sector honno wedi dweud wrthyf i fod yna rai anawsterau gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r awgrymiadau sydd yn cael eu rhoi iddyn nhw. Mae yna dystiolaeth wedi bod gan y sector honno sy'n awgrymu bod yna gap rhwng beth mae'r bartneriaeth a'r Llywodraeth yn disgwyl iddyn nhw ei wneud, a beth sydd yn realistig iddyn nhw ei wneud ar lawr gwlad, ac efallai eu bod nhw'n rhy fanwl ynglŷn â'r hyn sydd yn cael ei ofyn ganddyn nhw. Felly, dwi'n cydnabod bod angen rhoi rhyw fath o seilwaith i arian y Llywodraeth, ond oes yna ffordd i fod yn fwy hyblyg gyda'r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad o ran y cyrsiau sydd yn cael eu rhoi arno fel bod yna ymateb i beth mae pobl eisiau ei wneud, ond hefyd ymateb i beth mae'r economi a beth dŷn ni ei angen fel cenedl?
Roeddwn i mewn cyfarfod gyda rhai cyn-filwyr ddoe ac roedden nhw'n sôn wrthyf am y ffaith, pan fyddan nhw'n gadael y lluoedd arfog, na chydnabyddir eu sgiliau trosglwyddadwy yn eithaf aml, felly efallai fod ganddyn nhw sgiliau penodol mewn peirianneg ac ati, ond ni chaiff hynny ei gydnabod os oes angen iddyn nhw fynd i dirwedd waith gwbl wahanol, ac maen nhw yn y diwedd yn byw ar fudd-daliadau, neu'n ddigartref, mewn gwirionedd, gan nad ydyn nhw wedi dod o hyd i rywle lle y gallant fynd iddo i geisio newid y realiti hwnnw dros eu hunain, a chael swydd mewn rhyw faes a fyddai'n gweddu iddyn nhw. Ond dydyn nhw ddim yn cael gwybod sut y gallant drosglwyddo'r sgiliau hynny. Tybed pa waith y gallwch chi ei wneud drwy'r sector addysg i oedolion i helpu'r cyn-filwyr hynny i wireddu eu potensial fel nad ydyn nhw yn y sefyllfaoedd agored i niwed hynny.
Fy nghwestiwn olaf oedd—byddwch chi'n ymwybodol o adolygiad Augar a'r ffaith eu bod yn dilyn y cysyniad hwn o ddysgu drwy fywyd, a byddwch chi'n ymateb i hynny, rwy'n gwybod. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am y cyfrifon dysgu personol. Roeddwn i eisiau deall ai'r un peth oedd hynny, neu a oedd yn rhywbeth yr ydych chi'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU arno, oherwydd rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Brifysgol Agored yn enwedig sydd â diddordeb mawr yn y gwaith o ehangu'r math hwnnw o beth, pryd, os ydych chi'n gweithio mewn swydd a'ch bod wedi llwyddo i wneud yn eithaf da ond nad oes gennych radd, neu os oes unigolyn arall mewn sefyllfa lle mae eisiau ennill cymwysterau ychwanegol ac na all gael cymorth ariannol i wneud hynny, sut ydym ni'n hwyluso'u gallu i wneud hynny pan fyddan nhw mewn gwaith amser llawn a phan fydd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw. Felly, byddai unrhyw beth sydd gennych chi i'w ychwanegu at eich ymateb i'r cwestiwn blaenorol gan Mohammad Asghar yn ddefnyddiol iawn, diolch.
A gaf i ddiolch i Bethan Sayed am gydnabod, unwaith eto, y gwaith caled sy'n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru yn y maes pwysig hwn, a hefyd i gydnabod mai dysgu anffurfiol, heb ei achredu, yw'r cam cyntaf un y mae'n rhaid i rai pobl ei gymryd cyn iddyn nhw symud ymlaen i ddysgu achrededig mwy ffurfiol? Felly weithiau gallwn fod yn rhy ddilornus o'r hyn sy'n ymddangos yn weithgaredd cymdeithasol yn bennaf, ond mewn gwirionedd gall hynny fod yn elfen hollbwysig yn aml er mwyn i rywun fagu hyder, meithrin ei hunan-barch, ailgysylltu â dysgu, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny nad oedd yr ysgol efallai, a'u cyfle cyntaf i ddysgu, wedi bod yn brofiad cadarnhaol. Felly, fel chi, rwy'n credu y dylem ni gydnabod swyddogaeth cyfleoedd anffurfiol, heb eu hachredu. Mae'n bwysig.
Gofynnodd yr Aelod a wyf i wedi yn cael cyfarfodydd gyda'm cydweithiwr, Ken Skates ynghylch effaith awtomeiddio. Mae'r Llywodraeth yn effro iawn i'r bygythiadau ond hefyd y cyfleoedd yn sgil awtomeiddio. Yn ddiau mae angen i ni fod mewn sefyllfa lle mae'r gweithlu yng Nghymru yn fedrus er mwyn manteisio. Bob tro rydym wedi gweld chwyldro diwydiannol neu gam mawr ymlaen ym myd gwaith, yn naturiol ceir ofn mawr ynghylch yr effaith negyddol, ond ceir cyfleoedd hefyd, ac mae angen inni fod yn ymwybodol iawn o ble fydd y cyfleoedd am waith yn y dyfodol, a sicrhau bod gan ein gweithlu'r sgiliau a'r doniau i allu newid ac i allu symud i'r cyfleoedd newydd hynny os byddant ar gael. Mae'r Llywodraeth wedi comisiynu darn penodol o waith i edrych ar effaith bosibl awtomeiddio ar economi Cymru a'r hyn y bydd angen inni ei wneud i ymateb i unrhyw gyfleoedd newydd a fydd yn deillio o hynny.
Cydnabu'r Aelod fy mod, yn fy natganiad, wedi dweud y byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â dysgwyr hyn cyn hir, a byddaf yn cwrdd â'r comisiynydd pobl hŷn ddydd Iau yr wythnos hon i drafod y materion pwysig hyn ar gyfer ein dinasyddion hŷn. Ar ôl ymweld â dosbarth ym Merthyr Tudful yn ddiweddar—. Rwy'n credu bod eu dysgwr hynaf yn ei 90au. Nid oedd gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd parhau i sicrhau bod y cyfle penodol hwnnw ar gael. Roedd yn sicr yn darparu pob math o fanteision iddi hi o ran brwydro yn erbyn unigedd cymdeithasol, gan sicrhau ei bod yn cael cyfle i ymgysylltu â phobl o'r un meddylfryd ar bwnc a oedd yn wirioneddol bwysig iddi hi, ac, unwaith eto, rydym ni am wneud yn siŵr, wrth inni ddatblygu ein hawl Cymraeg i ddysgu gydol oes, ein bod yn cynnwys ein dinasyddion hŷn yn hynny.
Mae'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn ffordd fwyfwy pwysig inni allu cysoni ein darpariaeth addysg a hyfforddiant ag anghenion ein heconomi. Weithiau, gall fod tensiwn rhwng yr hyn y mae pobl eisiau ei astudio a dysgu amdano a pha gymwysterau sydd eu hangen i allu cael gwaith â chyflog. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi neilltuo swm o arian i golegau addysg bellach er mwyn iddyn nhw allu ymateb yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol i gais ein partneriaeth sgiliau rhanbarthol, ond cydnabyddwn fod angen bod yn hyblyg weithiau ar sail sefydliad i sefydliad. Rydym ni'n ymwybodol o hynny. Ond fy ngalwad i'n cydweithwyr mewn addysg bellach, a draddodwyd mewn araith yn eu cynhadledd yr wythnos diwethaf, yw'r angen i gydweithio â'n partneriaeth sgiliau rhanbarthol er mwyn i'n dysgwyr, o ba oedran bynnag, allu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd dysgu sy'n mynd i fod yn ystyrlon yng nghyd-destun cyflogaeth yn eu hardal. Gan fod y rhan fwyaf o ddysgwyr eisiau defnyddio'r sgiliau hynny i weithio eu ffordd i fyny'r ysgol gyflogaeth i roi cyfleoedd iddyn nhw a'u teuluoedd. Mae sicrhau bod cysondeb rhwng yr hyn y mae ein colegau Addysg Bellach yn ei ddarparu a'r anghenion a'r cyfleoedd ar gyfer swyddi ar ôl cyfnod o ddysgu yn gwbl hanfodol.
Mae'n amlwg fy mod yn cymryd llawer iawn o ddiddordeb yn adroddiad Augar. Yr hyn sy'n ddiddorol am Augar yw'r penawdau, wrth gwrs, sy'n rhoi sylw mawr i strwythurau ffioedd ar gyfer Addysg Bellach, ond mewn gwirionedd mae gan adroddiad Augar rai pethau diddorol iawn i'w dweud am ddysgu gydol oes. Rwy'n credu, a dweud y gwir, yng Nghymru ein bod ni mewn sefyllfa bosibl i edrych ar rai o'r argymhellion hynny ac efallai symud yn gyflymach na'n cyd-Aelodau yn Lloegr, o ystyried yr anhrefn sy'n teyrnasu ar hyn o bryd. Cwestiwn arall o ran cyd-destun Lloegr yw a fydd adroddiad Augar byth yn gweld golau dydd. Ond mae ganddo rai pethau diddorol i'w dweud am addysg bellach a dysgu oedolion, ac, fel y dywedais, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn datblygu hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru.
Ond, wrth gwrs, mae'r Aelod yn sôn am gyfleoedd i astudio'n rhan-amser. I'r bobl hynny sydd efallai â chyfrifoldebau gofalu neu weithio ond sydd eisiau'r cyfle i ail-ymgysylltu â dysgu, dau ddull ymarferol iawn o wneud hynny yw ein cefnogaeth i ddysgwyr rhan-amser. Fel y dywedais, mae'r Brifysgol Agored wedi gweld cynnydd o 50 y cant mewn ceisiadau eleni oherwydd ein bod yn rhoi'r cymorth ariannol i alluogi'r unigolion hynny i ddychwelyd i astudio. Ond rwyf hefyd yn cydnabod efallai nad yw cwrs llawnamser o'r fath yn iawn i'r unigolyn. Bydd ein cyfrifon dysgu personol yn rhoi mwy o hyblygrwydd yn ein hardaloedd treialu yn y gogledd a'r de-ddwyrain lle gall fod yn gwrs byrrach neu'n gymhwyster proffesiynol penodol y mae ei angen i'ch helpu chi i newid gyrfa neu symud i fyny'r ysgol yrfa. Felly, mae hynny'n rhoi blas i chi o'r ffordd hyblyg yr ydym yn ceisio ei defnyddio i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n ceisio ymgysylltu â dysgu, i'w cynorthwyo nhw a'u rhagolygon nhw o ran cyflogaeth.
Mae'n wych cael y datganiad hwn yn Wythnos Addysg Oedolion, oherwydd ei fod yn ein hatgoffa ni nad yw byth yn rhy hwyr. Beth bynnag yw eich oedran chi, rydych chi'n parhau i ddysgu. Roedd yn sicr yn wir yn fy achos i pan es i yn ôl i wneud fy Meistr yng nghanol fy 30au, yr oedd yn wir am fy niweddar fam pan wnaeth hi ei chwrs Prifysgol Agored yn ei 60au, ac yr oedd yn sicr yn wir pan oeddwn yn cynnal cymhorthfa yn y Gilfach Goch ddydd Gwener diwethaf, pan, tua diwedd y gymhorthfa, wrth imi gael cwpanaid o de, cyn i'r ganolfan ddydd roi cinio pysgod a tharten cwstard hyfryd i mi hefyd—cyn imi wneud hynny, daeth Gwyn David, yn 70 mlwydd oed i mewn. Roedd Gwyn eisiau dweud stori fach wrthyf i. Bu yma yng Nghaerdydd yn yr hen gyfnewidfa lo yr wythnos diwethaf, yng ngwobrau Inspire! Enillodd Gwyn David, yn 70 mlwydd oed—dyn na chafodd fywyd hawdd a aeth, yn 19 oed, i mewn i Hensol â mân anawsterau dysgu, a threuliodd 20 mlynedd o'i fywyd yn goresgyn y problemau hynny a chael gwybod na fyddai'n gallu cyflawni—gwobr dysgwr y flwyddyn yng ngwobrau Inspire! yn 70 mlwydd oed. Mae wrth ei fodd ag addysg, mae'n hoff iawn o ddysgu, mae wrth ei fodd yn dweud wrth bobl eraill am hynny.
A dyna yw'r hyn yr ydym eisiau ei 3ddweud yma: o ddifrif, beth bynnag ydyw, pa un a yw'n newid gyrfa, hyfforddiant newydd, addysg newydd neu, a dweud y gwir, gwneud pethau fel y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud ar hyn o bryd ym mhob canolfan gymunedol, ym mhob neuadd, ym mhob llyfrgell—twristiaeth, TG, ymgynghori, ysgrifennu CV, prynu a gwerthu i fusnesau bach, rheoli straen—mae angen hynny ar bob un ohonom ni—Sbaeneg ar gyfer y gwyliau, Ffrangeg ar gyfer y gwyliau, garddio organig—. Neu Goleg Penybont, sef coleg addysg bellach y flwyddyn yng ngwobrau addysg bellach TES eleni, ac yn rhagorol ddwywaith yn ôl Estyn, gan ddarparu, yn Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, sesiynau rhagflas am ddim mewn pethau fel garddwriaeth neu ieithoedd modern, ac ati. Nid yw byth yn rhy hwyr. Mae angen yr ail gyfle hwnnw arnom ni i gyd. Mae angen trydydd, pedwerydd a phumed cyfle ar rai ohonom ni hefyd, ond rydym ni'n parhau i ddysgu, ac rwy'n credu bod y datganiad heddiw i'w groesawu, oherwydd mae'n dweud, yn yr amrywiaeth o ddysgu i oedolion sydd gennym ni—yn amser llawn, yn rhan-amser, yn gyrsiau rhagflas a phopeth arall—y dylai pawb barhau i ddysgu ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cyfle hwnnw. A'm cwestiwn i'r Gweinidog yw hyn: sut ydym ni'n gwneud yn siŵr—? Beth yw'r arfer gorau o ran cydgysylltu hyn fel bod pobl yn gwybod, lle bynnag y byddan nhw—yn y Gilfach Goch neu yng Nghaerau, neu ble bynnag, nid dim ond yn y canolfannau dysgu—bod cyfleoedd ar eu cyfer nhw? Beth yw'r arfer gorau wrth rannu'r cydgysylltu hwnnw fel bod pawb yn gwybod bod ganddyn nhw'r ail gyfle hwnnw?
A gaf i ddweud mewn ymateb y cefais y cyfle i gwrdd â Gwyn yn y seremoni wobrwyo? Fel y mae'r aelod newydd ei ddweud, yn 19 oed, derbyniwyd Gwyn i Hensol a threuliodd ddegawdau o'i fywyd yn y sefydliad hwnnw. Nid oedden nhw'n flynyddoedd hapus. Treuliodd lawer o'i amser yn ynysig, ar ei ben ei hun ac, mae gennyf i gywilydd dweud, dan ddylanwad cyffuriau a thawelyddion. Mae'r ffaith bod Gwyn bellach yn byw bywyd i'r eithaf ac yn rhan hollbwysig o'r grŵp yn y Gilfach yn wych. A'r hyn yr oedd ganddo i'w ddweud wrthyf oedd nad oes ganddo unrhyw fwriad o roi'r gorau i ddysgu yn fuan. A'r hyn y mae dysgu wedi'i roi iddo yw pŵer—pŵer dros ei fywyd i wneud penderfyniadau ynghylch sut y mae'n treulio'i amser, a phŵer, am gynifer o flynyddoedd pan oedd yn Hensol, nad oedd yn eiddo iddo.
Os nad ydych chi wedi'ch ysbrydoli gan Gwyn, yna bydd Andrea Garvey yn eich ysbrydoli gan iddi, yn fam ifanc, ddyheu am astudio'r gyfraith. Ac erbyn hyn mae hi wedi gwneud hynny. Ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, mae hi'n astudio ar gyfer ei Meistr ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae ganddi angerdd penodol ym maes camweinyddiad cyfiawnder ac mae wedi ymwneud yn helaeth â'r gwaith y mae adran y gyfraith yn Abertawe yn ei wneud i ystyried achosion a chwilio am gyfleoedd newydd i archwilio a fu camweinyddiad cyfiawnder. Cafodd ei henwebu gan aelodau o'i theulu sydd mor falch o'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni.
Gadewais y noson honno—ac, wn i ddim, rwy'n credu y gallai pob un ohonom ni gofrestru ar y cwrs rheoli straen—ac yn sicr fe'm hysbrydolodd i ystyried gwneud fy Meistr, a byddaf i'n hŷn nag yn fy 30au, Huw, ond, fel y dywedasoch chi, nid yw byth yn rhy hwyr ac efallai fod y cyfle hwnnw gennyf i wneud hynny.
Rwyf eisiau gwneud Cymru'n genedl ail gyfle, neu, fel y dywedodd rhywun, efallai fod angen trydydd cyfle, neu bedwerydd cyfle, neu bumed cyfle i fynd yn ôl a chymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Rydym ni wedi ymrwymo fel Llywodraeth i greu'r hawl honno i ddysgu gydol oes. Yr her i mi nawr yw troi'r hawl honno a'r cysyniad hwnnw'n realiti, yn realiti i bobl fel Gwyn, yn realiti i bobl fel Andrea a phwy a ŵyr, hyd yn oed yn realiti i bobl fel Kirsty Williams.
Thank you, Minister, for that statement.