1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd aer? OAQ54068
Diolch. Mae mynd i'r afael â llygredd aer ledled Cymru yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn fy natganiad ar aer glân ddoe, tynnais sylw at gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth ac ystod o sectorau i wella ansawdd aer. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn y cynllun aer glân y bwriadaf ymgynghori yn eu gylch yn yr hydref.
Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad ar aer glân ddoe ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân. Mae Caerllion yn un o 11 ardal ddynodedig ar gyfer rheoli ansawdd aer yng Nghasnewydd. Mae'r holl draffig sy'n llifo allan ar y strydoedd cul yn aml yn cael ei orfodi i stopio oherwydd cyfyngiadau a thagfeydd yn y system ffyrdd. Mae safleoedd o bwysigrwydd archeolegol yn golygu nad oes fawr o gyfle i newid cynllun y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac mae llawer o gerbydau nwyddau trwm yn defnyddio'r ffordd yng Nghaerllion fel ffordd drwodd. Mae Cymdeithas Ddinesig Caerllion yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdod lleol i roi camau gweithredu ar waith ar wella ansawdd aer yn yr ardal. A all y Gweinidog ddweud a fydd y Ddeddf aer glân yn darparu ar gyfer ymgysylltu â chymunedau sy'n ceisio gwella ansawdd aer?
Wel, yn sicr, credaf y byddai'n rhaid iddi wneud hynny. Fel y soniais yn y datganiad ddoe, byddwn yn defnyddio'r cynllun aer glân i weld pa gynigion y credwn fod angen i ni eu cyflwyno ar gyfer y Ddeddf aer glân. Ond yn sicr, credaf fod gweithio gyda chymunedau yn gwbl hanfodol mewn unrhyw ardaloedd rydym yn ceisio'u gwella, a gobeithio y bydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn sicr, yn gweithio gyda hwy pan fyddant yn edrych ar eu dull o reoli ansawdd aer lleol a lle maent yn monitro'r safleoedd, er enghraifft. Felly, rwy'n gobeithio y byddant yn cydweithio.
Weinidog, mae'n Wythnos Carwch Eich Ysgyfaint, a gwn y byddwch yn dymuno—[Torri ar draws.] Dyma ni. Gwn fod pob un ohonom yn dymuno canmol gwaith Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Yn wir, cawsom dynnu ein llun y tu allan i'r Senedd yn gynharach pan oeddem yn sgwrsio am yr angen am Ddeddf aer glân. Ond a gaf fi ddweud wrthych ei bod hefyd yn swyddogol mai'r ffordd gyflymaf o deithio yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig yw ar feic? Cafodd grŵp o gynghorwyr Caerdydd, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr eraill ras drwy ddefnyddio'r gwahanol ddulliau o deithio i gastell Caerdydd. Mewn gwirionedd, efallai bod 'ras' yn or-ddweud ar gyfer rhai o'r dulliau hynny. Roedd y beiciau yn teithio ar gyfartaledd o bron i 12 mya, bysiau ychydig dros 6 mya, ac ar y gwaelod, ceir—prin 5 mya. Mae'n amlwg iawn mai teithio llesol yw un o'r ffyrdd gorau o hyrwyddo nid yn unig effeithlonrwydd o ran teithiau cymudo ond hefyd aer glân, ac rwy'n cymeradwyo'r holl weithgareddau sy'n hyrwyddo'r dulliau hyn o deithio.
Diolch. Yn sicr, rwy'n hapus iawn fod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi cynnal eu hwythnos. Mae hi hefyd—rwyf am roi hys-bys i hyn—yn Ddiwrnod Aer Glân yfory; credaf y dylai pob un feddwl am rywbeth y gallwn ei wneud i'w hyrwyddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £30 miliwn i awdurdodau lleol mewn perthynas â theithio llesol, ac yn sicr, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd. Credaf eu bod yn cyflwyno cynlluniau da iawn mewn perthynas â beicio, ac yn sicr, rwyf wedi gweld y cynghorwyr hynny'n gwibio o gwmpas y lle ar feiciau sawl tro.
Weinidog, wrth gwrs, un o'r ardaloedd mwyaf prysur a llygredig yw'r A470, ac wrth gwrs, mae camau ar waith, fel mesur dros dro, i geisio rheoli faint o lygredd sydd yno drwy gyfyngu ar gyflymder traffig ac ati. Ond wrth gwrs, mae yna nifer o gyfyngiadau cyflymder amrywiol yn yr ardal honno. Ymddengys bod cryn dipyn o yrwyr yn torri'r cyfyngiadau cyflymder hynny. Felly, bydd unrhyw waith monitro sy'n mynd rhagddo'n cael ei effeithio'n andwyol iawn i bob pwrpas, wrth i'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith gael eu torri. Tybed pa drafodaethau rydych wedi'u cael, neu y gallech fod eu cael, gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, efallai, ynglŷn â sicrhau bod y broses honno'n cael ei gwerthuso a'i monitro'n iawn, ac efallai hyd yn oed symleiddio'r newidiadau cyflymder eithaf cymhleth yn yr ardal benodol honno. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Ni fyddwch wedi gweld hynny, ond ymddengys i mi ei fod yn fater sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich cyfrifoldebau o ran llygredd aer.
Diolch. Fel y dywedais yn glir ddoe yn y datganiad llafar, mae trafnidiaeth ffyrdd yn sicr yn cyfrannu at ansawdd ein haer, yn fwy nag unrhyw sector arall yn ôl pob tebyg. Rwyf wedi cael llawer o drafodaethau a chyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a chredaf fod fy swyddogion a'r swyddogion trafnidiaeth yn cyfarfod o leiaf yn wythnosol, mae'n debyg, os nad yn amlach, i drafod hyn.
Unwaith eto, ddoe, soniais am yr angen am well arwyddion yn y safleoedd peilot—y pum safle rydym wedi'u cael gyda'r cyfyngiad 50 mya—ledled Cymru, oherwydd mae'n amlwg nad yw pobl yn deall pam fod y cyflymderau amrywiol wedi'u cyflwyno. Nid ydynt yn sylweddoli eu bod ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Maent yn credu eu bod ar gyfer gostwng cyflymder o bosibl.
Yn amlwg, rydym yn cael ymatebion cymysg i'r safleoedd hynny, a bydd swyddogion yn adrodd ar eu heffeithiolrwydd, ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref, mae'n debyg. Ond soniais ddoe fy mod wedi gwneud y safleoedd—neu bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y safleoedd—yn barhaol o ganol mis Gorffennaf. Rydym yn edrych hefyd—. Bydd gennym werth 12 mis llawn o ddata erbyn diwedd y mis hwn i edrych arno, a chredaf y bydd hynny wedyn yn ein cynghori'n well yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.