2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant? OAQ54069
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae fy nghyd-Aelod, Julie James, yn arwain adolygiad o raglenni cyllido Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Yn ogystal, bydd Lesley Griffiths yn eiriolwr dros dlodi yn ystod paratoadau'r gyllideb, i nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu effaith buddsoddi cyfunol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'r gronfa cymorth dewisol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2013, yn gronfa hanfodol sy'n cefnogi'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. Mae gan blant a theuluoedd yn yr amgylchiadau anoddaf ac sy'n wynebu argyfwng ariannol fynediad at y gronfa hon. Cynhaliwyd gwerthusiad yn 2015 i archwilio effeithiolrwydd y gronfa, a oedd yn cynnwys awgrymiadau ar sut y gellid gwella'r gronfa a'r gwaith o'i gweinyddu. A allai'r Gweinidog amlinellu a fu unrhyw werthusiad pellach o'r gronfa cymorth dewisol, neu a fu unrhyw gynnydd o ran mynd i'r afael â'r awgrymiadau ar gyfer gwella yng ngwerthusiad 2015?
Rwyf am yn dechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r Aelod ynghylch pwysigrwydd y gronfa cymorth dewisol, boed yn daliadau cymorth i unigolion neu daliadau cymorth mewn argyfwng. A bûm yn ymweld â chanolfan Wrecsam lle caiff ei gweithredu heb fod ymhell yn ôl, ac eisteddais a gwrando ar rai o'r galwadau torcalonnus sy'n cael eu gwneud gan bobl sy'n wirioneddol agored i niwed ac sy'n ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.
Fel y dywedwch, cynhaliwyd a chyhoeddwyd gwerthusiad yn 2015 a wnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwella, gan gynnwys defnyddio rhwydwaith partneriaid y gronfa cymorth dewisol i roi cymorth i gleientiaid i wneud cais llwyddiannus. Mae pob un ohonynt wedi'u rhoi ar waith. Cynhaliwyd arolwg pellach hefyd yn 2016, ond yn ogystal â hyn, cynhaliwyd archwiliad gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2017 a wnaeth nifer o argymhellion ar gyfer gwella, ac roedd yn cynnwys pethau fel symleiddio'r broses ymgeisio er mwyn cynorthwyo cleientiaid agored i niwed, gwneud ceisiadau ar-lein am gyllid cymorth brys heb fod angen iddynt gael y cymorth partner a oedd yn angenrheidiol cyn hynny, ac rwy'n falch fod pob un o'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith.
Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn codi ers 2004. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd, pan oedd mwy nag un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 mewn tlodi difrifol. Y mis diwethaf, gwyddom fod y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant wedi dweud mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd mewn tlodi plant y llynedd, ac er i Gomisiynydd Plant Cymru ddweud ym mis Mawrth y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu cynllun cyflawni newydd ar dlodi plant i ganolbwyntio ar gamau pendant a mesuradwy, methodd Llywodraeth Cymru gefnogi galwadau am unrhyw strategaeth drechu tlodi yn ystod dadl yr Aelod unigol yn galw am hyn yma bythefnos yn ôl. Sut felly rydych yn ymateb i'r sylwadau a wnaed i mi ar ôl y ddadl honno gan gynrychiolwyr sector ynglŷn â fy mhwyslais ar yr angen i ganolbwyntio ar yr ysgogiadau polisi Cymreig sydd gan Lywodraeth Cymru o fewn ei phwerau, mai 'Dyma'r union faes yr hoffem ganolbwyntio ein dylanwad arno gan ein bod yn cytuno bod yna bwerau y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru eu defnyddio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi', h.y. o fewn cynllun neu strategaeth yn hytrach nag ymagwedd generig, sydd wedi ein gadael ar y gwaelod am dros 10 mlynedd?
Lywydd, rwy'n synhwyro awgrym o eironi yng nghwestiwn yr Aelod gan nad yw'n sôn mewn gwirionedd am effaith cyni ar dlodi plant yng Nghymru a ledled y DU a sut y mae hynny wedi cael ei chwyddo'n sylweddol nid yn unig o ganlyniad i gyni ond y diwygiadau lles atchweliadol hefyd.
Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau, ac yn y pen draw, i ddileu tlodi plant nid yn unig drwy ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni ar draws y Llywodraeth, boed hynny drwy dai, addysg, iechyd, ond hefyd mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymrwymiad y Prif Weinidog i ad-drefnu rhaglenni cyllido Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Erbyn hyn mae gennym rai cymunedau lle mae un o bob dau blentyn yn byw mewn tlodi, ac mae hynny'n gwbl warthus, ond mae'n rhywbeth y gall eich Llywodraeth wneud rhywbeth yn ei gylch. Gallai Llywodraeth Cymru gael strategaeth yn erbyn tlodi—byddai hynny'n ddechrau da—strategaeth sy'n cynnwys codi'r trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim i'r un lefel â Gogledd Iwerddon, er enghraifft. Mae newyn, sy'n gysylltiedig â chyrhaeddiad gwael yn yr ysgol ac yn ganlyniad tlodi—nid wyf yn gweld llawer o weithredu gan y Llywodraeth mewn perthynas â newyn. A byddai bod yn llawer mwy rhagweithiol ar ddatganoli gweinyddu budd-daliadau i Gymru hefyd yn gwneud gwahaniaeth, gan fod y consensws cyni sydd wedi bodoli yn San Steffan wedi arwain at gymaint o drallod i'n cymunedau yma yng Nghymru. Ond a ydych yn cytuno â mi felly, Weinidog, nad yw'n ddigon nac yn dderbyniol cuddio y tu ôl i bolisïau niweidiol y Torïaid yn San Steffan tra bo cymaint y gellid ei wneud yma yng Nghymru i liniaru tlodi plant?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod un plentyn sy'n byw mewn tlodi yn un plentyn yn ormod, yn enwedig yn 2019. Ni ddylai hynny ddigwydd, ac rwy'n rhannu angerdd yr Aelod ynglŷn â mynd i'r afael â hyn. Ar lefel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni, fel y dywedais wrth Mark Isherwood yn awr, boed drwy'r hyn y gallwn ei wneud o ran addysg, cefnogi gofal plant—. Ac mae hwnnw'n ymrwymiad y mae'r Gweinidog yn bwrw ymlaen ag ef—fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Julie James—o ran y ffordd rydym yn sicrhau cymaint â phosibl o'r cyllid hwnnw a'r pethau hynny er mwyn dod â hyn ynghyd ar draws y Llywodraeth ac i gael yr effaith rydym am ei chael mewn perthynas â lleihau, lliniaru, ac yn y pen draw, dileu tlodi plant.
Cyfeiria'r Aelod at ddiwygio lles a'r posibilrwydd o ddatganoli'r gwaith o weinyddu diwygio lles. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n gweithio arno ar ran y Prif Weinidog. Rydym wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wneud gwaith ar hynny gyda ni. Byddaf yn cyfarfod â hwy yn yr ychydig wythnosau nesaf i fwrw ymlaen â hynny, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod, gan y gwn am eich angerdd a'ch diddordeb yn y maes hwn, ac i siarad â chi am hyn yn y dyfodol.