3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ymateb i faterion gweinyddol parhaus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y newyddion diweddar bod y Brifysgol saith mis yn hwyr yn cyhoeddi ei hadroddiad ariannol? 327
Cyfarfûm â chadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ddoe i gael cadarnhad fod y cyngor yn ymgysylltu â'r brifysgol ac yn monitro eu sefyllfa ariannol yn unol â chyfrifoldebau rheoleiddio ac ariannol y cyngor. Gwnaeth y brifysgol, fel sefydliad annibynnol, ymreolaethol, ddatganiad cyhoeddus am yr oedi cyn cyhoeddi gan gadarnhau nad yw'n effeithio ar eu perfformiad na'u lles ariannol.
Diolch am eich ateb. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig codi'r mater hwn eto, o ystyried rhai o'r adroddiadau a ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf, ac rwy'n derbyn eich bod wedi cyfarfod â CCAUC. Ond roeddwn am ddweud ar goedd fod pob un ohonom yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae'r brifysgol yn ei wneud, ond dyna un o'r prif resymau pam roeddwn yn awyddus i godi hyn eto, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones. Ac ni allwn fod yn fodlon â'r datganiadau cyhoeddus a gafwyd hyd yma ynglŷn â materion gweinyddol a rheoli yn y brifysgol. Credaf mai ein rôl ni yw craffu ar yr agwedd benodol honno, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod hynny'n digwydd. Oherwydd, er y byddai unrhyw Weinidog addysg mewn unrhyw ran o'r byd yn dweud bod prifysgolion yn gyrff ymreolaethol, maent hefyd yn derbyn arian cyhoeddus, ac felly ni allant fod uwchlaw craffu neu oruchwyliaeth, ac yn fy marn i, mae ganddynt ddyletswydd gyhoeddus i fod yn fwy clir.
Felly, dechreuodd y camau i atal yr uwch reolwyr yn y brifysgol dros dro yn hwyr y llynedd, ac oddeutu chwe mis yn ddiweddarach, ceir dryswch o hyd ynglŷn â manylion yr hyn a ddigwyddodd a pham fod unrhyw ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo. Pe gallech roi mwy o eglurder ar hynny, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae staff yn y brifysgol wedi cysylltu â mi a chyd-Aelodau gan ddweud wrthym fod yr ymchwiliad yn cael ei ohirio'n fwriadol. Nawr, nid wyf am wneud sylwadau ar gywirdeb hynny, ond dyna'r hyn y maent wedi'i ddweud wrthyf mewn e-byst. Felly, byddai amcangyfrif o ran pryd y dylem ddisgwyl canfyddiadau ymchwiliad a chyhoeddi unrhyw adroddiad yn cael ei groesawu, pe gallech ei roi. Rydych wedi sôn eich bod wedi siarad â CCAUC a'u bod yn fodlon â'r ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, ond a ydych yn deall bod yr holl gamau priodol a amlinellir o fewn rheolaeth CCAUC wedi eu cymryd, ac a ydych yn credu nad dyma'r amser i feddwl am natur unrhyw ymyrraeth a ddigwyddodd hyd yma?
Rwyf hefyd yn pryderu nad yw llys y brifysgol, hyd y gwn i, wedi ymgynnull eleni. Cafodd eu cyfarfod ym mis Chwefror ei ganslo, a dywedwyd wrthyf fod cyfarfod newydd yn cael ei gynllunio ar gyfer mis Mai, ond hyd y gwn i, nid wyf wedi cael e-bost yn dweud wrthyf pryd y bydd unrhyw gyfarfod newydd yn cael ei gynnal, sef y man lle caiff Aelodau'r Cynulliad gyfle i graffu arnynt. Felly, hoffwn sicrwydd gennych—a ydych chi'n bersonol yn fodlon â chynnydd mewn unrhyw ymchwiliad, fod CCAUC yn cymryd y camau goruchwylio angenrheidiol, ac nad oes unrhyw broblemau systematig ym Mhrifysgol Abertawe? Pa amserlen y byddech yn ei chaniatáu fel y Gweinidog addysg o ran dod i gasgliadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r ymchwiliadau hyn?
I gloi, ar lefel ehangach, credaf nad yw'r digwyddiadau hyn, lle nad yw'r cyhoedd, y myfyrwyr a llawer o staff y brifysgol yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd—hoffwn i chi wneud sylwadau ynglŷn ag a ydych o'r farn fod hynny'n briodol. Rwyf wedi dweud o'r blaen y dylem gael adolygiad llywodraethu ehangach o brifysgolion Cymru mewn perthynas â'r trefniadau goruchwylio fel y gallwn ddeall yn iawn beth sy'n digwydd a deall, o ystyried y symiau sylweddol o arian cyhoeddus sy'n gysylltiedig â hwy—fod y cyhoedd a'r rheini sy'n gweithio yn y brifysgol yn deall yn iawn beth sy'n digwydd fel rhan o'r prosesau hyn. Oherwydd er ein bod yn deall nad oes gennych reolaeth uniongyrchol, mae angen i ni ddeall hefyd fod gennym yr holl bolisïau trosfwaol hyn ar waith lle gallwn graffu ar beth yn union sydd wedi digwydd yma. Diolch yn fawr iawn.
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa ym Mhrifysgol Abertawe ac rwy'n monitro'r sefyllfa ac rwyf wedi cael diweddariadau rheolaidd gan CCAUC. Yn fy nghyfarfod â chadeirydd y cyngor cyllido addysg uwch ddoe, gofynnais gwestiwn uniongyrchol ynglŷn ag a oedd ganddo ef a'r cyngor unrhyw bryderon ynghylch y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe wrth ymdrin â'r achosion disgyblu y mae pob un ohonom yn ymwybodol ohonynt, a chadarnhaodd y cadeirydd wrthyf nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ynghylch y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe. Rwy'n derbyn gair y cadeirydd pan ddywed hynny wrthyf.
O ran adolygiad llywodraethu ehangach o'r sector addysg uwch yn ei gyfanrwydd, rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o gynnwys fy llythyr cylch gwaith i CCAUC eleni, sy'n galw arnynt i gynnal adolygiad o'r fath. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda CCAUC a'n sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod yr adolygiad hwnnw'n cryfhau llywodraethu corfforaethol yn y sector, cyn ein set ehangach o ddiwygiadau i addysg ôl-orfodol a hyfforddiant wrth gwrs, lle byddwn yn diddymu CCAUC ac yn sefydlu comisiwn newydd ag iddo rôl reoleiddio a llywodraethu, nid yn unig ar gyfer addysg uwch, ond hefyd ar gyfer addysg bellach, ac yn wir, pob darparwr addysg ôl-orfodol yn ein gwlad.
Cytunaf â Bethan Sayed fod sefydliad, boed yn gorff ymreolaethol ai peidio, pan fo'n derbyn arian cyhoeddus, yn atebol i'r lle hwn, naill ai drwoch chi neu drwom ni yn uniongyrchol. Rwyf am eich holi ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch am y trafodaethau a gawsoch gyda CCAUC, oherwydd, mewn gwirionedd, credaf mai yma, fel Cynulliad, yw'r man lle gallwn fod yn gofyn rhai cwestiynau. Dywedoch nad oes ganddynt unrhyw bryderon am y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod brawychus hwn, ac roeddech yn fodlon derbyn eu gair ynghylch hynny. Wel, mae'r ffaith ein bod yn sefyll yma yn gofyn y cwestiwn hwn yn dangos y dylid pryderu rhywfaint am y prosesau hynny. Beth yn union a ddywedasant wrthych ynglŷn â'r hyn roeddent wedi'i wneud i fod yn fodlon â'r prosesau a ddilynwyd gan Abertawe? Oherwydd mae'n ddigon posibl mai'r cyfnod hwn o saith mis o oedi cyn cyflwyno'r cyfrifon yw'r unig beth y maent wedi'i wneud yn anghywir, ond buaswn yn synnu pe bai unrhyw un yn derbyn eu gair am hynny. Felly, efallai y gallwch roi rhagor o fanylion inni ynglŷn â hynny.
Dros y blynyddoedd diwethaf wrth gwrs, mae'r brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda o ran gwella ei statws a'i henw da ledled y byd, ac mae'r gwaith a wnaeth wedi creu argraff dda arnaf dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn 2016-17, roedd ei hincwm o ffynonellau myfyrwyr eisoes wedi dechrau gostwng, a gwnaeth hynny i mi feddwl tybed a oedd rhywfaint o'r newyddion drwg mwy diweddar, os mynnwch, wedi dechrau effeithio ar hyder yn y sefydliad. Felly, tybed a oes gennych unrhyw farn ar y mater hwn o hyder yn enw da'r brifysgol, yn enwedig gan ei bod yn chwarae rhan bwysig ym margen ddinesig bae Abertawe. Felly, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r dysgwyr a'u dyfodol fel unigolion, gan nad arian myfyrwyr yn unig sy'n mynd i'r lle hwn ar hyn o bryd. Mae arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat yn mynd i'r fargen ddinesig ar y sail fod hwn yn sefydliad gwych y gallant wneud busnes ag ef. Yn amlwg, nid ydym am danseilio hynny, felly efallai y gallwch roi ychydig o sicrwydd inni ar hynny o beth.
Ac yn olaf gennyf fi, mae'r brifysgol wedi datgan uchelgais i wneud buddsoddiad sylweddol yn ei hystâd a fydd yn dominyddu ei sefyllfa ariannol am y 10 mlynedd nesaf. Nawr, rydym yn sôn am fuddsoddiad hirdymor, yn enwedig o ran ystâd gyfalaf yma. Os felly, mae'r ffaith nad oes gennym adroddiad ariannol un flwyddyn wedi'i gyflwyno mewn pryd yn achos pryder yn y tymor hwy hefyd. Ac yna rwy'n dychwelyd at y cwestiwn cychwynnol hwnnw ynglŷn â beth yn union y gofynnoch chi i CCAUC, oherwydd os nad ydynt yn poeni am y cwestiwn ariannol penodol hwnnw, fe fuaswn i'n poeni. Diolch.
Nid oes gan CCAUC unrhyw bryderon ynghylch statws ariannol a sefydlogrwydd y sefydliad. Bydd eu bwrdd risg, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cyfarfod y mis nesaf, ac ni chefais unrhyw arwydd y byddant yn newid eu hagwedd a'u graddiad o Brifysgol Abertawe o ganlyniad. Yn amlwg, maent yn ymgysylltu ag Abertawe ynghylch cyhoeddi datganiadau ariannol yn hwyr. Fel y gwyddoch, mae'r brifysgol wedi gwneud datganiad cyhoeddus yn dweud nad yw'r rhesymau y tu ôl i'r oedi yn effeithio ar ei lles na'i pherfformiad ariannol. Yn hytrach, mae'r oedi'n deillio o ganlyniad i'r angen am waith pellach sy'n ymwneud ag archwiliad mewnol, a'r ymchwiliad mewnol parhaus yn y brifysgol. Mae CCAUC yn ymgysylltu â'r brifysgol i fonitro achos yr oedi, ac mae'n bwysig eu bod wedyn yn gallu mynd i'r afael â'r problemau cyn gynted â phosibl, mewn perthynas â'r ymchwiliad mewnol, ac yna byddant mewn sefyllfa i gyhoeddi eu datganiadau ariannol.
O ran y broses honno, nid wyf wedi cael unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y prosesau a ddilynwyd gan y cofrestrydd ym Mhrifysgol Abertawe yn brosesau anghywir, ac mae CCAUC yn fodlon ac wedi dweud wrthyf eu bod o'r farn mai'r prosesau a ddilynwyd gan y cofrestrydd a'r brifysgol yw'r prosesau cywir. Yn amlwg, wrth ymdrin â materion personél sensitif o'r fath sy'n ymwneud â bywoliaeth ac enw da unigolion, mae angen i'r prosesau hynny fod yn gadarn ac mae angen iddynt fod yn deg, ac weithiau, mae'n cymryd mwy o amser i weithio drwy'r gwahanol gamau nag y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno. Ond rwy'n glir ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod y prosesau a ddilynwyd wedi bod yn annheg neu heb ddilyn y gweithdrefnau cywir.
A gaf fi eilio'r sylwadau a wnaeth yr Aelod am lwyddiant Prifysgol Abertawe? Mae'r brifysgol wedi perfformio'n eithriadol o gryf mewn amrywiaeth eang o ffyrdd—yn academaidd, ac mae'r effaith y mae wedi'i chael ar y ddinas wedi bod yn sylweddol. Rwy'n hyderus y bydd y brifysgol yn parhau i chwarae rôl wirioneddol bwysig, nid yn unig wrth addysgu ei myfyrwyr ond wrth ein helpu i ddatblygu ein capasiti ymchwil i allu darparu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon a chyfleoedd busnes yn y ddinas a'r rhanbarth. Deallaf gan gydweithwyr fod materion sy'n ymwneud â'r fargen ddinesig yn symud yn eu blaenau.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Andrew R.T. Davies.