– Senedd Cymru am 5:45 pm ar 25 Mehefin 2019.
A symudwn i grŵp 1, ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r diffiniadau yn Rhan 1 y Bil. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 13, a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn—Dai.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gan ddyfynnu geiriau memorandwm esboniadol y Bil yma:
'Diben y Bil Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio.'
Ac, wrth gwrs, hygyrchedd ein deddfwriaeth ydy ysbrydoliaeth y gwelliant sydd wedi'i osod gerbron yn fy enw i y prynhawn yma.
Bu inni drafod nifer o welliannau tebyg o dan Gyfnod 2, a derbyniwyd eu hysbryd gan y Cwnsler Cyffredinol bryd hynny, ac ers Cyfnod 2 mae swyddogion a chyfreithwyr galluog y Llywodraeth yma wedi fy nghynorthwyo i i ddiwygio fy ngwelliannau blaenorol i'r gwelliannau sydd wedi'u gosod gerbron heddiw. Mae yna newidiadau sylfaenol i beth wnaethom ni ei gyflwyno o flaen Cyfnod 2.
Felly, yn y gwelliant yma, yn olrhain ystyr hygyrchedd cyfraith Cymru ydy'r graddau y mae ar gael yn hwylus i aelodau'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, fod cyfraith Cymru wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf diweddaraf yn y ddwy iaith, sy'n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wnaed iddynt, fod cyfraith Cymru wedi'i threfnu'n glir ac yn rhesymegol o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau, a bod cyfraith Cymru yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
Dwi'n falch iawn i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion am bob cymorth wrth drefnu hyn i gyd. Achos dŷn ni'n sefyll yn y Senedd yma, dŷn ni yn gallu deddfu dros bobl Cymru nawr, dŷn ni hefyd yn gallu codi trethi. Mae'r ddeddfwriaeth yma i'w chroesawu'n fawr ac rydym yn llongyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei weledigaeth a'i fenter. Wrth gwrs, i'r unigolyn ar y stryd ac i gyfreithwyr mewn llys barn fel ei gilydd, mae deddfwriaeth yn gallu bod yn hynod gymhleth, gyda chyfuniad o ddeddfau Prydeinig, deddfau Cymru a Lloegr, a nawr wrth gwrs deddfau Cymru yn unig, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gyd yn weithredol yma yng Nghymru.
Ac, o gofio maint sylweddol y ddeddfwriaeth—yn ei gwahanol ffurf; deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth, offerynnau statudol ac yn y blaen—sydd ar gael, heb anghofio wrth gwrs fod yr holl wahanol ddeddfwriaeth yma hefyd yn gallu cael ei diwygio a'i hail-wneud yn gyson dros y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol lefydd, yna mae'r tirlun deddfwriaethol yn gallu bod yn anodd hyd yn oed i'r mwyaf medrus, ac, wrth gwrs, heb sôn am y toriadau i gefnogaeth ariannol i alluogi unigolyn i gael mynediad i gyfraith yn y lle cyntaf, gyda mwy o unigolion yn dewis amddiffyn eu hunain, wrth gwrs, achos prinder y gefnogaeth ariannol. Yna mi allwch fod yn sôn am storm berffaith o gynnydd mewn cymhlethdod y gyfraith yn cael ei gyplysu efo llai o allu i gael gafael ar y gyfraith honno ar ran yr unigolyn yn y stryd. Dyna bwysigrwydd y ddeddfwriaeth yma gerbron.
Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio 59 o Fesurau neu Ddeddfau ers 2007, a bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud tua 6,000 o offerynnau statudol ers 1999. Mae'r bwriad codeiddio, i drefnu deddfwriaeth fesul pwnc mewn un lle, i'w groesawu'n fawr, a hefyd y cyfle i arloesi wrth greu deddfwriaeth yn y Gymraeg sydd efo'r un statws â deddfwriaeth yn y Saesneg, ac mae creu deddfau dwyieithog o'r dechrau yn creu deddfau gwell, fel dywedodd tystion wrthym pan oeddem yn craffu ar y Bil yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae yna heriau a mwynhad wrth ddehongli materion cyfreithiol yn y ddwy iaith yn gydradd, ochr yn ochr, ac rydym yn croesawu'r bwriad arloesol yma yn y Bil.
I gloi, ni allwn anghofio ein hanes. Efallai rwyf wedi crybwyll o'r blaen waith arloesol Hywel Dda wrth greu deddfau i Gymru, gan gynnwys hawliau i fenywod, nôl yn y flwyddyn 909 oed Crist. Roedd honno'n flwyddyn fawr. Gyda chytuno a phasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), gall 2019 fod yn flwyddyn fawr, hefyd.
Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant 13, fel y gwnaethom gyda gwelliant tebyg iawn yng Nghyfnod 2, pan aeth i bleidlais gyfartal. Un o'r anghysonderau gyda'r Bil drafft, yn fy marn i, oedd methiant i ddiffinio cysyniadau allweddol, a oedd yn fy nharo fel ychydig yn anffodus pan oeddem ni'n sôn am Fil sy'n ymwneud â gwneud cyfraith Cymru, yn y ddwy iaith, yn haws dod o hyd iddi, yn haws ei dilyn, yn haws ei gwahaniaethu oddi wrth cyfreithiau eraill a all fod yn berthnasol yng Nghymru yn unig ac, wrth gwrs, yn haws ei defnyddio.
Yn ogystal â hygyrchedd, cysyniad allweddol yn y Bil hwn oedd codeiddio cyfraith Cymru. Ac, fel y nodwyd yma yn y ddadl ragarweiniol rai misoedd yn ôl, nid yw'n air a ddeallir yn hawdd mewn bywyd bob dydd, ac mae ganddo hefyd ystyron gwahanol o fewn defnydd cyfreithiol. Felly, defnyddiwyd geiriad nodiadau esboniadol y Llywodraeth ei hun er mwyn llunio diffiniad yng Nghyfnod 2, ac yna defnyddiwyd tystiolaeth lafar y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod hwnnw i ailddrafftio gwelliant ar gyfer y cyfnod hwn. Gan fod disgwyl datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â chydgrynhoi yr haf hwn, roeddwn yn credu bod pob rheswm i ddisgwyl iddyn nhw fod mewn sefyllfa i ddiffinio codeiddio. Rwy'n falch iawn bod y Cwnsler Cyffredinol yn barod i drafod newidiadau cymedrol i'r ail-ddrafftio hwnnw gyda'r bwriad o'i gefnogi heddiw, yn yr un ysbryd, mae'n ymddangos, ag yn achos gwelliant 13.
Nid oes angen addasu gwelliannau a gyflwynir gan y Senedd bob tro ac yna eu hailgyflwyno yn enw'r Llywodraeth, fel sy'n digwydd yma efallai ychydig yn rhy aml, ac felly diolchaf i'r Cwnsler Cyffredinol am y parch y mae wedi'i ddangos at y ddeddfwrfa hon a'r trafodion. Diolch.
Hoffwn gefnogi'r gwelliant yn enw Suzy Davies. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud cyfraith Cymru yn hygyrch, er mwyn hwyluso a chefnogi ein dadleuon ein hunain, ond, o leiaf yr un mor bwysig, i'r rheini sydd allan yn ymdrin yn ymarferol â'r gyfraith hon, sef proffesiwn cyfreithiol Cymru a Lloegr o hyd. Ac mae gennym Gomisiwn ar Gyfiawnder i Gymru, wedi'i gadeirio mor fedrus gan yr Arglwydd Thomas, ac rwyf wedi bod yn falch, wrth gadeirio'r grŵp cyfreithiol trawsbleidiol, o gytuno i ymgysylltu'n sylweddol â'r comisiwn hwnnw. Ac un mater allweddol y maen nhw'n credu, o ran unrhyw wahaniaeth mewn awdurdodaethau, yw ystyried cyfreithwyr sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru a Lloegr fel un peth—a ydyn nhw'n ystyried rhannu hynny o ran y modd y caiff cyfreithwyr eu rheoleiddio, neu a ydych yn chwilio am y gofynion o ran cymhwysedd, o ran datblygiad proffesiynol a chymhwysiad, na ddylai cyfreithwyr ond gweithredu mewn maes y maen nhw'n gymwys ac yn wybodus ynddo? A chredaf, os byddwn yn cydgrynhoi cyfraith Cymru ac yn ei gwneud yn glir beth yw corff cyfraith Cymru mewn ffordd hygyrch, y bydd yn golygu y bydd llawer mwy o gyfreithwyr yn gymwys ac yn gallu ymwneud â hynny, heb fod yn arbenigol iawn ac yn gorfod treulio cyfran uchel o'u bywyd gwaith yn ymdrin â materion sy'n benodol i Gymru. Ac rwy'n credu, yn enwedig o ran cyfraith landlordiaid a thenantiaid, sy'n faes cymhwysedd mor fawr, bydd hyn yn arbennig o bwysig. Felly, rwy'n cefnogi'n gryf yr hyn y mae Suzy yn galw amdano.
Hoffwn roi sylw i un achos o sensitifrwydd o ran pwy sy'n gwneud y gwaith hwn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydym ni, ni sy'n pasio'r Deddfau hyn—beth yw ein swyddogaeth ni a beth yw ein statws o ran sicrhau bod y gyfraith hon yn hygyrch, yn hytrach na'r Llywodraeth? Nawr, mae gan y Llywodraeth lawer mwy o ran cyfreithwyr yn gweithio iddi a'r capasiti i wneud y gwaith hwn, ond mae'n bwysig, mewn rhywbeth sydd yn hygyrch ac yno ar gyfer bobl Cymru ac eraill, mai gwaith a chorff y Cynulliad hwn ydyw, ei gwneud yn hygyrch a'r ffordd y gwneir hynny, siawns na ddylem ni fel Cynulliad oruchwylio'r broses honno'n iawn, a beth yw'r ffordd orau i'r Cynulliad weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod y gyfraith honno'n hygyrch ac yn ystyrlon er mwyn i bawb ei defnyddio?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae e' wedi eistedd i lawr. Mae e' wedi gorffen. Mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Na, na, mae'n ddrwg gen i. Mae e'n eistedd i lawr. Mae'n ddrwg gen i. A gaf i alw'r Cwnsler Cyffredinol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Dai Lloyd a Suzy Davies am egluro'r meddylfryd sydd y tu ôl i'r gwelliannau y mae'r ddau wedi eu cynnig. Dechreuaf i drwy ddweud fy mod i'n ystyried bod y gwelliannau hyn yn gwella Rhan 1, felly byddaf i yn cefnogi'r ddau welliant.
Gan droi yn gyntaf at welliant 13, fel yr eglurwyd, bydd hyn yn mewnosod diffiniad o hygyrchedd i adran 1 at ddibenion Rhan 1. Mae hygyrchedd y gyfraith yn elfen sylfaenol o reolaeth y gyfraith, ac yn amcan polisi sylfaenol o’r Bil hwn hefyd. Os ydyw am fod yn hygyrch, mae’n rhaid i gyfraith Cymru fod yn glir ac yn sicr o'i heffaith, a hefyd rhaid iddo fod yn hawdd i’w ddefnyddio.
Rwy'n fodlon bod y gwelliant a gynhigiwyd gan Dai Lloyd heddiw yn rhoi diffiniad sy'n mynd i’r afael â'r pedair elfen allweddol hyn o hygyrchedd ac sy'n gynhwysfawr yn y ffordd y mae'n mynegi'r elfennau hynny. Mae'n adlewyrchu'r statws cyfartal i holl ddibenion deddfwriaeth ddwyieithog ac yn darparu prawf ystyrlon i ni ei ddilyn wrth ystyried a yw deddfwriaeth yn hygyrch ai peidio.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o uchelgais hirdymor y Llywodraeth hon i godeiddio cyfraith Cymru. Bwriad cyfundrefnu yw dod â threfn i'r llyfr statud, ac mae'n cynnwys trefnu a chyhoeddi deddfwriaeth drwy gyfeirio at ei chynnwys, a mabwysiadu system lle mae deddfwriaeth yn cadw ei strwythur yn hytrach na chadw i dyfu.
Fel y gall yr Aelodau weld, mae gwelliant 14 a gynhigiwyd heddiw gan Suzy Davies yn mynd i’r afael ar y ddwy agwedd bwysig hyn ar y syniad o godeiddio, ond heb gyfyngu ar ei gwmpas. O'i fframio yn y ffordd honno, rwy'n cytuno bod y gwelliant yn darparu diffiniad defnyddiol i'w gynnwys yn adran 2 o'r Bil.
Os caiff y Bil ei basio, rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad sefyllfa yn nes ymlaen yn yr haf ar gydgrynhoi, codeiddio a strwythur cyfraith Cymru yn y dyfodol. Bydd hyn yn ehangu ar y diffiniad a gynhigir yn awr a bydd yn ategu'r hyn a ddwedwyd yn y drafft tacsonomeg ar gyfer codau cyfraith Cymru a gyhoeddais i pan gyflwynwyd y Bil.
Rwyf felly'n falch o gefnogi'r ddau welliant ac rwy'n annog Aelodau eraill i wneud yr un peth.
Diolch. A gaf i yn awr alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A allaf i ddiolch i Suzy a Mark a hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am eu sylwadau ar y gwelliannau? Dwi ddim yn bwriadu siarad eto yn y drafodaeth yma chwaith, felly, yn ogystal â chydnabod unwaith eto fod yna gryn dipyn o gydweithio wedi bod yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni i addasu'r gwelliannau yma sydd gerbron, mi fuaswn i'n dymuno gweld pasio'r gwelliant yn fy enw i, sydd yn pwysleisio ac yn diffinio hygyrchedd, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain.
Diolch i bawb am ei sylwadau cefnogol, a diolch i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd am ei gefnogaeth. Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r gwelliannau eraill, ond rwyf hefyd yn gwthio hwn i bleidlais ac yn dymuno gweld pawb yn cefnogi pasio'r gwelliant sydd yn fy enw i. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 13 ei dderbyn.