3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i reoli tir sy'n eiddo i Cadw? OAQ54120
Diolch am eich cwestiwn. Mae Cadw yn rheoli eiddo hanesyddol sy'n eiddo i neu dan warchodaeth Gweinidogion Cymru yn unol â'u hegwyddorion cadwraeth a gyhoeddwyd. Mae rheolwyr Cadw hefyd yn adlewyrchu eu dyletswyddau statudol mewn meysydd fel iechyd a diogelwch y cyhoedd ac agendâu polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynaliadwyedd.
Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfu Wayne David AS a minnau â Cadw, yn benodol er mwyn trafod y mater hwn, a chadarnhawyd ganddynt gyda'r nos ar 16 Mai eu bod wedi cymeradwyo contractwyr i saethu nifer o adar ar dir castell Caerffili er mwyn rheoli eu niferoedd. Roedd llygad-dyst i hyn, a phostiodd y llygad-dyst luniau ar y cyfryngau cymdeithasol, a chawsant eu cyhoeddi gan y Caerphilly Observer. O ganlyniad, roedd y cyhoedd yn ddig iawn ynglŷn â saethu'r adar yn y castell. Penderfynodd Cadw ei hun roi'r gorau i'r dull hwn, ac maent wedi dweud wrthym eu bod wedi ei ohirio hyd nes y ceir canlyniadau'r adolygiad o sut y maent yn rheoli poblogaethau adar ar diroedd y castell. Daeth i'r amlwg fod Cadw wedi gallu defnyddio hyn fel dull ers peth amser o dan delerau trwydded gyffredinol a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn Lloegr, nid yw'r trwyddedau hyn yn cael eu dyfarnu mwyach o ganlyniad i her gyfreithiol, ac mae hynny'n parhau. Mae'r pwerau dros y trwyddedau hyn wedi'u datganoli, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac felly maent yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi roi rhywfaint o eglurder inni ynglŷn â hynny, ar y sail honno, ond a wnewch chi hefyd ymrwymo Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Cadw i ddod o hyd i ffyrdd eraill o reoli poblogaethau adar mewn lleoedd fel castell Caerffili?
Diolch am y ffordd rydych wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Gallaf gadarnhau bod popeth a ddywedwch yn ffeithiol gywir. Caniateir gweithgarwch Cadw yn rheoli colomennod fferal o dan drwydded gyffredinol sy'n deillio o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sydd, fel y dywedwch, yn cael ei rhoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cadw wedi treialu nifer o ffyrdd o reoli colomennod fferal yn y gorffennol, gan gynnwys defnyddio rhwydi cyfyngedig, cau tyllau mewn adeiladwaith hanesyddol—sydd braidd yn anodd, fel y gallwch ei ddeall, rwy'n siŵr—gosod pigynnau gwrth-glwydo, defnyddio uwchsain, modelau plastig ataliol a hyd yn oed adar ysglyfaethus. Nid yw'r rhain wedi bod mor effeithiol ag y byddent wedi'i ddymuno, ond gallaf gadarnhau bod y gweithgarwch ar ran Cadw yn gyfreithiol, ond yn sgil y pryder a fynegwyd gennych heddiw, ac yn wir, gan aelodau'r cyhoedd, mae Cadw wedi cytuno i gynnal adolygiad. Maent wedi rhoi sicrwydd i mi y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal ar frys, ac na fydd unrhyw weithgarwch pellach o'r math rydych yn ei ddisgrifio yn digwydd hyd nes y bydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cyngor manwl ar yr agweddau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ar reoli colomennod fferal, a byddaf yn sicr o'ch cynnwys chi ac unrhyw Aelodau eraill sy'n pryderu am y digwyddiadau hyn yn y trafodaethau, wedi i'r adolygiad gael ei gwblhau.
A gaf fi gofnodi fy niolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb prydlon wrth fynd i'r afael â fandaliaeth yn yr amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion, a reolir gan Cadw? Deallaf fod gweithgor ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a'r gymuned leol, wedi cyfarfod ar 23 Mai i ystyried amrywiaeth o opsiynau i fynd i'r afael â'r mater. A all y Dirprwy Weinidog roi gwybod inni a oes unrhyw gynigion wedi dod i law yn dilyn y cyfarfod hwnnw ac a wnaiff ofyn i Cadw adolygu diogelwch mewn safleoedd eraill y maent yn eu rheoli yng Nghymru sydd hefyd yn dioddef o ganlyniad i'r un ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Diolch am wneud y sylwadau hynny. Nid wyf wedi gweld adroddiad manwl ar y trafodaethau hynny eto, ond gallaf gadarnhau eu bod wedi'u cynnal. Y broblem rydym yn ei hwynebu, ac rwyf wedi bod ar y safle, wrth gwrs—yng Nghaerllion a safleoedd hanesyddol eraill—. Yr anhawster gyda'r safleoedd hyn yw, os ydych yn eu ffensio, nid yw hynny'n eu gwneud yn lleoedd deniadol i bobl ymweld â hwy. Mae'n ymwneud â chael cydbwysedd, bob amser, rhwng y mesurau diogelwch lleiaf sydd eu hangen ar safleoedd i sicrhau nad ydynt yn cael eu camddefnyddio a'r modd y byddai'n atal pobl rhag ymweld pe bai safleoedd yn cael eu gor-ddiogelu, fel petai. Felly, mae gennyf rywfaint o ffydd o hyd ym mhotensial addysg, ac yn benodol, cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadwraeth eu hunain—gallaf weld bod fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn nodio—ac mae'r rhaglenni amrywiol sydd gennym bellach gyda llysgenhadon ifanc a phrentisiaid ifanc yn Cadw ac mewn rhannau eraill o fy nghyfrifoldebau yn ffyrdd o gyflwyno pobl ifanc i arferion cadwraeth fel nad ydynt yn teimlo'r angen i achosi unrhyw ddifrod i'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn safleoedd hanesyddol iawn.