1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r honiadau difrifol o hiliaeth a wnaethpwyd yn erbyn Prifysgol Caerdydd gan nifer o fyfyrwyr duon a lleiafrifoedd ethnig (DLlE) dros y dyddiau diwethaf. Rwyf fi, a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon mae'n siŵr, wedi cael adroddiad o dystiolaeth am hiliaeth, ac mae'n syfrdanol i'w ddarllen. Yn ogystal â hynny, mae adroddiad gan y Western Mail yn amlinellu adroddiadau a brofwyd gan is-lywydd sy'n ymadael. Mae fy swyddfa wedi cyfarfod â grŵp o fyfyrwyr DLlE o'r brifysgol, a ddefnyddiodd y term, ac rwy'n dyfynnu, 'hiliaeth sefydliadol' i ddisgrifio'r brifysgol. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi darllen yr adroddiad, ond ar ôl y sioe 'Anaphylaxis', cwynodd rhai myfyrwyr DLlE a chawsant eu difrïo, a chafodd rhai aelodau o staff DLlE eu difrïo mewn parti ysgol feddygol. Gwaeddodd myfyrwyr 'anaphylaxis' ar y myfyrwyr duon a lleiafrifol ethnig.
Nawr, rwy'n deall rôl prifysgolion yn llwyr, ond a allech chi roi sicrwydd i fyfyrwyr sydd â phryderon ac sydd wedi gorfod ymdrin â hiliaeth, ac amlinellu pa gamau y byddwch yn eu cymryd gyda Phrifysgol Caerdydd a chyda'r myfyrwyr sydd wedi mynegi'r pryderon arbennig hyn?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig iawn hwn? Nid oes lle i hiliaeth yn unman yn system addysg Cymru, boed hynny yn ein hysgolion, ein colegau neu ein prifysgolion. Rydym wedi cael trafodaethau fel Llywodraeth gyda'r brifysgol a chyda'r undeb myfyrwyr dan sylw, a deallaf fod deialog barhaus rhyngddynt. Mae'n rhaid i bob prifysgol gael cynlluniau cydraddoldeb strategol sy'n nodi sut y byddant yn sicrhau cyfle cyfartal i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig, ac mae'r cynlluniau hyn yn nodi'r prosesau a'r gweithdrefnau a ddylai fod ar waith er mwyn i sefydliadau fynd i'r afael â digwyddiadau unigol o fwlio neu gam-drin neu aflonyddu hiliol, ac yn amlwg byddwn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad y trafodaethau hynny sy'n mynd rhagddynt drwy'r brifysgol a'r undeb.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy'n falch y byddwch yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd gyda'r brifysgol. Gwn fod Caerdydd wedi mynnu eu bod yn cymryd camau ac wedi derbyn argymhellion yr adroddiad sy'n edrych ar y mater penodol hwn, a heddiw mae'r is-Ganghellor wedi ysgrifennu ataf yn amlinellu rhai o'r ymatebion hynny, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Ond y drafferth yw nad yw rhai myfyrwyr yn credu, yn sefydliadol, fod Caerdydd wedi bod yn barod i ymdrin yn ddigon difrifol â hiliaeth nac ymateb gyda digon o ddifrifoldeb i adroddiadau a chamau gweithredu a argymhellwyd. Maent hefyd yn credu bod problem ddiwylliannol ehangach, yn enwedig mewn rhai ysgolion yn y brifysgol. Felly, nid wyf eisiau tynnu oddi ar lawer o'r profiadau cadarnhaol y bydd myfyrwyr o bob cefndir a diwylliant yn eu cael yn y brifysgol hon, a nodaf fod lefelau boddhad yn uchel ar y cyfan, ond pan geir grwpiau lleiafrifol sy'n amlwg yn teimlo nad yw'r brifysgol wedi mynd i'r afael â'r profiadau hynny'n briodol, a ydych yn cytuno bod hwn yn destun pryder enfawr, a beth arall y gallwch ei wneud, o bosibl, i atal y mathau hyn o ddigwyddiadau rhag digwydd eto yn y dyfodol?
Wel, rydych yn hollol gywir yn dweud bod y rhain yn honiadau difrifol, ac rwy'n disgwyl y bydd y brifysgol yn mynd i'r afael â hwy yn gyflym, yn gydlynus ac yn llwyr, ac yn mynd i'r afael ag unrhyw achosion ymddygiad unigol neu, yn bwysicach efallai, yn mynd i'r afael â'r diwylliant cyfan mewn adran neu ysgol unigol neu'r brifysgol yn gyffredinol. Fel y dywedais, rydym o ddifrif ynglŷn â hyn. Rydym mewn cysylltiad â'r brifysgol er mwyn deall pa gamau y maent yn eu cymryd, a buaswn yn annog unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi dioddef ymddygiad amhriodol o unrhyw fath i sicrhau eu bod yn rhoi'r dystiolaeth honno fel y gallwn gael darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd. Deallwn hefyd y gallai digwyddiadau o'r fath beri i bobl beidio â dewis astudio mewn prifysgol, ac felly mae gan bob prifysgol gynlluniau ffioedd a mynediad sy'n nodi sut y byddant yn cefnogi cyfle cyfartal i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch—ac yn aml ni cheir cynrychiolaeth sy'n agos at fod yn ddigonol o gymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—i sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol iawn mewn addysg uwch, ac rydym hefyd wedi darparu dros £2 filiwn drwy CCAUC eleni i gynorthwyo prifysgolion i ddatblygu eu hymatebion i gefnogi myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl, a allai ddeillio o unrhyw achosion o fwlio o'r math hwn.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Mae eich ateb mewn perthynas ag iechyd meddwl yn fy arwain yn ddi-dor at fy nghwestiwn olaf, ac rwy'n cydnabod ac yn diolch i chi am yr arian rydych wedi'i roi i gymorth iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr. Ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud â pha fuddsoddiad rydych yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â chymorth i staff darlithio hefyd. Rwyf wedi darllen adroddiadau dros y dyddiau diwethaf, a thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, am broblemau llwyth gwaith mewn llawer o brifysgolion, ac rydym wedi gweld un brifysgol benodol lle mae cynnydd wedi bod mewn cyffuriau gwrth-iselder oherwydd pwysau gwaith, ac fe welsom, yn anffodus, hunanladdiad, a briodolwyd yn rhannol—ni fuaswn yn dweud yn gyfan gwbl—i broblemau llwyth gwaith. A allech chi roi syniad i ni pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector prifysgolion a chydag undebau llafur, sydd wedi cymryd camau gweithredu mewn sawl achos gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo'r straen, a chan fod ganddynt hwythau broblemau iechyd meddwl y maent eisiau mynd i'r afael â hwy hefyd? Sut y gallwch chi fel Gweinidog eu helpu'n briodol yn hyn o beth?
Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r buddsoddiad sydd ar gael i gefnogi iechyd meddwl gwell yn ein sector addysg uwch i'w ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig. Y bwriad yw efelychu mewn gwirionedd, yn yr un modd ag y ceisiwn ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd meddwl, sy'n effeithio ar blant a staff proffesiynol—fel bod yr un peth yn digwydd yn ein prifysgolion a'n colegau hefyd. Gwyddom, yn aml, fod staff sy'n dioddef cyfnodau o iechyd meddwl gwael yn gallu trosglwyddo hynny, y teimladau hynny, i'w myfyrwyr. Felly, mewn gwirionedd, mae angen i ni fynd i'r afael â hyn yn gyffredinol, mewn perthynas â staff a chyfadrannau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mohammad Asghar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cyngor o ansawdd da ar yrfaoedd yn hanfodol i helpu myfyrwyr i gael mynediad at y swyddi a'r sgiliau sydd fwyaf cymwys ar eu cyfer. Ond mae rhai wedi mynegi pryderon am ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gyfeirio at brinder cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff ysgolion. Beth rydych chi'n ei wneud, Weinidog, i wella cyngor ar yrfaoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, yr hyn rydym wedi'i wneud, Oscar, yn dilyn cyfnod pan nad oeddem yn gallu comisiynu Gyrfa Cymru i ddarparu gwasanaeth mewn ysgolion, mae'r cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig hynny bellach yn ôl yn ein hysgolion, ac yn bwysicach na hynny, rydym yn cynnal cynllun peilot Gatsby yn ardal Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd i archwilio arferion gorau. Bydd canlyniadau'r cynllun peilot hwnnw'n ein helpu i ddatblygu gwasanaeth gyrfaoedd gwell fyth ar gyfer plant a phobl ifanc wrth symud ymlaen. Mae'n wirioneddol bwysig fod plant cymharol ifanc yn cael y cymorth hwnnw i allu gwneud dewisiadau da a dewisiadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei wneud nesaf yn eu gyrfa addysgol.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Gobeithio y byddwch yn cyflwyno'r cynllun peilot hwn, mae'n well. Mae arolygwyr eisoes yn ystyried darpariaeth cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion wrth wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, y llynedd, dywedodd pwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan y dylai ysgolion gael eu graddio'n benodol gan y Swyddfa Safonau mewn Addysg ar ansawdd eu cyngor ar yrfaoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr holl wybodaeth y maent ei hangen i fod yn wyddonwyr a pheirianwyr yn y dyfodol. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ganiatáu i Estyn raddio ysgolion yng Nghymru sy'n dangos ansawdd y cyngor a ddarperir yn yr ysgol?
Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Estyn ac ysgolion unigol i ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso, a fydd yn ein helpu i nodi arferion gorau mewn ysgolion, nid yn unig mewn perthynas â chyraeddiadau academaidd, ond hefyd mewn meysydd y tu hwnt i gymwysterau ffurfiol. Oherwydd rydym yn disgwyl i ysgolion helpu plant i basio eu harholiadau, ond rydym hefyd yn disgwyl i ysgolion wneud llawer o bethau eraill pan fydd plant yn eu gofal, ac mae'r gwaith hwnnw'n barhaus.
Mae cysylltiadau agos rhwng ysgolion, colegau addysg bellach a chyflogwyr yn ffactor pwysig wrth helpu pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau. Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i alluogi colegau a chyflogwyr i gael gwell mynediad at wasanaethau cyngor ar yrfaoedd mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth y maent ei hangen i gyrraedd eu potensial gyrfaol llawn? Diolch.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch fy mod, cyn dod i'r Siambr y prynhawn yma, wedi gallu cyhoeddi yn ein digwyddiad Seren y bydd rhaglen sylfaen Seren ac egwyddorion Seren, sydd, ar hyn o bryd, ar gyfer plant sydd wedi cwblhau eu harholiadau TGAU, bellach yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion o flwyddyn 8 ymlaen. Mae rhai o'r prosiectau arloesol sydd eisoes wedi'u cynnal yn y cynllun peilot yn gweithio gyda chwmnïau gweithgynhyrchu, peirianwyr a gwyddonwyr i roi plant hyd yn oed yn iau mewn cysylltiad â'r holl gyfleoedd sydd gan y byd ehangach i'w cynnig iddynt, ac rwy'n ddiolchgar i'r busnesau, y colegau addysg bellach a'r prifysgolion sydd wedi cyfrannu mor helaeth at y gwaith o ddatblygu'r rhaglen, ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflwyno ledled Cymru.