Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Fel y gwyddom, mae awtistiaeth yn ystod o gyflyrau na chânt eu trafod yn ddigonol—un o'r rhesymau dros y diffyg dealltwriaeth sy'n parhau ynglŷn â'i effaith, felly mae bob amser yn braf cael cyfle fel hyn i drafod y cyflwr. Mae stigma ynghlwm wrtho o hyd ac mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i fynd i'r afael â hynny. Gall y diffyg dealltwriaeth, fel y gwyddom, arwain at ofn diagnosis o awtistiaeth neu efallai nad yw pobl yn cynnig cymorth oherwydd nad ydynt yn gwybod pa gymorth y gallai fod ei angen o bosibl. Roedd yn ddiddorol clywed yr hyn a oedd gan Jenny Rathbone i'w ddweud yn awr am y prawf ar gyfer awtistiaeth lle mae dioddefwyr posibl yn gweld wynebau ac yn edrych ar y cegau, rwy'n credu mai dyna a ddywedoch chi, yn fwy na'r llygaid. Mae ymchwil ddiddorol dros ben yn cael ei wneud yn y maes hwnnw.
Mae'r anwybodaeth gyffredinol ynglŷn ag awtistiaeth yn rhyfedd pan ystyriwch pa mor gyffredin yw awtistiaeth ym mhoblogaeth y DU. Fel y clywsom, mae angen cymorth ychwanegol ar bobl ag awtistiaeth, nid oherwydd eu cyflwr yn unig, ond oherwydd y diffygion yn y ffordd y mae cymdeithas yn ymateb i bobl â'r cyflwr hwnnw. Am drasiedi, ac un y gellir ei hosgoi, ac un y gallwn wneud llawer i fynd i'r afael â hi. Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, mae 70 y cant o blant awtistig wedi'u gwahardd o'r ysgol ar un adeg neu'i gilydd, mae tua hanner y rheini wedi cael eu hatal droeon, ar dri achlysur neu fwy, a dim ond 16 y cant o oedolion awtistig sydd mewn gwaith cyflogedig amser llawn, ac mae cyfran debyg mewn rhyw fath arall o waith cyflogedig. A ddylai awtistiaeth ei hun fod yn rhwystr i waith o reidrwydd? Wel wrth gwrs na ddylai. Mae'n rhaid i ni symud y tu hwnt i rai o'r syniadau hen ffasiwn am awtistiaeth.
Mae mwy nag un o bob tri oedolyn ag awtistiaeth yn profi heriau iechyd meddwl difrifol, ond unwaith eto, nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol ag awtistiaeth, ond yn hytrach mae'n ymwneud â'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, yr ydym ni fel cymdeithas yn ei gynnig i'r bobl hynny. Ar y pwynt hwn hoffwn sôn am waith amhrisiadwy grwpiau fel Mencap Cymru yn fy ardal, yng Nghas-gwent, sefydliad a fu'n gweithredu ers 40 o flynyddoedd ac sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ymdrin â phobl ifanc ag ystod o anawsterau, yn cynnwys anawsterau dysgu, a nifer o bobl ag awtistiaeth ddifrifol hefyd. Ceir llawer o grwpiau eraill sy'n gweithio yr un mor galed ym mhob un o'n hetholaethau ac maent yn gwneud gwir wahaniaeth ar lawr gwlad, lle mae'n bwysig.
Mae llawer mwy y gallwn ei wneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, felly gadewch i ni edrych ar rai o'r pethau y gallwn eu gwneud. Fel y dywedodd Helen Mary Jones ac eraill, ac fel llawer o bobl ledled Cymru, rwy'n parhau'n siomedig ac yn rhwystredig ein bod wedi colli cyfle i ymgorffori hawliau pobl awtistig drwy Ddeddf awtistiaeth bwrpasol. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru ei rhesymau dros ddweud bod llwybr arall i'w gymryd yn lle Deddf, ond rwy'n un o'r rhai sy'n credu y byddai Deddf yn helpu i wreiddio'r hawliau hynny yn y llyfr statud. Ac rwy'n gobeithio y bydd cyfle i Aelodau yn y dyfodol efallai i adfywio cynlluniau ar gyfer Bil awtistiaeth pwrpasol i Gymru.
Ond mae pethau eraill y gallwn eu gwneud i gefnogi pobl ag awtistiaeth, fel y dywedodd Paul Davies. Mae angen inni weld cynnydd ar gynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer pobl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae angen inni weld mesurau canlyniadau cliriach yn cael eu cyflwyno, a monitro mwy effeithiol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, yn y cyfnod cyn 2021, rwy'n gobeithio y byddai pob plaid yma yn ymrwymo i ddiogelu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn. Os daw pob un ohonom at ein gilydd ar y mater hwn, rwy'n credu y gallwn wneud y cynnydd y mae angen i ni ei weld.