1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Medi 2019.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ54326
Wel, Llywydd, hyd yn oed os yw'r cyllid ychwanegol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ymddangos, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 2 y cant neu £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Nid yw cyllid blwyddyn annibynadwy, hyd yn oed pan ei fod yn ychwanegol, yn gallu gwneud iawn am bron i ddegawd o gyni cyllidol.
Wel, yn gyntaf, Prif Weinidog, efallai y dylwn i fod wedi eich croesawu chi yn ôl o'ch byncer Brexit heddiw. Ond diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd yn deall na fydd pa bynnag gyllid a roddir byth yn ddigon, ond onid yw'n wir i ddweud y byddai dull llai afradlon o reoli arian gan Lywodraeth Cymru yn rhyddhau mwy o gyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus? Yr hyn a olygaf wrth hyn yw'r colledion a ddioddefwyd yn sgil prosiectau'r Llywodraeth fel ffordd liniaru'r M4, cytundeb tir Caerdydd, Blwyddyn y Môr, Cylchffordd Cymru a Cymunedau yn Gyntaf, a gostiodd gyda'i gilydd ryw fymryn yn llai na £600 miliwn—ffigur sydd fwy neu lai'n cyfateb i'r swm a roddir i Gymru gan Lywodraeth y DU. Ac, yn ddiau, mae llawer mwy o enghreifftiau o reolaeth ariannol wael gan Lywodraeth Lafur Cymru y gallwn fod wedi cyfeirio atyn nhw. Onid edrych ar y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â rheolaeth ariannol y dylem ni, yn hytrach na chwilio am haelioni gan San Steffan.
Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod. Mae'n methu'r pwynt yn llwyr ac nid yw'r enghreifftiau y mae'n eu crybwyll yn gwrthsefyll archwiliad ychwaith. Gwnaeth yr arian a wariwyd yn Cymunedau yn Gyntaf waith rhagorol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Roedd y cynllun wedi cyrraedd terfynau ei bosibiliadau, ac rydym ni wedi ei ddiwygio a'i newid. Y penderfyniad o ran Cylchffordd Cymru oedd peidio â gwario arian, nid taflu arian i ffwrdd. Roedd hynny er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd arian yn cael ei wario'n wael.
Llywodraeth Cymru sydd â'r hanes gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig o ran gwario'r arian sy'n dod i ni yng Nghymru. Rydym ni'n gwario dros 99 y cant o'r gyllideb sydd ar gael i ni yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau mawr—gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gorfod dioddef degawd o beidio â chael yr arian drwy Lywodraeth y DU a oedd yn angenrheidiol i'w cynnal yn wyneb y gofynion y gwyddom sy'n bodoli yng nghymdeithas Cymru. Byddai'n llawer gwell pe byddai'r Aelod yn barod i siarad dros bobl Cymru ac am y buddsoddiad sydd ei angen arnynt.
Wel, Prif Weinidog, dylech chi fod ar y llwyfan. Y ffordd y gwnaethoch chi lwyddo i roi gwedd negyddol ar yr ystadegau hynny heb dorri gwên hyd yn oed, dylid eich canmol chi am hynny. Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud y bu cyfnod o doriadau yn San Steffan, a arweiniodd at doriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru hefyd am gyfnod o amser, ond mae'n rhaid i chi hyd yn oed dderbyn y bydd yr adolygiad diweddar o wariant yn darparu y flwyddyn nesaf, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio—bydd yn darparu—cynnydd mewn termau real o 2.3 y cant yn ogystal â'r arian sydd yn y grant bloc sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd. Mae hynny oddeutu £600 miliwn y flwyddyn, fel y dywedodd Dave Rowlands. Os edrychwch chi ar ffigurau manylach hynny, mae hynny oddeutu £195 miliwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer addysg yn San Steffan, £385 miliwn yn cael ei glustnodi ar gyfer iechyd. Bydd eich cynghorwyr yn gwybod hyn cystal â minnau.
A allwch chi roi sicrwydd i ni mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr yw penderfynu sut yr ydych chi'n gwario'r arian hwnnw? A allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd ei angen fwyaf, fel y gallwch chi fwrw ymlaen â'r gwaith, y cawsoch y cyfrifoldeb i'w wneud, o amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o amddiffyn y ffordd Gymreig o fyw, oherwydd nid yw pobl yng Nghymru bob amser wedi cael eu hargyhoeddi bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol? Mae gennych chi gyfle euraidd yn y fan yma, mewn sefyllfa berffaith, i brofi pobl sy'n negyddol yn anghywir ac i ddangos y gallwch chi sefyll yn gadarn dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Llywydd, rydym ni wedi cael pregeth gan Aelodau ar yr ochr yna i'r Siambr ers degawd: nid oedd modd osgoi cyni cyllidol, roedd cyni cyllidol yn rhywbeth nad oedd dewis yn ei gylch. Nid oedd coeden arian hud, mae'n debyg. Nawr eu bod nhw wedi chwalu hynny i gyd ac wedi gwneud penderfyniadau o'r diwedd i gefnu arno, maen nhw'n disgwyl i ni lawenhau ar yr ochr hon i'r Siambr. Byddai ychydig mwy o ostyngeiddrwydd yn briodol gan y blaid gyferbyn. A gadewch i mi ddweud wrth Nick Ramsay pam nad ydym ni'n barod i ymuno yn ysbryd ei gwestiwn. Yn gyntaf oll, pa sicrwydd sydd gennym ni y bydd yr arian hwn byth yn cyrraedd Cymru? Yr unig arian y gall llywodraethau ei wario yw arian y mae seneddau yn ei bleidleisio iddyn nhw, ac nid yw'r Senedd hon wedi pleidleisio ar y symiau o arian a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn rhoi Bil arian gerbron Senedd San Steffan fel y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y symiau arian hyn yn ymddangos? Dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Senedd wedi ei gohirio, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Prif Weinidog yn ceisio cael etholiad cyffredinol, a dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny pan nad oes ganddyn nhw fwyafrif ar lawr Tŷ'r Cyffredin i unrhyw beth y maen nhw'n ei gyhoeddi.
Felly, yn gyntaf oll, nid wyf i'n teimlo y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd yr arian hwn yn cyrraedd o gwbl. Pan fydd yn cyrraedd, Llywydd, wrth gwrs, bydd Llywodraeth San Steffan wedi gwario symiau mawr ohono ar ein rhan. Rydym ni'n darganfod nawr y bydd y cyfraniad o 85 y cant at y costau pensiwn y mae'r Llywodraeth honno wedi eu gorfodi arnom ni yn mynd i gael ei roi yn ein llinell sylfaen. Felly, nid yn unig yr oeddem ar ein colled o £50 miliwn eleni, ond rydym ni'n mynd i fod ar ein colled o £50 miliwn bob blwyddyn yn y dyfodol. Felly, mae'r arian hwnnw eisoes wedi cael ei wastraffu gan benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. A pham, Llywydd, tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr yn cael eu hysbysu bod ganddynt setliad tair blynedd ac yn gwybod faint o arian a fydd ar gael ar gyfer addysg, nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond am ddwy flynedd ar ôl hynny, nad ydym ni yng Nghymru yn cael setliad tair blynedd o gwbl? Wrth gwrs, bydd yr arian y byddwn ni'n ei gael yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud gyda'r holl arian sy'n dod atom. Byddai'n braf pe byddem ni'n cael ein trin ar yr un sail ag adrannau mewn mannau eraill ac yn cael yr un cyfle.
Croeso nôl ichi i gyd yma heddiw.
Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, yn iawn o ran nad ydym ni wedi gweld ceiniog o'r arian hwn eto. Rydym ni'n aros i'w weld. Rydym ni'n gobeithio y caiff ei weld, ond nid yw'n gwneud dim i gau'r bwlch cyni cyllidol cynyddol sydd wedi dod i'r amlwg dros ddegawd. Ond mae hyn hefyd yn ychwanegu, wrth gwrs, at y diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin, y diffyg cadarnhad, oherwydd gohirio'r Senedd, o ymrwymiadau'r Canghellor blaenorol ar gynnal ymrwymiadau ariannu presennol yr UE, sy'n hanfodol ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal ag addysg uwch, hyfforddiant ac yn y blaen, a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y mae wedi cyfeirio ati nad oes gennym ni setliad adolygiad gwariant cynhwysfawr amlflwydd hirdymor gan nad yw'r Senedd yno i eistedd a'i wneud. Nid oes dim wedi ei gadarnhau. Mae un peth, fodd bynnag, y mae gennym ni fwy o eglurder yn ei gylch, sef goblygiadau Brexit 'dim cytundeb'. Tybed a yw ef wedi cael amser i ddarllen yr adroddiad gan y grŵp UK in a Changing Europe, 'No Deal Brexit: Issues, Impacts, Implications', oherwydd mae hwnnw'n gwneud yn gwbl eglur beth fydd yr effeithiau yng Nghymru a phob rhan o'r DU os byddwn yn syrthio allan mewn sefyllfa 'dim cytundeb'.
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Roedd dau beth syfrdanol am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn: yn gyntaf, ei fod yn para am flwyddyn yn unig, er yr addawyd i ni gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan hyd at fis Gorffennaf mai setliad tair blynedd y byddem ni'n ei gael, a diflannodd hynny mewn mater o wythnosau. Ac mae'n sicr ei bod yn syndod i bawb yn y Siambr hon na wnaeth y Canghellor unrhyw gyfeiriad at y gronfa ffyniant gyffredin.
Fis ar ôl mis ar ôl mis, dywedir wrthym gan Weinidogion y DU y byddan nhw'n anrhydeddu eu haddewid i Gymru na fyddem ni yr un geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd gan fod ganddyn nhw gronfa ffyniant gyffredin. Fis ar ôl mis, dywedir wrthym y byddan nhw'n cael ymgynghoriad ar y gronfa honno yn fuan iawn, ac y byddwn yn gallu gweld lliw eu harian. Nawr rydym ni'n gwybod nad ydym ni'n mynd i glywed dim tan y flwyddyn galendr nesaf, ac ni chyfeiriodd y Canghellor ati hyd yn oed unwaith. Byddai'r swm o arian yr ydym ni'n disgwyl ei gael drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn fwy na'r £600 miliwn y dywedodd Nick Ramsay a fyddai'n dod drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith nad yw ein partneriaid yma yng Nghymru, heb y sicrwydd hwnnw, yn gallu cynllunio ymlaen llaw fel y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud.
Rwyf i wedi cael cyfle i weld adroddiad UK in a Changing Europe. Mae 'dim cytundeb' yn golygu cyfnod hirfaith o ansicrwydd; bydd tarfu ar hanner allforion nwyddau'r DU. Bydd yn lleihau diogelwch dinasyddion y DU; gallai enw da rhyngwladol y DU ddioddef. A oes unrhyw ryfedd pam, dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Siambr hon, ein bod ni wedi rhybuddio am yr effaith drychinebus y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei chael yma yng Nghymru?