– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 17 Medi 2019.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddaf yn gwneud datganiad ar oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, a bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad ar Brexit. Er mwyn gwneud lle i hyn, bydd y datganiad am y Cynllun Gwên—10 mlynedd o wella iechyd y geg i blant yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar gefnffordd yr A55 yng ngogledd Cymru? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod llawer o gwynion wedi cyrraedd Aelodau'r Cynulliad o bob rhan o ranbarth Gogledd Cymru yn sgil gwaith ffordd sylweddol sy'n digwydd yn ardal Llanddulas. Nawr, sylweddolaf fod y gwaith ffordd hwn yn angenrheidiol o ran adfer diogelwch i'r bont yn Llanddulas, ond mae trefniadaeth y gwaith ffordd hwnnw, heb unrhyw wyriadau priodol yn eu lle i annog modurwyr i ddilyn llwybrau amgen, yn achosi anhrefn llwyr mewn cymunedau a threfi lleol ar draws fy etholaeth i, gan gynnwys Abergele, Hen Golwyn a Bae Colwyn. Mae plant yn methu cyrraedd yr ysgol ar amser, pobl yn methu cyrraedd y gwaith ar amser, mae yna ymwelwyr sy'n cael profiad gwael iawn o ymweld â gogledd Cymru o ganlyniad i'r gwaith ffordd yma, ac rwy'n bryderus iawn ei fod yn niweidiol bellach i enw da'r gogledd a'n heconomi ni. Felly, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau ei bod yn cynllunio'r pethau hyn yn well yn y dyfodol fel na chawn ni'r math o aflonyddwch yr ydym ni wedi bod yn ei brofi?
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod, mae'r gwaith a wneir ar yr A55 yn bendant yn cael ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch y rhan honno o'r ffordd, ond mae'n amlwg bod unrhyw darfu ar fywydau pobl yn peri pryder. Felly, byddaf yn gofyn yn y lle cyntaf i swyddogion Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r sefyllfa gyda'r bwriad o ddarparu rhywfaint o gyngor ynghylch y ffordd orau o osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.
Hoffwn ychwanegu fy enw at y nifer cynyddol o bobl sy'n galw am uwchgynhadledd ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar sail genedlaethol, ar ddarparu gofal i bobl hŷn. Hoffwn hefyd weld moratoriwm yn y cyfamser ar gau rhagor o gyfleusterau, gan fod llawer o awdurdodau lleol wedi cau neu yn y broses o gau eu canolfannau gofal dydd a phreswyl, ac mae lleoedd gwag yn cael eu colli ym mhobman. Ar ben arall y sbectrwm oedran, mae prinder lleoedd gofal i bobl iau, ac mae cartrefi gofal preifat sy'n blaenoriaethu elw yn ceisio manteisio ar y sefyllfa hon. Mae angen gofal o ansawdd da, a ddarperir yn gyhoeddus, ar gyfer pobl hŷn, pobl anabl a phlant sy'n derbyn gofal. Ar hyn o bryd, mae preifateiddio'n digwydd yn llechwraidd. A allwn ni gael dadl gan y Llywodraeth ac ymateb i'r cais hwn am uwchgynhadledd a moratoriwm cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda?
Mae'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r ymgyrch hir i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a beicio. Mae ei photensial i ddenu twristiaeth, hwyluso teithio llesol ac annog gweithgarwch corfforol yn enfawr. Dyna pam mae'n rhan mor hanfodol o'r ddogfen bolisi hon a gynhyrchwyd gennyf i ar y cyd â Sustrans y mis hwn. Daw'r prif faen tramgwydd i agor y twnnel hwnnw o'r cwestiwn o'i berchnogaeth. Ar hyn o bryd, mae'n eiddo i Adran Drafnidiaeth Lloegr a chaiff ei reoli gan adran Priffyrdd Lloegr—anomaledd rhyfedd a ddylai fod wedi'i gywiro erbyn hyn. Hyd nes y caiff y cwestiwn perchenogaeth ei ddatrys, mae ymdrechion i godi arian ar gyfer y prosiect a'i gymryd i'r cam nesaf yn cael eu llesteirio, gan beryglu ei siawns o lwyddo. Mae'r prosiect hefyd yn cael ei lesteirio am nad yw'n cael ei ddynodi'n rhan o lwybr teithio llesol.
Rhaid imi ddatgan buddiant fel aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda ac fel fy nghyd-Aelod Plaid, Bethan Jenkins AC, a'ch cyd-Aelod chi David Rees AC, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Twnnel y Rhondda i wireddu'r prosiect hwn. Codais y mater o berchnogaeth gyda Llywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl, ac nid ydym wedi symud ymlaen ryw lawer ers hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad yn esbonio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu'r prosiect hwn a datrys y cwestiwn perchenogaeth? Gellid rhoi gwarantau ar waith er mwyn i Lywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd ariannol. Y cwestiwn yn awr yw: a yw'r ewyllys gwleidyddol yno?
Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol yma yn y Siambr i glywed eich cais am ddatganiad a barn am y cynigion ar gyfer uwchgynhadledd. Rwy'n gwybod y bydd yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hynny.
O ran twnnel y Rhondda, rwy'n credu ei fod yn gynnig hynod gyffrous. Yn amlwg, mae materion yn codi o ran perchenogaeth a sut y byddai unrhyw waith yn cael ei ariannu yn y dyfodol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod iawn i'w wneud. Cefais drafodaeth heddiw gyda Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am hyn, a gwn ei fod yn ymgysylltu â Sustrans hefyd i ofyn iddynt wneud darn o waith i archwilio sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, oherwydd credaf ein bod i gyd yn rhannu'r brwdfrydedd a'r ddealltwriaeth o'r hyn y gellid ei gyflawni.
Gweinidog, a gaf i ychwanegu fy llais at y cwestiwn olaf gan Leanne Wood mewn cysylltiad â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a pherchnogaeth twnnel y Rhondda? Nid wyf am fynd ymhellach oherwydd eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn, ond rwy'n ychwanegu fy llais i'r alwad honno.
A gaf i ofyn am dri datganiad, os yw'n bosibl? Mae'r cyntaf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nawr, yn gynharach eleni cyflwynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gynigion a fyddai wedi cynyddu'r taliadau ar gyfer addysg ôl-16 mewn cysylltiad â'r rheini sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg, i ysgolion ffydd, a hefyd ym meysydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyfle yma'n awr—ac rwy'n croesawu penderfyniad y cyngor i ohirio unrhyw benderfyniad ynglŷn â hyn ar ran y bobl leol—i edrych ar y Mesur teithio gan ddysgwyr i weld a allwn mewn gwirionedd geisio diwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr i sicrhau bod addysg ôl-16 yn dod yn rhan o'r gofynion teithio, er mwyn sicrhau y gall y bobl hyn fynd i ysgolion neu leoedd addysg heb y taliadau ychwanegol sy'n cael eu hystyried gan awdurdodau lleol. A wnewch chi felly, ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, sydd, mi gredaf, â chyfrifoldeb dros y maes hwnnw, i ystyried a allwn adolygu'r Mesur teithio gan ddysgwyr i weld pa ddiweddariadau y gellid eu gwneud, pa welliannau y gellid eu gwneud, i sicrhau bod y plant hynny'n cael cludiant am ddim i'r ysgol, fel y bydd yn digwydd yn y dyfodol?
A gaf i hefyd edrych ar gwestiwn yn ymwneud ag addysg hefyd—y fframweithiau athrawon cyflenwi? Rwy'n deall bod fframweithiau newydd ar waith erbyn hyn. Wel, rwyf wedi gweld negeseuon e-bost gan un o'r asiantaethau sydd wedi elwa o'r fframweithiau hynny, sy'n awgrymu eu bod yn annog ysgolion i raddau i fynd oddi ar y fframwaith, yn eu hannog i symud pobl allan o'r fframweithiau ac felly'n talu cyfraddau is iddynt nag y mae ganddynt yr hawl iddynt. Mae hynny'n deillio o asiantaeth sydd wedi cael caniatâd yn y fframweithiau ac sydd mewn gwirionedd â'i bresenoldeb ar draws y 22 sir yng Nghymru. Mae angen inni edrych ar fonitro'r fframweithiau athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau nad yw athrawon yn cael eu cam-drin gan y system hon ac nad yw asiantaethau'n cymryd yr opsiwn i geisio annog ysgolion i osgoi'r gofynion gwirioneddol, er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael cyflog gweddus a'r amodau gweddus y maent yn eu haeddu fel athrawon cyflenwi. Ac felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch beth sy'n cael ei wneud am y fframwaith hwnnw?
Yn olaf, mae wedi cael ei grybwyll gan Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â nofio am ddim. Cawsom ddatganiad ysgrifenedig, a diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn rhoi rhyw syniad inni o'r hyn sy'n digwydd. Ond mae angen inni ofyn cwestiynau ynglŷn â'r consesiynau nofio am ddim a'r newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith. Oherwydd, os edrychwch arnynt, nid ydynt yn ffigurau enfawr mewn gwirionedd, ond mae hyn yn hollbwysig i lawer o'm hetholwyr i, ac mae nifer mawr wedi ysgrifennu ataf yn holi 'Pam ydym ni'n gwneud hyn?' Felly, mae angen inni allu gofyn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog am y consesiynau, o ran sut y gallwn symud ymlaen. Nid mater o nofio am ddim i bawb yn unig yw hyn; mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw, mae'n mynd â phobl allan o'u cartrefi, mae'n rhoi rhyngweithio cymdeithasol iddyn nhw, mae'n gwella eu hiechyd, ac mae pob cyfle fel hyn yn hanfodol i sicrhau y gall pobl dros 60 gymryd rhan weithredol yn ein cymdeithas. Ac mae'r penderfyniad hwn mewn gwirionedd yn mynd i ddod â hynny i ben i rai pobl. Hoffwn felly gael datganiad llafar fel y gallwn ofyn y cwestiynau'n benodol am y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim.
Diolch i Dai Rees am godi'r materion hynny. Gwn eich bod hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn amlinellu eich cefnogaeth i gynnig twnnel y Rhondda a'ch pryderon am y berchnogaeth, ac yn y blaen. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch mae'n siŵr, wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect yn ogystal â darparu cyllid dilynol i gynnal asesiad ecolegol, arolwg ystlumod, arolwg tapio i asesu cyflwr y twnnel, a hefyd gwaith i wella mynediad i'r twnnel ar gyfer y gwaith arolygu sydd i'w wneud. Felly, credaf y gallwn ddangos ein cefnogaeth glir i'r cynigion, er bod y materion hynny sy'n ymwneud â pherchnogaeth a sut y gellid ariannu'r prosiect heb eu datrys eto.
O ran y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a'ch pryderon ynghylch y modd y mae hynny'n effeithio ar allu'r dysgwyr hynny dros 16 oed i gyrraedd eu hamgylchedd dysgu, a chredaf yn benodol fod y rhai sy'n anabl yn peri pryder i chi, gofynnaf i'r Gweinidog trafnidiaeth ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, ond hefyd i ystyried yr achos yr ydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma.FootnoteLink
O ran asiantaethau athrawon cyflenwi, gallaf ddweud bod swyddogion yn y gyfarwyddiaeth addysg wedi gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ymdrin â nifer o ofynion ychwanegol yn y fanyleb contract fframwaith i gefnogi'r broses o gyflenwi cyflog ac amodau gwaith athrawon a'n hegwyddorion gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Ond, o ran y mater penodol a godwyd gennych, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau contract i'r holl asiantaethau penodedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybod am sefyllfaoedd o ddiffyg cydymffurfio fel y gallant gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y defnydd a wneir o'r fframwaith a'i effeithiolrwydd. Ac os yw asiantaeth fframwaith yn ceisio gwyrdroi rheolau'r fframwaith yn gyson ac, yn fy marn i, ysbryd y rheolau hynny hefyd, bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cymryd camau.
Ac o ran pryd fyddai'r cyfle cyntaf i holi'r Gweinidog ar fater nofio am ddim, gwn fod yna gwestiwn i'r Dirprwy Weinidog brynhawn yfory.
Trefnydd, hoffwn ofyn i chi am ychydig o ddatganiadau, os caf. Yn gyntaf oll, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y de-ddwyrain? Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr am yr anawsterau wrth gymudo o sir Fynwy i Gasnewydd a Chaerdydd—ardal y dinas-ranbarth—ac amlder y gwasanaethau hynny. Rwyf i wedi gyrru i'r Cynulliad heddiw. Pe na bawn i wedi gyrru, yna gallwn i fod wedi cael y bws a'r trên yma, ond fyddwn i ddim wedi gallu mynd yn ôl ar ôl 5 o'r gloch gan nad oes gwasanaeth bws yn cysylltu ar ôl 5.30 p.m. o Gasnewydd neu 5.45 p.m. o'r Fenni i Raglan. Mae'n ddrwg gennyf eich diflasu gyda'm problemau domestig, ond mae hwnnw'n fater sy'n effeithio ar bob math o bobl sy'n cymudo i Gaerdydd. Rwy'n sylweddoli bod y metro'n edrych ar hyn. Efallai, fel y codais gyda'r Gweinidog yn y gorffennol, y gallai'r posibilrwydd o ganolbwyntio'r metro yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor liniaru hynny. Felly, os bu unrhyw drafodaethau ynglŷn â hwnnw, byddai'n ddiddorol clywed hynny.
Yn ail, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod problem wedi bod yn yr Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn y broses o wahardd e-sigaréts sydd â blas ynddynt. Mae cannoedd o bobl yn dioddef o salwch dirgel ar yr ysgyfaint. Gwn fod cynhyrchion e-sigaréts yn America yn wahanol i'r cynhyrchion yma—mae'r nicotin yn llawer cryfach, mae'r cemegau eraill ynddynt yn gryfach—ond serch hynny, mae problem yno ac mae rhai o'm hetholwyr wedi bod yn gofyn imi beth yw fy marn i. Dydw i ddim yn arbenigwr ar e-sigaréts, ond tybed a oes modd inni gael diweddariad ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r pryderon hynny.
Ac yn olaf, cynhaliwyd Sioe Brynbuga yn ddiweddar—digwyddiad a gefnogwyd yn dda iawn—a chododd y ffermwyr yno fater TB mewn gwartheg gyda mi ac maent yn poeni am y cynnydd diweddar yn y clefyd hwnnw. Tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr ymdrechion a wneir i fynd i'r afael â'r clefyd, mewn da byw ond hefyd yn y gronfa anifeiliaid.
Ac yn olaf oll, Llywydd—rydych wedi bod yn hael gyda mi—ddoe oedd diwrnod osôn y byd y Cenhedloedd Unedig, y bûm yn sôn amdano ar Facebook ac yn trydaru yn ei gylch. Mae'r protocol Montreal, a waharddodd gemegau CFC sy'n dinistrio'r osôn o erosolau ac oergelloedd ac offer a theclynnau cartref eraill, yn dathlu ei ddeuddegfed pen-blwydd ar hugain. Roedd hynny'n llwyddiant ysgubol. Roedd yn gadarnhaol ac fe ddangosodd, pan fo cymuned y byd yn dod at ei gilydd, y gallant fynd i'r afael â materion amgylcheddol gwirioneddol fawr a gellir gwneud hynny mewn ffordd sydd, 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn golygu nid yn unig fod y twll osôn yn yr Antartica bellach yn atgyweirio'i hun, ond fe amcangyfrifir, erbyn 2060, y bydd yn gwbl gyflawn. Mae hynny'n newyddion gwych. Gobeithio y byddwch chi ac awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth wynebu argyfwng newid hinsawdd, yn gallu delio â mater cynhesu byd-eang ac yn y dyfodol, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dweud bod hynny'n llwyddiant tebyg.
Diolch yn fawr i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Roedd y cyntaf yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain a'ch diddordeb mewn canolbwynt yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor, a sicrhau hefyd fod trafnidiaeth gyhoeddus ar adeg gyfleus i bobl allu mynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith diweddaraf o ran metro de Cymru a hefyd y farn ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ehangach ac yn gynt yn yr ardal.
O ran e-sigaréts, gwn fod adroddiadau gan yr Unol Daleithiau o'r clwstwr o glefyd yr ysgyfaint difrifol ymysg pobl sy'n defnyddio e-sigaréts yn peri pryder mawr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn deg dweud ar hyn o bryd nad ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi'r clefyd. Ond rydyn ni'n glir iawn yn Llywodraeth Cymru na ddylai e-sigaréts gael eu defnyddio gan bobl nad ydynt yn ysmygu, ac na ddylai pobl ifanc eu defnyddio. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod rhai pobl wedi'u cael yn ddefnyddiol o ran eu helpu i roi'r gorau i ysmygu, ond rydym yn glir iawn mai prin iawn yw'r dystiolaeth o effeithiau iechyd tymor hwy ar ddefnyddio e-sigaréts ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu consensws ar y cyd am e-sigaréts sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac rwy'n siŵr y bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Yn y cyfamser byddem yn sicr yn annog unrhyw un sydd am roi'r gorau i ysmygu i gysylltu â'n llinell gymorth genedlaethol am ddim, Helpa fi i Stopio, ar 0800 085 2219. Mae gennym hefyd ein gwefan helpafiistopio.cymru y gallwch ymweld â hi hefyd, os oes gan unrhyw un ddiddordeb.
O ran TB mewn gwartheg, rwy'n gwybod bod y Gweinidog dros yr amgylchedd a materion gwledig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r Cynulliad ar y mater hwnnw a gwn y bydd yn ceisio darparu diweddariad pellach pan fydd hi'n gallu gwneud hynny.
Ac rwyf yn rhannu eich brwdfrydedd am ddiwrnod osôn y byd ac mae'n sicr yn enghraifft o'r pŵer y gellir ei greu pan fydd gwledydd yn gweithio gyda'i gilydd am reswm pwysig.
Cyn toriad yr haf, fe gafwyd ymrwymiad gennych chi, a dwi'n dyfynnu,
'y bydd dadl ar 'Cynllun Gwên: 10 mlynedd o wella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru' ar y diwrnod cyntaf yn ôl ym mis Medi'.
Wel, heddiw yw'r diwrnod cyntaf yn ôl, a does yna ddim dadl. Dwi'n gwybod bod y pwyllgor iechyd yn dod â dadl gerbron ddechrau mis nesaf, ond mae'r Llywodraeth eisoes wedi gwrthod eu hargymhellion nhw ar gyfer rhoi mwy o arian tuag at wasanaethau deintyddol, sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi.
Mae hi yn argyfwng. Ar gyfartaledd, dim ond 15 y cant o feddygfeydd yng Nghymru sydd yn derbyn cleifion sy'n oedolion drwy'r NHS, a dim ond 27 y cant sy'n derbyn plant. Does yna ddim un o'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon yn cymryd cleifion newydd ar yr NHS, ac mae hynny'n cynnwys plant.
Mae angen i'r Llywodraeth yma wynebu'r realiti yma, ond, ar hyn o bryd, dydych chi ddim hyd yn oed yn fodlon cynnal dadl ar y mater. Felly, gaf i ofyn am ddadl ac am ddiweddariad ar fyrder, ac eglurhad o beth fydd y camau gweithredu y byddwch chi yn eu cymryd a sut rydych chi'n mynd i daclo'r argyfwng yma ar draws Cymru, gan gynnwys Arfon?
Yn anffodus, bu'n rhaid inni symud yr eitem, fel y dywedais ar ddechrau'r datganiad busnes heddiw—yr eitem ar iechyd y geg ymysg plant—i ddatganiad ysgrifenedig, ac roedd hynny i gynnwys y datganiad y byddaf yn ei wneud y prynhawn yma ar yr effeithiau i ni o'r cylch gwario ac yn amlwg, y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar Brexit.
Rwy'n deall cymaint os nad yn fwy na'r rhan fwyaf o bobl y pwysau enfawr o allu darparu ar gyfer yr holl geisiadau a gawn yn y datganiad busnes. Rwy'n aml yn derbyn pedwar cais gan un unigolyn yn ystod datganiad busnes. Yn amlwg, ar ddiwrnod busnes arferol, dim ond pedair dadl neu ddatganiad y byddem yn eu cael. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i dderbyn ceisiadau'r Aelodau cymaint â phosibl.
Y tro hwn, yn anffodus rydym wedi gorfod troi'r datganiad arfaethedig hwnnw'n ddatganiad ysgrifenedig. Ond mae'r Gweinidog wedi bod yma i glywed eich sylwadau a gwn y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion deintyddol mewn ffordd briodol cyn gynted â phosibl.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y problemau sy'n wynebu fy etholwyr i o ran y cais gorfodol i adnewyddu eu tocyn bws, a hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr? Mae'n debyg bod y safle ar gyfer llenwi'r cais ar-lein wedi cau'n llwyr, ac mae'r gwasanaeth ffôn wedi chwalu hefyd. Siawns na ddylid bod wedi rhagweld maint y ceisiadau a rhoi'r strwythurau ar waith i ymdopi â'r galw mawr. Rhaid gofyn cwestiwn sylfaenol: pam oedd angen y cam hwn yn y lle cyntaf? Byddai'r holl wybodaeth angenrheidiol eisoes yn cael ei chadw gan yr awdurdodau lleol, felly mae'n sicr y gallai'r wybodaeth fod wedi'i chasglu o'r ffynonellau hynny. Dim ond y rheini y mae eu manylion wedi newid fyddai angen ailymgeisio. Siawns nad yw hyn yn ddim ond enghraifft arall o wastraffu arian trethdalwyr, heb sôn am y pryder a achosir i gynifer o bobl sy'n dibynnu ar eu pas bws i deithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r mater o gardiau teithio rhatach ar ffurf newydd ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a'r 22 awdurdod lleol. Y cynghorau lleol sy'n berchen ar y cynllun o hyd. Bydd y cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un hawliau a buddiannau teithio am ddim â'r cerdyn presennol, ac mae angen y cardiau ar ffurf newydd gan na fydd y tocynnau bws presennol yn cael eu cydnabod ar ddarllenwyr electronig ar fysiau ar ôl 31 Rhagfyr eleni. Yn hollbwysig, dyluniwyd y cardiau newydd hefyd i weithio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol. Mae'n wir dweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi profi nifer aruthrol o uchel o ymweliadau â'u safle cerdyn teithio rhatach newydd ers ei lansio ar 11 Medi. Rwyf i, fel y bydd llawer o'r Aelodau, wedi cael nifer o aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â mi ynglŷn â hyn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu'r wefan newydd i lawr er mwyn cynyddu'r capasiti i reoli'r ceisiadau'n well, a deallaf y bydd yn cael ei rhoi ar waith heddiw eto. Ond, mewn gwirionedd, y neges i ddeiliaid cerdyn presennol yw bod digon o amser mewn gwirionedd i wneud cais am y cardiau newydd hynny. Bydd eu cardiau'n cael eu derbyn hyd at 31 Rhagfyr 2019, felly rydym yn annog ymgeiswyr i ymweld â'r wefan yn y dyddiau nesaf, pan fydd y galw wedi lleihau.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am swyddogaeth arolygwyr cynllunio a'r rheolau y maent yn gweithio oddi tanynt. Mae'n hysbys nad wyf yn credu bod swyddogaeth i arolygwyr cynllunio sy'n goruwchreoli penderfyniadau democrataidd a wneir gan bwyllgorau cynllunio cynghorau, yn hytrach na'r ombwdsmon a'r adolygiad barnwrol ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan gynghorau. Nid wyf yn deall pam y mae arolygwyr yn anwybyddu canllawiau cynllunio atodol sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Efallai y gallai'r datganiad egluro pam y gall arolygwyr cynllunio anwybyddu polisi lleol a pholisi y cytunwyd arno'n genedlaethol.
Diolch, Mike. Yn y lle cyntaf, credaf y byddai'n ddefnyddiol petawn i'n cysylltu â'm cydweithiwr, Julie James, i gynnig briff technegol gan y swyddogion priodol yn y maes cynllunio er mwyn cael y cyfle hwnnw i ofyn y cwestiynau manwl sydd gennych.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol a gyhoeddwyd tair blynedd yn ôl, yn 2016? Bydd y Cynulliad yn ymwybodol bod yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn broses a luniwyd i sicrhau nad yw polisi, prosiect na chynllun yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn neu bobl ddifreintiedig neu agored i niwed yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, mewn ymateb i gais am gopi o'r asesiad sy'n ymwneud â'r cynllun gweithredu hwn yn ôl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, atebodd Llywodraeth Cymru nad yw'n cadw'r wybodaeth ofynnol. Pan roddwyd pwysau i gael sylwadau pellach, yr ymateb a gafwyd oedd—ac rwy'n dyfynnu, Gweinidog—
Deallaf, ar adeg datblygu'r cynllun gweithredu, fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal, i'w ddiweddaru drwy gydol y broses ymgynghori.
Mae'r dyfyniad yn parhau:
Rydym wedi gwneud archwiliad trwyadl, ac yn anffodus mae'n ymddangos bod y ddogfen hon wedi cael ei dileu o'n system cofnodion electronig ers hynny ac nad yw ar gael i'w chyrchu.'
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa anfoddhaol hon, a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i adolygu'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcan o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch, Mohammad Asghar. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yma i glywed eich sylwadau, ond mae'n amlwg yn destun gofid na ellir lleoli'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â chynllun gweithredu 2016 i hybu cydraddoldeb pobl drawsrywiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi i'r cynllun gweithredu ganolbwyntio ar hyfforddiant, cymorth a chodi ymwybyddiaeth, a herio agweddau trawsffobig, yn hytrach na bod yn arweiniad gweithredol. Mae diogelu yn hollbwysig, ac mae pob sefydliad yn rhwym wrth weithdrefnau diogelu perthnasol a phriodol. Ond gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich pryder am y mater hwn.
Ar y dydd Sadwrn cyntaf o'r mis hwn, ymgasglodd miloedd yn Sgwâr Penderyn ym Merthyr ar gyfer gorymdaith dros annibyniaeth. Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl yn gallu bod yno oherwydd diffyg capasiti digonol ar wasanaethau trenau i Ferthyr. Roedd llawer o drenau wedi'u llenwi i'r eithaf, gyda rhai trenau'n osgoi rhai gorsafoedd yn gyfan gwbl am fod y cerbydau'n llawn o orsaf Caerdydd Canolog. Nid yw'n ddigon da cael nifer fach o gerbydau ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, ac nid digwyddiad untro yw hyn. Pan fydd gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, mae yna broblemau tebyg yn aml. Pa neges yr ydym yn ei hanfon i'r byd am Gymru pan na allwn ddarparu gwasanaethau trên i safon dderbyniol? Derbyniaf fod gwelliannau'n cymryd amser, ond rydym ymhell dros flwyddyn i mewn i'r contract newydd, ac mae'n ymddangos, er bod rhai gwasanaethau wedi gwella, fod rhai'n dal yn drenau Arriva ym mhob dim ond enw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar yr hyn y bydd yn ei wneud mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau mawr o'r math hwn sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da ymlaen llaw?
Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar reilffordd i Gymru yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf, felly byddai hyn yn gyfle da i glywed ganddo am y pryderon hynny.
Trefnydd, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar golli swyddi a gyhoeddwyd gan BSW Sawmills Ltd o'r Bontnewydd ar Wy ym Mhowys. Cefais ohebiaeth ar y mater hwn ac mae'n dweud y bydd cyfanswm o 33 o ddiswyddiadau, ac mae 11 o'r rheini'n bobl sy'n cael eu cyflogi dros dro. Gwn nad yw'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel iawn i rai pobl yn y Siambr hon, ond i ardal o Bowys lle mae ychydig iawn o swyddi sy'n talu'n dda, mae hyn yn nifer uchel iawn, 33 o ddiswyddiadau. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r melinau llifio ar y mater penodol hwn, a pha gymorth y gellid ei roi, neu sy'n cael ei roi, i'r rhai y mae'r newyddion hyn yn effeithio arnynt. Mae etholwyr yn pryderu y gall cyhoeddiad am golli rhagor o swyddi ddod yn y dyfodol agos iawn.
Diolch ichi, Joyce Watson, am godi'r mater hwn. Mae hi'n hollol iawn y gall 33 o swyddi a gollir mewn cymuned eithaf bach gael effaith enfawr ar y gymuned honno ac ar fywyd y gymuned honno. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ac unrhyw gymorth y gellir ei roi i'r gweithwyr yr effeithir arnynt.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar gyffuriau, yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ystod toriad haf y Cynulliad o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr 2018. Datgelodd y rhain fod gan Gymru y ffigurau ail uchaf ymhlith 10 ardal—naw rhanbarth yn Lloegr a Chymru. Yng Nghymru y cafwyd y cynnydd mwyaf ond un yn ei chyfradd dros y 10 mlynedd diwethaf, cynnydd o 84 y cant, a'r gyfradd marwolaethau ail uchaf yn ôl oed safonedig ar gyfer marwolaethau fesul miliwn yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yn ôl gwlad a rhanbarth a gofrestrwyd yn 2018. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am fynd i'r afael â pholisi camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ers dau ddegawd bellach, Llywydd, mae hyn yn haeddu datganiad ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn digwydd.
Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar gyllid ar gyfer sbardunwr menter gymdeithasol yn y gogledd. Dros y pum mlynedd diwethaf mae gwaith sy'n cynnwys Prifysgol Bangor a chydweithwyr yng Nghymru ac Iwerddon wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu sbardunwr menter gymdeithasol. Maen nhw wedi cael gwybod sawl gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf bod €3.4 miliwn o gyllid INTERREG wedi'i neilltuo ar gyfer eu prosiect. Fodd bynnag, mae'r oedi a fu dro ar ôl tro gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru, bellach wedi arwain at sefyllfa lle gallai'r arian sydd wedi'i neilltuo gael ei ddychwelyd i Ewrop heb ei wario. Dywedant os oedd WEFO wedi penderfynu bod prosiectau gwell i'w hariannu, y byddai hynny'n cael ei ddeall, ond mae'r sbardunwr menter gymdeithasol eisoes wedi cael ei gais cychwynnol a chymeradwywyd ei gynllun busnes cyfnod 1. Mae'r broses o gymeradwyo'r prosiect wedi cymryd cymaint o amser fel ei bod yn edrych fel y gallent redeg allan o amser yn awr a chafwyd adegau pan oeddent yn aros tri mis hyd yn oed i gael ymateb i ohebiaeth. Dywedant y bydd yr oedi annerbyniol gan WEFO, os na ellir gwneud dim, wedi costio dros £1.7 miliwn o gyllid i economïau'r gogledd a'r gorllewin pan fo prosiect tebyg yn ne-orllewin Lloegr eisoes wedi cyflawni dros £16 miliwn o werth economaidd ac wedi cefnogi'r gwaith o greu dros 1,000 o swyddi. Felly, a wnewch chi ddarparu datganiad yn nodi eu bod wedi dweud wrthyf i, os nad ydym yn rhy hwyr, y byddent yn ddiolchgar pe gallech weld a ellir gwneud unrhyw beth o hyd i sicrhau y caiff y cynnig am brosiect ei asesu mewn pryd i sicrhau'r cyllid hwn sydd wedi'i glustnodi?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynllun cyflawni nesaf ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Felly credaf y byddai hynny'n gyfle i Mark Isherwood archwilio'r cynllun hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn fodlon ei fod yn mynd i'r afael â'r math o faterion y mae'n eu disgrifio yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau. Felly, gwn y byddai unrhyw gyfraniad y byddai'n ei gael i'r ymgynghoriad hwnnw yn cael ei groesawu, ac yna bydd y Gweinidog yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater pan fydd yr ymgynghoriad wedi cau.
O ran y sbardunwr mentrau cymdeithasol, byddaf yn sicr yn ymchwilio i'r mater hwnnw fy hun ac yna'n ceisio mynd at wraidd yr oedi.
Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Ineos ynglŷn â'r potensial ar gyfer creu 500 o swyddi pan fydd Ford—. Wel, mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n gadael safle Pen-y-bont. Os ydy hynny am ddigwydd, dŷn ni ar ddeall o'r Financial Times fod gan Jim Ratcliffe ddiddordeb yn y safle hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud bod gen i beth consýrn yn hynny o beth o ran ei drac record ar hawliau gweithwyr, ond yn ôl yr erthygl honno, mae yna drafodaethau wedi digwydd a hoffwn i gael datganiad gennych chi fel Llywodraeth i adael i ni wybod fel Aelodau—wel, nid jest Aelodau sydd yn cynrychioli'r ardal honno, ond pob un ohonom i wybod beth yw safon y trafodaethau hynny.
Mae'r ail gais am ddatganiad—ac rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma i'm clywed gan fy mod yn mynd yn fwyfwy rhwystredig—yn ymwneud â'r ffaith nad ydym yn cael unrhyw gynnydd o gwbl ar y cyhoeddiad o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf wedi bod yn eithaf goddefgar, rwy'n credu, wrth geisio aros am ganlyniad y fframwaith, ond rwyf wedi dod i'r pwynt yn awr lle'r wyf wedi gorfod ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog am nad yw wedi ateb llythyr a ysgrifennais ato ym mis Gorffennaf. Mae ymgyrchwyr a dioddefwyr a gymerodd ran yn ddidwyll fel rhan o'r adolygiad hwnnw o'r fframwaith anhwylderau bwyta, sydd am weld newidiadau cadarnhaol, sydd am weithio gyda'r Gweinidog, ond sy'n teimlo'n rhwystredig iawn wrth deimlo bod ef a'i dîm yn eu hanwybyddu. Os gwelwch yn dda, nid wyf eisiau sefyll yma wythnos ar ôl wythnos yn gofyn am ddatganiad ar hyn. Rydym yn sôn am fywydau pobl, pobl sydd wedi dioddef anhwylderau bwyta ar hyd eu hoes. Gweithredwch os gwelwch yn dda.
O ran eich diddordeb yn Ineos—ac rwy'n ymwybodol o'r erthygl FT hefyd—gwn, pan fydd cyhoeddiad i'w wneud, y bydd y Gweinidog economi a thrafnidiaeth yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw.
O ran y fframwaith anhwylderau bwyta, mae'r Gweinidog iechyd yn fy nghynghori y bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn gyntaf, hoffwn gysylltu fy hun â'r pryderon a fynegwyd gan Nick Ramsay ynghylch e-sigaréts. Mae'n ddiddorol nodi bod Peter Black, a wrthwynebodd y ddeddfwriaeth ar e-sigaréts a gyflwynwyd gan y Gweinidog iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog bellach, i roi'r un rheolaethau rheoleiddio iddo ag ysmygu sigaréts—. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall yn glir pam mae'r rheoliadau yn y DU yn ein diogelu rhag y risgiau difrifol sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu mai dyna'r peth penodol yr hoffwn ei weld. Ai'r ffaith yw bod y rheoleiddio'n well yn y DU, ac yn benodol yng Nghymru, i sicrhau nad ydym yn cael y marwolaethau sydd wedi bod yn gysylltiedig ag e-sigaréts yn yr Unol Daleithiau, a phobl yn mynd yn ddifrifol wael a oedd fel arall yn iach ym mhob ffordd?
Yn ail, hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau £3.6 miliwn o arian Ewropeaidd yn ddiweddar ar gyfer ei chyfleuster microsgop electron i ddatblygu ymchwil flaengar mewn catalysis, a fydd yn cyflymu ffyrdd glanach, rhatach a mwy diogel o weithgynhyrchu nwyddau, ac yn gwbl berthnasol i bwyntiau John Griffiths a wnaed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog am ddur trydanol. Dyma'r union fath o ymchwil y mae arnom ei hangen, ac rwyf eisiau cyferbynnu'r cyfle hwnnw i ddatblygu gweithgynhyrchu mwy diogel, mwy cynaliadwy a gwyrddach yng Nghymru, a gawn o ganlyniad i'r grant hwnnw gan yr UE, â'r rhybudd sy'n cael ei fynegi gan is-gangellorion prifysgol. Mae pedwar o bob pum is-ganghellor prifysgol yn gorfod poeni ynghylch lle maen nhw'n mynd i gael naill ai eu papur tŷ bach neu sut maent yn mynd i fwydo eu myfyrwyr mewn neuaddau preswyl yn achos Brexit 'dim cytundeb'. Yng Nghaerdydd yn benodol, mae dros 700 o staff yn ddinasyddion yr UE, a phwy fydd yn cymryd eu lle hwy? Maen nhw'n gwneud ymchwil gwirioneddol bwysig, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael datganiad gan y Llywodraeth am effaith 'dim cytundeb' ar ein sector prifysgolion, nid Prifysgol Caerdydd yn unig.
Ac yn olaf, cwestiwn penodol am y paratoadau 'dim cytundeb' y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud mewn cysylltiad â'n dŵr glân, oherwydd deallaf, o ddatganiad Llywodraeth Cymru, fod cemegau sy'n dod o Ewrop sy'n helpu i gadw ein dŵr yn lân. Felly, hoffwn wybod beth yw'r manylion ar beth yw'r cemegau hyn, pam nad yw'n bosibl i ni eu cynhyrchu yn y DU, a sut, o dan yr amgylchiadau trychinebus ofnadwy hyn, yr ydym yn mynd i gynnal cyflenwad dŵr glân ar gyfer ein dinasyddion. Oherwydd, yn y pen draw, dyna'r peth pwysicaf y mae'n rhaid inni ei wneud.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r mater ac am gysylltu ei hun â sylwadau Nick Ramsay am e-sigaréts a'r pryder am yr hyn yr ydym wedi'i weld yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar safbwynt cyffredin, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau a mwyaf diweddar. Ac yn amlwg, rwy'n credu y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i rannu'r safbwynt cyffredin hwnnw pan fyddwn ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno.
Mae datganiad gan y Gweinidog dros Brexit yn ddiweddarach y prynhawn yma—rwy'n credu mai dyma'r eitem nesaf o fusnes—felly byddai hynny'n gyfle i ofyn rhai o'r cwestiynau yr ydych chi newydd eu codi yn y cyfraniad mwyaf diweddar. Ond y ffordd yr ydych wedi disgrifio ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—y gefnogaeth a gawsom ar gyfer arloesi ac ar gyfer gweithgynhyrchu diogel a chynaliadwy a'r potensial cyffrous yn y dyfodol—ac yna gyferbynnu hynny â'r pryderon a ddisgrifiwyd gennych am y pethau y mae is-gangellorion prifysgolion yn gorfod ymwneud â nhw a threulio eu hamser arnynt, mae hynny' n dangos yn wirioneddol y math o effaith y bydd Brexit yn ei chael arnom a'r hyn y byddem yn ei golli pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
O ran dŵr, byddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r cynllun gweithredu yn nodi'r risgiau strategol yr ydym yn ymwybodol ohonynt ac yn nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y meysydd hynny, a gallaf gadarnhau bod Dŵr Cymru'n gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant dŵr ehangach i sicrhau cyflenwad parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer pob posibilrwydd.
Rwy'n edrych ar ddatganiad y Llywodraeth ar wneud y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll yn un o flaenoriaethau absoliwt y Llywodraeth. Euthum i wylnos a gefnogwyd yn dda iawn yng Nghaerdydd yn ddiweddar gyda llawer o rieni a llawer o bobl ifanc, ac roedd yn addysg i wrando, yn enwedig ar y bobl ifanc a oedd yn sôn am sut y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt. Tybed a fydd Gweinidogion neu swyddogion y Llywodraeth yn eistedd ac yn cyfarfod ag ymgyrchwyr i drafod ffyrdd o weithredu yn y dyfodol, oherwydd mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth absoliwt.
Diolch am godi'r mater pwysig iawn hwn, sef y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo hefyd—comisiynydd heddlu a throsedd de Cymru sy'n gwasanaethu eich ardal chi. Byddaf yn holi'r Gweinidogion am y ffordd orau a mwyaf priodol ymlaen o ran ymgysylltu â phartïon â diddordeb ynglŷn â'r frwydr yn erbyn troseddau cyllyll.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y swyddogaeth y mae chwaraeon yn ei chwarae wrth ddelio ag iechyd meddwl? Roedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn cael ei nodi'r wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn o arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth—ymgyrch lwyddiannus—gyda chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, AFC Club Wrecsam, Clwb Newport County AFC ac elusen yr Ymddiriedolaeth Camsefyll. Yn anffodus, rydym i gyd yn gwybod y bydd 84 o ddynion, yn ystod yr wythnos honno, wedi cyflawni hunanladdiad erbyn diwedd gêm uwch gynghrair ar ddydd Sul. Nawr, i mi ac i lawer o bobl eraill yn y Siambr hon, mae'r ystadegau hynny'n frawychus ac yn amlwg yn annerbyniol.
Mae llawer ohonom hefyd yn gwybod, y rhai sy'n cael trafferth gydag iechyd meddwl, mai ein meddyliau ni, yn eithaf aml, sy'n achosi'r poen mwyaf yn hytrach nag unrhyw wrthrych. Felly hoffwn ddiolch, a gofyn i'r Trefnydd ddiolch hefyd, i unrhyw un o'r rhai a ymunodd mewn gwahanol ymgyrchoedd ar y diwrnod hwnnw a gwneud hynny'n ddyddiol. Rwyf yn sicr yn gwybod am y boen a deimlais yn ystod y diwrnod hwnnw ac yn y cyfnod cyn hynny a hyd yn oed yn awr wrth sefyll yma yn y Siambr.
Mae angen inni gydnabod bod iechyd meddwl a hunanladdiad, mewn gwirionedd, bellach yn argyfwng cenedlaethol. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud, Llywydd, 'Pryd mae'r gefnogaeth yn dod i ben?' Wel, gadewch imi fod yn glir yn y Siambr hon: i mi, nid yw'r gefnogaeth yn dod i ben. Ni ddylai'r gefnogaeth yr ydym yn ei dangos i bobl byth ddod i ben, oherwydd rydym yn sôn am fywydau pobl a bywydau eu teuluoedd a'u ffrindiau. Fy neges i bobl yng Nghymru heddiw ac ar draws y DU inni weithio gyda'n gilydd er mwyn gwella iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, a hynny fel Llywodraeth, fel Aelodau Cynulliad, fel ffrindiau, fel teulu, ond yn y bôn fel bodau dynol.
Diolch, Jack, am godi hynny a chredaf eich bod wedi dweud hynny'n llawer mwy huawdl nag y gallwn i, ond byddwn yn sicr yn talu teyrnged i bopeth yr ydych wedi'i ddweud ac yn rhoi ein cefnogaeth, fel Llywodraeth Cymru, i'r pryder sydd gennych am y mater hwn ac yn rhannu'ch barn a'ch diolch i bawb sy'n darparu'r glust i wrando honno i bobl sydd yn y sefyllfaoedd tywyll iawn hynny.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl, ac roedd eich awgrym ar y dechrau'n dweud bod angen inni sicrhau bod chwaraeon a'r maes hwnnw'n cael y gorau o ran cefnogi iechyd meddwl hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn sicrhau bod y synergeddau hynny ar draws chwaraeon yn y ffyrdd yr ydym eisoes yn gwybod ei fod ar gael i bethau fel camddefnyddio sylweddau a digartrefedd. Felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn y byddwn yn ei ddatblygu.
Tybed a allech roi gwybod i mi, Trefnydd, a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio dadl neu ddatganiad ar anghenion sgiliau Cymru yn fuan? Mae adroddiad i'w lansio yr wythnos nesaf gan ColegauCymru o'r enw 'Adeiladu Cymru Well—gwersi gan Ewrop', sy'n ymwneud ag anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol ac yn archwilio'r cysylltiad rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd rhanbarthol. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth a chyfweliadau ar draws chwe gwlad yn Ewrop, a hefyd yma yng Nghymru ei hun. Ac mae'r ymchwil hon yn ceisio cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru a'r sgwrs sy'n digwydd yng Nghymru ynglŷn ag anghenion sgiliau. Mae'r adroddiad yn bosibl oherwydd arian yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cynnwys nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys y dylai ystod ehangach o sefydliadau busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint, gael eu cynnwys yn fwy manwl ac effeithiol wrth benderfynu pa sgiliau y dylid eu darparu yn y dyfodol, a sut y gallem gael dulliau effeithiol o gyflawni hynny. Mae hefyd yn galw am adolygiad o hyfforddiant sgiliau ôl-16 yng Nghymru, i ddarparu trefniadau ariannu tymor hwy sy'n cefnogi cydweithredu, ac y dylid cael cynllunio tymor hwy a chynllunio olyniaeth o ran anghenion sgiliau yn y dyfodol ar sail fwy effeithiol.
Dyma fydd pwnc y grŵp trawsbleidiol nesaf ar addysg bellach a'r cyfarfod sgiliau yn y dyfodol, a gynhelir yr wythnos nesaf, a byddai'n dda pe bai cynifer o ACau ag y bo modd yn mynd ati i gymryd rhan yn hynny. Ond, yn y bôn, Trefnydd, rwy'n credu, gyda Brexit yn dal i fod yn bosibilrwydd gwirioneddol a'r ergydion economaidd a allai ddod yn ei sgil, fod gwir angen inni ganolbwyntio ar anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn eu darparu mor effeithiol â phosibl.
Diolch, John Griffiths, am dynnu sylw at yr adroddiad hwnnw. Fel y gwyddoch chi, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i bob aelod o'r Cabinet ysgwyddo cyfrifoldeb dros un o feysydd trawsbynciol y Llywodraeth, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r holl waith a wnawn ni ar draws gwahanol adrannau. Cefais y swyddogaeth o ymgymryd â'r agenda cyflogadwyedd a sgiliau yn rhan o'r gwaith trawsbynciol hwnnw, felly, yn sicr byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael copi o adroddiad ColegauCymru i helpu i lywio ein syniadau wrth inni ddatblygu hynny, a byddaf yn ymchwilio hefyd i'r hyn efallai yw'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud ar sgiliau.
Diolch i'r Trefnydd am hynna.