Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 17 Medi 2019.
Rwy'n diolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ef. Diddorol iawn oedd ailysgrifennu hanes ar y cychwyn cyntaf, gan gadarnhau, yn ei farn ef, mai gwario gwirion yn hytrach na dirywiad economaidd byd-eang a effeithiodd ar yr economi yn y DU. Ond fe roddwn ni hynny o'r neilltu ac ystyried y cwestiynau eraill a ofynnwyd ganddo.
Y cyntaf oedd pa fath o ymgysylltu a gawsom â Llywodraeth y DU o ran y cylch gwario. Cawsom gyfarfod pedair ochrog gyda Gweinidogion cyllid ddiwedd mis Awst, lle roeddem ni'n ceisio cael rhywfaint o wybodaeth. Ni chafwyd llawer o wybodaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ond fe wneuthum i bwysleisio'r pwynt, y gwnaeth Nick Ramsay sôn amdano hefyd, sef bod yr ymgyrch i 'ymadael' ac aelodau'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn eglur iawn na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i Brexit. Fe wneuthum i'r pwynt bod angen inni sicrhau bod yr addewid honno'n cael ei hanrhydeddu, ond roeddwn i'n bryderus iawn fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dweud 'Wel, addewid gan yr ymgyrch i "ymadael" oedd hynny; ac nid oedd yn addewid gan Lywodraeth Geidwadol.' Ond serch hynny, y Prif Weinidog oedd yn arwain yr ymgyrch i 'ymadael', ac felly rwyf i o'r farn y dylem ni fod yn ei ddwyn ef i gyfrif am yr addewid honno. Ar ddiwrnod y cylch gwario, fe gefais i sgwrs fer, unwaith eto, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, sy'n draddodiadol, fel y gall ef roi gwybod inni am y dyraniadau cyn unrhyw ddatganiad ffurfiol.
Mae Nick Ramsay yn cyhuddo'r Prif Weinidog a minnau o fod braidd yn wangalon o ran ein hagwedd ni ar hyn. Ond fe gredaf i fod gennym ni bob hawl i hynny oherwydd, fel yr ydym ni wedi ei gydnabod ar sail tebyg am debyg, fe fydd ein cyllideb ni yn 2021 yn parhau i fod 2 y cant yn is, neu £3 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol, na degawd yn ôl. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r economi ers 2010-11, fe fyddai £4 biliwn yn uwch yn 2021. Dychmygwch yr hyn y gallem ni ei wneud gyda hynny. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r duedd hirdymor mewn gwariant cyhoeddus, fe fyddai £6 biliwn yn uwch yn 2020-21. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amlwg iawn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn y gallem ni fod yn ei gyflawni a'r arian ychwanegol y gallem ni ei roi i'n heriau fyrdd a'r blaenoriaethau sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Fe gawsom ni addewid o adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ystod cyfarfod pedair ochrog blaenorol y Gweinidogion cyllid, ond yn anffodus, ni ddaeth hynny i fod. Mae hynny'n siomedig am sawl rheswm, ond un ohonyn nhw yw ein bod ni'n cydymdeimlo'n fawr â'r galwadau gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus sy'n awyddus i allu cyllidebu dros gyfnod hwy i gefnogi eu blaengynllunio ariannol nhw. Ond nid yw'r cylch gwario un flwyddyn hwn a gaiff ei gyflwyno'n gyflym yn caniatáu i'n cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol a gwasanaethau eraill gael y cyfle i wneud hynny. Ac, fel y dywedais, nid ydym ni'n hyderus y bydd y cylch gwario arbennig hwn yn gynaliadwy, nac y bydd y cyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn dod i'r golau o reidrwydd, gan fod y Prif Weinidog yn llygad ei le y bydd yn rhaid pleidleisio ar unrhyw gyllid yn ôl y Ddeddf cyllid yn Senedd y DU ac, fel y gwelwn ni, nid yw Senedd y DU yn eistedd ar hyn o bryd.
O ran croeso Nick Ramsay i'r ffaith ein bod ni'n bwriadu cyflwyno'r gyllideb yn gynharach, fel y dywedais, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes eisoes. Cawsom sgwrs am hynny yn y Pwyllgor Busnes y bore yma a gwn fod y Pwyllgor Cyllid yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn yn eu cyfarfod nhw ddydd Iau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau cyn gynted ag y bo modd. Ond mae'r gwaith ar y gyllideb wedi bod yn mynd rhagddo, mewn gwirionedd, ers—mis Mawrth diwethaf rwy'n credu imi ddechrau cael sgyrsiau gyda chydweithwyr yn y lle cyntaf Rydym yn cytuno ar ein strategaeth gyffredinol yn y Cabinet yn gynnar yn y gwanwyn bob blwyddyn, ac yna ceir cyfres o gyfarfodydd dwyochrog rhyngof fi a Gweinidogion eraill—ac rydym ni'n mynd drwy rownd arall o'r rhain ar hyn o bryd—gan nodi blaenoriaethau, cyfleoedd a gwasgfeydd ac ati. Bydd y rhain yn llywio'r gyllideb, fel y bydd y gyfres o ymweliadau a ymgymerais i dros yr haf a'r gyfres o gyfarfodydd eraill yr wyf i wedi eu trefnu gyda phartïon sydd â diddordeb yn ystod yr wythnosau nesaf.