6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:25, 17 Medi 2019

Dwi'n meddwl bod y cyd-destun cyllidol yn newid cymaint a’r anrhefn rydyn ni’n ei wynebu yn dwysáu i’r graddau fel ei bod hi’n anodd iawn dod i gasgliadau pendant ynglŷn â beth fydd impact tebygol datganiad y Canghellor. Ni allwn ni ddweud beth ydy gwerth y £593 miliwn ychwanegol mewn difrif, ac mae’r gair 'ychwanegol' yna mewn dyfynodau gen i. Mae’n anodd iawn dweud beth fydd y costau ychwanegol a ddaw yn sgil llanast Brexit. Rydyn ni’n gwybod bod yna biliynau o bunnoedd yn ychwanegol yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Prydain tuag at baratoi am Brexit—o, yr eironi—ond dydyn ni ddim yn gwybod, go iawn, beth fydd y costau o ymateb iddo fo o bwrs Llywodraeth Cymru, ac mi fydd costau, wrth gwrs, yn anochel.

Dydyn ni ddim yn gallu dweud beth fydd yr impact ar refeniw trethiant. Mae pob darn o dystiolaeth yn awgrymu mai impact negyddol bydd o’n ei gael—o bosib yr economi'n crebachu 10 y cant. A hyd yn oed os mai dim ond dros gyfnod byr fyddai o, mi fyddai effaith hynny’n andwyol iawn ac yn cael impact ar y pwrs cyhoeddus. Ond hefyd, cofiwch fod dim datganiad wedi dod gan Lywodraeth Boris Johnson ar y shared prosperity fund yma. Heb arian ychwanegol i gymryd lle cyllid Ewropeaidd os ydyn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fyddwn ni ar ein colled o gannoedd o filiynau o’r cychwyn. Felly, dyna’r cefndir. Does dim modd mesur beth ydy gwerth yr arian yma.

Ychydig o gwestiynau gen i. Datganiad un flwyddyn oedd hwn, wrth gwrs, nid tair. A allwch chi ddweud wrthym ni a oes bwriad ar y pwynt yma i roi rhagor o arian i mewn i gronfeydd wrth gefn? Y rheswm, wrth gwrs, oherwydd ansicrwydd ar lefel eithaf sylfaenol o 2021-22 ymlaen, mi fydd angen paratoi ar gyfer yr ansicrwydd hwnnw. Hefyd, dwi’n croesawu, fel aelod o’r Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid, yn digwydd bod, y bwriad i ddod â datganiadau’r gyllideb ymlaen. Y mwyaf o amser sydd gennym ni i sgrwtineiddio’r rheini, i fynd allan a thrafod efo rhanddeiliaid, y gorau, wrth reswm.

Ond, gaf i ofyn am sicrwydd buan bod yn rhaid i ddegawd o doriadau i gyllidebau llywodraeth leol yn benodol ddod i ben? Mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn mewn cyllidebau rŵan. Dydy setliad fflat ar gyfer y flwyddyn nesaf ddim yn mynd i fod yn dderbyniol. Yn Ynys Môn, er enghraifft, mi fues i'n trafod efo swyddogion y cyngor yr wythnos yma, ac mi fydd angen rhywbeth fel £6 miliwn yn ychwanegol i aros yn llonydd. A dyna ydy'r realiti gwirioneddol. A do, mi fu'n rhaid i gyngor Ynys Môn wneud y penderfyniad anodd i godi'r dreth gyngor o bron i 10 y cant y llynedd. Ni allan nhw feddwl am godi o'r un faint yn y flwyddyn nesaf. Fyddai hynny ddim yn gynaliadwy i'm hetholwyr i, felly mae'r dewis yna wedi mynd allan o'r ffenest. Felly, all setliad fflat ddim rhywsut cael ei werthu fel newyddion da ar gyfer y flwyddyn nesaf; mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn yn y cyllidebau hynny.

Ac efo hynny o gwestiynau am y tro, mi adawaf i hi.