6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:28, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Rhun ap Iorwerth am godi'r materion hynny. Y cyntaf oedd cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £2 biliwn arall yn 2021 i ymateb i effeithiau tebygol ymadael â'r UE. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, ar sail yr hyn a ddywedodd y Canghellor, ei bod hi'n debyg na fydd Cymru yn gweld—neu yn sicr ni fydd Llywodraeth Cymru yn gweld—llawer o'r arian hwnnw, oherwydd ei fod yn canolbwyntio'n fawr ar feysydd polisi neilltuol. Felly, nid oes gennym unrhyw ddisgwyliad y bydd hynny'n cyrraedd Cymru, ac yn amlwg mae hynny'n destun pryder mawr inni. Cytunaf yn llwyr â'r pryderon bod y Canghellor, gyda llai na 60 diwrnod eto cyn diwrnod yr ymadael, yn gwbl dawedog ynglŷn â'r mater o gyllid newydd i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Nid oes gennym ddim hyd yma o ran cronfa ffyniant a rennir i'r dyfodol. Rydym ni'n deall fod yna bapur, ond rwy'n dechrau amau a yw'r papur hwnnw'n bodoli hyd yn oed ac a oes gwaith wedi cael ei wneud arno, oherwydd fe addawyd hwn lawer gwaith ond ni ddaeth i'r golwg eto.

Felly, bydd angen cyllid ychwanegol, ac fel y mae Rhun ap Iorwerth yn sylweddoli, mae'n anodd iawn inni fesur faint o arian a fydd ei angen, oherwydd mae cymaint o bethau i'w hystyried a chymaint o wahanol ffurfiau y gallai Brexit ei gymryd eto, er ein bod ni'n deall beth fydd y senarios mwyaf tebygol. Felly, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gyllid i liniaru effeithiau Brexit 'dim cytundeb' ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei bwysleisio gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn y cyfarfod pedair ochrog ynglŷn â chyllid ddiwedd mis Awst.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni hefyd, ynghyd â chyllid ychwanegol, yn chwilio am hyblygrwydd newydd i ymateb i Brexit 'dim cytundeb' a'n helpu i reoli'r newid hwnnw drwy gyfnod gwarant Trysorlys ei Mawrhydi. Felly, er enghraifft, gallai hynny gynnwys cynyddu'r terfynau blynyddol ac agregedig ar gyfer defnyddio cronfa wrth gefn Cymru ac yn y blaen. Felly, ceir gwahanol ystyriaethau a gwahanol sgyrsiau yr ydym yn  ceisio eu cael â Llywodraeth y DU yn hyn o beth.

Fe dynnodd Rhun sylw hefyd at y ffaith ein bod ni wedi cael setliad blwyddyn yn hytrach na setliad tair blynedd. Yn ogystal â'i gwneud hi'n anodd inni gynllunio ymlaen llaw, mae yna rai ystyriaethau ymarferol iawn hefyd. Felly, pan fydd Llywodraeth y DU yn pennu'r dyraniad ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel rheol, yng nghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, byddai adolygiad llawn o'r ffactorau cymharedd yn fformiwla Barnett cyn yr adolygiad hwnnw o wariant, ac fe fyddai hynny'n pennu'r gyfran o bob cyllideb adrannol Llywodraeth y DU sydd i'w gwario ar raglenni nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Yna fe ddefnyddir gwybodaeth gyllidebol ddiweddar i sicrhau bod y cyfrannau hynny'n gyfredol ac yn adlewyrchu trefniadau adrannol diweddaraf y DU. Ond, yn anffodus, yn yr achos hwn, nid oes amser wedi bod na gwaith wedi digwydd ar ddatblygu'r rhain a mireinio'r ffactorau cymharedd hynny. Felly dim ond arolwg rhannol iawn a gafwyd o'r rhain, sy'n golygu nad yw fformiwla Barnett yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer dosrannu gwariant i weinyddiaethau datganoledig. Felly, dyna reswm arall pam mae adolygiad un flwyddyn yn gwbl anfoddhaol, o'i gymharu â datganiad mwy cynhwysfawr o dair blynedd.

Gofynnwyd y cwestiwn hefyd ynghylch pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i gronfa wrth gefn Cymru. Wel, bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau cyffredinol sydd gennym ni yn y Llywodraeth. Ac rwy'n rhannu edmygedd Rhun ap Iorwerth o lywodraeth leol. Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud ymdrechion arwrol i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn parhau mewn cyfnod anodd iawn, ac rydym ni'n gwerthfawrogi pa mor enfawr yw'r pwysau sydd ar Lywodraeth Leol. Felly, yn ein trafodaethau cynnar, ac fel y dywedais yn fy natganiad, rydym wedi bod yn awyddus iawn bod iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond, ar yr un pryd, mae rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol yn ganolog i'n hystyriaethau ni.