Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 17 Medi 2019.
Yn gyntaf oll, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn ail, hoffwn i ddiolch i'r Canghellor, Sajid Javid, am gadarnhau'r hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud ers imi gael fy ethol yn 2011: polisi gwleidyddol yw cyni ac nid polisi economaidd. Mae'r ddyled genedlaethol wedi codi o £1.78 triliwn i £1.82 triliwn yn y flwyddyn ddiwethaf, felly nid oes gennym lai o ddyled fel gwlad. Ac nid wyf i'n credu mai gormod o athrawon, gormod o lyfrgellwyr a gormod o feddygon oedd achos y dirwasgiad. Rwyf i o'r farn iddo gael ei achosi gan fancwyr yn ymhél â chyfalafiaeth y casino.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hyd yn hyn ar baratoadau ar gyfer cyllideb yr hydref, er bod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn datgan y dylen nhw roi 10 wythnos o rybudd i'r swyddfa. Mae llythyr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol at Lywodraeth y DU yn ei gwneud hi'n glir y byddai angen i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wybod ar ba senario Brexit y dylai ei diweddariad fod yn seiliedig: cytundeb neu heb gytundeb—mae hynny'n swnio fel rhaglen deledu—cyn egluro bod rhybudd diweddar yn golygu y bydd Trysorlys Ei Mawrhydi yn dibynnu ar ragolwg bras iawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu ddim un o gwbl.
Rwyf eisiau croesawu'r arian ychwanegol; mae codiadau mewn termau gwirioneddol o 2.3 a 2.4 y cant mewn refeniw a chyfalaf yn amlwg o fudd i economi Cymru. Mae'n siomedig iawn nad oedd hwn yn setliad tair blynedd yn seiliedig ar yr un union godiadau o 2.3 a 2.4 mewn termau gwirioneddol.
Mae gennyf dri chwestiwn i'r Gweinidog. Rydym wedi gweld yr hyn a gawsom ni gan San Steffan: a yw Llywodraeth San Steffan wedi dangos y cyfrifiadau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw i gyfrifo cyfran Cymru ac a oes system i apelio mewn bodolaeth, sy'n annibynnol ar y Trysorlys? Rydym wedi siarad am hynny ers cryn amser—y gallu i apelio yn erbyn yr hyn a ddywedodd y Trysorlys. Ni allwn gael sefyllfa lle gall y Trysorlys wneud penderfyniad, a phan nad ydych chi'n hapus, y Trysorlys yn dweud wrthych, 'Wel, rydym ni wedi ailedrych arno eto a dyma'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w gael.' A'r peth olaf yw hyn—ac mewn gwirionedd mae'n dilyn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, a bydd pobl yn gwybod fy mod i'n gefnogwr brwd o lywodraeth leol Cymru, ni waeth pa blaid sy'n rhedeg y cyngor, neu ddim un—a yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol fel gofal cymdeithasol ac addysg? Ac os ydym yn cael cynnydd mewn termau gwirioneddol, pam na allwn ni ddweud nawr na fydd unrhyw awdurdod lleol yn gweld gostyngiad mewn termau gwirioneddol?