Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 17 Medi 2019.
Yn flaenorol rwyf wedi nodweddu rhai o gyfraniadau'r Gweinidog cyllid fel cwynion hirfaith am gyni ac weithiau Brexit. Pan wrandawais i ar ddatganiad y Canghellor a chlywed nid yn unig y datganiad bod cyni ar ben, ond bod cynnydd sylweddol mewn gwariant, a chan ddechrau ystyried beth y byddai hynny'n ei olygu o ran pa arian ychwanegol a ddaw i Gymru, meddyliais 'Beth ar y ddaear fydd gan Rebecca Evans i'w ddweud nawr?' Roeddwn i'n gobeithio y byddem ni efallai'n clywed mwy am eich cyfrifoldebau chi yn hytrach na'r cwynion am gyni, ond heddiw clywsom yr un hen gân eto. Mae fel pe bai dim newid wedi bod. Nid oes croeso yn unman yn eich datganiad chi i'r cynnydd hwn mewn gwariant. Os ydych chi'n poeni cymaint am gyni, pan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau cynyddu gwariant, a'i gynyddu'n sylweddol, pam nad ydych chi'n ei groesawu? Ym mhobman yn eich datganiad rydym yn gweld y dehongliad mwyaf pesimistaidd. Gadewch imi roi ychydig o enghreifftiau i chi. Efallai y gall rhai o'ch meincwyr cefn fod o gymorth. Rydych chi'n dweud :
Ers mis Mawrth mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae data'r arolwg diweddaraf yn dangos ei bod yn egwan o hyd.
Pam ydych chi'n mynd ymlaen at y data arolwg diweddaraf? Pam nad ydych chi'n ystyried y data swyddogol diweddaraf? Cawsom ddata cynnyrch domestig gros ar gyfer mis Gorffennaf a oedd yn dangos ei fod wedi codi 0.3 y cant mewn un mis yn unig, o fis Mehefin i fis Gorffennaf. Oni bai y gwelir cwymp sylweddol ym mis Awst a Medi, byddwn yn gweld twf yn y trydydd chwarter. Pam nad oeddech chi'n sôn am hynny?
Yna, fe ewch chi yn eich blaen i ddweud:
Mae economi lai yn golygu refeniw treth is.
Eto i gyd, mae'n fwy cymhleth na hynny. Mae gennym system sy'n flaengar a heb ei mynegeio yn llawn, felly hyd yn oed os nad yw'r economi wirioneddol yn tyfu, mae chwyddiant, gyda phopeth arall yn gyfartal, yn arwain at rywfaint o refeniw treth dros amser. Yn llawer mwy arwyddocaol, roedd yn rhaid edrych nid yn unig ar y gyfradd dwf gyffredinol, ond ar y gymysgedd o dwf, oherwydd mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn yr ydym ni'n ei gael o ran refeniw treth. Roeddwn i'n bryderus adeg y gyllideb, nad oedd dim newid yn y rhagolygon chwe mis yn ddiweddarach ac, i bob golwg, nad oedd unrhyw ystyriaeth i'r hyn oedd cymysgedd y twf a'r goblygiadau ar gyfer treth. Onid yw'r Gweinidog dros Gyllid yn deall, pan ydym ni'n gweld twf, fel yr ydym ni wedi gwneud yn ddiweddar, fod hynny'n canolbwyntio'n fawr ar y defnyddiwr, rydym ni'n gweld marchnad lafur gref o ran cyflogaeth ac yn fwy diweddar o ran twf cyflogau—sy'n arwain ymlaen gyda lluosydd sylweddol at dderbyniad mwy o dreth? Eto i gyd, yn y mannau lle gwelwyd gwendid yn yr economi—yn enwedig mewn buddsoddiadau, i raddau mewn allforion—mae'r mannau hynny'n aml yn tynnu oddi wrth dderbyniad treth. Os ydych chi'n allforio, fe gewch chi ad-daliad treth ar werth. Os ydych chi'n buddsoddi, fe gewch chi lwfans cyfalaf ac fe fyddwch chi'n gwario llai mewn treth gorfforaethol. A wnaiff y Gweinidog ystyried y gymysgedd o dreth ac ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â'r materion hyn, gan ei bod hi ei hunan yn gyfrifol am gryn dipyn o dreth erbyn hyn?
A gaf i hefyd ei holi ynglŷn â'r sylw hwn:
Rydym yn gwybod bod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai?
Nid ydym yn gwybod hynny. Cafwyd rhagolwg gan weision sifil yn y Trysorlys—yr union weision sifil a roddodd y rhagolygon hynny i ni y ceid dirwasgiad ar unwaith pe baem ni'n pleidleisio i ymadael ac y byddai cynnydd mewn diweithdra o 0.5 miliwn o fewn blwyddyn. Ni ddigwyddodd hynny, naddo? Mae'r rhagolwg hwnnw gan y Trysorlys wedi ei ddisodli gan nifer o ragolygon gan Fanc Lloegr. Pan gyhoeddodd y Trysorlys y rhagolwg hwnnw—allbwn o 10 y cant yn is—cafwyd rhagolygon tebyg gan Fanc Lloegr. Ac eto i gyd, maen nhw wedi ei ddiwygio ddwywaith ar ôl hynny. Y tro cyntaf i lawr i 8 y cant, ac yna i lawr i 5 y cant. Mae hyd yn oed eu rhagamcanion nhw o economi 5 y cant yn llai yn dibynnu ar ragdybiaeth fod Banc Lloegr yn ymateb i Brexit 'dim cytundeb' drwy godi cyfraddau llog o 0.75 i 4.5 y cant. Nid wyf i'n credu bod unrhyw un yn y sector preifat yn ystyried bod honno'n dybiaeth realistig, ond eto mae'r Gweinidog yn dweud 'rydym yn gwybod'.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at wyth maes blaenoriaeth ac maen nhw'n cynnwys datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Ac yna fe ddywedwch chi:
Rydym yn cydnabod bod yr wyth maes hyn...yn adlewyrchu'r adegau ym mywydau pobl pan fo'r angen mwyaf am gymorth arnyn nhw.
A wnewch chi egluro sut mae hynny'n berthnasol i feysydd blaenoriaeth datgarboneiddio a bioamrywiaeth? Hefyd, os yw datgarboneiddio, fel y dywedwch chi, yn gymaint o flaenoriaeth, pam wnaeth y Llywodraeth hon haneru ei gwariant ar brosiectau newid hinsawdd yn ei chyllideb atodol gyntaf?