– Senedd Cymru am 6:07 pm ar 24 Medi 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar yr adolygiad annibynnol ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i Chris Jofeh a'i grŵp annibynnol o randdeiliaid am gyflwyno'u hadroddiad deifiol, ond o bosib trawsnewidiol, 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell'. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf, ychydig iawn o bethau annisgwyl a geir am yr hyn y mae angen i ni ei wneud, y brys, y raddfa a'r costau, ond mae ei ddarllen yn ddigon i'ch sobri.
Pan wnaethom ni ofyn i Chris arwain y grŵp hwn yn gynnar yn 2018 yr her oedd sut, yng nghyd-destun deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, y gallem ni leihau'r carbon a ddefnyddir mewn 1.4 miliwn o gartrefi gan 80 y cant mewn 30 mlynedd drwy raglen ôl-osod ar gyfer pob deiliadaeth. Ar ôl inni dderbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mehefin, diwygiwyd y targed hwnnw i bob pwrpas i ofyn am ostyngiad o 95 y cant o leiaf, gydag uchelgais i sicrhau gostyngiad net di-garbon. Mae'r adroddiad gan y grŵp annibynnol yn nodi'r targed newydd hwn.
Mae'n nodi'r elfennau rhyngberthynol hanfodol yn y rhaglen datgarboneiddio tai y mae angen i ni eu datblygu nawr, gan weithio gydag eraill. Nid ymdrech unigol yw hon. Nodwyd saith gofyniad: ymrwymiad strategol, targedau heriol, system i sicrhau canlyniadau o ansawdd, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth, casglu data, pwyso a mesur posibiliadau, a gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau bod newid yn digwydd. Rwy'n cytuno â'r holl ofynion hyn, ac rwy'n siŵr, bod eraill yn y Siambr yn cytuno hefyd. Ond yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro hefyd, yn fy marn i, yw nad rhestr o argymhellion yw hon y gallwn ni ddewis a dethol ohoni. Os ydym ni am ymateb mewn difrif i her newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni werthfawrogi ehangder yr her sy'n ein hwynebu a'r ymateb integredig y mae'n rhaid i ni ei lunio nawr.
Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau yn y rhan fwyaf o'r meysydd polisi allweddol y mae'r adroddiad yn eu cwmpasu. Rhaid i'r Llywodraeth hon a Llywodraethau dilynol wneud eu gorau glas i wneud y newid sydd ei angen dros y 30 mlynedd nesaf, ond gadewch i ni beidio ag esgus y bydd hi'n rhwydd ac yn rhad. Mae yna gymaint o feysydd o ansicrwydd, a thri yn arbennig. Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd o ran datblygu atebion technegol cynhwysfawr i ddatgarboneiddio ein stoc dai bresennol er mwyn cyrraedd y targedau yn yr adroddiad. Mae arnom ni angen data llawer gwell ynghylch cartrefi sy'n bodoli'n barod, a gweithredir ar hynny'n fuan. Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth lawer gwell o gyfanswm costau ôl-osod. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa i allu ymrwymo'r arian y bydd ei angen, ond gwyddom y bydd angen ymrwymiad a buddsoddiad gan bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys deiliaid tai. Bydd angen i'n rhaglen adlewyrchu hynny. Ac yn drydydd, ni wyddom ni pa mor gyflym y bydd y gridiau nwy a thrydan cenedlaethol yn datgarboneiddio. Er mor bwysig yw cyflawni'r newid hwnnw, rhaid inni sicrhau hefyd y caiff ei gyflawni heb drosglwyddo'r costau hynny i deuluoedd sy'n lleiaf abl i'w fforddio.
Ni allwn ni aros nes bydd yr holl atebion gennym ni nac ychwaith nes bydd yr adnoddau gennym ni. Nid wyf yn siŵr os oes unrhyw un â'r holl atebion ynglŷn â newid hinsawdd ar hyn o bryd. Yr hyn a wyddom ni yw bod diffyg gweithredu yn peri peryglon llawer mwy. Felly, er gwaethaf yr holl beryglon ac ansicrwydd, rwyf wedi penderfynu derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad mewn egwyddor. Nid yw hyn oherwydd fy mod yn anghytuno â'r argymhellion, ond oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch y ffordd orau o'u cyflawni neu eu gweithredu a'r gwaith pellach sydd ei angen o fewn a thu allan i'r Llywodraeth er mwyn i ni fod mor glir â phosib ynghylch costau.
Hoffwn ddim ond gwneud sylwadau byr ynghylch rhai o'r prif argymhellion. Mae argymhelliad 1 yn cynnwys yr angen am ymrwymiad gan bleidiau gwleidyddol eraill i gefnogi rhaglen 30 mlynedd. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i hynny. Mae argymhelliad 2 yn gofyn i gartrefi cymdeithasol a'r rheini sy'n dioddef o dlodi tanwydd gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ymhen 10 mlynedd. Rwy'n deall y nod hwn yn llwyr ac yn cefnogi'r angen i wneud hynny, ond mae angen i mi wybod ar fyrder beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gartrefi, y costau cysylltiedig, dylanwad datgarboneiddio'r grid, y bobl sy'n berchen ar y cartrefi ac, yn bwysig iawn, y trigolion.
Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i ddechrau'r gwaith modelu ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Byddwn yn disgwyl i hynny newid pwyslais Safon Ansawdd Tai Cymru ar ôl Rhagfyr 2020. Rwy'n rhagweld manteision eraill hefyd, gan gynnwys ystyried effeithiolrwydd dulliau cyfredol mewn rhaglenni fel Cartrefi Clyd, systemau cymorth priodol i berchenogion cartrefi sy'n gallu talu, a thargedu polisïau allweddol fel y strategaeth tlodi tanwydd newydd.
Mae'n bwysig pwysleisio bod yr adroddiad a'i dystiolaeth ategol yn glir—ni all pob cartref gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ar hyn o bryd. Gallai cyflawni hynny erbyn 2030 gyflwyno costau yn y 2020au y gellir eu lleihau neu eu trosglwyddo yn y tymor hwy drwy fabwysiadu targed llai mympwyol. Efallai na fydd rhai cartrefi byth yn cyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni, ond rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' yn fwriadol. Yn sgil y modelu ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n sail i'r adroddiad, rwy'n tybio y bydd angen i ni fynd ar drywydd atebion ôl-osod. Mae hyn yn golygu gwneud y gorau y gallwn ni i leihau'r galw am ynni a'r allyriadau mewn cymaint o gartrefi ag y gallwn ni, gan ddefnyddio atebion sy'n bodoli eisoes, ar sail 'lled-edifar'. Y nod yw diogelu cartrefi mewn modd sy'n gallu bod yn ddi-garbon, ac yn barod i fabwysiadu atebion a dulliau gweithredu yn y dyfodol pan fydd hynny'n ddichonadwy ac yn ddiogel. Bydd y profi a'r treialu y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn hanfodol.
Bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn perthyn i dymor nesaf y Llywodraeth a sawl tymor ar ôl hynny. Am reswm da, ni chaniateir inni glymu dwylo ein holynwyr ac nid wyf yn cynnig gwneud hynny, ond rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr heddiw'n deall yr angen a'r brys i weithredu er gwaethaf lefel yr ansicrwydd. Felly, mae angen i ni ddechrau datblygu rhaglen newydd yn barod ar gyfer y tymor Cynulliad nesaf. Mae angen inni ddatblygu'r achos dros fuddsoddi nawr hyd yn oed os mai'r Llywodraeth nesaf fydd yn gwneud y penderfyniadau gwirioneddol ynglŷn â buddsoddi. Rwyf felly'n falch iawn o ddweud bod Chris Jofeh unwaith eto wedi cytuno i arwain y gwaith datblygu gyda rhanddeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddaf yn sefydlu grŵp cyllid gwyrdd, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, i edrych am atebion cyllid arloesol. Rydym yn gwneud cysylltiadau â'r gwaith ar dlodi tanwydd sydd ar y gweill ym mhortffolio Lesley Griffiths. Mae fy adran yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran Kirsty Williams i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau, a rhaid inni feithrin gweithlu medrus a hyfforddedig fel y gall ein cymunedau a'n busnesau bach a chanolig fanteisio ar y cyfleoedd enfawr a ddaw o werth 30 mlynedd o waith. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ar economïau sylfaenol a chylchol.
Mae ôl-osod o ran ynni yn ein cartrefi nid yn unig yn gyfle mawr i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol a chyrraedd ein targedau, ond mae hefyd yn gyfle i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gwella cysur ac ansawdd mewn cartrefi, creu swyddi a hyrwyddo hyfforddiant, cadwyni cyflenwi a diwydiannau yng nghymunedau Cymru. Mae ynghylch gwneud Cymru'n ffyniannus, yn wyrdd ac yn gyfartal. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn, mewn ffordd ryfedd iawn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n nodi bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor ac, fel arfer, mae hyn yn fy ngwneud yn eithaf blin, oherwydd rwy'n credu y dylech ddweud 'ie' neu 'na' os oes modd. Ond rwy'n credu, o gofio'r persbectif tymor hir y mae angen i ni ei fabwysiadu, a'r trylwyredd sydd ei angen er mwyn ymdrin ag adroddiad mor arloesol, rwy'n credu bod y ffaith y gallaf dderbyn hyn am y tro yn briodol wrth inni nawr edrych mewn difrif ar y dasg sy'n ein hwynebu a'r angen, yn wir, i feithrin consensws ar draws y pleidiau.
Gwyddom fod effeithlonrwydd cyffredinol y stoc dai yn parhau'n isel yn y DU, yn sicr o gymharu â llawer o wledydd tebyg. Y gwir rhwystredig amdani, fodd bynnag, yw bod y dechnoleg eisoes yn bodoli i greu cartrefi sy'n garbon isel, sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, sy'n well ar gyfer iechyd a'r amgylchedd naturiol, ac sydd â nodweddion dylunio gwych. Yn wir, buom yn siarad am lawer o'r materion hyn yn gynharach heddiw. Gwyddom hefyd, yn amlwg, fod ôl-osod yn llawer anoddach, ond mae angen inni gofio bod hynny'n rhan allweddol o'r hyn y mae angen inni ei wneud oherwydd bydd y rhan fwyaf o bobl yn 2050, neu 2040, pryd bynnag y gosodwn y targedau yn y pen draw, mewn cartrefi sydd eisoes yn bodoli heddiw—llawer ohonyn nhw yn 100 oed neu'n hŷn.
Os gallaf gyfeirio at un neu ddau o'r pwyntiau penodol yn unig. O ran argymhelliad 1 yr adroddiad: fel y dywedais, rwy'n credu bod angen i ni gydweithio ar raglen hirdymor ar gyfer datgarboneiddio. Rwyf wastad o blaid pethau na ddylent fod yn fater o bleidgarwch mewn gwirionedd, sef bod gennym ni'r cyfleoedd hyn i weithio gyda'n gilydd. Felly, dydw i ddim yn gwybod beth sydd gennych mewn golwg, ond rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth sy'n ein tynnu at ein gilydd fel y gallwn ni gyflwyno ein syniadau ni o ddifrif. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn yn ddiolchgar iawn eich bod wedi caniatáu i mi siarad â Chris a chael gweld yr adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi; nid yw hynny'n arferol mewn Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
Wn i ddim a yw 30 mlynedd yn rhy hir; rwy'n credu bod yr holl bethau hyn yn cyflymu ac efallai y bydd yn rhaid i ni ymateb i lawer mwy o alw cyhoeddus i ni fynd yn gyflymach. Ond mae'n rhywbeth, o leiaf, y gallwn adeiladu arno nawr, ac mae'r adroddiad hwn, rwy'n credu, yn ddarn helaeth a da o waith.
O ran argymhelliad 2, yn enwedig ynglŷn â chartrefi cymdeithasol a'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd, a bod â tharged o 10 mlynedd: unwaith eto, rwyf yn credu bod hyn yn uchelgeisiol iawn a bod angen i ni ymchwilio'n fwy trwyadl i sut y byddwn ni'n cyflawni hyn. Ond dylai fod yn flaenoriaeth uchel; mae'n hollol briodol i nodi'r sector hwnnw. Yn un peth, mae gennym y rheolaeth fwyaf drosto, ac yna mae'r rhai sydd mewn tlodi tanwydd nad ydynt mewn cartrefi cymdeithasol bob amser, yn amlwg yn grŵp sy'n arbennig o agored i niwed, felly credaf fod hwnnw'n bwynt da.
Rwy'n credu, o ran argymhelliad 5, bod angen i ni symud ymlaen a gwneud hyn yn syth, a hynny yw gwella ein casgliad data ac edrych ar ddyfnder y sylfaen ystadegol bresennol sydd gennym ni a'r hyn y gallwn fod yn ei wneud i wella ein penderfyniadau yn y dyfodol.
Hoffwn orffen drwy ategu, mewn gwirionedd, diolch y Gweinidog i Chris Jofeh, sydd, rwy'n credu, wedi cynnal, fel y dywedais i, darn o waith sy'n cyd-fynd â her yr oes bresennol. Ac er mai eich ymateb yn 'Iawn, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd nawr a gweld sut y byddwn yn symud ymlaen â'r argymhellion hyn cyn gynted â phosib', a'u llunio ychydig, am wn i—a dyna pam rydych chi wedi eu derbyn mewn egwyddor—ond, wyddoch chi, ni ddylai hyn fod yn dacteg oedi. Mae'n rhaid i chi ddangos sut y mae hyn yn mynd i ddigwydd yn gyflym ac, fel y dywedwch chi, rydych yn gwybod, ni allwn glymu dwylo olynydd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gosod agenda yma gan nad wyf yn credu ei bod hi'n debygol y bydd Cynulliad yn y dyfodol yn ei wrthdroi. Yn wir, efallai y byddant yn edrych yn ôl arnom ac yn dweud, 'pam na wnaethom ni weithredu'n gyflymach?' Ond, fel y dywedais, rwy'n credu ei bod hi'n rheidrwydd arnom ni i gyd i weithio gyda'n gilydd ar hyn, felly rwy'n croesawu natur y ffordd y mae'r Gweinidog wedi mynd i'r afael â hyn.
Wel, rwy'n croesawu hynny'n fawr, David, a'r hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud yw trin a thrafod yn gyflym iawn hyd a lled trafodaeth a fyddai'n gallu cael cymeradwyaeth bron pawb yn y Siambr, byddem yn gobeithio, o ran y ffordd ymlaen inni. Mae'r adroddiad yn rhoi llawer o fanylion am bosibiliadau, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw archwilio pa mor real ydyn nhw a pha gonsensws sydd ynghylch rhai ohonyn nhw. Hynny yw, mae nifer o bethau sy'n rhwystredig, yr ydym ni—rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â chasglu data, felly rydym ni wrthi'n ceisio cael pobl i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn bod Chris wedi cytuno â ni y bydd yn parhau i weithio gyda ni i fwrw ymlaen â hynny.
Mae gennym lond gwlad o bethau y gallwn eu gwneud yn gyflymach na'r targedau yma, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod consensws ynghylch hynny. Felly, byddaf yn gofyn i bobl ddod at ei gilydd a cheisio cytuno ar rywfaint o hynny. Nid wyf yn ceisio ei ohirio o gwbl. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i ddweud yw, 'Edrychwch, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o egwyddorion—rydym yn derbyn yr egwyddorion hynny. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cytuno rhyngom beth y gallwn ni ei wneud nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yn y tymor ychydig yn hwy' ac ati. A heb rwymo dwylo Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw gweld a allwn ni osod agenda sy'n ymddangos yn gytûn ac sy'n symud yn ddigon cyflym.
Ond mae yna rai pethau y bydd angen i ni edrych arnyn nhw. Efallai y byddwn ni'n cael trafferth cytuno ac felly mae angen i ni feddwl amdanyn nhw. Un o'r pethau rwy'n rhwystredig iawn yn ei gylch yw, os ydych chi'n berchennog cartref, nid oes budd i'r farchnad ar hyn o bryd o gael eich tŷ i fand A y Dystysgrif Perfformiad Ynni. Felly, yn y farchnad, mae pobl yn gwibio heibio'r darn ar y diwedd sy'n dweud beth yw'r sgôr ynni, a gallech wario £40,000 i ôl-osod agweddau ynni ar dŷ tair llofft ac ni fyddwch yn cael y £40,000 yn ôl ar y pris. Felly, bydd angen inni edrych ar ddulliau'r Llywodraeth a allai symud y farchnad honno i'r cyfeiriad hwnnw, er enghraifft, ond nid oes arnom ni eisiau gwneud hynny nes ein bod wedi sicrhau bod gennym ni'r sgiliau a'r deunyddiau ac ati a fyddai'n debygol o fod o fudd i berchen-feddianwyr er mwyn iddyn nhw allu ôl-osod eu tai. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwybod, er enghraifft, beth yw'r math o dŷ yng Nghymru lle mae hynny'n debygol a pha un a gawn ni'r sgiliau hynny a beth yw'r gadwyn gyflenwi ac ati. Felly, mae'n ymwneud â chael rhai o'r pethau ymarferol yn eu lle, ac rwy'n credu y gallwn ni, gan weithio gyda'n gilydd, gytuno ar raglen, ac y gallwn ni gytuno hefyd ar rai pethau na allwn ni gytuno arnynt, ac mae'r un mor ddefnyddiol i allu gwneud hynny a'u rhoi i un ochr i Lywodraeth yn y dyfodol gael golwg arnyn nhw. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael grŵp at ei gilydd y gallwn ni ei ddefnyddio i lywio hynny.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac ategu ei diolch hefyd i Chris Jofeh a'r grŵp annibynnol o randdeiliaid sydd wedi bod yn gweithio ar yr adroddiad?
Rwyf i'n bryderus hefyd—pan ddywed y Llywodraeth ei bod yn derbyn rhywbeth mewn egwyddor, yna rydych chi'n meddwl, 'diawch, dyna ni, dyna dderbyn hynny', ac yna maen nhw'n rhyw gerdded ymaith ac yn ei drafod eto rai blynyddoedd yn y dyfodol. Felly, fe'm calonogir gan y ffaith eich bod yn mynnu—. Ac rwy'n deall bod rheswm ymarferol dros hynny hefyd, oherwydd rydych yn rhoi amodau o ran costau a'r atebion technegol sydd ar gael.
Un peth y byddwn i'n annog y Llywodraeth yn ei gylch, ac mae'n un o fy nghasbethau, mewn gwirionedd: mae gwir angen inni ail-lunio ac ail-fframio’r drafodaeth ynghylch—wyddoch chi, a allwn ni fforddio rhoi'r newidiadau hyn ar waith, ynteu a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny? Oherwydd bydd talu am ddinistr newid yn yr hinsawdd yn llawer, llawer mwy sylweddol na buddsoddi mewn mesurau fel ôl-osod. Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio terminoleg wahanol weithiau, oherwydd bod ôl-osod i mi yn gynllun buddsoddi i arbed, a dylem fod yn siarad am sut yr ydym yn gwneud i'r buddsoddiadau hynny ddigwydd fel y gallwn ni gynilo nid yn unig yn ariannol yn y pen draw, ond, wrth gwrs, o ran y canlyniadau eraill y gwyddom y byddwn yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Nid oes unrhyw gamau gweithredu clir yn deillio o'r datganiad hwn, ar wahân i gydnabyddiaeth bod angen gwneud rhagor o waith, a sefydlu grŵp cynghori, neu rai grwpiau cynghori. Felly, mae hynny'n dipyn o rwystredigaeth eto, ond unwaith eto rwy'n deall pam eich bod yn teimlo mai dyna sut y mae'n rhaid i chi fynd ati i wneud hynny. Dywedwch yn eich datganiad na allwn ni aros nes bod yr holl atebion gennym ni, ac mae hynny'n hollol wir. Y pethau ynglŷn â'r gwerthwyr ynni yn yr Almaen—mae'n llwybr i ddatgarboneiddio, ond does dim syniad ganddyn nhw sut y maen nhw'n mynd i gyflawni'r 20 neu'r 30 y cant olaf. Ond maen nhw'n gwybod bod ganddyn nhw ffydd yn eu gwyddonwyr a'u peirianwyr ac y byddan nhw'n canfod atebion a does dim rheswm o gwbl i ddechrau ar daith dim ond oherwydd na allwn ni weld y diwedd. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni gael yr hyder i symud ymlaen yn hynny o beth.
Fe wnaethoch chi ofyn am gefnogaeth drawsbleidiol—wel, mae'n amlwg y byddwn yn rhoi hynny ichi, oherwydd roedd ymrwymiad yn ein maniffesto, o ran ôl-osod, i gyflwyno'r cynllun ôl-osod mwyaf a welodd Cymru erioed, ac roedd hwnnw'n ymrwymiad tymor hir i raddau helaeth. Yn amlwg, byddai angen i mi weld beth mewn gwirionedd yw'r cynigion, ond ni allaf ond dychmygu y byddai gan Blaid Cymru bryderon oherwydd efallai nad yw'n mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym. Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â chi ar y daith honno.
Y mater arall i mi, wrth gwrs, yw'r tai sydd heb eu hadeiladu eto. Nid dim ond ôl-osod yw hyn, fel rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod: rydym yn dal i adeiladu tai sy'n aneffeithlon o ran ynni, sy'n parhau â'r aneffeithlonrwydd hwnnw ac sy'n creu llwybr hyd yn oed serthach neu ôl-groniad cynyddol o gartrefi y bydd angen eu hôl-osod yn y dyfodol.
Rwyf wedi rhygnu ymlaen ddigon am reoliadau Rhan L erbyn hyn, gan fod pawb yn gwybod y byddaf yn cyfeirio at yr ymgynghoriad 40 y cant neu 25 y cant o atgyfnerthu effeithlonrwydd ynni, a dewisodd y Llywodraeth, beth yw e', 8 neu 9 y cant yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a oedd yn ddigalondid; roedd yn annigonol ac yn ddiffygiol o ran uchelgais. A gobeithio yr ymdrinnir â hynny yn fuan iawn, oherwydd y mae'n amlwg na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Ond mae yna geisiadau cynllunio yn y system nawr a fydd yn amlwg yn creu'r broblem honno i genedlaethau'r dyfodol. Felly, a wnewch chi, roi ar gof a chadw y gall ystyriaethau amgylcheddol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mewn gwirionedd, gynnig sail gyfreithiol i bwyllgorau cynllunio wrthod ceisiadau y bydd neb yn debygol o ystyried eu cyflwyno hyd yn oed, efallai, mewn blwyddyn neu ddwy. Hoffwn glywed hynny gennych, os oes modd.
Yn olaf, rydym hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o gynlluniau blaenorol i inswleiddio waliau ceudod a gafodd eu cam-werthu, ac mae'n amlwg y byddai hynny'n tanseilio hyder, rwy'n credu, mewn rhaglen ôl-osod yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi egluro, efallai, sut y dysgwyd gwersi a sut y byddai hynny'n cael ei adlewyrchu, efallai, yn eich ymagwedd tuag at gynlluniau ôl-osod yn y dyfodol, a sut y byddwch yn sicrhau y caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni mewn ffordd sy'n addas ac o ansawdd uchel?
Diolch am hynny, Llyr. Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad i weithio gyda ni ac rwy'n gobeithio cael, yn y cam cychwynnol, grŵp o bobl drawsbleidiol gyda'i gilydd—y llefarwyr efallai, neu pwy bynnag yw'r blaid sydd fwyaf abl i wneud y gwaith—dim ond i lunio hynny, mewn gwirionedd, fel y gallwn ni fwrw ymlaen ag ef ac yna gallwn benderfynu sut y gall y grŵp hwnnw ei gyfeirio. Ond, fel y dywedaf, mae Chris Jofeh wedi cytuno i weithio gyda ni i wneud hyn hefyd. Felly, rydym yn bendant eisiau cael rhywbeth y bydd llywodraethau'r dyfodol, o ba bynnag liw a llun, yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Mae arnom ni angen yr ymrwymiad hwnnw neu ni fyddwn ni byth yn ei roi ar waith. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr.
Rwyf finnau, fel chithau, yn rhwystredig ynglŷn ag adeiladu pethau sy'n mynd i achosi problem inni. Rydym ni ar fin adolygu Rhan L. Rwy'n gobeithio gallu cael consensws ar draws y Siambr ar lawer o'r pethau hyn, fel y gallwn ni fynd ymhellach nag y gallem ni pe na baem yn cytuno. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu ei roi gerbron pan fyddwn yn gwneud yr adolygiad hwnnw. Mae'n rhaid i ni wneud hynny am resymau diogelwch tân ac ati, ond mae pethau eraill y gallwn ni eu gwneud yn rhan o'r adolygiad, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ni weithio trwy'r rheini oherwydd ei fod yn gonsensws ar draws y Siambr. Felly, cawn weld yn y man, ond byddwn yn dechrau ar hynny cyn bo hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd.
O ran pethau fel camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol gyda waliau ceudod, y mae pob un ohonom ni'n ymwybodol ohonyn nhw, a chanlyniadau anfwriadol eraill—gyda rhai agweddau ar Safon Ansawdd Tai Cymru, rhoddwyd cladin ar dai nad ydynt yn anadlu mwyach ac sydd, wrth gwrs, â phroblemau gydag anwedd dŵr ac ati—yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw cael yr arbenigwyr at ei gilydd a gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu o'r camgymeriadau hynny. Ni fyddwn yn gallu peidio â gwneud unrhyw gamgymeriadau pellach, ond mae angen inni ddysgu gwersi o'r rhai yr ydym yn ymwybodol ohonyn nhw. Rydym yn gwybod nad oes gennym ni ateb ar hyn o bryd ar gyfer rhai mathau o dai sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae angen inni edrych ar hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol, os mai'r unig ateb ar gyfer tŷ yw nad yw'n gallu cyrraedd y safon hon, mae angen i ni wneud penderfyniadau ar sail yr hyn a fyddai'n digwydd petaech yn dymchwel y tŷ hwnnw. A fyddem yn creu ôl-troed carbon gwaeth drwy ei ddymchwel yn hytrach na'i gael i gyrraedd y safon uchaf sy'n bosib iddo ei chyrraedd? Y math yna o bethau, ac mae llawer o bethau amgylcheddol a hanesyddol i'w trafod, am siâp dinasoedd a threfi pobl.
Felly, mae cryn dipyn i'w ystyried yma, ond credaf y gallwn ni gytuno o ran beth yr hoffem ni ei weld ar y cyfan, ac fel y dywedais mewn ymateb i David Melding, gallwn hefyd gytuno ar yr hyn nad ydym yn cytuno arno a gallwn roi y rheini i un ochr a pharhau â'r pethau yr ydym ni yn cytuno'n gyffredinol arnyn nhw. Felly, rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu gwneud hynny'n gyflym. Ac mae angen inni ystyried pethau fel a oes gennym ni—beth bynnag a ddywed y data wrthym—ganran o stoc na allant fynd y tu hwnt i fand C neu D y Dystysgrif Perfformiad Ynni, neu beth bynnag: beth wnawn i ynghylch hynny? Bydd yn rhaid i ni ystyried beth yw'r trefniadau ailgylchu. Mae dymchwel tŷ ynddo'i hun yn achosi carbon: beth sy'n digwydd i'r gwastraff a gewch chi yn sgil hynny ac ati? Felly, bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch ble'r ydym ni arni.
Ac yna'r un mwyaf ohonyn nhw i gyd yw gwneud y grid yn wyrdd. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, y bydd yn rhaid i ni geisio bod mor unfrydol â phosib yn ei sgil oherwydd oni bai eich bod yn troi'r grid yn wyrdd bydd yr holl bethau eraill yn ddibwys. Felly, bydd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn gyda'n gilydd ac wynebu penderfyniadau anodd, ond allwn i ddim cytuno mwy â'ch enghraifft o'r Almaen. Mae'n rhaid i ni wneud y pethau y gallwn ni eu gwneud ac mae'n rhaid i ni ariannu a chefnogi ein gwyddonwyr a'n peirianwyr i fynd â hynny gam ymhellach ac mae'n rhaid i ni ei wneud mor gyflym â phosib. Ni allwn ddisgwyl 30 mlynedd arall gyda hyn yn cynyddu o'n hamgylch. Felly, rwyf fi, yn bersonol, wedi credu yn yr argyfwng hinsawdd dros y 40 neu fwy o flynyddoedd diwethaf a throdd fy rhieni'n llysieuwr ym 1958 oherwydd eu bod yn credu bod argyfwng yn yr hinsawdd—mi wn nad llysieuaeth yw'r ateb i bopeth, gadewch i ni beidio â chodi'r ysgyfarnog honno, ond dim ond dweud yr wyf i fod pobl yn ceisio ymateb iddo mor bell yn ôl â chanol y ganrif ddiwethaf. Pa un a oedd yr ymateb yn gywir ai peidio, does dim ots—y pwynt yw eu bod yn ceisio ymateb. Felly, dim ond darlun sy'n cyflymu yw e, onid e? Felly, mae angen inni ymateb, mae angen inni weld beth mae cytundeb yn ei gylch, a bwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Datgarboneiddio ein tai yw'r her fwyaf sy'n ein hwynebu, ac rwyf felly'n croesawu adroddiad y grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Hoffwn innau hefyd ddiolch i'r grŵp am ei adroddiad eang ei gwmpas, sy'n helpu i amlygu'r heriau moel sy'n ein hwynebu i gyd.
Rwy'n falch eich bod wedi derbyn argymhellion y grŵp cynghori, ond deallaf yn llwyr eich angen i fod yn ofalus ac rwy'n falch eich bod wedi pwysleisio pwysigrwydd casglu data ar gyfer cartrefi sy'n bodoli eisoes gan fod hynny'n hynod bwysig, ynghyd â chyfanswm costau'r prosiectau a gyflawnwyd. Felly, mae ein tasg yn enfawr, gan fod y mwyafrif helaeth o'n cartrefi yn dibynnu ar nwy naturiol ar gyfer gwresogi, ac fel yr ydych chi'n egluro yn eich datganiad, Gweinidog, ni fydd datgarboneiddio ein grid nwy cenedlaethol yn hawdd. Felly, yng ngoleuni hyn, a gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a gwledydd eraill Prydain ynghylch y dull gorau o ddatgarboneiddio ein grid cenedlaethol?
Mae gwaith wedi'i wneud i archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio hydrogen mewn gwresogi domestig a micro-gynlluniau gwres a phŵer cyfunedig yn lle nwy naturiol, felly a yw Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i gyflwyno technolegau o'r fath o dan gynlluniau adnewyddu boeleri sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd?
A'm rhan olaf yw, Gweinidog: mae gwaith ar y gweill yn Llundain i harneisio'r gwres gwastraff o'r grid trydan. Mae'r rhwydwaith o linellau pŵer foltedd uchel sy'n croesi'r ddinas yn cynhyrchu llawer o wres gwastraff ac mae'n rhaid oeri'r llinellau. Felly, mae Prifysgol South Bank Llundain am geisio dal hyd at 460 kW o bŵer thermol bob milltir a hanner. Bydd yr ynni gwres dros-ben hwn yn cael ei ddefnyddio mewn cynlluniau gwresogi cymunedol. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth ymchwilio i ymarferoldeb cynlluniau o'r fath yng nghymunedau trefol Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch am y sylwadau yna. Yr ateb syml iawn i'r ddau sylw olaf yw 'byddwn, wrth gwrs'. Ac un o'r rhesymau dros gael y rhaglen dai arloesol yw rhoi prawf ar rai o'r posibiliadau technegol, ac rydym yn awyddus iawn i weld beth y gellir ei wneud. Rwyf hefyd yn awyddus iawn yng Nghymru i gael atebion ynni cymunedol. Felly, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r grid. Nid wyf wedi cael cyfarfodydd â Gweinidogion y DU eto, ond mae'r portffolio ynni gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, felly bydd hi wedi bod yn symud hynny yn ei flaen. Rydym yn cydweithio'n agos iawn â phortffolio Lesley, ac mae tynnu hyn ynghyd yn rhan fawr o'r darlun o sut i fwrw ymlaen â hyn. Ond rwyf wedi cwrdd â'r grid ynghylch rhywfaint o hyn hefyd.
Mae rhai datrysiadau arloesol y gallwn ni edrych arnyn nhw, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i ddod ag unrhyw farchnadoedd newydd neu gyfleoedd gwaith neu gadwyni cyflenwi i Gymru. Felly, rwy'n credu y bydd llawer o'r ateb i hyn yn ymwneud â phrosiectau ynni sy'n canolbwyntio ar y gymuned neu brosiectau ynni lleol neu wasgaredig, yn ogystal â'r hyn y gall y grid ei wneud. Felly, bydd angen inni weithio'n agos iawn gyda chyflenwyr y grid a'r cwmnïau ynni mawr, a bydd angen inni edrych yn ofalus iawn ar ba fathau o ynni rydym ni eisiau eu gweld ledled Cymru a'r hyn y mae'r cymunedau sy'n cynnal y prosiectau hynny yn ei gael o hyn yn ogystal â'r hyn y mae Cymru yn ei gael ohono'n ehangach. Ond mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn unrhyw atebion technegol ac mae gennym ni nifer fawr o brifysgolion yma yng Nghymru yn gweithio ar nifer o'r rheini.
Rydym ni hefyd yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud, a hoffwn gael consensws trawsbleidiol ar hyn, ynghylch cael cynllun at ei gilydd i brofi rhai o'r rheini yn rhan o'n cynlluniau ôl-osod wrth i ni symud ymlaen ac wrth i ni benderfynu beth i'w wneud ar ôl i ni gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. Hoffwn ddim ond gwneud y sylw, pan wnaethom ni ddweud beth fyddem ni'n ei wneud â Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd llawer o bobl yn credu na fyddem yn gallu gwneud hynny a'i fod yn darged anodd iawn yn wir, a dyma ni—rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, mae'n ymwneud â chael uchelgais priodol hefyd.
Rwy'n croesawu'r datganiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn galw am weithredu. Mae gan yr atmosffer tua 21 y cant o ocsigen ar lefel y môr. Islaw 19.5 y cant, mae'r gallu i weithio yn lleihau; islaw 17 y cant, mae pethau'n mynd yn anodd, a phan fyddwch yn cyrraedd 15 y cant, mae pobl yn marw. Bydd cynnydd yn lefel y môr yn gorlifo dinasoedd ac ardaloedd arfordirol, bydd stormydd yn cryfhau—yn anochel felly, oherwydd bydd mwy o ynni ynddyn nhw o'r gwres ychwanegol.
Mae'r rhan fwyaf o'r tai y byddwn yn byw ynddyn nhw yn 2030 a 2050, a hyd yn oed 2100, wedi'u hadeiladu eisoes ac mae pobl yn byw ynddyn nhw yn awr, os meddyliwch chi am faint o dai yn yr ardaloedd yr ydych yn eu cynrychioli a adeiladwyd cyn 1919—i roi rhyw syniad ynglŷn â pha mor hir y mae tai'n para. Bydd angen i ni ôl-osod. Mae hyn yn ddrutach ac yn fwy ymwthiol na chreu adeiladau newydd di-garbon, ond mae gwir angen i ni fynd am adeiladau newydd di-garbon. Mae angen i bob plaid wleidyddol gytuno i ddatgarboneiddio tai, pe na bai ond yn rhoi hyder i'r diwydiant na fydd newid mewn Llywodraeth yn arwain at newid mewn polisi. Rwy'n credu mai dyna fydd y peth pwysicaf: dangos y gallai'r Llywodraeth newid, ond bydd y polisi'n parhau.
Yr hyn yr hoffwn i siarad amdano yw nid yn unig y tai, ond cyffiniau'r tai. Mae hi bron yn sicr na fyddwn yn gallu cael pob tŷ i fod yn ddi-garbon. Mae angen plannu mwy o goed a llwyni trefol. Mae coed yn amsugno carbon deuocsid a nwyon a allai fod yn niweidiol, fel sylffwr deuocsid a charbon monocsid o'r aer ac yn rhyddhau ocsigen. Gall un goeden fawr roi cyflenwad diwrnod o ocsigen i bedwar o bobl. Gall coeden amsugno cymaint â 48 pwys o garbon deuocsid y flwyddyn, a gall gymryd tunnell o garbon deuocsid erbyn iddi gyrraedd 40 oed. Felly, os na allwn ni ddatgarboneiddio'r tŷ, gallwn ddatgarboneiddio'r tŷ a'r cyffiniau, ac mae hynny'n golygu plannu coed a llwyni, ac, yn bwysicach na hynny, peidio â thorri coed a llwyni. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn edrych nid yn unig ar yr adeilad ond ar y cyffiniau hefyd. Ynghyd ag ôl-osod, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gynyddu'n sylweddol nifer y coed trefol, llwyni a'r ffyrdd eraill o leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n rhaid i chi edrych ar dudalen flaen adroddiad Chris Jofeh, a'r glas sy'n newid i goch. Arwyddocâd hynny yw bod yna stribed ar gyfer pob blwyddyn y mae'r tymheredd yn cael ei gofnodi a'r gwahaniaeth llwyr rhwng y glas ar yr ochr chwith a'r coch llachar ar yr ochr dde ar glawr blaen yr adroddiad. Roeddwn wedi bwriadu dod ag ef gyda mi, Llywydd, ond, wrth gwrs, mae wedi bod yn ddiwrnod hir, felly rwyf wedi ei adael yn ofalus i fyny'r grisiau. Ond mae'n arwyddlun moel o gynhesu'r ddaear, ac nid oes dianc rhag y ffaith ei fod wedi newid yn sylweddol. Mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i'w atal rhag mynd yn goch mwy llachar fyth, heb sôn am ei droi'n ôl yn las. Felly, allwn i ddim cytuno mwy â chi; rhaid inni'n bendant wthio'r polisi adeiladau newydd di-garbon mor gyflym ag y gallwn ni, ac adolygu rhan L, fel yr oeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i gyfranwyr eraill.
Ond mae'r prosiectau trefi gwyrddach a'r prosiectau coedwigoedd trefol a'r prosiectau perllannau cymunedol a phrosiectau gerddi cymunedol y mae eu hangen arnom ni i wneud ein cymunedau yn gymunedau go iawn—maen nhw'n cynnig manteision iechyd meddwl, maen nhw'n cynnig manteision cymdeithasol a chydlyniant cymunedol, ond fel yr ydych chi'n nodi'n gywir, yn fwy na dim arall, maen nhw'n dod ag ocsigen a modd o oeri, ac maen nhw'n cynnig cysgod, ac maen nhw'n dod â bioamrywiaeth, felly beth sydd yna na ellir ei hoffi? Felly, yn sicr, mae'n rhaid inni wthio'r math hwnnw o feddylfryd i mewn i'n system gynllunio ac i'r amgylchedd trefol. Felly, mae rheoli ystadau o amgylch ein tai yr un mor bwysig â'r tai eu hunain; rwy'n cytuno'n llwyr.
Jenny Rathbone. Na, dydy hi ddim yma. Huw Irranca-Davies.
Diolch. Rwy'n dirprwyo ar ran Jenny. Na, na—rydw i yma yn fy rhinwedd fy hun. Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, groesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd naws a sylwedd yr ymatebion a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau'r Cynulliad, ac ymateb y Gweinidog hefyd? Fe wnaethom ni gynnal yma yr wythnos diwethaf—roeddwn yn un o gyd-noddwyr digwyddiad mewn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Roedd yn ddigwyddiad diwrnod o hyd. Ymdriniwyd â sawl maes, gan gynnwys tai. Roedd Rhun ac eraill yno hefyd. Dau beth a ddaeth yn amlwg iawn yn y drafodaeth panel a ddaeth a'r diwrnod i ben, pryd y daeth Aelodau'r Cynulliad draw i drafod eu canfyddiadau gyda nhw, oedd yr angen am gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol i fynd â rhai o'r materion hyn yn eu blaen, nid i rwymo llywodraethau'r dyfodol, ond mewn gwirionedd i osod trywydd clir a fyddai'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd, ond yn ail, fel y gallem ni wneud penderfyniadau tymor hir, hyd yn oed gyda'r brys ynghylch hyn—rhai o'r pethau hyn sy'n mynd ymhell y tu hwnt i gylchoedd etholiadol y bydd yn rhaid i ni lynu wrthyn nhw'n dynn iawn yn wir. Felly, rwy'n croesawu'r datganiad a'r dull o'i weithredu yn fawr.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd. Mae elfen o uchelgais yn hyn sy'n dangos, er y gallai seneddau eraill ar hyn o bryd fod yn wynebu pob math o heriau ac anawsterau ac anhrefn i ryw raddau, yma yng Nghymru rydym ni'n ceisio mynd ati i ymateb i argyfwng gwirioneddol yn yr hinsawdd, sydd wedi bodoli ers cryn amser. Nawr, bydd rhai pobl yn dweud bod angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac ati, ac ati, ac mae Llyr wedi gwneud hynny'n glir eisoes. Ond rwy'n croesawu sefydlu'r grŵp cyllid gwyrdd, oherwydd bydd yn rhaid i hwnnw weithio drwy beth o'r glo mân caled.
Yn hynny o beth, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: a yw hi wedi cael amser i ystyried a derbyn yr holl argymhellion sydd wedi'u cyflwyno mewn egwyddor? A yw hi wedi gwneud hyn yng ngoleuni hefyd unrhyw drafodaethau gyda, neu yn sgil unrhyw ddarllen ar gynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol? Roedd dau o'r pwyntiau hynny yn y cynllun 10 pwynt yn ymwneud yn benodol â thai ac adeiladau. Roedd un yn ymwneud ag ôl-osod, ac roedd yn rhoi cost i Lywodraeth Cymru o tua £300 miliwn, ond cyfanswm o £1 biliwn y flwyddyn. Felly, bydd yn rhaid i'r grŵp cyllid gwyrdd hwnnw weithio'n galed i gyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud, ond yn sicr yr uchelgais sydd gan gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol. Ac o ran cartrefi newydd—dylai pob cartref ac adeilad cyhoeddus newydd fod yn ddi-garbon o 2020, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r £90 miliwn diweddar drwy eich rhaglen tai arloesol, yr ydym ni wedi sôn amdani yn y fan yma. Felly, a edrychwyd ar hynny o ran derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor? Ac a wnaiff hi dderbyn hefyd y bydd angen inni ailedrych ar y rhain eto, yng ngoleuni'r angen i gynyddu ein huchelgais yn gyson hefyd?
Yn olaf, hoffwn adleisio pwynt Llyr o ran, os ydym yn mynd i yrru hyn ymlaen yn gyflym, yn enwedig o ran ôl-osod, mae gwir angen i ni wneud yn siŵr y caiff ei wneud yn iawn. Un o'r gwersi yr ydym ni wedi'u dysgu yw ei fod wedi cynhyrchu—. Pan fydd gennych strategaeth ddiwydiannol werdd uchelgeisiol iawn, lle mae pobl hwnt ac yma yn cynnig gwneud y gwaith o ôl-osod ac ati, bydd yna bobl dda iawn yn eu plith, ond weithiau bydd gennych bobl sy'n rhoi'r cyngor anghywir ac yn gosod y pethau anghywir.
Mae yna ddyn yn Nhondu yn fy ardal i a fydd yn colli ei dŷ oherwydd hyn. Mae wedi costio tua £60,000 neu fwy yn barod o ran ei gartref ei hun, yn ogystal â chost mynd i'r llys ac ati. Mae hyn wedi dinistrio ef a'i deulu. Felly, er gwaetha'r holl enghreifftiau da sydd ar gael, ac mae yna lawer, mae angen i ni osgoi'r ansawdd gwael hwnnw gan weithwyr ffwrdd-a-hi, sy'n rhoi'r cyngor anghywir. O ran ôl-osod, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd yn ddigon cyflym a thrylwyr wrth inni fwrw ymlaen?
Felly, dim ond ar y pwynt olaf hwnnw, rydym ni wedi bod yn trafod gyda diwydiant a chynrychiolwyr diwydiant ryw fath o gynllun trwyddedu. Rydym ni'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, fodd bynnag, gan fod llawer o bobl yn y math hwn o ddiwydiant drwyddi draw yn cael eu rheoleiddio'n llym ac maen nhw'n awyddus iawn i beidio â gorfod cydymffurfio â dwy gyfundrefn reoleiddio wahanol. Ond rydym ni'n awyddus iawn i ddechrau cynllun trwyddedu.
Mae fy nghyd-Aelod Mike Hedges wedi cymryd rhan mewn cwpl o ddadleuon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch a allwch chi alw eich hun yn fath penodol o fasnach heb unrhyw gymwysterau ac ati, a chredaf fod yn rhaid inni symud i sefyllfa lle nad oes modd i chi wneud hynny, oherwydd bod rhaid cyrraedd rhai safonau proffesiynol, ac mae hynny oherwydd pob math o resymau, nid ar gyfer ôl-osod yn unig: felly, ni allwch chi, wyddoch chi, gael rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig trwsio eich to os na allwch chi wirio pa gymwysterau sydd ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac rydym ni yn archwilio, gydag awdurdodau lleol, ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio eu rhestrau cymeradwy i roi sicrwydd i bobl am gontractwyr ac ati. Felly, rwyf wir yn derbyn hynny.
Ond mae gennym ni sefyllfa yma lle nad oes gennym fawr ddim sgil yn y maes hwn beth bynnag, felly bydd yn rhaid i ni ei ddatblygu o'r newydd. Mae cyfleoedd enfawr yma. Rwy'n credu i fod Llyr ddweud, oni wnaeth ef, 'Peidiwch â meddwl am y gost; meddyliwch am y gost o beidio â'i wneud.' Wel, mae hynny'n hollol iawn. Ond hefyd mae costau cyfleoedd yma. Felly, gallwn ni wneud diwydiant o hyn a gallwn ni roi Cymru wrth ei ganol os ydym ni yn ei wneud yn ddigon cyflym ac yn y ffordd gywir. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n dechrau yn y lle cywir gyda'r arbenigwyr cywir ac rydym ni'n dechrau lle y mae'n bosibl i ni wneud pethau ac rydym ni'n sicrhau bod yr ymchwil cywir ar ben ffordd ar gyfer rhywfaint o'r gweddill.
Fel y dywedais, mae rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud yma. Felly, ydym, rydym ni yn bendant yn sefydlu'r cyllid i wneud hynny; bydd yn rhaid i ni drosoli cyllid arall i wneud hynny. Fel y dywedais, bydd yn rhaid inni gymell perchenogion tai—pobl sy'n ddigon ffodus i allu prynu neu sydd eisoes yn berchen ar eu cartref yn llwyr, bydd angen inni eu cael nhw i wneud hynny hefyd. Mae'n debyg y bydd angen inni ymyrryd rhywfaint yn y farchnad i sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo am— wyddoch chi, os ydyn nhw wedi gwario cymaint â hynny o arian arno, bydd angen iddyn nhw ei gael yn ôl. Mae angen rhai cymhellion arnom ni yma, ac nid gostwng eich biliau ynni yn unig yw hyn, ond gwerth eich ased. Mae'n debyg mai dyma'r unig ased sydd gan y rhan fwyaf o bobl, felly bydd angen iddyn nhw gael hwnnw.
Ac yna pan fyddwn yn gwneud y cynlluniau rhannu ecwiti y gwnaethom sôn amdanyn nhw yn gynharach yn y rhaglen tai arloesol —rhai o'r pethau yr oedd Dawn yn sôn amdanyn nhw yn gynharach yng Nghartrefi Cymoedd Merthyr—bydd angen inni sicrhau bod pobl yn cael eu cyfran nhw o hynny a'n bod yn gallu lledaenu'r sgiliau a'r arbenigedd. Ond fe allwch chi weld hyn fel cyfle enfawr. Nid oes rhaid i chi ei weld fel gofid a gwae, bobol bach. Os gwnawn ni hynny'n iawn, gallwn ni ysgogi diwydiant yn y fan yma sy'n rhoi cyflogaeth i'n cymunedau ac sydd wir yn cadw'r grym ynddyn nhw hefyd. Ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn. Dyna pam nad oeddwn i yn petruso cyn dweud y byddwn i yn eu derbyn mewn egwyddor, ond mae angen i ni ddechrau yn rhywle ac yna adeiladu arno. Felly, rwy'n cymryd beth bynnag a ddywedir ganddo am hynny, ond nid ydym ni yn ceisio ei ddiystyru. Rydym ni yn ceisio dechrau yn y lle cywir er mwyn cael consensws i ddatblygu rhaglen yma.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch i'r Aelodau, gan fod hynny'n dod â'n trafodion ni am y dydd i ben.