2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf? OAQ54359
Gwnaf. Ers i'r peilot profi a thrin dolur gwddf ddechrau gyda 58 o fferyllfeydd ym mis Tachwedd y llynedd, cofnodwyd 3,655 o ymgynghoriadau. Dim ond mewn 752 o achosion y cafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu, neu 21 y cant. Rwyf wrth fy modd fod y peilot profi a thrin dolur gwddf wedi ennill y categori arloesedd a thechnoleg yng Ngwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig 2019 eleni. Mae hyn yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol.
Diolch i chi am eich ymateb, Weinidog, ac fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Vikki Howells, yn ystod y cwestiynau ddoe, rwyf innau hefyd wedi ymweld â fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae gwaith gwych wedi'i wneud yno ar ddatblygu a chyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddw arloesol.
Nawr, pan gyfarfûm â staff yn ddiweddar, nodwyd dau fater penodol yr hoffwn i chi roi sylw iddynt, yn briodol heddiw, rwy'n credu, Weinidog, o gofio ei bod yn Ddiwrnod Fferyllwyr y Byd. Yn gyntaf, ar fater hyfforddiant, er y bydd cyflwyno'r rhaglen yn rhan hanfodol o'r gwaith o ymdopi â phwysau'r gaeaf, mae yna bryder na fydd fferyllwyr cymunedol yn cael eu hyfforddi mewn gwirionedd tan y flwyddyn newydd. Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi'n gyflymach fel y gall pobl brofi manteision llawn y prawf?
Yn olaf, Weinidog, o ran cyflwyno'r rhaglen yn gyffredinol, rwy'n falch iawn mai Betsi Cadwaladr sydd wedi cyflwyno'r lefel uchaf o'r gwasanaeth hwn, sy'n stori wych i'r bwrdd iechyd ond hefyd i bobl yng ngogledd Cymru. Mae'r profion wedi arwain, fel y sonioch chi, at ostyngiad o 80 y cant yn y defnydd o wrthfiotigau, ac wedi cael ymateb cadarnhaol o 95 y cant yn fras gan gleifion, gan gynnwys un o fy etholwyr, Molly, a ddaeth ataf ar y stryd ac a grybwyllodd y prawf gan ei argymell i mi. Felly, mae'n ffordd wych ymlaen i Gymru, ond yr hyn sy'n bwysig yw ei fod o fudd i bawb yng Nghymru. Felly, Weinidog, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gael mwy o gysondeb a llai o amrywioldeb o ran y modd y caiff y rhaglen ei chyflwyno gan fyrddau iechyd ledled Cymru?
Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaethoch. Roeddwn yn ymwybodol fod eich cymydog yn y Siambr wedi codi mater tebyg mewn cwestiynau busnes ddoe. Byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig, gan nodi rhagor o'r manylion am yr hyn a wnawn ar gyflwyno'r gwasanaeth hwn, ond mae'n werth rhoi sylw i'ch pwynt am hyfforddiant hefyd. Rwyf wedi buddsoddi £4.5 miliwn yn y gwaith o hyfforddi fferyllwyr yn y dyfodol i sicrhau bod gennym weithlu cynaliadwy, a bydd hynny'n parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gan arwain at bron i ddwywaith nifer y lleoedd hyfforddiant fferyllol yng Nghymru.
Yn ystod blynyddoedd diwethaf y contract fferylliaeth, rydym eisoes wedi buddsoddi symiau o arian yn y gweithlu sydd gennym ar hyn o bryd. Y cynllun ar gyfer cyflwyno'r prawf gweld a thrin dolur gwddw yw ein bod yn disgwyl i 50 y cant o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru allu darparu hynny drwy'r gaeaf. Ac nid menter pwysau'r gaeaf yn unig ydyw; mewn gwirionedd, mae'n rhan o'r ystod safonol o wasanaethau y disgwyliwn eu gweld yn cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol. Mae'r rhain yn lleoliadau cyfleus, wedi'u sefydlu'n dda o fewn cymunedau, gyda gweithwyr proffesiynol dibynadwy sydd â pherthynas â phobl, felly byddwch yn gweld mwy o fuddsoddi yn nyfodol fferyllfeydd cymunedol. Un enghraifft yn unig yw hyn. Rwy'n falch o ddarparu'r datganiad ysgrifenedig y gofynnodd y Trefnydd i mi ei lunio, a byddaf yn gallu rhoi'r manylion y credaf eich bod chi a'ch cyd-Aelodau yn chwilio amdanynt.
Rwy'n hapus iawn ar yr achlysuron pan fydd hyd yn oed Aelodau'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo gweithred gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hwn yn gynllun da. Sylwaf yn rhifyn mis Awst o 'Clinical Pharmacist' fod y cynllun yn cael ei werthuso a'i ganmol ac mae'n enghraifft o arloesedd a gwellhad go iawn. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ceisio cael pobl â mân anhwylderau i geisio cyngor fferyllydd—poen gwaelod y cefn, insomnia. Ceir amrywiaeth eang o bethau lle mae eich fferyllydd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n parhau. Ond mae'n gynllun addawol iawn, felly rwy'n ei gymeradwyo.
Wel, diolch yn fawr, a dylwn ailadrodd—gwn fy mod wedi dweud yn y Siambr hon droeon, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ac yn wir, yn fy rôl bresennol—fod hyn wedi'i adeiladu ar gefn y buddsoddiad yn y platfform Dewis Fferyllfa. Mae hwnnw bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd. Mae'n caniatáu inni fuddsoddi mewn gwasanaethau gwahanol ac ychwanegol o fewn y sector fferylliaeth gymunedol. Felly, rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu nid yn unig i symud ymlaen â'r enghraifft benodol hon, ond y byddwn, yn y dyfodol, yn gweld mwy o'r gwasanaethau hynny'n cael eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn y gymuned.