2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 2 Hydref 2019.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r gwrthbleidiau mewn perthynas â safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit? OAQ54434
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar sail drawsbleidiol ers 2016 i amddiffyn buddiannau Cymru. O ganlyniad, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn cynigion sy'n diystyru Brexit heb gytundeb, yn cefnogi parhad aelodaeth y DU o'r UE, ac yn cefnogi ail refferendwm i gyflawni'r nod hwnnw.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Onid yw'n cydnabod peryglon posibl defnyddio Cymru fel gwystl gwleidyddol yn y gemau y mae'n eu chwarae gyda Phlaid Cymru? Mae llawer iawn o amheuaeth ynglŷn â'r ffordd y mae Plaid Lafur Cymru yn cwtsho lan at Blaid Cymru cyn etholiad 2021, etholiad y credaf eu bod yn rhagweld y byddant yn ei cholli, ac felly maent bellach yn chwilio am gefnogaeth gan Blaid Cymru. Dywedodd yn ddiweddar mai
'cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw’r DU' ac os yw Brexit yn mynd rhagddo, y
'byddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth synhwyrol ailasesu safle Cymru yn y DU newydd', gan gyfeirio, yn amlwg, at annibyniaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn ddiweddar nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn ddiamod, ac yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni, cynhaliwyd cyfarfod ymylol o'r enw 'Llafur dros annibyniaeth' a fynychwyd gan y cyn Brif Weinidog a fu'n siarad yno. A dywedodd Vaughan Roderick o’r BBC yn ddiweddar na fyddai cyfarfod ymylol o'r fath erioed wedi cael ei ganiatáu ychydig flynyddoedd yn ôl, ac na fyddai Llafur Cymru wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod YesCymru ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff ymrwymo Llafur yn ddiamwys i barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig a rhoi'r gorau i'r fflyrtian hwn â Phlaid Cymru, sy'n rhoi hygrededd diangen i'r posibilrwydd o annibyniaeth?
Wel, nid wyf yn siŵr ble mae hyn yn ffitio i'r trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau. Mae'r rhain yn ddadleuon y byddai pob plaid aeddfed yn disgwyl eu cael mewn cyd-destun datganoledig. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir: rwy'n credu, mae Llywodraeth Cymru yn credu, mai'r dyfodol gorau i Gymru yw fel rhan o DU ddiwygiedig a ffyniannus. Mae'r pwysau yn sgil Brexit wedi datgelu ffawtiau yng nghyfansoddiad y DU y ceisiais eu nodi yn fy ateb i gwestiwn Hefin David yn gynharach. Buaswn yn dweud wrtho mai'r bygythiad mwyaf i'r undeb yw'r math o Brexit heb gytundeb y mae ef ei hun o'i blaid. Mae ef ac eraill yn ceisio dinistrio'r cyfansoddiad, ac mae'r rhai ohonom sydd ag ymrwymiad mwy o lawer i ddyfodol Cymru yn ceisio gwneud popeth a allwn i gryfhau'r cyfansoddiad er mwyn ymdopi â rhai o'r canlyniadau hynny.