1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Hydref 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith staff a gyflogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ54508
Wel, diolch am y cwestiwn, a diwrnod shwmae hapus i'r Aelod hefyd. Heddiw, rydym ni'n cael ein hannog i ddefnyddio ein Cymraeg, dim ots faint o Gymraeg sydd gennym ni, ac mae hon yn iaith i bawb. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae cyngor partneriaeth y gweithlu yn cynnig fforwm lle mae Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr yn dod at ei gilydd i roi sylw i faterion o ddiddordeb cyffredin. Mae amodau gwaith uniongyrchol mewn llywodraeth leol yn fater ar gyfer cydfargeinio rhwng cyflogwyr a'u hundebau llafur.
Diolch, Prif Weinidog. Mae nifer y staff llywodraeth leol ledled Cymru a gymerodd absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd 18 y cant yn uwch nag yn y ddwy flynedd flaenorol. Cymerodd 807 o staff yng nghyngor Caerffili absenoldeb cysylltiedig â straen y llynedd, ac ym Merthyr Tudful, roedd y nifer fwy na thair gwaith yn fwy, o 105 i 318. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy mhryder ynghylch y ffigurau hyn, a pha gamau y byddwch chi yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar staff cyngor, sy'n effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd ac yn arwain at ganlyniadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd da yn y de-ddwyrain?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod, wrth gwrs, bod straen yn fater i'w gymryd o ddifrif. Rwy'n gobeithio, rhywle yn y ffigurau hynny, bod adlewyrchiad o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud ac a gefnogwyd ar draws y Cynulliad, i wneud pobl yn fwy parod i ddweud pan fyddant yn teimlo eu bod yn dioddef oherwydd unrhyw fath o salwch meddwl, gan gynnwys straen. Ond mae'r ffigurau hefyd yn adlewyrchiad eglur o gyni cyllidol. Dro ar ôl tro, rwyf i wedi dadlau ar lawr y Cynulliad nad yw cyni cyllidol yn cael ei deimlo yn ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn unig, ond mae'n cael ei deimlo ym mywydau pobl sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Mae cyflogau'r bobl hynny wedi cael eu dal i lawr tra bo'r gofynion arnyn nhw wedi cynyddu, ac mae'n afrealistig tybio eu bod yn gallu gadael yr holl bwysau hynny wrth y drws a mynd i mewn i'r gwaith fel pe na fyddai'r pethau hynny'n digwydd yn eu bywydau.
Mae'r Aelod yn gofyn beth allwn ni ei wneud i leihau'r straen ym mywydau gweision cyhoeddus sy'n gweithio i lywodraeth leol, a'r ateb yw cael Llywodraeth y DU sy'n barod i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol, fel bod gan y bobl hynny bobl wrth eu hochrau fel nad yw eu niferoedd yn llai, ac y byddan nhw'n gallu ymdopi'n well â'r effaith yn eu bywydau eu hunain a darparu gwasanaethau o ansawdd y gwyddom eu bod yn ymroddedig i'w wneud.
Wel, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn y fan yna, Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod straen yn dod yn fwyfwy y rheswm am absenoldeb staff yng nghynghorau Cymru, ac mae toriadau cyllideb a roddwyd ar waith gan San Steffan, ac a basiwyd ymlaen gan y Llywodraeth Cymru Lafur hon, wedi arwain at golli swyddi sylweddol yn ein cynghorau, sy'n golygu bod staff yn gorfod darparu'r un gwasanaeth gyda llai o adnoddau. A wnewch chi gydnabod y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid digonol i gynghorau yng nghylch nesaf y gyllideb er mwyn lleihau'r lefelau o straen ar ein staff awdurdodau lleol?
Wel, Llywydd, mae ariannu llywodraeth leol wedi bod yn flaenoriaeth gyson i'r Llywodraeth Lafur hon drwy gydol tymor y Cynulliad hwn a chyn hynny hefyd. Ond mae'r Aelod yn cydnabod, mi wn, er gwaethaf y pwynt y mae'n ei wneud, nad yw'r arian sydd gennym ar gael i ni yn ganlyniad o benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud, bod yn rhaid ymestyn yr arian hwnnw i ddarparu gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd yn ogystal â llywodraeth leol, i wneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n ceisio eu gwneud fel Llywodraeth, ac y mae Aelodau o amgylch y Siambr Cynulliad hon yn sefyll ar eu traed bob wythnos drostynt a hyrwyddo mwy o fuddsoddiad mewn blaenoriaethau sy'n agos at eu calonnau, sy'n bwysig i gymunedau lleol. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i roi'r swm mwyaf posibl o arian sydd ar gael i ni mor agos at y rheng flaen ag y gallwn, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny o ansawdd mor uchel ag y gallwn ei sicrhau, a bod y bobl sy'n cael eu herio i'w darparu, bod eu lles a'u llesiant yn cael eu hamddiffyn hefyd. Y cyfyngiad unigol mwyaf ar ein gallu i wneud hynny yw'r ffaith bod y swm o arian sydd ar gael i ni wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac y bydd yn is yn y flwyddyn ariannol nesaf nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl.