– Senedd Cymru am 4:41 pm ar 15 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ddoe cyflwynais Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad byr am y Bil.
Mae'r Bil yn adeiladu ar y cynllun indemniad ymarfer meddygol cyffredinol a gyflwynodd sicrwydd indemniad esgeuluster clinigol a gefnogir gan y wladwriaeth ar gyfer darparwyr gwasanaethau ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru ar 1 Ebrill eleni. Mae'r cynllun hwn, a elwir yn gynllun atebolrwyddau'r dyfodol, yn ymdrin â hawliadau esgeuluster clinigol sy'n codi o 1 Ebrill. Mae cynllun atebolrwyddau'r dyfodol wedi gwreiddio'n llwyddiannus ers ei gyflwyno ac fe'i cefnogir yn gryf gan ymarferwyr cyffredinol ledled Cymru. Gwneuthum ymrwymiad ym mis Tachwedd 2018 i ehangu'r trefniadau indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth i indemnio ymarferwyr cyffredinol ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol yr adroddwyd arnynt, neu' aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt, cyn 1 Ebrill 2019, yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol a thrafodaethau boddhaol gyda'r sefydliadau amddiffyn meddygol.
Mae'r Bil drafft yn diwygio adran 30 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer bodloni colledion ac atebolrwyddau rhai o gyrff y gwasanaeth iechyd, drwy fewnosod darpariaethau newydd yn adran 30, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol, gan hefyd ehangu'r cyrff a all gael eu hindemnio gan Weinidogion Cymru o dan gynlluniau a sefydlwyd yn unol ag adran 30. Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun indemniad uniongyrchol i indemnio ymarferwyr cyffredinol ar gyfer unrhyw hawliadau esgeuluster clinigol hanesyddol yr adroddwyd arnynt, neu'r aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt hyd yn hyn, cyn 1 Ebrill 2019. Dyna yw'r cynllun atebolrwyddau presennol, neu'r ELS.
Bydd y Bil yn sicrhau nad yw ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru yn cael eu trin o dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr lle mae trefniadau tebyg yn cael eu cyflwyno ar gyfer cynllun atebolrwydd presennol sydd â chefnogaeth y wladwriaeth iddo. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw effaith negyddol ar recriwtio a chadw ymarferwyr cyffredinol yn y dyfodol. Bydd y Bil a'r rheoliadau cyfredol ar gyfer y cynllun atebolrwydd presennol hefyd yn sicrhau na fydd cynlluniau gwahanol sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr yn cael effaith andwyol ar weithgarwch trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.
I gloi, bydd y Bil arfaethedig yn: diogelu pwerau Gweinidogion Cymru yn y dyfodol rhag unrhyw effeithiau, siociau i'r farchnad a phwysau yn sgil digwyddiadau posib yn y dyfodol yn ymwneud a sicrwydd esgeuluster clinigol ar gyfer darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol yng Nghymru; bydd yn cryfhau cydnerthedd gwasanaethau meddygol cyffredinol; a bydd yn rhoi sicrwydd i gleifion o ran hawliadau esgeuluster clinigol a wnaed cyn mis Ebrill 2019 o ran ceisio iawn. Rwy'n falch o gyflwyno'r Bil hwn i'r Cynulliad graffu arno ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cynulliad a'i bwyllgorau craffu dros y misoedd nesaf.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r datganiad hwn ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gael gweld y datganiad o flaen llaw, ac rwy'n gwybod fod fy nghyd-Aelod Angela Burns AC yn ddiolchgar am y briff technegol a drefnwyd gennych yn ddiweddar.
A gaf i ddechrau drwy groesawu'r datganiad? Mae'n Fil hanfodol ac mae'n bwysig ei fod wedi'i gyflwyno ger ein bron heddiw, gydag ychydig wythnosau prysur o'n blaenau, i gael ymgorffori'r Bil mewn cyfraith cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill. Mae ymarferwyr cyffredinol wedi bod yn erfyn am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n hanfodol bod Cymru ar sylfaen debyg i Loegr i'n galluogi ni yma yng Nghymru i gystadlu o dan yr un amodau o ran recriwtio a chadw meddygon teulu. Hoffwn, fodd bynnag, grybwyll rhai meysydd sy'n peri pryder inni a gofyn am rywfaint o eglurhad ar rai materion.
Gweinidog, mae'r datganiad yn honni y bydd gweithredu'r Bil hwn yn costio tua £30,000. Hoffwn ddeall mwy am sut y cyfrifwyd y ffigur hwn a pha sicrwydd y gellir ei roi na fyddir yn mynd y tu hwnt i'r gyllideb hon. A wnewch chi roi'r sicrwydd hwn?
Gweinidog, rydych chi'n crybwyll y cynhelir adolygiad ar ôl gweithredu, ond ni fanylir ar hyn yn y Bil. Roedd hwn yn amcan gwleidyddol i'ch Llywodraeth, fel y nodir yn y memorandwm Gweithredol. Ar hyn o bryd, nid yw'n ymddangos bod modd i'r Cynulliad adolygu nac adrodd yn ôl, sy'n golygu nad yw amcan y polisi o fonitro gweithrediad y cynllun yn un pendant. A wnewch chi egluro pam nad yw'r adolygiad hwn wedi'i gynnwys yn y Bil hwn?
Gweinidog, rwyf hefyd yn awyddus i wybod pam eich bod yn defnyddio gweithdrefn negyddol, o gofio bod pwyllgorau di-ri wedi argymell pwerau cadarnhaol i wneud rheoliadau. Mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gallu sydd gan y Cynulliad hwn i graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru yn effeithiol.
Dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns yn ystod hynt y Bil isafbris alcohol y gallai defnyddio'r weithdrefn negyddol arwain at Gynulliad yn y dyfodol yn eich barnu'n llym os na fyddwch yn casglu tystiolaeth gredadwy, gyson sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a fyddai'n galluogi craffu priodol a barn gadarn. Felly, a wnewch chi esbonio pam yr ydych chi wedi dewis dilyn llwybr y weithdrefn negyddol?
Ac, yn olaf, mae gennyf bryder ynghylch amserlennu'r Bil hwn. Mae'n ymddangos ein bod ni yn rhuthro pethau. Ac er fy mod yn derbyn bod angen Cydsyniad Brenhinol i'r Bil hwn ar frys, mae cael cyfnod mor fyr ar gyfer cyflwyno a chraffu ar dystiolaeth yn peri pryder mewn gwirionedd. A gaf i sicrwydd y bydd y broses hon yn caniatáu cyfnod digonol i alluogi proses graffu lawn a thryloyw? A pham na chafodd ei gyflwyno yn gynharach i osgoi'r hyn sydd bellach yn rhuthro amhriodol? Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r pwyntiau. Roedd pum pwynt i bob pwrpas. Y cyntaf ar amseru: wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr amserlen. Rwy'n credu y bydd digon o amser i'r holl randdeiliaid perthnasol gymryd rhan. Maen nhw'n eithaf gwybodus am fwriad y polisi, y diben, a'r cynllun a'r rheoliadau. Mae hefyd yn ddefnyddiol ei fod yn Fil eithaf byr. Mae'n mewnosod gwelliant ar wyneb Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Felly, ni fyddwn yn ymgolli mewn Bil hir, technegol, anodd. Ond rwy'n credu y bydd digon o amser i bob rhanddeiliad gael dweud ei ddweud ac i'r Aelodau ofyn cwestiynau a chael atebion.
O ran eich pwynt am y Bil a'r amserlen ar ei gyfer, mae'n bwysig cael y rheoliadau yn eu lle i ganiatáu i'r cynllun fod ar waith erbyn dechrau Ebrill, i sicrhau cysondeb gyda Lloegr a sicrhau ein bod yn gweld gweithgarwch trawsffiniol yn cael ei gynnal yn briodol ar gyfer y ddwy ochr i'r ffin, yn ogystal â sicrhau nad yw ymarferwyr cyffredinol Cymru o dan anfantais am fod cynllun yn dod i rym yn hwyrach nag yn Lloegr.
O ran eich pwynt am y weithdrefn negyddol yn hytrach na chadarnhaol, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn rheolaidd gyda phob Bil ac rwy'n siŵr y byddwn yn gallu trafod hynny yn y broses graffu o flaen y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sy'n cael sylwadau'n rheolaidd, a'r pwyllgor iechyd hefyd. Ond rydym ni'n sôn am rywbeth i wneud newidiadau i reoliadau sydd i raddau helaeth yn mynd i fod yn dechnegol eu natur, waeth beth fo'u heffaith. Ond rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu ag Aelodau drwy'r broses graffu.
Yn hynny o beth, dyna ran wrth gwrs o ddiben craffu ar y Bil. O ran eich pwynt am ôl-graffu ar wyneb y Bil, nid wyf yn credu bod hynny'n briodol, oherwydd rydym ni'n sôn am ddiwygio wyneb darn o ddeddfwriaeth sylfaenol i fewnosod adran ychwanegol i roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Byddai'n eithaf anarferol, ar wyneb y Bil, i ychwanegu gofyniad i graffu ar ôl deddfu, ond rwy'n sylweddoli yr hoffai'r Aelodau gael sicrwydd ychwanegol ac imi wneud sylwadau ar goedd i roi rhyw sicrwydd y bydd y craffu ar ôl deddfu hwnnw'n digwydd.
O ran y pwynt am y costau, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at y paragraff am gostau—paragraff 3.7 y memorandwm esboniadol. Mae'r £30,000 yn ymwneud yn syml â'r costau o ran y cymorth cyfreithiol allanol sydd ei angen i ddefnyddio'r cynllun indemniad newydd. Ac rwy'n credu bod hynny'n asesiad teg a chywir o'r costau a gyfrifwyd gennym ni.
A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr, yn ogystal â Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)? Fe wnaf ddatgan fy muddiant arferol fel meddyg teulu y gwyddys iddo dalu ei indemniad meddygol ers blynyddoedd lawer, neu fel arall ni chaniateid imi ymarfer fel meddyg teulu o gwbl.
Nawr, mae'r Bil hwn yn sicrhau bod cyfatebiaeth rhwng sefyllfa ymarferwyr cyffredinol a'r hyn sydd wedi digwydd erioed gyda meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol ysbytai, o ran bod y wladwriaeth bob amser wedi talu eu ffioedd indemniad meddygol enfawr, a nawr rydym ni'n mynd i fod yn gwneud yr un peth ar gyfer ymarferwyr cyffredinol—a hen bryd, byddai llawer o bobl yn ei ddweud, oherwydd bod yswiriant indemniad meddygol ar hyn o bryd yn gallu bod hyd at oddeutu £15,000 y flwyddyn, ar raddfa symudol, yn dibynnu ar ble yr ydych chi'n gweithio—gwaith y tu allan i oriau, gweithio mewn unedau damweiniau ac achosion brys, ar adegau sy'n fwy peryglus yng nghanol y nos. Ond mae'n gost bersonol enfawr sydd yn amlwg wedi'i hamlygu yn y blynyddoedd diwethaf fel rheswm i ymarferwyr cyffredinol benderfynu peidio â bod yn ymarferwyr cyffredinol, yn enwedig rhai rhan-amser neu rai sy'n tynnu tuag at ddiwedd eu gyrfaoedd—mewn gwirionedd, mae'n costio mwy iddyn nhw mewn indemniad meddygol nag y bydden nhw yn ei ennill mewn gwirionedd drwy wneud llai o waith. Felly, cost gynyddol indemniad meddygol yw'r hyn sydd wedi ysgogi'r darn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n cael ei groesawu.
Dim ond un neu ddau o sylwadau: yn amlwg, atebolrwyddau yn y dyfodol, mae'r rhan honno eisoes yn weithredol ers mis Ebrill eleni. Yr hyn yr ydym ni'n ei basio nawr yw gwelliant technegol, os mynnwch chi, ar hynny. Ac yn amlwg rydym yn craffu ar hynny yn y Pwyllgor Iechyd ac yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae'n ymwneud ag atebolrwyddau presennol—mewn geiriau eraill, pethau sydd wedi digwydd cyn Ebrill 2019. Ac, dim ond i ddatgan ffaith, yn amlwg, gall esgeuluster meddygol, fel y'i gelwir, neu hawliadau, ddechrau amser maith yn ôl a dim ond dod i'r wyneb, neu nodi—neu mae rhywun yn penderfynu cyflwyno hawliad—flynyddoedd lawer ar ôl i'r achos ddigwydd. Rwy'n gwybod am enghreifftiau o fwlch o 20 mlynedd a mwy rhwng y digwyddiad gwirioneddol a chwyno am y digwyddiad hwnnw. Nawr, os ydym ni'n mynd i ddweud nawr bod y cynllun atebolrwydd presennol hwn yn cwmpasu popeth cyn Ebrill 2019, a wnewch chi ddatgan sut yr ydych chi'n teimlo y byddai hynny'n gweithio, mewn gwirionedd? A ydych chi am fynd yn ôl 20 mlynedd, oherwydd byddai gennyf y pryder hwnnw ynghylch Llywodraeth Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ei hun, fel petai, rhag yr atebolrwyddau enfawr a allai godi.
Gan nad oes modd dianc—a dyma fy sylw olaf, nawr—rhag y ffaith bod costau enfawr ynghlwm wrth hyn, nid o ran gweithredu'r Bil mewn gwirionedd, yn amlwg, ond o ran y costau cyfreithiol enfawr. Dyna pam mae'n rhaid i ni gael yswiriant indemniad meddygol yn y lle cyntaf, oherwydd bod system wrthwynebol iawn ar hyn o bryd: mae'n rhaid i gleifion a'u teuluoedd brofi bod meddyg neu nyrs wedi bod yn esgeulus—mae honno'n sefyllfa gymhleth iawn—yn hytrach na mewn rhai gwledydd, rydym ni'n derbyn y posibilrwydd o gamgymeriadau a damweiniau meddygol ac mae gan bobl raddfa symudol o iawndal, o'r enw iawndal 'dim bai', lle nad oes yn rhaid ichi brofi bai, ond rydych chi'n cael yr arian yn llawer cynt nag ydych chi yn y system gyfreithiol wrthwynebol bresennol sydd gennym ni yn y wlad hon. Felly, er fy mod yn croesawu'r Bil hwn sydd yn amlwg yn sicrhau cyfatebiaeth rhwng ymarferwyr cyffredinol a meddygon ysbytai a meddygon ymgynghorol sydd eisoes ag imiwnedd y Goron, o ran ehangu'r prosesau meddwl ar gyfer y dyfodol, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi hefyd i system o iawndal 'dim bai', fel sy'n bodoli mewn gwledydd eraill, fel Seland Newydd? Diolch.
Fe wnaf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, sef: rydym ni'n ceisio datrys problemau sy'n bodoli ar hyn o bryd, neu a fydd yn bodoli o ddechrau mis Ebrill, gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Rwy'n fodlon cael sgwrs lawnach ag ef am y newid sylweddol a amlinellodd mewn iawndal 'dim bai'. Fe'ch cofiaf yn ei grybwyll o'r blaen yn y Siambr yn y gorffennol, a chredaf ei fod yn rhywbeth y dylem ni sôn amdano'n iawn, yn hytrach na cheisio rhoi ateb unwaith ac am byth nawr, ond byddai angen newid sylweddol mewn diwylliant yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â'r materion hyn eisoes, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.
O ran eich sylw am y costau, wrth gwrs, y rheswm pam yr ydym ni'n gwneud hyn yw ein bod wedi cydnabod ers tro bod costau cynyddol indemniad wedi bod yn rhwystr sylweddol i bobl rhag ymsefydlu a pharhau i fod yn ymarferwyr cyffredinol, boed hynny, os mynnwch chi, y meddyg teulu rheolaidd sy'n gweithio mewn meddygfa, pobl sy'n gweithio oriau rhan-amser—mae amrywiaeth o resymau gwahanol pam mae pobl eisiau gweithio oriau rhan-amser, boed hynny'n bobl ar wahanol adegau yn eu gyrfa, dynion a menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â phobl sydd eisiau dychwelyd a lleihau eu sesiynau ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, ac, yn wir, gwaith y tu allan i oriau hefyd. Rydym ni wedi rhoi arian yn y contract ond, mewn gwirionedd, nid oeddem yn cyrraedd yr hyn a fyddai'n gynaliadwy, felly dyna pam yr ydym ni wedi cymryd y safbwynt penodol hwn. Ac mae'n, rydych chi'n gywir—y term technegol, rwy'n credu, yw 'sicrwydd sy'n seiliedig ar y presennol', felly mae'n ymwneud â phryd mae rhywbeth wedi digwydd, ac, ar yr amod bod rhywun wedi bod yn aelod â sicrwydd indemniad proffesiynol priodol gyda sefydliad amddiffyn meddygol sy'n cymryd rhan, yna byddwn yn eu cefnogi.
O ran y costau, daw hynny o—bydd cyllid yn dod o negodi trosglwyddo asedau gyda sefydliadau amddiffyn meddygol ac arian Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn amlwg, mae'r wladwriaeth yn gefnogol i hyn i roi'r sicrwydd i bobl y caiff arian ei dalu. Rwy'n siŵr y byddwn yn rhoi sylw manylach i hyn wrth i ni fynd drwy'r Bil, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y costau, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nhw a'n hasesiad o'r atebolrwyddau, ond hefyd i wneud yn siŵr bod sicrwydd digonol ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a'r cyhoedd yn ehangach.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn a theimlaf ei bod hi'n hen bryd gwneud hynny, gan fod llawer o ymarferwyr cyffredinol wedi gweld hyn yn faen tramgwydd rhag dilyn eu llwybr gyrfa, ac ni ellir ond ystyried bod y swm mawr hwn o arian ar gyfer yswiriant yn gadarnhaol o ran recriwtio a chadw ymarferwyr cyffredinol. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth yn y maes hwn, ac mae hyn yn ddechrau da iawn tuag at recriwtio a chadw. Felly, mae'n hanfodol sicrhau cydraddoldeb hefyd â'r GIG yn Lloegr, ac, os ydym ni eisiau gwella'r sefyllfa o ran recriwtio a chadw, unwaith eto, ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru, mae'r cydraddoldeb hwn yn eithriadol o bwysig.
Mae'r ffaith y bu cynnydd eithriadol mewn yswiriant indemniad ar gyfer ymarferwyr cyffredinol wedi cael effaith ar y proffesiwn, a dyna pam y cefnogais gyflwyno'r cynllun atebolrwyddau'r dyfodol. Mae'n drist bod y DU yn mynd yn fwy cyfreithgar, ac yn ddiau mae'r cynnydd sylweddol mewn cwmnïau hawliadau esgeulustod meddygol yn ddiweddar wedi arwain at y cynnydd enfawr mewn costau indemniad.
Rwyf hefyd yn cefnogi ymestyn y cynllun indemniad i dalu am atebolrwyddau presennol. Gweinidog, un o'r beirniadaethau am y cynllun atebolrwyddau'r dyfodol fu'r angen am gofrestr locwm, ar wahân i'r rhestr cyflawnwyr meddygol, er mwyn darparu yswiriant ar gyfer meddygon sesiynol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ystyried defnyddio'r Bil hwn i ddiwygio'r cynllun atebolrwyddau'r dyfodol a'r cynllun atebolrwyddau presennol er mwyn dileu'r angen am gofrestr locwm ar wahân? Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'r GIG yn Lloegr i sicrhau bod gan feddygon mewn ardaloedd trawsffiniol degwch o ran eu darpariaeth? Yn olaf, Gweinidog, sut fydd y cynllun yn gweithredu mewn cysylltiad â meddygon carchardai, o gofio'r trefniadau gwahanol niferus ar gyfer gofal iechyd mewn carchardai yng Nghymru?
Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanwl ar y Bil hwn yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad, ond hefyd at weithio gyda chi i sicrhau bod gan ymarferwyr meddygol yng Nghymru yswiriant indemniad fforddiadwy. Diolch yn fawr.
Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r tri chwestiwn penodol ac yna pwynt am y cynnydd mewn costau.
O ran eich sylw olaf, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n arbennig o berthnasol i'r Bil o safbwynt pobl sy'n gweithio yn y sector carchardai. Mae gennym ni ddau gynllun gwahanol; mae cynllun atebolrwyddau'r dyfodol eisoes ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag atebolrwyddau presennol ac, mewn gwirionedd, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Lloyd, cyn belled â bod rhywun eisoes yn aelod o sefydliad amddiffyn meddygol, yna cânt sicrwydd. Diben y gwelliant yw'r atebolrwyddau presennol yr adroddwyd arnynt, ond na fu hawliad yn eu cylch, fel y dywedais yn fy natganiad.
O ran y sylw am weithgarwch trawsffiniol, eto, rhan o amcan a diben cael y Bil hwn a'r cyfnod craffu byrrach y mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno arno yw sicrhau bod gennym ni'r rheoliadau hyn a'r cynllun ar waith. Un o'r pethau penodol y bydd yn ei wneud yw sicrhau nid yn unig y gymhariaeth rhwng meddygon sy'n gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd y llif trawsffiniol mewn gweithgarwch sy'n mynd i'r ddau gyfeiriad—felly, gwneud yn siŵr bod cyfatebiaeth rhwng cynlluniau. Fodd bynnag, nid wyf yn mynd i ddefnyddio'r Bil hwn i ddileu'r gofrestr locwm. Os yw Aelodau eisiau cyflwyno gwelliannau, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, ond hoffwn ddweud nad dyna ddiben y polisi na bwriad y Bil, ac rwy'n mynd i fod yn onest nad wyf yn ceisio gwneud hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sy'n canolbwyntio'n fanwl ac sy'n ymdrin â mater penodol.
Hoffwn ddychwelyd at y pwynt ynghylch y mater yn ymwneud â'r cynnydd mewn costau, oherwydd daeth y cynnydd mewn costau indemniad ymarferwyr cyffredinol oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, ond nid wyf yn credu ei fod yn briodol dweud ei fod yn ymwneud â chynnydd mawr mewn hawliadau. Mewn gwirionedd, un o'r materion mwyaf a arweiniodd at weithredu ledled y DU oedd penderfyniad yr Arglwydd Ganghellor i newid y gyfradd ddisgownt o ran anafiadau personol. Nawr, mae hyn yn bwysig oherwydd iddo gynyddu'r costau a'r her ynghylch sicrwydd yn sylweddol, ac, mewn gwirionedd, golygai'r symud o gyfradd ddisgownt o 2.5 y cant i gyfradd ddisgownt o -0.75 y cant ar golledion yn y dyfodol y gallai costau tanysgrifio ymarferwyr cyffredinol fod wedi cynyddu hyd at 25 y cant, ac roedd hynny'n ysgogydd pwysig iawn a olygai fod y cynllun presennol, a oedd eisoes dan bwysau—. Pan ddeuthum yn Ddirprwy Weinidog iechyd dros bum mlynedd yn ôl bellach, oherwydd fy mhechodau, roedd yn broblem bryd hynny, ar yr adeg honno, ynghylch costau yswiriant indemniad. Roedd yr hyn a wnaethom ni wrth roi arian i mewn i'r contract ymarferwyr cyffredinol yn fodd i gwmpasu ac ymdrin ag agweddau ar hynny, ond roedd yn dal yn bwysau. Ond y newid yn y gyfradd ddisgownt mewn gwirionedd oedd y mater a'n gorfododd ni i edrych ar rywbeth sy'n sylfaenol wahanol, a dyna pam yr ydym yn y sefyllfa hon nawr.
Diolch yn fawr, Gweinidog.