1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2019.
5. Pa mor effeithiol y mae rhyddhad ardrethi busnes wedi bod o ran helpu busnesau yng Nghymru? OAQ54533
Mae pecyn rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru yn darparu dros £230 miliwn o gymorth i fusnesau a threthdalwyr eraill gyda’u biliau eleni. Nid yw hanner yr holl fusnesau yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Stryd Fawr y Rhyl a chanol y dref wedi dirywio dros y blynyddoedd, fel canol sawl tref yng Nghymru. Ar un adeg, roedd canol y dref yn y Rhyl yn llewyrchus, a bellach mae'n edrych fel llawer o'r trefi sydd wedi dirywio dan ofal y Llywodraeth hon. Mae perchnogion siopau yn colli'r frwydr yn erbyn parciau manwerthu y tu allan i'r dref, sy'n cynnig parcio am ddim a chyfleus, a siopau sydd, yn ôl pob tebyg, wedi cael gostyngiadau ar eu rhenti neu ardrethi busnes i'w denu allan o'r dref ac i'r parc manwerthu.
Pryd bynnag y caiff y Llywodraeth hon ei holi am ardrethi busnes a rhyddhad ardrethi busnes, a sut y gellir eu defnyddio'n well i adfywio'r stryd fawr, rydych bob amser yn ateb mai'r awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i wella canol trefi yn eu hardaloedd. Efallai fod hynny'n wir, ond nid ydynt yn gwneud hynny. Onid yw'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ar y mater hwn a dangos i awdurdodau lleol sut y gallant achub canol trefi a'u gwarchod, yn enwedig ar gyfer y manwerthwyr bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng nghanol y dref ac sy'n debygol o arwain at greu swyddi a stryd fawr lewyrchus? Mae'r adolygiad o ryddhad ardrethi yn cymryd gormod lawer o amser. Mae canol trefi'n marw wrth i chi osgoi unrhyw graffu difrifol drwy guddio y tu ôl i'r hyn sy'n edrych fel adolygiad mewnol.
Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud, pryd bynnag y caf fy holi ynglŷn â'r mater hwn, fy mod yn dweud ei fod yn fater i'r awdurdodau lleol, oherwydd wrth gwrs, mae gennym gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan sy'n cael eu gweinyddu ac ni cheir disgresiwn i rai o'r cynlluniau hyn. Felly, er enghraifft, rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae hwnnw'n gynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol yng Nghymru, sy'n darparu dros £120 miliwn o ryddhad eleni. Caiff ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, lle y gwelwch fusnesau'n sybsideiddio busnesau eraill. Ac mae dros 70,000 o drethdalwyr ledled Cymru yn cael cymorth, ac fel rwy'n dweud, nid yw eu hanner yn talu unrhyw beth o gwbl. Mae hynny'n cymharu â thraean o'r rheini yn Lloegr. Yn ogystal, mae gennym ein cynlluniau rhyddhad ardrethi'r stryd fawr. Mae hynny'n £23.6 miliwn ychwanegol sydd ar gael i gefnogi a gwella'r stryd fawr, ac rydym wedi ehangu hynny fel ei fod yn berthnasol i fwy na siopau ac eiddo manwerthu yn unig yn yr ystyr hwnnw; mae wedi'i ehangu i gynnwys tafarndai, bwytai, er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi'r caffis a'r busnesau eraill sy'n rhoi naws fywiog i ganol ein trefi.
Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn o ran y £2.4 miliwn ychwanegol i dargedu'r cymorth hwnnw i fusnesau lleol penodol neu sectorau y credant eu bod yn arbennig o bwysig i fywyd eu tref. A chredaf ei bod yn briodol iawn fod ganddynt y disgresiwn hwnnw. Wrth gwrs, nid yw rhyddhad ardrethi ynddo'i hun yn mynd i ddatrys holl broblemau'r stryd fawr, a dyna pam fod gennym bethau fel ein benthyciadau ar gyfer y stryd fawr, sy'n gynllun hynod boblogaidd, ac mae hwnnw'n adfywio'r stryd fawr. Mae gennym ein gwaith adfywio canol trefi sy'n mynd rhagddo ledled Cymru hefyd. Felly, rydym yn gwneud llawer o bethau i adfywio ein stryd fawr, ond ni chredaf fod unrhyw un ohonom yn tanbrisio'r her sydd ynghlwm wrth hynny.
Mae'n ymwneud â'r pwynt hwnnw, mewn gwirionedd. Ym mis Gorffennaf, efallai y byddwch yn cofio i chi fod yn ddigon caredig i ysgrifennu, neu i ohebu beth bynnag, â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch eu rhyddhad ardrethi i siopau'r stryd fawr. Dywedasant wrthyf o'r diwedd ym mis Gorffennaf—ac ar ôl i chi gysylltu â hwy—fod 90 y cant o fusnesau a oedd wedi gwneud cais iddynt am y math hwn o ryddhad ardrethi wedi bod yn llwyddiannus, felly diolch am gysylltu â hwy. Fodd bynnag, os mai nifer y busnesau ar y stryd fawr sydd naill ai wedi agor neu wedi aros ar agor yw mesur llwyddiant y polisi hwn, nid wyf yn siŵr a a allwch hawlio llwyddiant yn y fwrdeistref benodol hon. Felly, yn yr adolygiad rydych yn ei gynnal a'r gwaith o werthuso'r polisi, beth fydd y prif feini prawf ar gyfer llwyddiant? Ai nifer y busnesau sydd wedi aros ar agor, yn hytrach na chymariaethau â Lloegr o ran faint o bobl sy'n talu ardrethi ac ati? Ac a fyddwch yn cymharu effeithiau eich polisi penodol â pholisïau amgen a gynigir yma gan bleidiau eraill?
Y mis nesaf, edrychaf ymlaen at gyflwyno datganiad i'r Cynulliad ar ddiwygiadau ariannol llywodraeth leol, ac mae hynny'n cynnwys ystyried trethi lleol yn gyffredinol, felly fe fydd yn ystyried y dreth gyngor ac ardrethi annomestig hefyd. A bydd yn disgrifio'r ymchwil a gomisiynwyd gennym yn y ddau faes i'n helpu i ddeall yn well beth yw'r cyfleoedd ar gyfer diwygio'r ddau beth yn y tymor hwy.
O ran rhai o'r ffyrdd y gallwn fesur llwyddiant, wrth ateb cwestiwn Rhun ap Iorwerth yn gynharach, buom yn siarad ynglŷn â sut y mae mesur gwerth am arian. Mae mesur gwerth am arian mewn termau ariannol pur yn un peth, ond mewn gwirionedd, os ydym yn ei fesur mewn ffordd fwy creadigol, ffyrdd sy'n ceisio hyrwyddo agenda ehangach Llywodraeth Cymru o ran bioamrywiaeth, er enghraifft, neu ein cynllun gweithredu ar yr economi, credaf fod cyfleoedd gwych i'w cael i dargedu buddsoddiad a chymorth. Ond credaf fod hwn yn waith hwy. Gofynnodd Suzy a fyddem yn edrych ar syniadau eraill. Buaswn yn falch iawn pe gallem barhau â'r sgwrs hon er mwyn archwilio meysydd lle mae gennym syniadau cyffredin a lle y gallwn rannu syniadau.