Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rydym ni'n siarad am sut i ddod ag arian i mewn i goffrau llywodraeth leol, ac allwn ni ddim anwybyddu'r pwysau sydd yna ar sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario wedyn, wrth gwrs. A gallwn ni ddim edrych ar gyllid llywodraeth leol yn ynysig yn hynny o beth. Hynny ydy, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, ym mhopeth mae'n ei wneud, mewn gwariant iechyd a tai ac ati, i weithredu mewn ffordd llawer mwy ataliol er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar gyllidebau llywodraeth leol, sydd yn gorfod camu mewn yn aml iawn ar adegau pan fydd hi'n hwyr iawn yn y dydd, a lle gallai problemau fod wedi cael eu datrys yn llawer cynharach.
Ond, yn troi at y drefn sydd gennym ni ar hyn o bryd, rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi teimlo ers blynyddoedd lawer fod y dreth gyngor yn dreth regressive. Dydyn ni ddim yn credu mai dyma y ffordd orau i ddod ag arian i mewn. Dydyn ni ddim yn credu ei fod o'n deg yn lle mae'r pwysau yn gorwedd o fewn cymdeithas, lle mae'r gofynion mwyaf ar bobl i dalu ac yn y blaen. Ac yn yr un ffordd, rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at allu bod mewn Llywodraeth yn defnyddio’r capasiti sydd gan y gwasanaeth sifil i edrych ar sut mae dod â chynllun gwirioneddol arloesol i mewn ar gyfer treth ardrethi busnes. Iawn, rydyn ni wedi cefnogi a wedi gwthio o ran rhyddhad ardrethi busnes ers blynyddoedd, ond mae'r ffaith bod rhyddhad yn gorfod cael ei roi ar raddfa mor fawr yn awgrymu'n glir i fi fod yna rywbeth ddim yn iawn efo'r system ardrethi ei hun.
Dwi yn croesawu'r ffaith bod y cam wedi cael ei gymryd yn gynharach eleni i dynnu i ffwrdd y bygythiad o garcharu pobl am fethu â thalu'r dreth gyngor. Mi oedd hynny y peth iawn i wneud. Mae'n bwysig hefyd fod y gwaith i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r dreth gyngor yn digwydd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle mae yna nifer uchel o gartrefi incwm isel, sydd yn aml iawn yn ansicr iawn ynglŷn â lle i droi am gefnogaeth. Mae hefyd i'w groesawu bod y Llywodraeth wedi delifro eithriadau ar gyfer pobl ifanc yn gadael gofal, ond mae yna wastad wrth gwrs ffyrdd, tra yn aros am y newid ehangach yna i'r system, o ddod ag arian i mewn i lywodraeth leol. Mae'n bwysig wastad edrych am ffyrdd newydd o ddeall problemau penodol y mae rhai grwpiau yn eu cael.
Mi wnaf i gloi y sylwadau yma drwy dynnu un consýrn penodol i'ch sylw chi. Mi wnaeth etholwraig gysylltu efo un o'm nghyd-Aelodau i ynglŷn â gostyngiadau yn y dreth gyngor. Mae partner yr etholwraig yma yn anabl a hi ydy'r brif ofalwraig. Mi gysylltodd yr unigolyn yma yn dweud nad oedd hi yn gymwys i gael unrhyw fath o ostyngiad yn y dreth gyngor oherwydd dydy'r rheolau ddim yn caniatáu i ostyngiad gael ei roi lle mae'r prif ofalwr yn gofalu am ei gŵr neu'i wraig. Ydy'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny? Ac os felly, ydy Llywodraeth Cymru yn neu am allu ystyried mesurau i fynd i'r afael â'r broblem honno a'r consýrn hwnnw yn benodol?