Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad yn y fan yna, a dechreuodd drwy sôn am yr amrywiad yn lefelau'r dreth gyngor. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono. Mae'r cyfartaledd ar gyfer eiddo band D yn amrywio o £1,092 yn Sir Benfro i £1,648 ym Mlaenau Gwent, ac rwy'n credu fod hynny'n rhannol o ganlyniad i'r ad-drefnu ym 1996 a greodd sefyllfa gymysg iawn o ran maint a nodweddion y 22 awdurdod unedol hynny, gan gynnwys rhai awdurdodau bach iawn sydd ag angen cymharol uchel am wasanaethau lleol a sylfaen drethi fach. Felly, mae hynny'n rhywbeth, yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol ohono, ond mae hefyd yn adlewyrchu'r hyblygrwydd a roddwyd i awdurdodau lleol o ran gosod y dreth gyngor yn eu hardaloedd eu hunain. Wrth gwrs, penderfyniadau gwleidyddol ydyn nhw ac mae gosod y dreth gyngor yn wirioneddol wleidyddol ei natur mewn llawer o achosion.
Roedd cyfraniad Mike Hedges yn dangos yn glir iawn pa mor gymhleth yw'r mater hwn, ac mae angen archwilio'n llawn i'r holl faterion hyn a'r holl ffyrdd posib hyn o fwrw ymlaen i ddeall yr holl oblygiadau posib, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Ac mae'n bwysig iawn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried y gwahanol fathau o aelwydydd, a'r ffordd y gallai unrhyw newid penodol effeithio ar wahanol fathau o unigolion. Ond rwy'n gwbl glir nad ydym ni'n ceisio gwneud newidiadau er eu mwyn eu hun, ond ein bod yn ceisio gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y system yn well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd.
O ran rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar gyfer ail gartrefi yn benodol, rwy'n gwybod fod hwn yn fater a drafodwyd yn frwd gennym ni yn y Cynulliad mewn dadl a noddwyd gan Blaid Cymru yn ddiweddar iawn. Y gwir yw, pan wnaethom ni ystyried hyn o'r blaen, rwy'n gwybod y rhoddwyd rhywfaint o ystyriaeth i ddileu rhyddhad ardrethi o rai mathau o eiddo, ond yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio'i wneud yw sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol yn lleol, ond yna hefyd deall y pwysau sydd gan awdurdodau lleol o ran sicrhau bod digon o dai yn eu hardaloedd.
O ran y sector twristiaeth, yn amlwg, caiff y manteision sylweddol eu cydnabod yn ein cynllun gweithredu economaidd, ac mae bod â llety hunanddarpar o ansawdd da sydd ar gael yn rhwydd yn rhan bwysig iawn o'r arlwy twristiaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau swyddogol diweddaraf yn dangos bod llety hunanddarpar wedi cyfrif am bron £370 miliwn o wariant twristiaeth yma yng Nghymru yn 2017. Ond wedi dweud hynny, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r heriau y gall canrannau uchel o ail gartrefi eu hachosi mewn rhai cymunedau nad ydyn nhw'n dibynnu ar dwristiaeth. Felly, rydym ni wedi trafod yn faith fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd ymlaen yn hyn o beth, a sicrhau bod y bobl hynny sy'n hawlio rhyddhad ardrethi yn gwneud hynny'n ddiffuant. Rwy'n credu mai'r prif bryder sydd gan bobl yw'r amheuaeth bod pobl yn hawlio rhyddhad ardrethi ar eiddo nad ydyn nhw wir yn bodloni'r meini prawf ar eu cyfer. Roedd hynny, rhaid imi ddweud, wedi'i gytuno gan y Cynulliad cyfan hwn o ran ceisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng yr angen lleol am dai a phwysigrwydd twristiaeth i wahanol gymunedau ledled Cymru.
Rhoddodd Mike Hedges rai syniadau ychwanegol o ran sut i symud pethau ymlaen. Dywedais yn fy natganiad, ac mae'n glir yn yr adroddiad heddiw, fy mod yn croesawu unrhyw syniadau gan unrhyw Aelod neu unrhyw randdeiliad â diddordeb ar unrhyw adeg, ac rwy'n awyddus iawn i gael y trafodaethau hynny ynghylch sut y gallwn ni wella'r system a'i gwneud yn decach, yn fwy blaengar, a sicrhau bod ein system ardrethi annomestig a'n system treth gyngor yn cyfrannu at amcanion ehangach Llywodraeth Cymru hefyd.