– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Ac mae’r ddadl fer y prynhawn yma yn enw Neil Hamilton, a galwaf ar Neil Hamilton i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Neil.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf—[Torri ar draws.]
Arhoswch funud, Neil. Os ydych chi'n mynd allan, a wnewch chi fynd yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda—er y dylai pob un ohonoch fod yn eistedd i mewn, yn gwrando?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis y pwnc hwn ar gyfer y ddadl y prynhawn yma gan y credaf fod y 'Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig, yn cyfateb yn amgylcheddol i ddiddymu'r mynachlogydd ac eglwysi gan Harri VIII. Yn y rhagair i'r ddogfen hon, dywed y Prif Weinidog, erbyn 2040,
'Rydym yn gwybod bod heriau sylweddol i’w cyflawni, yn enwedig wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd', sef mater diffiniol ein hoes yn ei farn ef. Ac
'Mae mynd i’r afael â’r achosion a lliniaru... newid yn yr hinsawdd yn ystyriaeth allweddol yn ein cynlluniau a gobeithion i Gymru.'
Ac mae Julie James, yn ei rhagair i'r ddogfen yn dweud y dylem
'wneud yn siŵr ein bod â’r gallu i adeiladu cymdeithas ac economi sy’n hyblyg ac yn wydn'.
Ac rwyf am archwilio'r gwrthdaro sy'n bodoli yn fy marn i rhwng y ddau honiad. Y gwrthdaro, mewn gwirionedd, rhwng twf economaidd a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd—dyfynnaf o'r rhagair yn enw'r Prif Weinidog—a chael gweledigaeth glir ynglŷn ag ynni adnewyddadwy. Ac felly, yr hyn y mae angen i ni ei ddeall, rwy'n credu, yw'r ateb i'r cwestiwn: a yw twf economaidd yn bwysicach na lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, neu gael gweledigaeth ynglŷn â mwy o ynni adnewyddadwy? Credaf fod gan y mwyafrif llethol o bobl Cymru lawer mwy o ddiddordeb mewn twf economaidd a gwella eu safon byw na syniadau penchwiban ynghylch targed newid yn yr hinsawdd na ellir ei gyflawni, nad oes gan Lywodraethau unrhyw fodd o ddylanwadu arno mewn gwirionedd. Cymru, wedi'r cyfan, yw'r dlotaf o holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr yn ôl y ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf, a chredaf y dylai twf economaidd fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn rhannau cyntaf y ddogfen, nid yw hyn byth yn cael ei ddweud yn gwbl glir. Fodd bynnag, mae sylwadau diweddarach yn gollwng y gath o'r cwd.
Ymddengys mai siarad am y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio a chreu mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy yw'r nod allweddol, heb ystyried twf economaidd, cefnogi twristiaeth, na newid tirweddau yn wir. Ar dudalen 36 yn y ddogfen, mae'n dweud bod y Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a bod ganddi ymrwymiad allweddol i ddatgarboneiddio. Dywed hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i helpu i fanteisio ar botensial yr ardaloedd hyn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a’r manteision economaidd ac amgylcheddol a all ddeillio ohonynt i gymunedau. Ond nid yw’n dweud yn unman mai datblygu economaidd, a'r budd a ddaw yn sgil hynny, fydd y flaenoriaeth bwysicaf i gymunedau Cymru.
Pan edrychwn ar le Cymru yn y byd a'i chyfraniad at gynhesu byd-eang, gwelwn fod ei chyfraniad yn gwbl ddi-nod—0.06 y cant o'r allyriadau carbon deuocsid byd-eang. Credaf y bydd y math o feichiau economaidd y bydd ein hymrwymiadau di-garbon yn eu peri yn rhoi baich sylweddol iawn ar bobl Cymru, ac yn fwyaf penodol, ar y rheini sydd â’r lleiaf o allu i ysgwyddo beichiau o'r fath, a gwyddom fod llawer o broblemau dybryd yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dangos, unwaith eto, mai ni sydd â’r canlyniadau addysg gwaethaf yn y wlad. Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd, unwaith eto, yn gwbl warthus, gyda phump o'n saith bwrdd iechyd yn destunau mesurau arbennig neu’n derbyn ymyrraeth wedi'i thargedu. Os ydym am wario arian cyhoeddus o gwbl, credaf y dylid gwario ar wella iechyd ac addysg a llesiant pobl gyffredin, yn hytrach nag ar adeiladu mwy o ffermydd gwynt a ffermydd paneli solar sy'n anharddu cefn gwlad.
Oherwydd, ni waeth beth a wnawn yn y wlad hon, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i gynhesu byd-eang—dyna yw pen draw'r mater hwn yn sylfaenol. Mae Tsieina ac India, fel nad wyf byth yn blino ei nodi, yn gyfrifol am 36 y cant o allyriadau carbon deuocsid y byd. Ac mae Tsieina yn bwriadu dyblu eu hallbwn carbon deuocsid yn y 15 mlynedd nesaf. Mae India yn bwriadu treblu eu hallyriadau carbon deuocsid. Mae Tsieina wrthi’n adeiladu 300 o bwerdai glo, nid yn unig yn Tsieina, ond ledled y byd hefyd, fel rhan o’u blaenoriaethau geowleidyddol i ymestyn cyrhaeddiad gwleidyddol Tsieina. Maent yn eu hadeiladu yn Affrica, yn Nhwrci ac mewn llawer o wledydd eraill.
Mae'r Unol Daleithiau, wrth gwrs, wedi ymateb i hyn. Mae'r Arlywydd Trump o'r farn ei bod yn bwysig na ddylai'r Unol Daleithiau ysgwyddo baich y polisïau newid hinsawdd hyn os yw gwledydd eraill yn mynd i'r cyfeiriad arall. Mae’n awyddus i ymgilio rhag cytundebau Paris yn gyfan gwbl, gan ddweud iddo gael ei ethol i gynrychioli dinasyddion Pittsburgh ac nid Paris. Wel, credaf y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r safbwynt ei bod wedi'i hethol i gynrychioli dinasyddion Port Talbot ac nid Paris. Yr hyn sy'n cymell Trump yw bod cymal dianc yng nghytundeb Paris sy'n eithrio'r llygrwyr gwaethaf a mwyaf ystyfnig, os ydych yn credu bod carbon deuocsid yn llygrydd. Dywed erthygl 4.7 o gytundeb Paris y bydd y graddau y bydd gwlad sy'n datblygu yn gweithredu ei hymrwymiadau yn effeithiol o dan y confensiwn yn rhoi ystyriaeth lawn i'r ffaith mai datblygu economaidd a chymdeithasol a threchu tlodi yw blaenoriaethau cyntaf a phwysicaf y Partïon sy’n wledydd sy'n datblygu
Felly, ceir ymrwymiad penodol yng nghytgordiau Paris i flaenoriaethu datblygu economaidd uwchlaw popeth arall ar gyfer gwledydd sy'n datblygu, sy'n cynnwys hyd yn oed y pwerdai economaidd, fel y maent ar y ffordd i fod, sef Tsieina ac India. Felly, mae Tsieina ac India wedi ymrwymo mewn egwyddor i'r damcaniaethau sylfaenol sy'n sail i'r confensiwn ar newid yn yr hinsawdd, ond nid ydynt am wneud unrhyw beth mewn gwirionedd i leihau eu cyfraniad i'r allyriadau byd-eang rydym yn eu hallyrru ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, maent am fynd i'r cyfeiriad arall: maent am greu mwy eto.
Mae hyd yn oed yr Almaen, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i nodau'r confensiwn, yn mynd i'r cyfeiriad arall hefyd. Ym mhob un o'r wyth mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys eleni, mae allyriadau carbon deuocsid wedi cynyddu yn yr Almaen—gwlad sydd wedi hyrwyddo mwy a mwy o bolisïau cosbol ar gynhesu byd-eang o dan Angela Merkel ar gyfer pobloedd Ewrop.
Felly, y llynedd, bu cynnydd o bron i 5 y cant yn allyriadau byd-eang Tsieina, a 7 y cant yn India. Yn 2018, roedd y cynnydd yn allyriadau byd-eang India yn 10 gwaith cyfanswm allbwn blynyddol Cymru o garbon deuocsid. Felly, hyd yn oed pe gallem roi holl economi Cymru ar stop, ac yn wir, pe na bai Cymru yn bodoli ar y blaned ac yn diflannu ar amrantiad, byddai India'n gwrthdroi’r budd i’r byd yn sgil gostyngiadau carbon deuocsid mewn cwta bum wythnos. Felly, pam ein bod am roi’r beichiau enfawr hyn ar bobl Cymru? Ac nid beichiau economaidd yn unig ydynt wrth gwrs, maent yn feichiau amgylcheddol hefyd.
Credaf fod y polisi ymwybodol, bwriadol o roi beichiau o'r fath ar y bobl sydd â’r lleiaf o allu i’w hysgwyddo yn anfoesol iawn, ac yn hurt, gan na fyddant yn cyflawni eu hamcan.
Mae angen datblygu economaidd ar Gymru, ac mae arni angen trechu tlodi. Oherwydd hyd yn oed yn adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae tlodi tanwydd yng Nghymru yn 12 y cant. Golyga hynny fod un rhan o wyth o'n poblogaeth yn gorfod gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar gadw'n gynnes yn y gaeaf.
Mae cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, wrth gwrs, yn cael eu hariannu gan bobl gyffredin, a chaiff yr arian ei drosglwyddo i gwmnïau datblygu mawr, a dyma'r trosglwyddiad cyfoeth mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a gafwyd yn ystod fy oes i. Mae'n syndod braidd fod Llywodraeth Lafur yn ystyried polisi o'r fath, ac yn ei weithredu mor frwd yn wir.
Wrth gwrs, mae economi Cymru'n newid. Mae sylfaen ddiwydiannol hen ffasiwn Cymru wedi mynd neu wrthi’n mynd. Rydym yn datblygu'n gynt ac yn gynt i fod yn economi gwasanaethau. Yn 2010, roedd yna 39,500 o wasanaethau ariannol a busnes. Mae hynny wedi cynyddu i 53,500 yn 2018, ac yn 2010, roedd 52,000 o fusnesau manwerthu a thwristiaeth. Mae hynny bellach wedi cynyddu i 60,000. Dyma'r math o fusnesau y bydd canolbarth Cymru yn eu gweld fel eu dyfodol, ac felly mae'r graddau y bydd y polisïau newid yn yr hinsawdd hyn yn ei gwneud yn anos i dwristiaeth a diwydiannau cysylltiedig wneud elw yn mynd i gael effaith sylweddol ar les economaidd fy rhanbarth.
Mae rhagdybiaeth yn y ddogfen hon o blaid datblygu ffermydd gwynt a chynlluniau tebyg sy'n mynd i ddinistrio'r dirwedd. Gyrrais o Glasgow i lawr i Gaerliwelydd ychydig wythnosau yn ôl. Nid oeddwn wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, ac roeddwn yn synnu bod pob un o'r bryniau ar hyd y darn hwnnw o ffordd, yn ôl pob golwg, wedi'u gorchuddio â melinau gwynt—roedd yn gwbl warthus. Roedd yn difetha’r olygfa yn llwyr i unrhyw un a oedd â diddordeb mewn ymweld â'r rhan honno o'r wlad er mwyn mwynhau cefn gwlad. Nid wyf am weld hynny'n digwydd i ganolbarth a gorllewin Cymru, gan y credaf, nid yn unig fod hynny’n wael o safbwynt esthetaidd, ond credaf y bydd hefyd yn cael effaith economaidd hynod niweidiol ar ein rhanbarth.
Ysgrifennodd Ogden Nash, y bardd a digrifwr Americanaidd, yn y 1930au, pan oedd hysbysfyrddau’n codi ger priffyrdd ar draws America—ysgrifennodd:
Credaf na welaf byth / Hysbysfwrdd mor hyfryd â choeden. / Efallai, oni bai fod yr hysbysfyrddau'n cwympo, / Na fyddaf byth yn gweld coeden.
Wel, rwy'n teimlo bod y felin wynt neu'r tyrbin gwynt heddiw yn cyfateb i hysbysfyrddau’r 1930au. Fe wnaethom gyflwyno rheolaethau hysbysebu o ganlyniad uniongyrchol i ddatblygiad hysbysfyrddau ar hyd y ffyrdd prifwythiennol allan o Lundain yn y 1930au. Serch hynny, mae gennym Lywodraeth yn awr sy’n mynd i ddinistrio ein cefn gwlad yn fwriadol ac yn gwbl ymwybodol, a'r cyfan yn enw rhyw darged dychmygol, na allwn ei gyrraedd byth.
Felly, mae hyn yn hynod amhoblogaidd, wrth gwrs, gyda'r bobl sy'n mynd i fyw gyda'r pethau hyn. Mae Cyngor Diogelu Cymru Wledig—rwy’n datgan buddiant fel aelod ohono—wedi dweud mai diwydiannu ein tirweddau ar raddfa fawr a’u dinistrio y tu hwnt i bob rheswm yw'r hyn sydd yn yr arfaeth yma. Ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd newid tirwedd yn cael ei dderbyn, mae’n rhaid cael mandad democrataidd ar ei gyfer.
Yn Lloegr, mae angen cymeradwyaeth leol fwyafrifol i ffermydd gwynt ar y tir, ac ni ddylai cymunedau Cymru gael llai o hawliau na hynny. Rwy’n llwyr gefnogi’r amcan hwnnw. Mae arweinydd Plaid Cymru Cyngor Gwynedd wedi disgrifio'r fframwaith hwn fel ‘comedi pur’ ac wedi dweud nad yw'r ddogfen yn addas at y diben ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion cefn gwlad Cymru a'r trefi marchnad sy'n bwydo'r economi ehangach. Nid wyf yn cytuno â Phlaid Cymru ar lawer, ond rwy'n cytuno ag ef ar hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai Cymru yn elwa o fewnfuddsoddi a thwf economaidd o ganlyniad i'r cynlluniau ynni adnewyddadwy hyn. Ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth fod hynny'n bosibl. Edrychwch ar rai o'r prosiectau sydd wedi'u cynnig ac sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn—gadewch i ni ystyried y tri chynllun yn Hendy, Bryn Blaen a Rhoscrowdder. Mae gan y ffermydd gwynt hyn eu cwmnïau eu hunain, ond maent yn rhannu’r un swyddfa gofrestredig yn 7a Howick Place, Llundain SW1P 1DZ, ac mae pob un ohonynt yn rhestru Steven John Radford fel cyfarwyddwr. Mae cwmni o’r Amwythig o'r enw Viento Environmental Ltd, sy'n cael ei redeg gan rywun o'r enw Fran Iribar, wedi bod yn rhan o hyn hefyd ac mae hyn oll yn cael ei gyfarwyddo gan gwmni arall o Lundain o'r enw U and I Group plc—nid oes unrhyw gyfranogiad Cymreig o gwbl yn y datblygiad hwn. Fel y dywedais yn gynharach, credaf mai hwn yw'r trosglwyddiad arian mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a welais yn ystod fy oes. Mae Llafur yn honni mai hwy yw Robin Hood cymdeithas, ond mewn gwirionedd, maent yn gynghreiriaid i'r hyn sy’n cyfateb yng Nghymru i Siryf Nottingham.
Yn achos fferm wynt Hendy, fel sy’n dra hysbys, cafodd ei gwrthod gan gyngor sir Drefaldwyn, a'i gwrthod wedyn gan yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog ei hun, ac yna fe ddiystyrodd hi adroddiad yr arolygydd cynllunio. Roedd ganddi bŵer cyfreithiol i wneud hynny. Ni chredaf fod ganddi bŵer moesol i wneud hynny, oherwydd mae fel pe na bai’n werth bod wedi cael yr ymchwiliad yn y lle cyntaf, gan fod blaenoriaeth polisi’r Llywodraeth Lafur o ddatgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy wedi diystyru’r holl wrthwynebiad a godwyd gan yr arolygydd cynllunio yn ei adroddiad.
Mae'n debyg nad yw cynllun Bryn Blaen yn Llangurig erioed wedi cynhyrchu'r un folt neu wat o drydan mewn gwirionedd, a gwelaf o gyfrifon diweddaraf y cwmni sy'n ei ddatblygu eu bod wedi rhagweld enillion targed o £6 miliwn i £8 miliwn i'w cwmni—byddant yn cael £6 miliwn i £8 miliwn allan o hyn heb gynhyrchu unrhyw drydan o gwbl, ac yn y broses, wrth gwrs, maent wedi adeiladu pethau sy'n ddolur i'r llygad ar y dirwedd. Mae hyn yn gwbl afresymol.
Mae Jac o’ the North, y blogiwr enwog, y soniwyd amdano yn y Siambr yn ddiweddar gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud, wrth egluro’r hyn sydd wedi digwydd yma, fod U and I—neu Development Securities yw’r cwmni sy’n ei ddatblygu—wedi cynllunio tair fferm wynt o faint sy'n golygu y gallai'r Arolygiaeth Gynllunio eu hachub, neu fel dewis olaf, Llywodraeth Cymru, hyd yn oed pe bai'r pwyllgorau cynllunio lleol yn pleidleisio yn eu herbyn:
Heb os, roedd y datblygwyr wedi gobeithio cael caniatâd cynllunio ar gyfer y tri datblygiad, a fyddai’n cynhyrchu hyd at £20 miliwn iddynt. I fod yn fwy realistig, mae'n debyg eu bod yn barod i setlo am ddau o’r tri. Ond fe wnaeth penderfyniad yr Uchel Lys yn eu herbyn mewn perthynas â Rhoscrowdder ym mis Medi olygu mai dim ond Bryn Blaen a oedd ar ôl ganddynt, felly elw bach yn unig y byddent yn ei wneud.
Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod £6 miliwn i £8 miliwn yn llawer o arian i chi a fi, Ddirprwy Lywydd, ac felly credaf fod y polisi hwn yn gwbl gyfeiliornus, yn gwbl anghywir ac yn anfoesol. A chredaf fod mwyafrif llethol y bobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn ei wrthwynebu am ei fod yn fygythiad aruthrol yn fy marn i i ddyfodol economaidd ein rhanbarth gan ei fod yn tanseilio holl sylfaen yr economi gwasanaethau leol.
Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cynhyrchu fframwaith datblygu cenedlaethol yn rhan o ymdrech ar y cyd gan y Llywodraeth hon i ddangos arweinyddiaeth wrth frwydro yn erbyn a mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd sy'n ein hwynebu. Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd mwy na 11,000 o wyddonwyr ledled y byd ein bod yn wynebu dioddefaint aruthrol yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae eu hasesiad llwm yn ei gwneud yn ofynnol inni newid ein ffyrdd o fyw a gweithredu ar unwaith. Mae'r argyfwng yn ddirfodol, yn uniongyrchol ac yn ddiymwad ac mae'n cyflymu'n gynt na'r hyn roedd y rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ddisgwyl.
Fel Llywodraeth, ni allwn anwybyddu'r bygythiad mwyaf i'n planed; ein cyfrifoldeb ni yw brwydro yn erbyn y bygythiad hwn a chynllunio ar gyfer ein hanghenion ynni cenedlaethol. Mae ein polisi ynni yn cael ei lywio gan ein hymrwymiadau datgarboneiddio. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd am ostyngiad o 95 y cant yng Nghymru ac mae'n bwriadu deddfu i'r perwyl hwn yn 2020. Mae hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru i ymrwymiad y DU o dan gytundeb Paris. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi datgan ein huchelgais i gyrraedd sero-net o ran carbon erbyn 2050 a byddwn yn gweithio gyda Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a rhanddeiliaid eraill i ddeall sut y gellir cyflawni hyn. Drwy anelu at gyrraedd sero-net, ni fydd yr unig Lywodraeth sy'n ystyried mynd y tu hwnt i argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gynhyrchu 70 y cant o'n defnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae 'Ynni Cymru: y Newid i Garbon Isel' a 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' yn cynnwys polisïau ac argymhellion sy'n ceisio cyfyngu ar gynhyrchiant tanwydd ffosil, cynyddu cyfraddau cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel ac annog arloesi yn y sector ynni yng Nghymru. Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd y mae'r trawsnewidiad hwn yn eu cynnig i gynyddu ffyniant yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn diwallu hanner ein hanghenion o ran pŵer drwy ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni nodi adnoddau pellach i ddiwallu'r angen cynyddol am wres a thrafnidiaeth garbon isel. Mae'r system gynllunio yn allweddol i gyflawni ein targedau. Mae'r polisïau a amlinellir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn dangos ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio Cymru ymhellach. Yn seiliedig ar ymchwil annibynnol, mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft wedi nodi ardaloedd blaenoriaeth lle gellir lleoli datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr. Rydym yn darparu'r arweiniad cenedlaethol sy'n ofynnol ar gyfer y newid sylfaenol sy'n rhaid inni ei gyflawni yng Nghymru i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi darparu arweiniad polisi strategol o'r fath ar gyfer ynni solar a gwynt ar y tir.
Rwy'n cydnabod yr effaith bosibl y gallai datblygiadau ynni adnewyddadwy ei chael. Mae polisïau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn ceisio cyfyngu ar raddau'r effaith hon. Rwy'n ymwybodol iawn o effaith gronnus bosibl cynigion a'r effaith y gall hyn ei chael ar ymdeimlad cymuned neu anheddiad eu bod wedi’u hamgylchynu gan ddatblygiad. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi hyn yn glir fel mater allweddol y bydd angen rhoi sylw iddo mewn cynigion datblygu.
Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn darparu sylfaen i benderfynu ar brosiectau seilwaith mawr sydd wedi eu dynodi’n ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Er ein bod yn derbyn egwyddor newid tirwedd, nid ydym yn disgwyl i'r holl ardaloedd blaenoriaeth a nodwyd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft gael eu gorchuddio'n gyfan gwbl â ffermydd gwynt, fel y mae rhai o'r ymatebion mwy brawychus wedi’i awgrymu, ac fel y clywsom heddiw gan Neil Hamilton.
Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer ffermydd gwynt mawr gynnwys asesiad o'r effaith amgylcheddol, ac mae’n rhaid ystyried hyn wrth benderfynu ar geisiadau. Mae oddeutu 25 y cant o Gymru naill ai'n barc cenedlaethol neu'n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u diogelu'n statudol ac fe'u heithriwyd rhag cael eu hystyried yn ardaloedd blaenoriaeth. Mae'r polisi yn y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn nodi nad yw ynni gwynt a solar ar raddfa fawr yn briodol yn yr ardaloedd hyn.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'i chwaer-ddogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', yn datgan cefnogaeth gref i ddull rhanbarthol a lleol cryfach o gynllunio. Mae cynlluniau datblygu lleol yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ynni adnewyddadwy, a bydd hyn yn parhau wrth i'r gweddill gael eu mabwysiadu ac wrth i rai eraill gael eu hadolygu. Rydym yn disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghymru gynnwys elfen, o leiaf, o berchnogaeth leol, i gadw cyfoeth a darparu budd gwirioneddol i gymunedau yng Nghymru. Rydym am sicrhau nad yw'r Gymru wledig yn cael ei gadael ar ôl. Yn wir, gallem weld y Gymru wledig yn arwain o ran cynyddu gwerth y datblygiadau hyn i'r economi leol, gan ddiwallu anghenion ynni Cymru a chadw'r buddion o fewn yr economi leol honno. Rydym yn disgwyl y bydd datblygiadau ynni adnewyddadwy, yn enwedig y rhai sy'n eiddo i bobl yng Nghymru, yn darparu cyfran deg a chymesur o'r budd i Gymru yn gyfnewid am eu cynnal.
Rwy'n cydnabod bod canolbarth Cymru eisoes yn cynhyrchu cryn dipyn o ynni adnewyddadwy. Er enghraifft, yn yr adroddiad diweddar ar gynhyrchiant ynni, mae Ceredigion wedi bod yn cynhyrchu mwy o drydan adnewyddadwy nag y mae'n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o ynni glân arnom os ydym am ddatgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth a pheidio â bod yn ddibynnol ar danwydd ffosil. Mae angen inni sicrhau hefyd fod y cymunedau sy'n ddibynnol ar olew yng nghanolbarth Cymru yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau y gallant elwa o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr y grid i esblygu atebion grid i ddiwallu anghenion Cymru, fel eu bod yn briodol i'r dirwedd ac er mwyn gwella cydnerthedd. Mae gweithredwyr y grid yn gweithio i sicrhau bod y grid sydd ar waith yn hyblyg, yn effeithlon ac yn glyfar. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i'r holl drydan adnewyddadwy a gynhyrchir gael ei drosglwyddo drwy'r grid. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn gynllun ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, ac yn anochel, bydd datblygiadau technolegol o ran trosglwyddo, dosbarthu a storio ynni dros y cyfnod hwn. Hefyd, er mai ynni gwynt ar y tir a solar yw'r technolegau mwyaf fforddiadwy, mae'n bwysig nodi bod ystod o dechnolegau eraill a fydd yn helpu i ddiwallu ein hangen am ynni.
Bydd y cynllun morol cenedlaethol cyntaf yn cael ei fabwysiadu cyn bo hir. Bydd hwn yn darparu'r polisïau i gefnogi datblygu cynaliadwy mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy’r môr. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym gymysgedd o ynni adnewyddadwy yng Nghymru i ddarparu ynni diogel, dibynadwy ar y môr ac ar y tir.
Mae'r cyfnod ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn para hyd at ddiwedd yr wythnos hon. Ar ôl hyn, byddaf yn ystyried y sylwadau a gawsom a byddaf hefyd yn penderfynu a oes angen diwygio unrhyw un o'r polisïau yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, heb roi camau gweithredu mentrus a phendant ar waith yn awr, mae'r risg i'n planed yn aruthrol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol a moesol i wneud popeth yn ein gallu i atal achosion newid yn yr hinsawdd. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn ceisio rhoi ymateb polisi rhesymegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i sicrhau ynni adnewyddadwy ledled Cymru gyfan, nid canolbarth Cymru yn unig. Mae dyletswydd arnom tuag at genedlaethau’r dyfodol i weithredu a dangos arweinyddiaeth bendant ar y mater hwn. Mae 11,000 o wyddonwyr yn dweud ein bod yn iawn, ac ymddengys mai dim ond Royston Jones sy'n dweud ein bod yn anghywir. Diolch.
Diolch yn fawr iawn.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Cyfnod 3. Cyn inni ddechrau ar Gyfnod 3, rwy'n bwriadu cymryd egwyl yn awr, a buaswn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn i ni ailymgynnull, a byddwn yn ailymgynnull am 4.05 p.m. Felly, bydd y gloch yn cael ei chanu am 4 o'r gloch. Diolch. Ataliwyd y cyfarfod yn awr tan 4.05 p.m.