1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer? OAQ54739
Diolch, Andrew. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol, ymgynghoriad helaeth a oedd yn nodi sut y mae'n bwriadu sicrhau bod cymwysterau i bobl 16 oed yn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae hyn yn cynnwys y cynnig y dylai TGAU wedi'u hailgynllunio fod yn rhan ganolog o'r cynnig cymwysterau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yr hyn a wyddom yw fod Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid sicrhau newidiadau yn y cymwysterau a'r arholiadau y bydd pobl yn eu sefyll yn 16 oed yma yng Nghymru, ni waeth beth fydd yr ymgynghoriad hwnnw'n ei ddweud. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ni waeth pa gymhwyster y mae rhywun yn ymgymryd ag ef, boed yn un galwedigaethol neu academaidd, yw fod cefnogaeth dda i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd i'w chael mewn ysgolion. Oherwydd clywsom ddoe gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru, Suzy Davies, am chwarae’r system yng Nghymru, fel y gall ysgolion wthio eu cymwysterau academaidd yn uwch er mwyn bod yn nhablau’r gynghrair.
A ydych yn cytuno â mi, Brif Weinidog, Weinidog—rwyf newydd roi dyrchafiad i chi—mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw fod gan beth bynnag a ddaw o'r ymgynghoriad hefyd becyn cryf o gymorth a chyngor i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd mewn ysgolion, fel bod ein dysgwyr yn sefyll yr arholiadau cywir, beth bynnag ydynt—boed yn rhai academaidd neu alwedigaethol—fel eu bod yn cyflawni eu potensial llawn? Oherwydd fel tad i bedwar o blant, un peth sydd wedi fy nharo wrth iddynt fynd drwy'r system academaidd yw fod y cyngor hwnnw, yn aml iawn, yn brin iawn yn ein system.
Andrew, credaf eich bod yn llygad eich lle: yr hyn sy'n hanfodol yw fod gan blant, pobl ifanc a'u rhieni fynediad at wybodaeth a chyngor gyrfaoedd annibynnol gwych. Gwyddom fod plant mor ifanc â chwech oed eisoes yn dechrau ffurfio eu syniadau am yrfaoedd, a'r hyn a allai fod ar gael iddynt ai peidio, ac yn llawer rhy aml, maent yn culhau'r ystod o ddewisiadau ar eu cyfer.
Mae'r Aelod, rwy'n siŵr, yn ymwybodol fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd yn rhanbarth yr Aelod, rwy'n credu, ar hyn o bryd, ar ran Llywodraeth Cymru, yn treialu'r hyn a elwir yn ddull Gatsby o ddarparu cyngor gyrfaoedd. Y bore yma, roeddwn yn y Beddau yn yr ysgol uwchradd yno yn edrych ar eu dull diwygiedig o ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Mae pob plentyn a phob rhiant yn cael cyfweliad wrth gychwyn yn yr ysgol; caiff y cyfweliadau hynny eu hailadrodd ym mlwyddyn 9 cyn i'r plant wneud eu dewisiadau ar gyfer TGAU. Maent yn gweithio ar bob un o'r meini prawf Gatsby yn yr ysgol honno, gan ddatblygu cysylltiadau â busnesau lleol, colegau addysg bellach a cholegau addysg uwch, a dod â'r bobl ifanc i gysylltiad â'r llu o gyfleoedd sydd ar gael. Ond y peth hanfodol yw fod pob plentyn yn cael eu trin fel unigolion, nid yw'n ddull cyffredinol lle mae pobl yn derbyn yr un neges; ceir rhaglen unigol, bersonol ar gyfer pob plentyn. Buaswn yn cymeradwyo'r dull a dreialwyd, ac rwy'n siŵr y byddai'r ysgolion lleol yn ei ranbarth yn fwy na pharod iddo ymweld iddo gael ei weld ar waith.
Bydd llawer o'n myfyrwyr, ar ryw adeg yn eu gyrfaoedd, yn chwilio am waith dros y ffin yn Lloegr. Dim ond yn ddiweddar y mae Lloegr wedi gwyro oddi wrth ein system raddio drwy newid i system i un i naw, ond tybed a yw'r Ysgrifennydd addysg, yn y tymor hwy, yn rhagweld unrhyw risgiau i fyfyrwyr Cymru yn sgil y gwahaniaeth hwnnw o ran sicrhau bod eu cymwysterau'n cael eu trin fel y dylent yn Lloegr, yn enwedig o ystyried y pwyslais y mae'r Adran Addysg yn San Steffan wedi'i roi ar y syniad fod y newid i system un i naw yn ymwneud â sicrhau cymwysterau mwy cadarn.
Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir. Nid yw'r ffaith bod Lloegr wedi penderfynu gwneud rhywbeth yn golygu mai dyna yw'r penderfyniad cywir. Nid wyf yn gwybod pam ein bod, yn y bôn, yn cychwyn o'r rhagosodiad hwnnw. Efallai mai'r penderfyniad i gadw A* i G, system y mae colegau addysg bellach, colegau addysg uwch a chyflogwyr yn ei deall yn iawn, yw'r man cychwyn cywir mewn gwirionedd. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le: yr hyn sy'n hollbwysig yw fod unrhyw gymhwyster y mae myfyriwr o Gymru yn ei sefyll yr un mor gludadwy a chadarn, ac nid oes unrhyw beth i awgrymu—unrhyw beth o gwbl i awgrymu—fod ein TGAU yn llai anodd, ymestynnol a chaled na TGAU dros y ffin. Ac mae unrhyw awgrym eu bod yn gwneud tro gwael â'n myfyrwyr unigol a'n disgyblion. Mae’n hanfodol eu bod yn gludadwy, a dyna pam fod gennym system gymwysterau annibynnol sy’n gweithio gyda systemau cymwysterau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod y cydweddoldeb hwnnw'n bodoli a bod rhieni a myfyrwyr yn gwybod bod yr arholiadau y maent yn eu sefyll yn ein gwlad yn arholiadau a fydd yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi yn unrhyw le yn y byd.