1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal bwlio mewn ysgolion? OAQ54756
Diolch, Joyce. Y mis hwn, rwyf wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau o dan yr enw 'Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir', sy'n amlinellu ein canllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu i atal a mynd i'r afael â bwlio yn ein system addysg. Fe'u cefnogir gan ganllawiau cynghori i blant a phobl ifanc eu hunain a'u rhieni a'u gofalwyr ar sut y gallant helpu rhai sy'n cael eu bwlio.
Diolch yn fawr iawn. Gall effaith bwlio ar iechyd meddwl unigolyn fod yn ddinistriol a gall bara am oes. Gydag un o bob 10 disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dioddef bwlio bob wythnos, mae'n hanfodol fod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Felly, rwy'n falch iawn o weld lansiad y canllawiau gwrthfwlio newydd gan Lywodraeth Cymru rydych newydd eu crybwyll. Maent yn cynnwys toreth o adnoddau i ysgolion, cyrff llywodraethu, rhieni a gofalwyr yn ogystal â phlant a phobl ifanc, ac rwy'n siŵr y byddant yn helpu'r holl unigolion hynny, neu bawb sydd â gallu i helpu'r unigolion hynny yn y dyfodol.
Fel y dywedais, mae adnoddau yno y gall rhieni a gofalwyr eu defnyddio, a chredaf fod hynny'n hollbwysig, a bod angen i'r neges nad yw bwlio'n iawn ddod o'r cartref yn ogystal â'r ysgol. Felly, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod a yw ysgolion yn mynd ati i annog rhieni a gofalwyr i ddefnyddio'r wybodaeth honno fel y gallant weithio ar yr adnoddau gartref gyda'u plant.
Diolch, Joyce. Yn amlwg, mae'r rhain yn adnoddau cymharol newydd sydd ar gael i ysgolion, ond yn sicr, buaswn yn disgwyl i ysgolion allu cyfeirio rhieni a gofalwyr at yr adnoddau sydd ar gael yn benodol ar eu cyfer er mwyn iddynt fynd i'r afael ag ymddygiad eu plant eu hunain, deall beth sy'n gwneud i blentyn fwlio yn y lle cyntaf a sut i gefnogi'r plentyn hwnnw. Ond hefyd, os ydych yn rhiant i blentyn sy'n cael eu bwlio, a all fod yn sefyllfa arteithiol i riant fod ynddi, pan nad ydych yn gwybod beth yw'r peth gorau i'w wneud, mae'r canllawiau diweddaraf hyn yn adnodd gwerthfawr iawn i rieni i'w helpu i ymdrin â'r sefyllfa anodd iawn honno.
Ond nid ydym yn gadael hyn i ysgolion. Gall yr Aelodau, os hoffent, edrych ar dudalen Facebook Addysg Cymru heddiw, lle rydym yn mynd ati i dargedu rhieni er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y canllawiau hyn ar gael iddynt. Felly, nid ydym yn gadael hyn i ysgolion, rydym ni, fel Llywodraeth, yn ceisio mynd allan yno, gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau i dynnu sylw rhieni at yr adnoddau newydd hyn.
Weinidog, amlygodd adroddiad 'Iach a hapus' Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, mai lleiafrif o ysgolion yn unig sy'n cadw cofnodion defnyddiol am fwlio, gydag ysgolion yn aml ond yn cofnodi'r hyn y maent yn ei ystyried yn ddifrifol. Fodd bynnag, drwy beidio â chofnodi pob honiad o fwlio gan ddisgyblion yn ofalus, ni all ysgolion werthuso eu polisïau'n effeithiol, ac maent mewn perygl o fethu llunio darlun dros amser am ddisgyblion y gallai eu lles fod mewn perygl. Yng ngoleuni hyn, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog ysgolion i gofnodi pob achos o fwlio? Yn ogystal â chyhoeddi'r canllawiau rydych newydd eu crybwyll, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu dulliau ysgol gyfan o fynd i'r afael â bwlio, gan y profwyd mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â bwlio yn ein hysgolion?
Diolch, Paul. Mae'n rhaid fod gan bob ysgol, yn ôl y gyfraith, bolisi ymddygiad ysgol ar waith, ac mae'r canllawiau gwrthfwlio statudol 'Hawliau, parch, cydraddoldeb' yn amlinellu disgwyliad Llywodraeth Cymru y bydd gan bob ysgol yng Nghymru bolisi gwrthfwlio penodol sy'n nodi sut y bydd yr ysgol yn cofnodi ac yn monitro achosion o fwlio er mwyn helpu i gymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â hynny. Felly, mae hynny'n union yn rhan hanfodol o'n canllawiau newydd. Mae'n cynnwys gofyniad gorfodol i gofnodi digwyddiadau bwlio, fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol wedi'u harfogi'n well â'r data sydd ei angen arnynt; gallant fonitro tueddiadau dros amser; a gallant werthuso effaith y polisïau sydd ganddynt ar waith yn eu hysgol eu hunain. Felly, o ganlyniad i'r canllawiau newydd hyn, rydym yn gobeithio y gellir cael set fwy cadarn o ddata a chofnodion wrth symud ymlaen, sy'n rhywbeth a oedd—a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef—ar goll yn yr hen system.
Credaf fod pob un ohonom wedi cael e-bost gan nain bryderus iawn yn Wrecsam, sy'n dweud wrthym ei bod yn teimlo nad yw ysgol ei hwyres yn dilyn y weithdrefn ar fwlio, ac mewn gwirionedd, mae'n ymddangos iddi hi fod yr ysgol yn rhwystro unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem, ni waeth beth fo'r canllawiau, heddiw neu yn y gorffennol. A allwch anfon unrhyw neges ychwanegol sy'n gadarn ac yn glir nad yw bwlio yn iawn, a bod yn rhaid i ysgolion fod o ddifrif ynghylch honiadau, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a'i gofnodi?
Diolch. Rwy’n falch iawn o gael cyfle arall i ddweud yn glir nad oes lle i fwlio yn unrhyw un o’n sefydliadau addysgol: ein hysgolion, ein colegau na’n prifysgolion. Fel y dywedais, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ysgol gael polisïau ar waith. Os yw rhiant neu ofalwr yn teimlo nad yw'r ysgol yn gweithredu'r polisi hwnnw, yn y lle cyntaf, dylai'r rhiant neu'r gofalwr godi'r materion hynny sy'n peri pryder gyda chadeirydd y llywodraethwyr, a bydd gweithdrefnau cwyno cadarn ar waith yn yr ysgol, ac yn wir, yn yr awdurdod addysg lleol i'r rhiant neu'r gofalwr eu dilyn.
Efallai y bydd y nain y mae'r Aelod newydd gyfeirio ati yn awyddus i fanteisio ar yr adnoddau newydd sydd ar gael i rieni a gofalwyr, a fydd yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol am yr hyn y gallant ei wneud yn y sefyllfa hon.