2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau llywodraethu ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ54757
Mae angen i fyrddau iechyd yng Nghymru sicrhau bod ganddynt drefniadau llywodraethu cadarn ar waith a gweithredu mewn ffordd sy'n cynnal y gwerthoedd a bennwyd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi na ellir gwahanu trefniadau llywodraethu yn y pen draw oddi wrth y rhai a benodwyd i gyflawni'r gweithredoedd llywodraethu angenrheidiol eu hunain. Mae'r Gweinidog ei hun, yn achos Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, yn chwarae rhan bersonol weithgar iawn. Mae wedi cadeirio'r cyfarfodydd atebolrwydd misol ers mis Gorffennaf 2018 ac mae'r prif weithredwr, Gary Doherty, wedi gwneud ambell benodiad pwysig, ac yn fwyaf arbennig, y cyfarwyddwr trawsnewid, Phillip Burns, a fu'n gweithio i ymddiriedolaeth ysbyty Coleg y Brenin cyn hynny, ac yn ei adroddiad ar gyfer 2017-18, gwelaf fod diffyg a ragwelwyd o £38.8 miliwn wedi tyfu i fod yn £142.3 miliwn yn y pen draw, gan orfodi cadeirydd y bwrdd, yr Arglwydd Kerslake, i ymddiswyddo—prin fod hynny'n glod i sgiliau Mr Burns yn trawsnewid unrhyw endid. Arferai ef a Mr Doherty weithio gyda'i gilydd ym mwrdd GIG Blackpool a phenododd aelod arall o Blackpool, Nick Varney, fel ymgynghorydd trawsnewid. Gwnaeth y Gweinidog ei hun sylw ar Mr Varney mewn adroddiad ar fesurau arbennig yn 2018, lle dywedodd:
Mae wedi bod yn ddigalon ac yn annerbyniol fod problemau wedi cynyddu yn ystod 2017/18 mewn perthynas â'r sefyllfa ariannol a rhai meysydd perfformiad allweddol.
Roedd y Comisiwn Ansawdd Gofal yn craffu ar Blackpool ei hun yn ystod neu ychydig ar ôl i'r tri unigolyn hyn fod yn eu swyddi. Felly, pa ymchwiliadau a wnaeth y cyfarwyddwyr yn Betsi Cadwaladr a'r Gweinidog ei hun i ganfod ansawdd gwaith Mr Burns a Mr Varney cyn eu penodi fel gweithwyr cyflogedig? A oedd y Gweinidog a chyfarwyddwyr eraill yn ymwybodol fod Mr Doherty, Mr Varney a Mr Burns i gyd yn gyfeillion rhwydweithio ac yn staff yn GIG Blackpool ar yr un adeg neu ar adegau'n gorgyffwrdd yn agos? A yw'n cytuno nad yw ffrindgarwch o'r fath yn gwneud dim i gynyddu hyder y cyhoedd yn nhrefniadau llywodraethu'r GIG yng Nghymru, a dylai fod cywilydd arno ef a'i blaid pan fydd y penodiadau llewyrchus hyn yn dal i gael eu gwneud ar adeg pan fo telerau ac amodau nyrsys yn Betsi Cadwaladr wedi cael eu herydu drwy gael gwared ar—roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt i gael gwared ar eu hamser egwyl â thâl?
Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn y sefyllfa orau i siarad am ffrindgarwch mewn bywyd cyhoeddus. O ran sefyllfa staff Betsi Cadwaladr a'r angen i wella'r swyddogaeth gyllid, rydym yn disgwyl i staff gael eu penodi mewn modd sy'n cydymffurfio â'n disgwyliadau a gofynion y bwrdd iechyd—nid rhywbeth braf i'w gael ydyw, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gwaith yn wrthrychol.
Mewn ymateb i'r pwynt am berfformiad y cyfarwyddwr trawsnewid, mewn gwirionedd, y farn gyntaf yw ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd. Nid barn y swyddogion yma yn unig yw honno, mae'n farn a fynegwyd wrthym gan swyddogion yn Swyddfa Archwilio Cymru hefyd. Mae cryn bellter i deithio, ond mewn gwirionedd, pan gyfeiriodd at yr Arglwydd Kerslake, pan ymddiswyddodd o ymddiriedolaeth Coleg y Brenin, fe'i gwnaeth yn glir iawn nad oedd yn credu ei bod yn bosibl ymdopi â'r symiau o arian a oedd ar gael o fewn y system yn Lloegr. Gwnaeth y pwynt ynglŷn â sicrhau disgwyliad teg am setliad cyllido teg i'r gwasanaeth iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. Rydych chi hefyd, wrth gwrs, yn tynnu sylw at y ffaith bod gan ymddiriedolaeth Coleg y Brenin, sydd â lefel debyg o incwm o'i chymharu â Betsi Cadwaladr, ddiffyg o oddeutu pedair i bum gwaith y swm.
Mae'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru yn rhai y gellir eu trawsnewid, ac rwy'n disgwyl y byddant yn gwneud hynny, ond fe fyddaf yn agored ac yn onest ynglŷn ag a ydynt yn gwneud hynny, o gofio'r camau diweddar rwyf wedi'u cymryd i osod fframwaith mesurau arbennig wedi'i hadnewyddu ar gyfer gogledd Cymru.
Mewn perthynas â llywodraethu, mae'n hanfodol fod gan gyfarwyddwyr annibynnol byrddau iechyd gefndir cadarn, a'u bod yn deall sut y gweithredir y sefydliadau mawr hyn. Mae gan lawer ohonynt drosiant o fwy na £1 biliwn. Yn achos Cwm Taf, mae sawl adroddiad wedi nodi bod y trefniadau llywodraethu wedi methu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni, Weinidog, fod eich adran, a chithau'n arbennig, wedi dysgu o'r camgymeriadau a wnaed yng Nghwm Taf i sicrhau bod penodiadau'n gadarn yn y dyfodol, a bod yr unigolion rydych yn eu penodi'n meddu ar wybodaeth drylwyr ynglŷn â sut y mae sefydliadau mor fawr a chymhleth yn gweithio, fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r straeon erchyll hyn sy'n deillio o sefydliadau megis Cwm Taf a'r trasiedïau personol a achoswyd, yn anffodus, mewn gwasanaethau mamolaeth i nifer o ddarpar famau a'u teuluoedd?
Wel, ceir rhai pwyntiau gwahanol yn y fan honno. Yn gyntaf, dylwn atgoffa pawb fod aelodau annibynnol yn mynd drwy broses benodi gyhoeddus. Mae'n broses gadarn, a oruchwylir gan y comisiynydd penodiadau, ac nid yw honno'n swyddogaeth ddatganoledig, mewn gwirionedd. Yr her wedyn yw sut y byddant yn ymddwyn pan fyddant yn mynd i'w sefydliadau. Mae pwynt am ddiwylliant ac arweinyddiaeth yn y fan honno, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi cymryd y camau rydym wedi'u cymryd, nid yn unig mewn perthynas ag ymsefydlu, ond y disgwyliad parhaus ar gyfer aelodau annibynnol a'r ffordd rydym yn disgwyl iddynt ymddwyn. Dyna pam y bu ystyriaeth ac adroddiad David Jenkins yn arbennig o ddefnyddiol mewn perthynas â'r newid yn natur yr ymddygiad ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i gydnabod yn briodol yr hyn y dylent fod yn ei wneud, i gydnabod bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud yn y gorffennol, i gydnabod yr ystyriaeth honno, a gallu symud ymlaen wedyn. Ond rydym yn bendant yn newid lle bydd ymsefydlu'n digwydd a'r dyletswyddau a fydd gan yr aelodau annibynnol hynny drwy gydol eu cyfnod fel penodiadau cyhoeddus.
Diolch yn fawr, Weinidog.