1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
O ystyried difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf, oni ddylem ni fod wedi disgwyl i Weinidog o Gabinet yr wrthblaid Lafur a oedd yn siarad yn y Senedd fod wedi ymgyfarwyddo â'r achos trasig hwn? Neu a yw'n wir mewn gwirionedd fod Cymru o gyn lleied o bwys i fainc flaen Llafur yn San Steffan ag y mae i'r Torïaid?
Llywydd, mae'r digwyddiadau yng Nghwm Taf yn haeddu ymateb mwy difrifol na'r un yr ydym ni newydd gael ei gynnig gan arweinydd Plaid Cymru. Go brin y mae pa un a oedd llefarydd ar y fainc flaen yn gwbl gyfarwydd â'r manylion yn berthnasol o gwbl i'r mamau a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau yng Nghwm Taf. Mae'r Llywodraeth hon wedi canolbwyntio ac mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar sicrhau bod pryderon y mamau hynny yn cael ymateb priodol, bod pob cyfle iddyn nhw gyfrannu at y broses o unioni'r hyn a aeth o'i le yng Nghwm Taf. Dyna'r pethau sydd o bwys i'r teuluoedd hynny ac i gleifion yn ardal Cwm Taf, ac nid yw'r ymgais i'w droi'n rhyw gecru gwleidyddol dibwys o ddim clod o gwbl iddyn nhw nac iddo fe.
Siawns bod y ffaith bod Gweinidog Cabinet yr wrthblaid Lafur wedi galw am ymchwiliad ddydd Gwener ac yna wedi gorfod tynnu hynny'n ôl ar y Sul, a hynny am y rheswm syml nad oedd wedi dangos yr hyn yr wyf i'n credu y byddem ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw, sef lefel resymol o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd i bobl yng Nghymru—. Digwyddodd ar y dydd Gwener, a byddech chi wedi meddwl, ar ôl cael eu dal unwaith drwy eu difaterwch a'u hanwybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, y byddech chi wedi briffio Richard Burgon ar y Sul. Roedd yn fwy nag eiliad o embaras llwyr i'r Blaid Lafur, fel y dywedodd Alun Davies. Roedd ei ddistawrwydd o ran methu â gallu ymateb i mi, o ran yr hyn sy'n digwydd yn y GIG yng Nghymru, yn siarad cyfrolau am ddifaterwch i Gymru sy'n ymylu ar ddirmyg.
Nawr, mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch—[Torri ar draws.] Mae un maes yr oeddwn i'n cytuno â Richard Burgon yn ei gylch yn ymwneud â'r GIG. Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn amlwg, er gwaethaf ei wadiadau yn gynharach heddiw, yn berygl eglur a phresennol i ddyfodol y GIG, ond a allwch chi esbonio, felly, pam na fyddwch chi'n cefnogi ein cynnig yn y cynnig a gyflwynwyd gerbron y Senedd i roi feto gyfansoddiadol i'r sefydliad hwn ar unrhyw gytundeb masnach a fydd yn peryglu'r GIG, a pham nad ydych chi'n cefnogi ein galwad i gefnogi Bil diogelu'r GIG y bydd ASau Plaid Cymru yn ei gefnogi yn Senedd nesaf San Steffan?
Llywydd, mae'r Aelod wedi treulio gormod o amser yn teithio o gwmpas y stiwdios teledu. Mae ei safbwynt o'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yn cael ei ystumio gan yr oriau y mae'n eu treulio yn bychanu Cymru o flaen cynulleidfaoedd teledu. Ac, mewn gwirionedd, mae'n dioddef yn sgil ei bropaganda ei hun os yw'n credu bod Aelodau'r wrthblaid Lafur rywsut yn atebol iddo fe. Mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei reoli gan Lywodraeth Lafur gyda Gweinidogion Llafur yn y fan yma yn ateb cwestiynau ar draws y Siambr hon bob wythnos, ac ar bob agwedd arno. Dyna lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Os nad yw'n deall datganoli, yn ffodus, mae pobl Cymru yn ei ddeall, ac ni fyddan nhw'n hapus o gwbl, yn fy marn i, gyda'i safbwynt mai'r pethau y mae e'n digwydd eu dweud mewn stiwdio deledu yw'r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael eu trefnu. [Torri ar draws.]—fe'i clywais yn dweud hynny, felly efallai yr hoffai fyfyrio ar hynny am eiliad.
Y rheswm pam na fyddwn ni'n cefnogi Aelodau Plaid Cymru ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn y modd y mae e'n ei awgrymu yw oherwydd ein bod ni'n ymgyrchu dros Lywodraeth a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw angen o gwbl am Fil o'r fath. Yr hyn sydd ei angen ar y wlad hon yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n barod i sefyll yn erbyn Donald Trump, yn barod i'w gwneud yn eglur nad yw ein GIG ar werth, ac yna ni fydd angen y math o Fil y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Rydym ni'n dal i frwydro'r etholiad cyffredinol hwn; dydyn ni ddim wedi rhoi'r ffidil yn to yn barod.
Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi, yn olaf, ymateb i rywfaint o wybodaeth newydd sydd wedi ei chyhoeddi ynghylch y cynigion sydd wedi eu gwrthod erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys yn y gogledd. Yn gyntaf oll, a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n credu ei bod hi'n briodol bod eich swyddogion wedi ceisio cynnwys prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gary Doherty, mewn materion gwleidyddol trwy rannu testun cynnig gan Blaid Cymru yn y Senedd gydag ef, ac yr ymatebodd iddo, fel y dywedodd ef, 'llinell arfaethedig i'w chymryd'?
Mae hefyd yn dweud yn ei e-bost fod bod y cynigion a dynnwyd yn ôl erbyn hyn i gyflwyno seibiannau di-dâl i nyrsys, a gondemniwyd gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain fel rhai didostur a hollol annerbyniol, eisoes yn gweithredu mewn bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Rydych chi wedi cuddio manylion y bwrdd iechyd dan sylw. A allwch chi ddweud wrthym ni nawr pa un yw hwnnw? A chyn i chi gael eich temtio i ddweud, 'Materion gweithredol yw'r rhain', neu 'Rhowch y bai ar y Torïaid', a ydych chi'n barod i gydnabod, o Gwm Taf i Betsi, mai un person sy'n gyfrifol am y GIG yn y pen draw, Prif Weinidog, a chi yw hwnnw?
Fi sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, Llywydd, ac rwy'n falch iawn yn wir o fod yn y sefyllfa honno. Rwy'n falch iawn yn wir o bopeth y mae ein GIG yn ei wneud bob un dydd, o'r miloedd o bobl sy'n gweithio ynddo, o'r cannoedd o filoedd o bobl sy'n cael eu trin ganddo yma yng Nghymru, ac y cynyddodd eu lefelau o foddhad â GIG Cymru eto yn ein harolwg cenedlaethol yn gynharach eleni. Fi sy'n gyfrifol, rwy'n falch o fod yn gyfrifol, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni, yma yng Nghymru, gefnogaeth gref y cyhoedd yng Nghymru i'r math o GIG yr ydym ni'n benderfynol o'i gadw yma—GIG a ddarperir yn gyhoeddus, a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael am ddim ar y pwynt defnyddio. Dyna'r math o GIG yr wyf i'n gyfrifol amdano, a dyna'r math o GIG yr wyf i'n bwriadu parhau i fod yn gyfrifol amdano.
Rwyf i wedi fy syfrdanu bod arweinydd Plaid Cymru yn credu bod cynnig a roddwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol rywsut yn ddogfen wleidyddol. Mae'n ddogfen gyhoeddus; mae ar gael i unrhyw un ei darllen. Mae'r syniad na ellid ei dwyn i sylw bwrdd iechyd sydd wedi ei enwi ynddi yn nonsens i'r pwynt sy'n peri dryswch i mi y dylai'r Aelod fod wedi hyd yn oed wedi meddwl ei fod yn werth ei godi. Nid wyf i'n gwybod pa fwrdd iechyd arall sydd â threfniadau tebyg, ac nid wyf i angen gwybod ychwaith. Nid wyf i'n gyfrifol am rotas nyrsys; rwy'n gyfrifol am bolisi, cyfeiriad a chyllid y gwasanaeth iechyd gwladol.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd.
Prif Weinidog, mae canlyniadau'r rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr heddiw yn cadarnhau unwaith eto bod Cymru wedi parhau fel y wlad â'r perfformiad isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer pob pwnc, er gwaethaf y gwelliannau sy'n cael eu gwneud. Pam na fu unrhyw welliannau ystadegol arwyddocaol i sgoriau PISA Cymru o ran darllen a mathemateg ers 2006?
Wel, Llywydd, mae'n siomedig, ar ddiwrnod pan fo pobl ifanc yng Nghymru a'r rhai sy'n eu haddysgu wedi cael canlyniadau sy'n dangos bod Cymru, yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, wedi gwella ei safle o ran darllen, gwyddoniaeth a mathemateg, na all arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma ddod o hyd i un gair da—dim un gair da—i'w ddweud dros y bobl ifanc hynny a'u hathrawon. Oherwydd rwy'n credu mai dyna'r stori y bydd ein hysgolion yn ei chlywed heddiw—sef, wrth gwrs, nad yw'r sefyllfa'n berffaith, ond mae'r newyddion heddiw yn gadarnhaol. Mae'n dangos gwelliant ym mhob un o'r tri maes; ni all yr un rhan arall o'r Deyrnas Unedig ddangos hynny. Mae llawer o bethau eraill yn y canlyniadau PISA heddiw y dylem ni fod yn eu dathlu, a dylem ni fod yn cydnabod yr ymdrechion y mae plant a'u hathrawon wedi eu gwneud.
Wel, yn amlwg, Prif Weinidog, doeddech chi ddim yn gwrando. Dywedais fod gwelliannau wedi eu gwneud, ond ni allwch chi gamliwio'r sefyllfa oherwydd rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y Deyrnas Unedig. Er gwaethaf gwaith caled y rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn addysgu, mae sgoriau gwyddoniaeth Cymru yn dal i fod yn waeth o lawer nag yn 2006; mae Cymru ar y gwaelod o blith gwledydd y DU o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth; a Chymru yw'r unig wlad yn y DU i sgorio'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mhob un o fesuriadau PISA. Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, eich bod chi a'ch Llywodraeth yn methu â gwella system addysg Cymru yn sylweddol.
Nawr, rwy'n gwybod ac yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddiwygiadau, a dim ond fis diwethaf, cyhoeddodd yr Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yr adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', a alwodd am dreth newydd gyffredinol wedi ei phridiannu i Gymru, wedi'i thargedu'n benodol at alluogi pontio'r cwricwlwm. Nawr, gan eich bod chi wedi cadarnhau yr wythnos diwethaf y bydd trethi'n codi o dan Lywodraeth Lafur, a allwch chi gadarnhau, felly, pa un a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth addysg yng Nghymru?
Nid wyf i erioed wedi clywed y syniad hwn heblaw gan yr Aelod ei hun. Nid yw'n berthnasol o gwbl i'r Llywodraeth Cymru hon. Y gwir am ganlyniadau heddiw yw bod Cymru ar y cyfartaledd rhyngwladol ym mhob un o'r tri phwnc erbyn hyn am y tro cyntaf erioed; bod Cymru, mewn mathemateg a gwyddoniaeth, yn perfformio ar yr un lefel â Gogledd Iwerddon a'r Alban; a bod gennym ni'r sgoriau gorau erioed o ran darllen a mathemateg a gwelliant mewn gwyddoniaeth hefyd. Nid dyma ble'r ydym ni eisiau bod. Nid dyma ble mae ein huchelgeisiau ar gyfer rownd nesaf PISA eisiau i ni fod, ond ni wnewch chi fyth sicrhau gwelliannau mewn system os mai'r cwbl yr ydych chi'n llwyddo i'w wneud yw drwy'r amser—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu clywed yr Aelod, rwy'n gallu ei glywed. Nid oes angen iddo ei ailadrodd drosodd a throsodd, rwy'n gallu ei glywed. Yr ychydig o droeon cyntaf y mae'n meddwl ei fod yn beth synhwyrol ceisio torri ar draws o'r lle y mae'n eistedd, nid yw'n ei helpu, nid yw'n helpu unrhyw un sy'n ceisio gwneud synnwyr o'r pethau hyn, ac yn sicr nid yw'n helpu plant a phobl ifanc yn ein hysgolion, sydd wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil iawn yn y canlyniadau PISA hyn, i ymddwyn fel pe na byddai hynny'n cyfrif am ddim byd.
Ond, Prif Weinidog, rydym ni'n dal ar waelod tabl cynghrair y DU o ran y canlyniadau hyn. Ydw, rwy'n derbyn, wrth gwrs, y bu gwelliannau, ond rydych chi'n amlwg yn siomi ein plant a'n pobl ifanc gan y dylem ni fod wedi gweld gwelliant llawer mwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Nawr, wrth gwrs, mae'r adroddiad 'Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru', yr ydych chi, yn amlwg, eisiau ei ddiystyru, wedi galw am ddileu TGAU, ac fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill a ddilynir gan bobl ifanc 16 oed. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn yn iawn ac na fydd dysgwyr Cymru yn cael eu siomi fel y cafodd dysgwyr y degawd blaenorol eu siomi.
Nawr, mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau TGAU 2019 Cymru ar yr un lefel â 2007. Mae ein canlyniadau PISA, fel yr wyf i newydd ei ddweud, yn dal i fod y gwaethaf yn y DU, a dim ond 29 y cant o bobl ifanc yng Nghymru sy'n mynd i'r brifysgol mewn gwirionedd. Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig i ddysgwyr ledled Cymru yn ogystal â theuluoedd a darparwyr addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am ei hanes o gyflawni, ac, wrth symud ymlaen, na fydd unrhyw garreg yn cael ei gadael heb ei throi wrth sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn cael mynediad at system addysg sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?
Wel, Llywydd, mae gan y Llywodraeth hon y rhaglen ddiwygio fwyaf uchelgeisiol yn system addysg unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaglen ddiwygio y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi ei chymeradwyo eto heddiw fel y sail ar gyfer y gwelliannau yr ydych chi eisoes wedi eu gweld.
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai dim ond un o'r mesurau yr ydym ni'n eu defnyddio i ddeall llwyddiant ein system addysg yw PISA. Dyna pam yr oeddem ni mor falch o weld yn yr haf bod y canlyniadau Safon Uwch gorau yng Nghymru yn well nag mewn unrhyw ranbarth o Loegr na Gogledd Iwerddon. Atebais gwestiwn gan un arall o'i Aelodau yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato a Cymwysterau Cymru. Bydd yr adroddiad yn gyfraniad defnyddiol at yr ymgynghoriad y mae Cymwysterau Cymru yn ei gynnal, ond yn y pen draw, Cymwysterau Cymru fydd yn gyfrifol am gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd gennym ni system gymwysterau sy'n bodoli ochr yn ochr â'n cwricwlwm newydd, a bod hynny i gyd yn sail i'n huchelgais. Ac rydym ni mor uchelgeisiol ag unrhyw un yng Nghymru i'n pobl ifanc gael yr addysg orau posibl i gyflawni popeth y byddem ni eisiau iddyn nhw ei gyflawni ac yna mynd ymlaen i gael cyfleoedd yn yr economi hon, lle y caiff y cyfleoedd hynny eu dosbarthu'n deg yn hytrach na'r gymdeithas anghyfartal iawn y mae ei blaid ef wedi bod yn benderfynol o'i chreu.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog, yr ysgrifennydd addysg, y 107 o ysgolion a'r 3,165 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y profion PISA? Maen nhw'n sylweddol well na'r canlyniadau gwael iawn a welsom yn 2016, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol rhoi hynny ar y cofnod. Pe byddai wedi bod fel arall, byddwn wedi bod yn befriol yn fy meirniadaeth.
A gaf i, fodd bynnag, ofyn am y canlyniadau? O ran y wyddoniaeth a'r fathemateg, ceir gwahaniaeth o un neu ddau bwynt, ffracsiynol iawn, lle'r ydym ni'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. O ran darllen, mae braidd yn fwy; ceir bwlch o saith pwynt ar y rheini. Ac er ei bod hi'n wir i Lywodraeth Cymru ddweud bod y canlyniadau hyn, ar eu pennau eu hunain, ar draws y tri maes, yn cyfateb a heb fod yn arwyddocaol yn ystadegol pan eu bod rhyw fymryn yn is, onid yw'n wir, gyda'i gilydd, bod y ffaith eu bod yn is ym mhob un o'r tri, gan gynnwys bwlch sy'n agos at fod yn arwyddocaol yn ystadegol o ran darllen, yn golygu na ellir o anghenraid hawlio yn gyffredinol bod Cymru wedi perfformio yn gyfatebol ar sail agregedig?
Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am y ffordd y cyflwynodd ei gwestiwn. Mae'n sicr yn ddiwrnod i gydnabod yr ymdrechion a wnaed a'r llwyddiannau sydd wedi deillio ohonynt.
Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith mai'r bwlch mewn darllen yw'r mwyaf o'r tri, a phan fydd ganddo gyfle, fel y gallaf weld ei fod eisoes wedi dechrau, i edrych ar fanylion y canlyniadau, bydd yn gweld bod hynny'n cael ei lywio'n rhannol gan y bwlch rhwng bechgyn a merched o ran sgoriau darllen sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ac rydym ni'n gwybod bod gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud i berswadio dynion ifanc i gymryd diddordeb mewn gwella eu gallu llythrennedd a bod hynny yno yn y canlyniadau a welwn.
Ceir tystiolaeth yn y ffigurau o welliant cymharol Cymru dros amser o ran darllen. Rydym ni wedi gwella ein safle yn nhablau cynghrair y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o wahanol wledydd o ran darllen, yn ogystal â'r ddau faes arall, ond rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, bod mwy y mae angen i ni ei wneud, yn enwedig i fynd i'r afael â'r ffenomen, sy'n wir yn rhyngwladol—mae'n wir ym mhob un gwlad yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—bod menywod ifanc yn rhagori ar ddynion ifanc pan ddaw hi'n fater o ddarllen. Mae honno'n broblem fwy heriol mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae mwy y byddwn ni eisiau ei wneud, a bydd ein cwricwlwm newydd, yn ein barn ni, yn ein helpu i wneud hynny.
Wel, rwy'n credu bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud mewn ymateb i'r canlyniadau hyn yn deg ar y cyfan, ac rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â chymariaethau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn werth eu nodi yng ngoleuni'r hyn a welsom dair blynedd yn ôl a'r gwahaniaeth yn y ddadl bryd hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein sylwadau.
A wnaiff y Prif Weinidog, fodd bynnag, dderbyn nad yw'r darlun mor wych yn y cymariaethau o fewn y DU? Ac er nad yw'r bylchau gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ystadegol arwyddocaol, ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth, rydym ni'n gweld bod Lloegr yn gwneud yn sylweddol well na ni a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac a oes unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu gan Loegr yn hynny o beth? A yw'r Prif Weinidog hefyd yn derbyn bod problem benodol o ran darllen, lle mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol o ganlyniad arbennig o wael yn 2016, o'i gymharu â mathemateg, dyweder, lle'r ydym ni wedi gweld gwelliannau eithaf mawr mewn dau gylch yn olynol, y dylem ni ei nodi? Ond mae'r canlyniadau ar gyfer darllen—(a) yn gwrthdroi canlyniad gwael y tro diwethaf, yn hytrach na dangos tuedd o wella, a (b) mae ein canlyniadau, yn ystadegol, yn sylweddol is na'r tair gwlad arall yn y DU o ran darllen, ac rwy'n meddwl tybed beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â hynny.
Rwy'n meddwl tybed, a allai gynnig sylwadau hefyd ar ddau beth arall yr oeddwn i'n meddwl oedd yn arwyddocaol? Cafwyd pryder gan brifathrawon yng Nghymru a oedd yn adrodd bod mwy o brinder neu ddiffygion o ran deunyddiau addysgol, er enghraifft gwerslyfrau ac offer technoleg gwybodaeth. A yw e'n credu bod hwnnw'n bryder teg iddyn nhw ei fynegi? Yn olaf, o ran llesiant—ac roedd hwn yn fater ar gyfer y DU gyfan yn hytrach na phenodol i Gymru—roedd cryn dipyn o bobl ifanc yn dweud eu bod yn debygol o deimlo'n bryderus neu'n ddigalon, a gwn, gyda'r pwyllgor pobl ifanc ac addysg, ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, ond a oes gan y Prif Weinidog unrhyw beth i'w gynnig i'r myfyrwyr hynny?
Diolchaf i Mark Reckless am y cwestiynau ychwanegol yna. Rwy'n credu, fel y mae'r Gweinidog addysg wedi ei ddweud, pryd bynnag y gofynnwyd iddi am hyn eisoes heddiw, ac y bydd yn cael cyfle arall ar lawr y Cynulliad, nid ydym ni erioed wedi awgrymu bod y canlyniadau hyn yn berffaith. Maen nhw'n gadarnhaol, ac mae problemau, o ran darllen yn benodol, y byddwn ni eisiau rhoi sylw iddyn nhw o ganlyniad i'r sgoriau hyn ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i'w gwella ymhellach fyth yn y rownd nesaf o ganlyniadau PISA.
O ran adnoddau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad mawr o £50 miliwn i wella TG yn yr ystafell ddosbarth. Wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i athrawon a phenaethiaid ddweud pe byddai ganddyn nhw fwy o adnoddau y gallen nhw wneud yn well. Ond mae hwnnw'n fuddsoddiad mawr.
Os edrychwch chi ar unrhyw arolwg rhyngwladol o lesiant ymhlith pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig, rydym ni yn hanner gwaelod y tabl cynghrair. Mae hwnnw'n fater y dylem ni bryderu yn ei gylch, ond mae hefyd, mewn rhai ffyrdd, yn adlewyrchu'r ffordd y mae rhai o'r cwestiynau yn y prawf hwn yn cael eu geirio er mwyn cael y deunydd crai y mae'r atebion yn deillio ohono.
Pe bawn i'n chwilio am rywbeth cadarnhaol yn y canlyniadau y gallech chi ei ddweud wrth y bobl ifanc hynny, yna byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod y bwlch o ran anfantais yng Nghymru yn llai o lawer nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a bod pobl ifanc yng Nghymru mewn sefyllfa well i oresgyn anfantais o ganlyniad i'r addysg y maen nhw'n ei chael yng Nghymru nag a fyddai'n wir ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Felly, mae person ifanc sy'n dod i mewn i'n hysgol gyda bwlch anfantais yn fwy tebygol o oresgyn y bwlch hwnnw yng Nghymru nag ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gyfanrwydd. Rwy'n credu bod y math hwnnw o neges gadarnhaol a'r buddsoddiad cadarnhaol hwnnw y mae ein gwasanaeth addysg yn ei wneud mewn pobl ifanc, yn gwneud ei gyfraniad rwy'n gobeithio, ynghyd â llawer o bethau eraill, i geisio cyfleu neges i'r bobl ifanc hynny am eu pwysigrwydd i ni, am y gwerth yr ydym ni'n ei neilltuo iddyn nhw ac ynghylch sut y mae eu llesiant, yn ogystal â phopeth arall y maen nhw'n ei gyflawni, yn bwysig yn eu bywydau nhw ac i bobl Cymru yn gyffredinol.