4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyflogaeth Pobl Anabl

– Senedd Cymru am 3:55 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:55, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyflogaeth pobl anabl. Galwaf ar y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, fel Llywodraeth, mae ein swyddogaeth yn fwy o lawer. Gan weithio gyda sefydliadau pobl anabl, adrannau Llywodraeth, y trydydd sector a byd busnes, rhaid i ni arwain y gwaith o ganfod a chael gwared ar y rhwystrau sy'n analluogi pobl.

Mae'r rhan fwyaf o'r rhwystrau hyn wedi'u gwreiddio mewn agweddau negyddol, y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, a'r amgylchedd adeiledig. Rhaid inni i gyd gofio bod llawer o'r rhwystrau hyn yn anghyfreithlon, gan arwain at y gwahaniaethu beunyddiol a wynebir gan bobl anabl. I nodi'r diwrnod hwn, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i helpu pobl anabl i oresgyn y rhwystrau y maent yn dweud wrthym eu bod yn eu hwynebu wrth geisio a chadw gwaith.

Rydym yn glir ynghylch ein hymrwymiad i greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal, gan geisio cydraddoldeb i bawb. Roedd ein cynllun cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Rydym ni wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i gychwyn y newid sylweddol sydd ei angen i ddileu'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Er fy mod yn falch iawn o ddweud ein bod wedi gweld cynnydd yng nghyfradd cyflogaeth pobl anabl yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2019—cynnydd o 45.2 y cant i 48.6 y cant—mae angen gwneud mwy er mwyn inni gyflawni cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl.

Roedd ein fframwaith traws-lywodraethol 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt AC, ar 18 Medi, yn cyfleu ein hymrwymiad i ganfod a herio arferion cyflogaeth gwahaniaethol; cynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith drwy roi cymorth wedi'i deilwra i unigolion oresgyn rhwystrau i gael swyddi cynaliadwy a'u cadw; a newid agweddau cyflogwyr, lleihau'r stigma, a chefnogi cyflogwyr yn well i recriwtio a chadw pobl anabl.

Rydym yn ailganolbwyntio ein darpariaeth gyflogaeth bresennol, drwy weithio ar y cyd â phartneriaid a chontractwyr i ganolbwyntio adnoddau er mwyn gwella ymgysylltu a chefnogi mwy o bobl anabl i gael gwaith. Amcangyfrifir, ar draws rhaglenni Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, y gallai hyn gefnogi cynnydd o tua 25 y cant yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.

Rydym ni wedi gwneud camau breision i ddatblygu darpariaeth gyflogadwyedd bwrpasol i fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth, drwy gefnogi'r rheini sydd wrth galon y gymuned drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol; cefnogi'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur oherwydd rhwystrau iechyd sylweddol, drwy ein cynlluniau cyflogaeth lle mae pwyslais mawr ar iechyd; a darparu hyfforddiant yn y gwaith drwy raglenni fel prentisiaethau.

Ym mis Mai fe wnaethom ni lansio Cymru'n Gweithio, ein gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd, sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth proffesiynol, asesiadau ar sail anghenion a chael eu cyfeirio i gyfleoedd gwaith. Mae gan y gwasanaeth hwnnw, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, hyfforddwyr a chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig sy'n cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol a phersonol i ganfod a goresgyn rhwystrau y mae unigolion, gan gynnwys pobl anabl, yn eu hwynebu, wrth symud tuag at gyflogaeth.

Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yn nodi sut y mae angen i ni gefnogi pobl i fyw bywydau iachach. Mae dod o hyd i waith yn hynod o bwysig i'r dull ataliol hwn, ac rydym ni'n sicrhau y gall ein rhaglenni cyflogaeth seiliedig ar iechyd gefnogi mwy o bobl anabl i gael a chadw swyddi.

Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers i ni lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd 'Prentisiaethau Cynhwysol', ac rydym yn gwneud cynnydd da o gymharu â'r camau gweithredu sydd ynddo. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2017/18 yn dangos bod 5.6 y cant o brentisiaid wedi datgan eu bod yn anabl o gymharu â dim ond 3.4 y cant yn 2013/14. Drwy gyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun i ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cyfrannu, rydym yn ffyddiog y gallwn ni weld y ffigur hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Nid cefnogi unigolion yn unig ydym ni, ond busnesau hefyd, i greu'r amodau i bobl anabl ffynnu mewn gwaith. Gallaf gadarnhau y caiff hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl, a fydd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac yn rhoi gwell cefnogaeth i recriwtio a chadw pobl anabl, eu recriwtio yn y flwyddyn newydd. Rydym ni hefyd yn adolygu ein deunydd marchnata ac adnoddau cyflogwyr i chwalu camdybiaethau, dylanwadu ar agweddau cyflogwyr a'u newid, a chodi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth ehangach sydd ar gael i fusnesau wrth gyflogi pobl anabl. Hefyd, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl i asesu dewisiadau ar gyfer adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am hyn yn fuan iawn.

Rydym ni hefyd yn newid natur sgyrsiau gyda busnesau. Mae Busnes Cymru, ynghyd â'i gyngor busnes cyffredinol, yn cynnwys cyngor ar bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth i gynghori busnesau ar recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Bydd hyn yn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl anabl ddechrau busnes, gan gynnwys modelau busnes amgen fel mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol. Caiff gwefan Busnes Cymru ei hehangu i ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd ar gyfer pobl anabl sy'n ceisio dechrau a thyfu busnes, ac annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid drwy Busnes Cymru, canolfannau menter, Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Ac, er mwyn annog a hyrwyddo arferion busnes a chyflogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r lleiafswm cyfreithiol, rydym yn ystyried dewisiadau i ehangu a dwysáu effaith y contract economaidd fel ei fod yn cynyddu dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyflogwyr ymhellach o ran gwella recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Yn sicr, o leiaf, gallai hyn gynnwys cyfeiriad penodol yn ein canllawiau ar gyfer contractau economaidd at bolisïau, prosesau a rhaglenni sydd â'r potensial i gefnogi gweithlu mwy amrywiol.

Rydym ni'n ymwybodol y gallai cynnal cwmpas a maint y cymorth i unigolion a busnesau fod yn her wrth symud ymlaen, gan fod ein dull o weithredu yn cael ei danategu gan gronfeydd Ewropeaidd. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ailadrodd ei safbwynt clir a diamwys i unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU: dim ceiniog yn llai, dim colli unrhyw bwerau os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym ni i gyd yn gwybod mai ein rhwystrau cymdeithasol sy'n analluogi pobl â namau. Daw'r ddealltwriaeth hon o'r model cymdeithasol o anabledd a fabwysiadwyd gennym ni fel Cynulliad yn 2002, gan wneud Cymru yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Ein nod yw ymgorffori'r model hwn yn weladwy ac yn effeithiol ar draws pob maes gwaith, gan gynnwys datblygu economaidd a chymorth cyflogwyr, er mwyn annog pob sefydliad yng Nghymru i wneud yr un peth.

Os byddwn ni, yng Nghymru, yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn roi terfyn ar y gwahaniaethu sy'n difetha bywydau cynifer o bobl. Mae'n ddyletswydd foesol, ac os caf fentro dweud, economaidd arnom ni i wneud hynny.  

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:03, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedoch chi, heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Y thema eleni ar y diwrnod rhyngwladol yw 'mae'r dyfodol yn hygyrch'. Ym mis Mawrth 2013, cadeiriais ddigwyddiad yma—'Tuag at Gymru sy'n Galluogi: gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl anabl'—ac yna roeddwn yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yr wyf yn ei gadeirio heddiw. Yn fy sylwadau cyflwyniadol, felly, rhoddais fanylion am ddiben y grŵp: mynd i'r afael â materion cydraddoldeb anabledd allweddol sy'n cwmpasu sawl amhariad, gan gynnwys gweithredu'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw'n annibynnol, gan bwysleisio y gwneir pobl yn anabl gan gymdeithas, nid gan nhw eu hunain, fod yn rhaid inni gydweithio i fynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, a bod yn rhaid caniatáu i bawb gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.

Ym mis Medi 2013, cadeiriais gyfarfod cyfochrog yn y gogledd ar y thema anabledd a chyflogaeth. Ym mis Mawrth 2017, fe wnes i noddi a siarad yn y digwyddiad prosiect Ymgysylltu i Newid yn y Cynulliad. Dan arweiniad Anabledd Dysgu Cymru, ariannwyd y prosiect am bum mlynedd gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi 1,000 o bobl ifanc yng Nghymru gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth i ennill sgiliau cyflogadwyedd a dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy. Nid oes cyfeiriad at y prosiect ardderchog hwn yn eich datganiad, a byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, naill ai nawr neu wedyn, yn sôn am y cynnydd a fu gyda hynny, yn enwedig gan ei fod wedi'i gynllunio i ymgorffori cynaliadwyedd o ddiwedd y prosiect hwnnw.

Fel y dywedwch chi, mae llawer o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn anghyfreithlon. Mae gennym ni yng Nghymru, fel yn y DU, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac yn anffodus, rwy'n dal i ganfod, wrth gynrychioli etholwyr anabl gyda chyrff cyhoeddus, mai anaml, os o gwbl, y maent yn cydnabod bodolaeth y ddyletswydd o'u gwirfodd hyd nes y byddaf yn eu gwneud yn ymwybodol ohoni. A bu hynny hefyd yn wir o ran cyflogaeth neu bobl anabl sy'n ceisio ymdrin efallai â'r broses gynllunio at ddibenion hunangyflogaeth. Felly, sut gallwn ni roi mwy o hwb i hynny, nid gwneud i awdurdodau lleol ac eraill deimlo bod hyn yn orfodaeth, ond yn gyfle i wneud i bethau weithio'n well i bawb, gwella bywydau ac, yn y pen draw, leihau'r pwysau ar wasanaethau statudol?

Fel y dywedwch chi, mae angen gwneud mwy i gyrraedd cyfradd gyflogaeth gyfartalog y DU ar gyfer pobl anabl, lle mae'r ffigur yn 48.6 y cant yng Nghymru. Ond, o ran awtistiaeth, darganfu ymchwil y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn 2016 mai dim ond 16 y cant o bobl ag awtistiaeth o oedran gweithio oedd mewn cyflogaeth lawn-amser. Roedd y ffigur hwnnw wedi aros yn ei unfan am ddegawd, a chredwyd bod y ffigur hyd yn oed yn is yng Nghymru. Felly, sut ydych chi'n bwriadu canolbwyntio nid yn unig ar yr agenda hawliau anabledd cyffredinol, o ran cyflogaeth, ond hefyd ar y gwahaniaeth sy'n bodoli rhwng gwahanol gyflyrau, a'r bwlch cyflog anabledd, sydd yng Nghymru yn parhau, mi gredaf, ar 9.9 y cant rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl?

Rydych yn dweud eich bod yn ystyried cyfleoedd i ddarparu hyrwyddwyr cyflogwyr pobl anabl. Yn wir, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth a gadeiriais ym Mhrestatyn ar 18 Hydref, bu Ben Morris o NEWCIS, y gwyddoch chi efallai amdano—Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru— yn trafod ei waith yn cefnogi gofalwyr a phobl awtistig i ddod o hyd i waith, yn ogystal â'i brofiadau ei hun fel person awtistig yn y gweithle. A dywedodd, er bod ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gynnydd, nad oedd nifer y bobl awtistig yn y gweithle yn cynyddu. Dywedodd ei fod wedi gweithio gyda chyflogwyr i'w helpu i sylweddoli nad yw eu cyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol yn dechrau pan fyddant yn cyflogi rhywun, ond eu bod ar eu colled o ran cyflogi llawer o bobl awtistig ac anabl cymwys oherwydd nad ydynt yn gwneud addasiadau yn eu proses recriwtio. Dywedodd hefyd fod ei waith yn golygu helpu cyflogwyr i ddeall rhinweddau gweithwyr awtistig ac anabl a gwerth cael gweithlu amrywiol. Felly, wrth yrru'r agenda honno yn ei blaen, a ydych chi'n cytuno y dylai'r hyrwyddwyr arfaethedig yr ydych yn sôn amdanynt fod â phrofiad bywyd a/neu phrofiad uniongyrchol yn hytrach na bod yn bobl da eu bwriadau, ond yn bobl nad oes ganddynt yr ased ychwanegol allweddol hwnnw?

Rydych chi'n dweud bod asesu dewisiadau i adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd—neu eich bod yn asesu dewisiadau i adeiladu ar hynny, a newid natur sgyrsiau gyda byd busnes. Wrth gwrs, mae cynllun Hyderus o Ran Anabledd Adran Gwaith a Phensiynau y DU yn helpu cyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd i'w cael drwy gyflogi pobl anabl, mae'n wirfoddol, ac mae wedi'i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl. Maen nhw'n gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd er mwyn sicrhau bod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Ac rwyf wedi cwrdd â rhai swyddogion anhygoel yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gweithio ar y rhaglen hon yng Nghymru—y tro diwethaf ychydig wythnosau'n ôl. Sut ydych chi'n sicrhau y byddwch yn ategu yn hytrach na dyblygu'r gwaith hwn, ac yn sicrhau eich bod chi, gyda'ch gilydd, yn ychwanegu gwerth yn hytrach na gwneud yr un peth?

Yn yr un modd, rydych chi'n cyfeirio at wasanaeth cyngor ar gyflogadwyedd Cymru'n Gweithio. Wrth siarad yma y llynedd, ar ôl ymweld â Remploy yn Wrecsam i drafod lansio rhaglen cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU, y Rhaglen Gwaith ac Iechyd, yng Nghymru, dywedais fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru felly roi sicrwydd bod ei rhaglen gyflogadwyedd newydd yn ychwanegu at y rhaglen honno hefyd yn hytrach na'i dyblygu. Tybed a wnewch chi gadarnhau sut yr ydych chi'n sicrhau eich bod chi, drwy weithio mewn partneriaeth yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio, yn gweithio gyda rhaglen ategol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn yr un modd, mae'r rhaglen Mynediad i Waith—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:09, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.] Yn olaf, diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

—rwy'n ymwybodol bod hynny hyd yn oed wedi cefnogi fy merch fy hun mewn gwaith.

Ac yn olaf, os caf i—un cwestiwn terfynol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Un olaf—. Ydy, mae hynny'n iawn.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Sut ydych chi'n gweithio gyda chyrff allweddol yn y trydydd sector sydd hefyd yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, megis y Cyfeirlyfr Awtistiaeth yn Nhrefforest, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar raglen cyflogaeth awtistiaeth, ac Oxfam Cymru, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio eu dull o fywoliaethau cynaliadwy i sicrhau bod gan staff yr Adran Gwaith a Phensiynau y sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan symud oddi wrth atebion tymor byr sy'n caethiwo unigolion mewn sefyllfa gyson o fod yn gweithio ac yna'n ddi-waith, ac felly mewn tlodi? Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:10, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau hynod adeiladol, a hefyd am ei gwestiynau, a chydnabod yr ymroddiad y mae wedi'i roi i'r agenda arbennig hon dros flynyddoedd lawer? Credaf y byddai Mark Isherwood yn cytuno ein bod i gyd yn dymuno sicrhau bod pob person anabl yn cael yr un rhyddid ac urddas a dewis a rheolaeth â phawb arall mewn cymdeithas, boed hynny yn y cartref, yn y gwaith, mewn addysg neu yn y gymuned. Mae Mark Isherwood wedi codi'r cwestiwn ynghylch sut y gallwn ni gefnogi busnesau a hyrwyddo arferion cyflogi cyfrifol yn fwy ymysg busnesau. 

Hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, fod amrywiaeth o dystiolaeth sy'n dangos pam y dylai busnesau gyflogi pobl anabl. Er enghraifft, mae gweithwyr anabl, a bod yn onest, yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb salwch hefyd. Mae ymchwil hefyd wedi canfod eu bod yn fwy tebygol o ymdrin â phroblemau mewn ffordd greadigol a chyflawni tasgau gwahanol mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Felly, mae angen i gyflogwyr fanteisio ar ddoniau pobl anabl a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eu gweithlu. 

Mae Mark Isherwood yn codi nifer o bwyntiau pwysig iawn, gan gynnwys perfformiad rhaglenni cyflogadwyedd hyd yn hyn, yr angen i awdurdodau lleol gydnabod bod y ddyletswydd yn berthnasol iddynt, y swyddogaeth y gallai'r hyrwyddwyr anabledd ei chael yn y dyfodol, y bwlch cyflog i bobl anabl hefyd a sut y byddwn yn ceisio lleihau hynny, a chysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r trydydd sector.

Rwy'n mynd i geisio ymdrin â'r holl bwyntiau pwysig hyn. I ddechrau, fodd bynnag, gyda'r cwestiwn cyntaf a godwyd, sef sut y gallwn ni sicrhau bod gan bobl anabl yr hawl i fyw'n annibynnol, wel byddwn yn cyfeirio at yr adroddiad 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog ac sy'n cynnwys cyfres o gamau i sicrhau bod darpariaeth a chymorth byw'n annibynnol ar gael i bawb.

O ran perfformiad cyflogadwyedd hyd yn hyn, cyfeiriodd yr Aelod at brosiect penodol y byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei chylch. Gwyddom fod y canlyniadau drwy raglenni cyflogadwyedd hyd yma wedi bod yn drawiadol. Gwyddom, ers 2014, er enghraifft, fod y cylch cyfredol o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi cefnogi mwy na 16,000 o unigolion i gael gwaith, a bod tua 16 y cant o'r rhain wedi datgan bod ganddynt anabledd.

O ran ein rhaglen Cymunedau am Waith, mae 1,843 o bobl anabl wedi cael eu cynorthwyo i gael gwaith ers mis Mai 2015. Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi cynorthwyo dros 4,250 i gael gwaith ers ei lansio ym mis Ebrill 2018, ac mae 2,264 o'r rhai a fu'n rhan o hynny hyd yn hyn yn anabl neu mae ganddynt gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Ac, o ran y rhaglen hyfforddeiaeth sy'n cael ei gweithredu, mae 750 o bobl ifanc sydd wedi datgan eu bod yn anabl wedi dechrau gweithio.  

Byddwn yn gwella perfformiad, byddwn yn newid pwyslais ac yn ailflaenoriaethu gwariant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop—arian Ewropeaidd y disgwyliwn gael yr un swm yn union, os gadawn yr UE, gan Lywodraeth y DU—a thrwy wneud hynny ein nod yw creu cyfleoedd ar gyfer 25 y cant arall o bobl sy'n wynebu ffactorau yn eu bywydau sy'n achosi anabledd. 

Credaf fod Mark Isherwood yn cefnogi'r egwyddor o benodi hyrwyddwyr anabledd ledled Cymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog yn awyddus i'w ddatblygu gyda chynnydd cadarn, a byddwn yn cyhoeddi rhagor am y cynllun hwn yn y flwyddyn newydd, ond gallaf sicrhau'r Aelod heddiw y bydd yr hyrwyddwyr hynny wedi byw ac wedi profi ffactorau sydd wedi achosi anableddau iddynt yn bersonol yn eu bywydau, i ddod â'r mewnwelediad sydd mor bwysig y mae'r Aelod ei hun yn ei gydnabod.

Tynnodd Mark Isherwood sylw hefyd at y bwlch cyflog anabledd sy'n bodoli yng Nghymru ac sydd ar hyn o bryd yn 9.9 y cant. Mae'r bwlch cyflog hwnnw'n annerbyniol. Fodd bynnag, mae'n is na'r DU yn ei chyfanrwydd, sef 12.2 y cant ar hyn o bryd. Cymru oedd y pumed lleiaf o blith 12 o wledydd a rhanbarthau'r DU yn 2018 o ran y bwlch cyflogau. Er mwyn lleihau'r bwlch hwnnw ymhellach ac er mwyn lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng cyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU, mae gennym ni nifer o ymyriadau newydd y manteisir arnynt yn llawn, gan gynnwys gwaith ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys swm sylweddol o waith sydd eisoes wedi'i wneud o ran gwaith teg ac ymwreiddio egwyddorion gwaith teg a thrwy ymestyn ymhellach y contract economaidd a grybwyllais yn fy natganiad.

O ran ymgysylltu a chysylltu, mae ymgysylltu â'r trydydd sector yn ganolog i bopeth a wnawn o ran cynorthwyo pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anableddau iddynt yn eu bywydau. Ac o ran ymgysylltu â'r adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n falch o'r graddau y mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydweithio â'i gilydd, boed hynny er mwyn sicrhau bod Hyderus o ran Anabledd yn cydnabod yn llawn ac yn gweithredu'n gwbl gyson â'r cymorth ychwanegol sydd ar gael gan raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru neu'r rhaglen Mynediad at Waith, sy'n hanfodol bwysig, yn fy marn i, ac sy'n ymddangos ar safle Busnes Cymru. Mae wedi'i gynnwys yno er mwyn cyfeirio unigolion a chyflogwyr i gyllid a all helpu i dalu am amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith, am offer arbennig a gweithwyr cymorth a chefnogi darpariaeth iechyd meddwl.

O ran sicrhau ein bod yn cael mwy o gysondeb fyth rhwng ymyriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymyriadau Llywodraeth Cymru ac yn benodol ynghylch Hyderus o ran Anabledd, rydym ni wrthi'n gwneud gwaith polisi i ystyried sut y byddwn yn cyflawni'r cam hwn o fewn fframwaith newydd Llywodraeth Cymru, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol', o ran datblygu cynllun gwobr anabledd i gyflogwyr yng Nghymru, a allai adeiladu ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd neu fod yn gynllun newydd i annog cyflogwyr i anelu at fod yn fwy cefnogol o bobl anabl. Ac wrth ystyried yr anghenion penodol sy'n cael eu cydnabod ar gyfer Cymru a sut y byddai cynllun gwobr anabledd i Gymru yn gweithio, ac yn gyson â'r hyn y mae swyddogion Hyderus o ran Anabledd yn ei gynnig, byddwn yn cyfarfod â nifer o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys y trydydd sector, i geisio eu barn ar y mater pwysig hwn.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:18, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar gyflogaeth pobl anabl? Fel y mae'n dweud, mae heddiw'n ddiwrnod rhyngwladol pobl ag anableddau y Cenhedloedd Unedig, sef diwrnod a gynlluniwyd i hyrwyddo hawliau pobl anabl a chynyddu ymwybyddiaeth o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Felly, mae'n bwynt sy'n dal angen ei drafod. 

A gaf i yn gyntaf oll gefnogi llawer o'r materion y mae Mark Isherwood newydd eu codi? Fel cadeirydd cyntaf erioed y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth yn y Senedd—neu'r Cynulliad fel yr oedd bryd hynny, 17 mlynedd yn ôl—roedd materion yn ymwneud â chyflogadwyedd ymhlith pobl ag awtistiaeth yn broblem fawr bryd hynny. Mae hynny'n dal i fod yn wir. Felly, os gallwn ni gadw hynny ar eich amserlen, byddai hynny'n wych.

A hefyd, a minnau'n gadeirydd presennol y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, mae gennyf ychydig o heriau o'r gymuned fyddar hefyd. Oherwydd, fel yr ydych chi wedi'i ddweud heddiw, Gweinidog, mae pobl anabl, gan gynnwys, yn amlwg, y rhai sy'n fyddar wedi wynebu rhwystrau ers tro wrth geisio cael gwaith. Mae'n galonogol, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella'r sefyllfa hon, er enghraifft, drwy eich cynllun gweithredu ar gyfer prentisiaethau cynhwysol ar gyfer pobl ag anabledd, a phobl fel hynny. Fodd bynnag, o ran sicrhau y gall pobl ifanc anabl gael cyngor gyrfaoedd priodol fel y gallant ddeall eu hawliau, gan gynnwys eu hawl i addasiadau yn y gweithle a'r gronfa mynediad i waith, mae hynny i gyd hefyd yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn. Dyna pam fy mod i a'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn pryderu bod y cod ymarfer drafft ar anghenion dysgu ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni yn amlinellu dyletswydd sylweddol is i ddarparu cyngor gyrfaol arbenigol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nawr, rwy'n sylweddoli bod a wnelo hyn â materion traws-bortffolio, ond rydym ni'n siarad am gyflogadwyedd ac, yn amlwg, mae dysgu, addysg a gyrfaoedd yn rhan bwysig o'r sbectrwm hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog amlinellu a fu rhagor o ystyriaeth ar ddyletswyddau'n ymwneud â chyngor gyrfaoedd arbenigol o fewn y cod ADY, ac a yw wedi bod yn rhan o drafodaethau o'r fath?

Hefyd, rwy'n ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r cwricwlwm cenedlaethol. Er bod y cwricwlwm drafft yn rhoi pwyslais ar yrfaoedd, byddai'n ddefnyddiol cael pwyslais penodol ar sicrhau bod pobl ifanc anabl yn ymwybodol o'u hawliau cyflogaeth. Mae hwn yn fater traws-bortffolio arall, ond ni allwch chi fyth drafod cyflogaeth pobl anabl yn hollol ynysig. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael ar y materion hyn gyda chyd-Weinidogion er mwyn i gyngor ar yrfaoedd, cyngor ar gyflogaeth gael ei deilwra i bobl ifanc anabl? Diolch yn fawr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i hefyd ddiolch i Dai Lloyd heddiw am ei gyfraniad ac am y diddordeb a'r ymrwymiad brwd iawn y mae wedi ei ddangos i'r maes polisi pwysig hwn i Lywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr bod Dai Lloyd hefyd yn credu, fel yr wyf fi, fod cydraddoldeb canlyniadau i bawb yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, ac y dylem ei wneud, a bod ein huchelgeisiau ar gyfer cymdeithas Cymru yn uchelgeisiau sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb a chyfle cyfartal i bawb.

Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, wrth fyfyrio ar y swyddogaeth arweiniol y bu gan Dai Lloyd ei hun yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, a bod gwleidyddion yn y Siambr hon yn gallu darparu arweinyddiaeth genedlaethol, mae gweithredu lleol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion yn eu bywydau bob dydd. A gall gweithredu lleol gynnwys y math o gyngor y mae Gyrfa Cymru ac ysgolion eu hunain yn gallu ei gynnig i fyfyrwyr ifanc.

Mae Dai Lloyd wedi codi tri phwynt pwysig yn bennaf. Un: 'Gweithredu ar anabledd ', y fframwaith a'r cynllun, gan roi sylw penodol i bobl sy'n fyddar. Yn ail, swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cyngor a chymorth un-i-un i unigolion. Ac yna, yn drydydd, cyfeiriodd Dai Lloyd hefyd at y 'Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018-21', sy'n rhywbeth sy'n gwneud cryn wahaniaeth o ran creu cyfleoedd. Ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hynny, sydd, ar gyfer 2017-18, yn dangos bod tua 6 y cant o fyfyrwyr ar raglenni dysgu prentisiaethau wedi'u nodi fel rhai sydd ag anabledd sylfaenol a/neu anhawster dysgu, a bod y gyfran honno wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2012-13. Yn ôl yn 2012, roedd y ffigur oddeutu 3 y cant, felly mae wedi dyblu o fewn pum mlynedd neu fwy.

Dirprwy Lywydd, byddaf yn ymrwymo heddiw i gyhoeddi ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf yr ystadegau swyddogol a fydd yn ystyried 2018-19, a fy ngobaith yw, fy nghred yw hefyd, y bydd y ffigurau hynny'n dangos gwelliant pellach. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, o ganlyniad i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol o ran y cynllun, ond ni ddylem ni laesu dwylo, a byddwn yn sicrhau bod y cynllun hwnnw'n parhau i gael ei gyflawni.  

O ran 'Gweithredu ar anabledd', wel, mae'r fframwaith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio tuag at ddileu rhwystrau sy'n atal pobl nid yn unig rhag cael gwaith, ond hefyd yn atal pobl rhag aros mewn gwaith—nid yn unig rhwystrau corfforol mewn adeiladau, mewn trefi ac yng nghefn gwlad, ond hefyd, yn bwysig, y rhwystrau sy'n cael eu creu gan strwythurau a pholisïau sefydliadau ac, yn wir—a'r pwysicaf oll mae'n debyg—agweddau pobl. Ac mae cynllun gweithredu yn cyd-fynd â'r fframwaith. Mae hynny'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ac yn arwain arnynt ar hyn o bryd, a'r bwriad yw eu cadw'n gyfredol er mwyn adlewyrchu amgylchiadau newidiol a datblygiadau newydd. A byddwn yn fwy na pharod i drafod gyda Dai Lloyd y cymorth y gellir ei gynnig i unigolion sy'n fyddar.

I droi at swyddogaeth Gyrfa Cymru wrth gynnig cefnogaeth, ac, yn arbennig, cyngor i fyfyrwyr a disgyblion, o fewn yr adnoddau presennol—a holodd Dai Lloyd am yr adnoddau sydd ar gael drwy Gyrfa Cymru—mae gennym ni tua 30 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd wedi'u neilltuo'n benodol i weithio gyda chwsmeriaid ag ADY a'u teuluoedd. Mae cymorth i'r grŵp cwsmeriaid penodol hwn yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb drwy waith grŵp a chyfweliadau gyrfaoedd. Mae'n llunio cynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer unigolion a'u teuluoedd, ac mae hefyd yn cynnig cymorth ar adegau o drawsnewid, ac eiriolaeth hefyd.

O ran y canlyniadau, o ganlyniad i'r cyngor a'r cymorth a gynigir, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 3,365 o adolygiadau pontio wedi'u cynnal gan gynghorwyr gyrfaoedd ac iddynt gytuno ar ychydig dros 1,000 o gynlluniau dysgu a sgiliau ar gyfer y rhai sy'n symud o ysgol, gan nodi anghenion addysg a hyfforddiant pobl ifanc a'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny. Gobeithio bod y ffigurau hyn, gan gynnwys y ffigurau hynny ynghylch prentisiaethau cynhwysol, yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd. Ond yn y pen draw, Dirprwy Lywydd, os ydym ni eisiau lleihau'r bwlch o ran cyflogau a'r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng y DU a Chymru, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:26, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Os oes gennych chi anabledd, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac os ydych chi mewn gwaith, rydych chi'n fwy tebygol o fod ar yr isafswm cyflog. Dyna'r realiti i bobl ag anableddau yng Nghymru heddiw. Er bod sefydliadau fel Barod—cwmni buddiannau cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe, yn arbenigo mewn hyfforddiant a gwybodaeth arloesol, lle mae'r perchenogion a'r gweithlu yn gymysgedd gyfartal o bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, sy'n arbenigo mewn pontio'r bwlch rhwng sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat a phobl ag anableddau dysgu—nid oes digon o bell ffordd o gwmnïau o'r math hwn er mwyn cael pobl ag anableddau dysgu i mewn i gyflogaeth.

Rwy'n ddigon hen i gofio pan roedd gennym ni'r system cerdyn gwyrdd. Roedd disgwyl i gwmnïau gyflogi cyfran benodol o bobl gyda chardiau gwyrdd ac adroddwyd ar y ganran. Diflannodd hyn, yn anffodus, gyda'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, ac rwy'n credu bod hynny wedi gwneud llawer mwy o niwed na daioni, oherwydd bryd hynny, fe allech chi ddwyn cyflogwyr i gyfrif. Ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn dwyn cyflogwyr i gyfrif.

Mae gennyf i un sylw pellach a dau gwestiwn. Soniwn am anabledd fel pe bai'n un peth. Mae yna ystod eang o anableddau sy'n amrywio o ran eu graddau a'u problemau i'r bobl sy'n dioddef ohonynt. Mae pobl sydd ag anableddau bach iawn, na fyddech yn gwybod eu bod yn anabl pe byddech yn eu gweld yn cerdded i lawr y stryd, ac eithrio y gallent fod yn cerdded ychydig yn araf, i'r rheini sydd ag anableddau lluosog ac anableddau difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ein bod yn tueddu i siarad am bobl anabl fel petaent yn un corff; dydyn nhw ddim, maen nhw'n grŵp o bobl sydd â phroblemau hollol wahanol ac anghenion gwahanol.

Soniodd Dai Lloyd am y gymuned fyddar. Mae fy chwaer yn hollol fyddar, yr wyf wedi sôn amdani ar fwy nag un achlysur yn y fan yma, ac mae'n anhygoel o anodd. Mae cyflogwr yn gallu anwybyddu unrhyw Ddeddf drwy ddweud 'y gallu i ateb y ffôn'. Mae hynny'n eithrio unrhyw un sy'n hollol fyddar. Byddai llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw'n afresymol disgwyl i rywun allu ei wneud, ond ar ôl ichi gynnwys hynny, rydych chi'n eithrio unrhyw un sy'n fyddar rhag gweithio yno. 

Mae gennyf i ddau gwestiwn. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i hyrwyddo cyflogi pobl ag anableddau yn Llywodraeth Cymru, ac, yn bwysicach, mewn cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Mae hynny'n rhywbeth y mae gennych chi reolaeth uniongyrchol drosto, ac mae gennych chi reolaeth uniongyrchol hefyd dros y cyrff rydych yn eu hariannu. Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân. Er hynny, gall yr hwn sy'n ariannu mudiad roi cyfarwyddyd.

Beth arall gellir ei wneud i gefnogi sefydliadau fel Barod, sy'n gwneud gwaith mor dda o ran trin pobl ag anableddau a'r rhai nad oes ganddynt anableddau, yr un fath yn union? Un o'r problemau sydd gennym ni yw ein bod, yn rhy aml, yn eu trin yn wahanol. Efallai bod ganddyn nhw anabledd, ond mae'n rhaid eu trin a dylid eu trin yr un fath. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu sefydliadau fel hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:29, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau a'i gwestiynau? Roedd yn gywir yn dweud bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, a bod pobl anabl, os ydynt mewn gwaith, yn fwy tebygol o fod ar gyflog gwael. Felly, o ganlyniad, mae'n amlwg bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi yn yr oes fodern hon, ac mae hynny'n foesol annerbyniol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl benderfynol o sicrhau bod pobl Cymru yn cael cyfleoedd i gael gwaith ac yna i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon y dylai fod gan bawb yn ddieithriad y cyfle i weithio. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith bod pobl sy'n chwilio am waith yn gwbl benderfynol o sicrhau cyfleoedd da, sy'n talu'n dda. Mae'r dystiolaeth sy'n dangos bod pobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd yn benderfynol o weithio yn glir iawn yn wir, Dirprwy Lywydd. Gwyddom fod tua 45 y cant o'r grŵp economaidd anweithgar yng Nghymru heddiw yn bobl anabl, a bod traean o bobl ddi-waith yng Nghymru yn wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd. Mae tua 49,000 o bobl anabl sy'n economaidd anweithgar naill ai'n chwilio am waith neu ddim wrthi'n chwilio am waith ond yn awyddus i weithio. Mae hynny'n golygu bod dros 50 y cant o bobl economaidd anweithgar sy'n wynebu rhwystrau sy'n achosi anabledd naill ai'n chwilio am waith neu'n dymuno gweithio. Dyna tua 90,000 o bobl yn ein gwlad.

Er mwyn cyrraedd y targed o gau'r bwlch o ran cyflogaeth rhwng y DU a Chymru ar gyfer pobl anabl, byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer o leiaf 16,000 o bobl. Yn amlwg, Dirprwy Lywydd, mae'r penderfyniad gan bobl i ddod o hyd i waith, eu hawydd i ddod o hyd i waith, yn dangos na fydd dod o hyd i 16,000 o bobl sy'n dymuno mentro i'r gweithle yn broblem. Yr her yw sicrhau bod busnesau'n sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bobl sy'n wynebu ffactorau sy'n achosi anabledd.

Rydym ni'n gweithio gyda Busnes Cymru i gynghori entrepreneuriaid mewn busnesau bach a chanolig ar sut y gallant gael gwared ar y rhwystrau i bobl. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid a, thrwy'r fframwaith gweithredu ar anabledd, rydym ni wedi amlinellu nifer o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer canfod sut y gallwn ni wella cyfleoedd i unigolion drwy ein cyflogwyr mawr a llai o faint yn y wlad.

O ran y cwestiwn penodol y mae Mike Hedges yn ei holi am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud a hefyd, yn bwysig iawn, beth y gall y cyrff hynny a ariennir sy'n dibynnu ar adnoddau Llywodraeth Cymru ei wneud, rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau heddiw y bydd y contract economaidd yn cael ei ymestyn i nifer sylweddol o gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod y cyrff hynny a ariennir yn hybu twf cynhwysol ac yn cofleidio'r agenda gwaith teg, sydd wrth wraidd y contract economaidd ac, wrth wneud hynny, yn creu mwy o gyfleoedd i bobl anabl i gael gwaith yn eu sefydliadau.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:33, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad, sy'n cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig? Rwy'n credu ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn rhannu pryderon ynghylch sut yr ydym ni'n trin ein cyd-ddinasyddion sydd mewn sefyllfa lle na allent, oherwydd anableddau, ddod o hyd i waith. Ond gallaf ddweud yn y cyswllt hwn ei bod hi'n ymddangos nad yw cyflogwyr yn rhannu'r un lefel o wasanaeth cyhoeddus a oedd ar un adeg yn gyffredin tuag at y rhai yn ein cymdeithas sydd ag anabledd. Rhaid imi ddweud bod rhai ohonom yn gresynu at dranc llawer o unedau Remploy, a gafodd eu beirniadu am wahanu pobl anabl ond o leiaf fe roddodd iddynt yr urddas o waith da tymor hir mewn amodau da.

Fodd bynnag, mae'n braf darllen yn yr adroddiad fod Busnes Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr, nid yn unig i godi eu hymwybyddiaeth o'r rhai sydd ag anableddau ond hefyd i agor eu llygaid at eu hagweddau negyddol yn aml tuag at alluoedd pobl anabl, yn hytrach na'u hanableddau. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith y mae Gyrfa Cymru'n ei wneud ar adeg dyngedfennol ym mywydau pobl ifanc anabl, ac mae eu hymyriadau'n dod ar yr adeg dyngedfennol honno, sydd i'w croesawu'n fawr iawn.

Un agwedd na soniwyd amdani yn eich adroddiad yw gallu pobl anabl i gyrraedd y gwahanol leoedd gwaith. O gofio y bu trafnidiaeth yn draddodiadol yn rhwystr i'r anabl gael gwaith, dylai'r gwelliannau mawr i drafnidiaeth o ran mynediad i'r anabl, sydd naill ai eisoes ar waith neu i'w rhoi ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gael effaith, os nad dileu'r rhwystrau hynny'n llwyr, gan eu gwneud yn llawer llai o rwystr. Dylai'r gwelliannau hyn, nid yn unig i'r drafnidiaeth ei hun, ar ffurf newid sylweddol o ran hygyrchedd bysiau a threnau, ond hefyd i'r gorsafoedd, ar gyfer y ddau ddull o deithio, wneud gwahaniaeth mawr yng ngallu'r anabl i gyrraedd pob math o leoliadau gwaith.

Onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Cynulliad hwn i roi sylw i'r mater o ddiweithdra ymysg pobl anabl yn ein cymuned. Ni ddylid edrych arnynt fel baich ar gymdeithas, ond adnodd enfawr o dalent ddihysbydd. Ni all fod yn iawn, fel y nododd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Poverty in Wales 2018', fod 39 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn tlodi, o'u cymharu â 22 y cant o bobl nad ydynt yn anabl, ac mai'r gyfradd dlodi ymhlith pobl anabl yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU gyfan. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, ddweud ar un adeg bod y ffigurau hyn yn warth cenedlaethol. Eto i gyd, er gwaethaf degawdau o ddeddfwriaeth ganmoladwy sydd â'r nod o fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, y profiad fynychaf i lawer yw bywyd o dlodi, eithrio a rhwystrau rhag cyfleoedd. Rwy'n derbyn bod eich adroddiad yn cydnabod y methiannau hyn, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael sylw—na, sylw manwl—dros y blynyddoedd nesaf.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:37, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau? Rwy'n cytuno â'r farn bod tranc unedau Remploy yn siom fawr ac i hynny roi llawer iawn o bobl yn wir o dan anfantais. A gaf i hefyd ddiolch i David Rowlands am gydnabod y gwaith da sy'n cael ei wneud gan Busnes Cymru a Gyrfa Cymru?

Nododd yr Aelod yn gywir yr angen i'w gwneud hi'n haws cael gwaith, ac mae hynny'n cynnwys cludiant, o ganlyniad i fuddsoddiad o £800 miliwn mewn cerbydau. O dan gytundeb masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau byddwn yn gweld trenau newydd—y caiff hanner ohonynt eu hadeiladu yng Nghymru—yn cynnig mynediad i bawb, ac rwyf hefyd yn falch o ddweud, o ganlyniad i'n buddsoddiad ym metro de Cymru, y bydd pob gorsaf o fewn y metro yn rai heb risiau. Mae bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar orsafoedd ar draws rhwydwaith llwybrau Cymru a'r Gororau, ac, unwaith eto, byddwn yn gweld swm sylweddol o arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod cynifer o orsafoedd â phosib yn rhai heb risiau.

Rwy'n credu hefyd, o ran dyfodol y diwydiant bysiau—a byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd—ynghyd â'r diwygiadau yr ydym ni eisiau eu gwneud i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu rheoli a'u cynllunio, mae gennym ni hefyd gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adnewyddu'r fflyd o 2,300 o fysiau yng Nghymru sydd â cherbydau dim allyriadau a cherbydau sy'n cynnig, unwaith eto, fynediad i bawb sydd hyd yma yn aml wedi wynebu rhwystrau anablu. Felly, o ran trafnidiaeth, rydym ni yn sicr yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac rydym ni'n gwneud hynny'n eithaf cyflym.

Cyfeiriodd David Rowlands at yr hyn y bu imi sôn amdano'n gynharach, sef bod adnodd anferthol dihysbydd o dalent y dylai busnesau fanteisio arno. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r ymchwil a wnaed ac sy'n dangos bod cyflogeion anabl yn fwy tebygol o aros mewn swydd am gyfnod hwy a chael llai o absenoldeb oherwydd salwch, ond mae hefyd yn wir bod gan bobl anabl gyfleoedd enfawr, enfawr nawr i ddechrau a thyfu eu busnes eu hunain, gyda'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan Busnes Cymru. Dylwn bwysleisio wrth Aelodau, fel y gallant ledaenu'r wybodaeth hon i'w hetholwyr, bod cronfa gyfranogi yn bodoli yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru, ac sydd ar gael i dalu am unrhyw gymorth ychwanegol y mae pobl anabl yn ei wynebu, i'w helpu i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau dechrau busnes, ac mae hyn yn ychwanegol at y modiwlau cynllunio busnes safonol sydd ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:40, 3 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog.