– Senedd Cymru am 5:20 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar rwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig—Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein sector bwyd a diod yng Nghymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n sylfaen i'n heconomi, gyda 217,000 o weithwyr ar draws y gadwyn gyflenwi, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, manwerthu, arlwyo a chyfanwerthu, gan ategu twristiaeth a rhoi delwedd gadarnhaol o Gymru i'r byd. Roedd hyn yn amlwg iawn yn Blas Cymru 2019, ein digwyddiad masnach arddangos, lle daethom â phrynwyr rhyngwladol ac o'r DU at ein cynhyrchwyr a'n cynnyrch.
Mae llwyddiant yn seiliedig ar bartneriaeth. Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn bartner egniol i ni. Gyda'n gilydd rydym yn cyflymu uchelgais, yn creu llwybrau i'r farchnad, yn dileu rhwystrau ac yn hyrwyddo sector â chwmpas ac enw da cynyddol. Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau, a'r mwyaf uniongyrchol yw Brexit. Ond mae'n rhaid i ni hefyd weithio i gynyddu cynhyrchiant, datblygu busnesau i fod yn fwy cadarn a chynaliadwy, a chynnal ein henw da am safonau cynhyrchu uchel er mwyn sicrhau y gall y diwydiant ffynnu mewn marchnad gystadleuol.
Mae dod â busnesau at ei gilydd yn rhan annatod o fynd i'r afael â'r heriau hyn a hybu llwyddiant hirdymor. Mae hyn yn gonglfaen i'n dull o weithredu ac yn sylfaen ar gyfer llwyddiant. Elfen allweddol o hyn yw ein rhwydwaith clwstwr bwyd a diod sydd wedi'i ddatblygu'n dda iawn. Mae'r rhwydwaith clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol sydd â'r nod o greu newid gwirioneddol yn y diwydiant. Fe'i datblygwyd i roi gwell cefnogaeth i'r diwydiant trwy greu llwyfan i fusnesau o'r un anian gydweithio a chael cymorth sy'n benodol i'r sector. Mae'n hwyluso twf y sector, rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd drwy ddigwyddiadau a gweithdai rhwydweithio, ac mae'n creu cadernid yn ein cadwyni cyflenwi drwy ddatblygu gwe o gysylltiadau a chydberthnasau sy'n atgyfnerthu'r naill a'r llall.
Mae clystyrau'n hanfodol i lwyddiant mewn diwydiant ledled y byd. Maen nhw'n esblygu'n naturiol: technoleg yn Silicon Valley; esgidiau lledr a thecstilau yng ngogledd yr Eidal; a chyllid yn Ninas Llundain, i enwi dim ond rhai. Trwy ddod â busnesau a thalent at ei gilydd, maen nhw'n hybu arloesi a datblygu. Mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Ein strategaeth yw cyflymu clystyru. Trwy gymorth integredig gan y Llywodraeth, gwybodaeth dechnegol drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix, ac uchelgais ein bwrdd, gall ein teulu clwstwr sy'n tyfu, helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i barhau i ddatblygu a ffynnu.
Erbyn hyn mae yna wyth clwstwr o fewn rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, gyda dros 450 o fusnesau yng Nghymru yn cymryd rhan. Yn Blas Cymru, roedd y parth dysgu clwstwr yn galluogi gwneud cysylltiadau wyneb yn wyneb rhwng aelodau'r clwstwr a phartneriaid eraill. Mae ein clystyrau'n amrywio o grwpiau o fusnesau sy'n cynhyrchu math penodol o fwyd neu ddiod, i fusnesau sydd â gwahanol gynhyrchion ond sy'n rhannu nodau ac uchelgeisiau, fel cynhyrchion allforio neu gynnyrch uchel eu gwerth.
Mae ein clwb allforio yn galluogi busnesau i gydweithio a rhannu profiadau ynglŷn ag allforio, gan hwyluso allforwyr profiadol a'r rhai hynny sydd ond yn dechrau ar y daith hon i drafod rhwystrau a chyfleoedd o ran allforio. Rydym wedi cyflwyno'r system cyfeillio allforio, gan baru allforiwr profiadol ag allforiwr newydd er mwyn cadw'r cwmnïau'n atebol ac yn llawn cymhelliant. Rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau â mentrau cydweithredol rhyngwladol, gan ddatblygu ein huchelgais i gynyddu allforion a mewnfuddsoddi a chodi proffil rhyngwladol Cymru. Mae Prosiect Allforio Bwyd yr Iwerydd yn dod â busnesau o Gymru ynghyd â busnesau o ranbarthau yn Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon i oresgyn rhwystrau i allforio a gwella cystadleurwydd mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Mae'r clwstwr maeth Cymru yn cynnwys dros 75 o fusnesau a sefydliadau sy'n cydweithio ar brosiectau sy'n amrywio o beirianneg bwyd i raglen datgarboneiddio strategol. Mae'n cynnwys rhaglen bwydydd y dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth a'n canolfannau bwyd ar draws y wlad, gyda'r nod o fwy o ymchwil a datblygu yn y diwydiant bwyd, gan ei gwneud yn wirioneddol arloesol a chynaliadwy mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol.
Mae'r clwstwr effaith uchel yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem gwastraff frys. Mae wedi nodi cyfleoedd i leihau gwastraff, sydd hefyd werth degau o filoedd o bunnoedd o arbedion uniongyrchol, i'r busnesau dan sylw. Mae hyn yn helpu busnesau a ffyniant ehangach ac mae'n helpu lles Cymru, gan ei fod yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a'i nod o ailgylchu 70 y cant erbyn 2025, a 100 y cant erbyn 2050. Mae'r clwstwr bellach yn bwriadu datblygu hyn ymhellach, ar ôl cynnal cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar wastraff ac effeithlonrwydd adnoddau yn ddiweddar, ac rwy'n ffyddiog y bydd yn creu atebion newydd i fynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio.
Mae'r clwstwr diodydd wedi cydweithio â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i ddatblygu strategaeth sector yfed drosfwaol i gefnogi'r rhan amrywiol a gwerthfawr hon o'n diwydiant. Mae'n datblygu grwpiau diddordeb arbennig, gan weithio tuag at brosiectau strategol penodol â phwyslais. Mae aelodau ein clwstwr bwydydd da wedi gwerthfawrogi'n fawr y gallu i rwydweithio, gyda chwmnïau'n partneru i gyflwyno cynigion i brynwyr yn Blas Cymru yn llwyddiannus, ac maen nhw bellach yn rhannu gwerthwyr hyd yn oed. Mae hyn yn dangos bod y rhwydwaith nid yn unig yn ymwneud â chwmnïau sy'n cael eu cefnogi gan y clwstwr, ond yn ymwneud â'r cymorth gweithredol y mae aelodau'r clwstwr yn ei roi i'w gilydd.
Mae'r clwstwr bwyd môr yn codi ymwybyddiaeth o'n diwydiant cynhyrchion pysgodfeydd. Maen nhw wedi creu fideos llawn gwybodaeth am y diwydiant hwn ac wedi sefydlu grŵp diddordeb arbennig brandio a bandio, gyda'r nod o gynyddu'r gallu i olrhain ac ymwybyddiaeth o darddiad y pysgod cregyn. Maen nhw hefyd yn sefydlu cyfeirlyfr bwyd môr Cymru i gyfeirio at leoedd lle gallwch chi brynu bwyd môr blasus o Gymru ledled y wlad.
Mae'r clwstwr mêl wedi'i ddatblygu yn fwy diweddar ac mae'n codi proffil cynhyrchion gwenynwyr Cymru ac yn helpu i rannu arferion gorau yn eu plith.
Wrth i ni ddatblygu'r cynllun strategol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, rydym yn awyddus i ddysgu gwersi o'r llwyddiannau hyn er mwyn adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn parhau i ffynnu yn y dyfodol. Mae'r rhwydweithiau y maen nhw'n eu creu gyda'i gilydd, ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, yn creu cadernid yn ein system fwyd. Mae hon wedi bod yn daith ysbrydoledig, yn esiampl o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru, gan gefnogi ein gweledigaeth i greu cenedl ffyniannus a theg o fri byd-eang.
Diolch. Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffrous sydd wedi digwydd i mi heddiw yw fy mod yn cael defnyddio'r darllenfwrdd, oherwydd bod gennym ni ddatganiad materion gwledig.
Ond, mae'n werth myfyrio ar faint y diwydiant i Gymru: cyfanswm trosiant o £20.5 biliwn, 210,000 neu 217,000 o swyddi i gyd, os ydych chi'n ystyried y sector arlwyo. Ac mae twf y sector a'r ymwybyddiaeth ymhlith y defnyddwyr yn syfrdanol dros, yn sicr, y 10, 15 mlynedd diwethaf. Ac mae pobl yn poeni'n fawr am darddiad y bwyd y maen nhw'n ei brynu, ac maen nhw'n barod i weithredu drwy benderfynu gwario'r arian ar fwyd y gallan nhw fod â ffydd ynddo. Felly, mae'n bwysig bod gan bobl y gallu i dyfu eu busnesau yma yng Nghymru, ac os gellir nodi arfer gorau yn y gwahanol glystyrau, yna bod arfer gorau yn cael ei rannu.
Rwy'n credu eich bod wedi nodi ehangder y clystyrau, o'r mwyaf diweddar, y sector mêl, drwodd at y farchnad allforio, sy'n faes cymhleth iawn a dweud y lleiaf. Ac, yn aml iawn, er mwyn rhoi hyder i gwsmeriaid i fynd i'r farchnad allforio honno, mae'n amlwg bod angen iddynt gael eu harwain gan gymheiriaid a gwybod bod y Llywodraeth yno i'w cefnogi.
Mae un neu ddau o gwestiynau y mae'n rhaid imi eu gofyn. Yn amlwg, dim ond yn ddiweddar y mae Tomlinson wedi mynd yn fethdalwr yn y gogledd, neu wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ddylwn i ddweud, ac mae cyflwr ansicr ymhlith rhai o'r proseswyr mawr yma yng Nghymru. Pan edrychwch chi ar fodel Tomlinson, a oedd yn ymwneud â chefnogi cynnyrch Cymru—yn yr achos hwn, llaeth—a chaniatáu i'r llaeth hwnnw gael lle ar silff ymysg y manwerthwyr mawr, mae'n dangos bod angen esblygiad graddol yn y maes hwn, oherwydd, yn amlwg, gall busnes sydd wedi hen ennill ei blwyf dyfu'n gyflym iawn dros nos, a rhoi straen ariannol penodol a phwysau ar y busnes. A wnewch chi roi syniad inni o sut y mae'r rhwydwaith clwstwr o fudd i'r sector prosesu yma yng Nghymru, yn enwedig yn y sector cig coch? Oherwydd, rwy'n credu, petaech chi'n hepgor un lladd-dy mawr ym Merthyr, ychydig iawn o gapasiti prosesu cig eidion a fyddai ar ôl yng Nghymru. Felly, mae'n bwysig deall, o'r ddwy enghraifft hynny yr wyf wedi'u rhoi i chi, sut y mae'r sector prosesu yn elwa ar y rhwydwaith clwstwr.
Hoffwn i hefyd geisio deall sut mae'r cynllun datblygu gwledig yn helpu i lywio'r rhwydwaith clwstwr, ac o ran y cynllun datblygu gweledig yn llywio, yr hyn rwy'n ei olygu yw faint o arian sy'n mynd i'r rhwydwaith clwstwr o'r cynllun datblygu gwledig. Oherwydd, unwaith eto, dylai'r rhwydwaith clwstwr fod yn ysgogi arbedion yn y diwydiant, boed hynny wrth glwyd y fferm, neu boed hynny yn y sector prosesu, neu boed hynny yn y sector manwerthu, fel bod gennym gadwyn effeithlon a all gystadlu yn y farchnad allforio a'r farchnad ddomestig. Felly, pe byddech yn rhoi rhyw syniad i ni pa mor bwysig fu'r cynllun datblygu gwledig i lywio datblygiad y rhwydwaith clwstwr yng Nghymru, rwy'n credu y byddai hynny'n wirioneddol ddefnyddiol.
Hoffwn ddeall hefyd sut yr ydych chi'n cadw'r rhwydwaith clwstwr yn ffres ac yn fywiog. Gan fod wyth sector wedi'u cynrychioli, mae'n bwysig nad ydynt yn troi'n siopau siarad yn y pen draw, ac nad ydynt yn datblygu'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld fel arfer gorau, yr arloesedd, a sbarduno'r syniadau newydd, a phan fo angen adfywio, neu ailwampio ar y sector penodol hwnnw, bod hynny'n digwydd, yn hytrach na bod gennym ni yr ymarfer ticio blychau o ddweud, 'Wel, mae'r sector hwnnw'n cael sylw gan y rhwydwaith clwstwr penodol hwnnw.' Gwelsom ni i gyd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r canolfannau technium ar ddechrau oes y Cynulliad, ac, yn anffodus, nid oeddent mor llwyddiannus ag yr oedd pobl, yn amlwg, yn dymuno iddyn nhw fod, oherwydd teimlwyd nad oedden nhw'n gallu cyflawni'r hyn a oedd yn digwydd mewn rhannau eraill. Ac yn eich datganiad y prynhawn yma rydych chi'n sôn am wahanol glystyrau, yng Nghaliffornia, yn yr Eidal, ac mae'n ymddangos eu bod wedi gweithio dda yno. Wel, roedd y model technium yn canolbwyntio'n fawr iawn ar yr hyn a oedd yn digwydd yng Nghaliffornia, ond eto ni wnaeth drosglwyddo ar draws yr Iwerydd i Gymru. Felly, byddwn yn awyddus iawn i ddeall sut y mae'r adran, a chithau fel Gweinidog, yn gweithio i sicrhau bod y rhwydwaith clwstwr yn aros yn ffres ac yn aros yn fywiog.
Ac yn bwysig, yn amlwg, ar agenda, radar—galwch e' beth bynnag y dymunwch chi—y defnyddwyr yw'r argyfwng newid yn yr hinsawdd sydd wedi'i ddatgan, a lleihau carbon. Ac rwy'n sylwi yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at hynny, a rhai o'r modelau arfer gorau, a'r buddsoddiad sydd wedi'i wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ymchwil. Byddwn i'n awyddus iawn i ddeall meddylfryd y Llywodraeth ar hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni mewn etholiad cyffredinol ar hyn o bryd—rwyf wedi eich holi chi am hyn o'r blaen. Mae gan wahanol bleidiau gwleidyddol yr agenda hon er mwyn ceisio cywasgu'r agenda garbon niwtral honno i darged 2030, yn hytrach na tharged 2050 y mae'r pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd yn dweud yw'r unig opsiwn credadwy sydd ar gael ar hyn o bryd gyda'r technolegau sydd gennym. Pa mor ffyddiog ydych chi y bydd y lleihad mewn carbon a nodir yn eich cynllun chi eich hun fel Llywodraeth Cymru yn cyflawni nodau'r hyn y mae'r defnyddwyr eisiau eu gweld, sef byd carbon niwtral, sydd ag ôl troed amgylcheddol da, ac y gellir ei gyflawni heb achosi niwed hirdymor i'r diwydiant, ac y gall y diwydiant gyd-fynd â'r nodau yr ydych yn eu gosod? Oherwydd, mae'n ymwneud â gosod nodau y gellir eu cyflawni ac nad ydynt, yn y pen draw, yn achosi'r niwed economaidd y gallai, o bosibl, rhywfaint o fyrhau'r amserlen honno ei achosi pe byddai targed 2030 yn cael ei rhoi ar waith.
Felly, pe bawn i'n gallu cael atebion ar y ddau gwestiwn hynny yr wyf wedi'u gofyn i chi, byddwn i'n ddiolchgar iawn, Gweinidog.
Diolch, Andrew, am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn sef bod y defnyddwyr eisiau gwybod mwy am darddiad eu bwyd, ac, yn sicr, yn y tair blynedd a hanner y bûm yn y portffolio hwn, rwyf wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy'n mynd i wyliau bwyd, neuaddau bwyd yn ein sioeau amaethyddol, a gallwch chi weld eu bod nhw'n awyddus iawn i brynu'r cynnyrch o Gymru. Ac rydych chi'n gweld hynny hefyd yn yr archfarchnadoedd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan archfarchnadoedd y cynnig hwnnw o gynnyrch o Gymru. Ac, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf i wedi fy nghalonogi'n fawr yn ei gylch yn ein lolfa fusnes yn Sioe Frenhinol Cymru, lle mae llawer iawn o fusnes yn cael ei wneud. Rwy'n credu ein bod wedi cyfarfod—cyfarfu swyddogion â rhai, a chyfarfûm innau â rhai ohonyn nhw—tua 90 y cant o'r rhwydwaith archfarchnad gyfan, gan nad oes gwell gair. Cyfarfuom â chynrychiolwyr yr archfarchnadoedd hynny i sicrhau bod eu defnyddwyr, a phobl ar hyd a lled Cymru, a'r DU, yn gallu prynu cynnyrch o Gymru os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
Rydych chi'n sôn am y rhwydwaith clwstwr, ac mae'n debyg mai dyma'r unig enghraifft, rwy'n credu, sydd gennym o'r polisi clwstwr hwn yn Llywodraeth Cymru. Ac roeddwn yn ffodus iawn i fynd allan i Gatalonia a Gwlad y Basg, tua 18 mis yn ôl, i edrych ar eu rhwydwaith clwstwr nhw—y rhwydwaith clwstwr bwyd yn arbennig. Ond mae gan y ddwy wlad hynny, yn enwedig Catalonia, bolisi clwstwr ers blynyddoedd lawer—rwy'n credu ei fod tua 30 mlynedd. Felly, mae ganddyn nhw glwstwr ar gyfer plant, er enghraifft, a gall pob sefydliad a chwmni dalu i mewn i'r clwstwr hwnnw os ydyn nhw'n gwneud dodrefn i blant, os ydyn nhw'n gwneud dillad plant. Felly, nid yw'n ymwneud ag un math o fwyd yn unig, a dyna yr ydym ni wedi'i wneud yn y fan yma—fe wnaethoch chi sôn am fwydydd da, mae gennym ni'r clwstwr diodydd—felly mae'n ymwneud ag amrywiaeth o sefydliadau yn dod at ei gilydd, a chefnogi ei gilydd. A'r un peth yr wyf i'n ei hoffi'n fawr am y polisi clwstwr—fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr mêl, ac, fel y dywedais, dyma'r un mwyaf diweddar sydd gennym. Ac i eistedd o amgylch y bwrdd—rwyf wedi bod yn ffodus i gwrdd â nhw ychydig o weithiau—maen nhw'n gystadleuwyr, ond maen nhw'n wirioneddol hapus i rannu'r arfer gorau hwnnw y gwnaethoch chi gyfeirio ato.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ei gadw'n ffres, ac rwy'n tybio mai'r ffordd yr ydym yn ei gadw'n ffres yw drwy sicrhau ein bod yn cyflwyno rhwydweithiau clwstwr newydd, ond mae'n cael ei arwain gan gymheiriaid, llawer ohono, hefyd. Ac yn sicr, rwy'n credu mai'r rhaglen allforio sydd gennym, lle mae pobl yn cefnogi eich gilydd—. Felly, rwy'n gwybod yn fy etholaeth i fy hun bod gen i Wrexham Lager, ac mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr yno yn awyddus iawn i gefnogi cwmnïau newydd eraill sy'n ceisio allforio. Rwy'n gwybod bod cwmni yn etholaeth Jeremy Miles yng Nghastell-nedd yr ymwelais ag ef gydag ef, felly maen nhw wedi cyfeillio â'i gilydd, ac maen nhw yn eu tro, wedyn, yn cefnogi gwyliau bwyd ei gilydd, er enghraifft. Felly, rwy'n credu eu bod nhw'n ei gadw'n ffres eu hunain drwy sicrhau eu bod yn cefnogi ei gilydd.
O ran yr argyfwng hinsawdd, rwy'n gwybod eich bod wedi gofyn ychydig o weithiau am wahanol dargedau. Byddwch yn ymwybodol bod ein targed ni ar gyfer 2050, a'i fod ar hyn o bryd yn ostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau. Rwy'n mynd i Gynhadledd y Pleidiau y penwythnos hwn, lle bydd yn dda clywed am arfer gorau o wledydd eraill. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sef ein corff cynghori ac sy'n rhoi cyngor imi, wedi dweud y dylai ein targed fod yn 95 y cant. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw fynd yn ôl i weld a allwn ni gyflawni 100 y cant. Maen nhw'n dargedau uchelgeisiol iawn, fel y dywedwch chi, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ni dim ond yn mynd â chwmnïau gyda ni, ond ein bod hefyd yn mynd â'r cyhoedd gyda ni. Ac rwy'n credu bod pobl yn cydnabod na allwn ni barhau i wneud pethau yn y ffordd y buom ni yn eu gwneud. Mae'n rhaid i ni wneud pethau gwahanol.
Fe wnaethoch chi holi am y cynllun datblygu gwledig, ac mae'n gyfle da i sôn am Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix. Mae gennym ni dair canolfan ragoriaeth Arloesi Bwyd Cymru, yr wyf yn siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol ohonynt, ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, un yn Horeb yng Ngheredigion a'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni. Mae gennym ni Brosiect Helix hefyd. Mae hwnnw bellach yn cael ei ddarparu o dan frand Arloesi Bwyd Cymru, a chefnogir hwnnw gan £21.2 miliwn o gyllid cynllun datblygu gwledig. Unwaith eto, bydd yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, am dueddiadau, am wastraff, sy'n bwysig iawn ac a godwyd gennych chi, o bob cwr o'r byd, a byddan nhw wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'n proseswyr, ein cynhyrchwyr a'n gweithgynhyrchwyr bwyd. Ac mae disgwyl iddo gynhyrchu dros £100 miliwn ar gyfer economi Cymru, a chreu a diogelu miloedd o swyddi. Rwy'n gwybod bod y data cyntaf a dderbyniais yn dangos ein bod ar y trywydd iawn i wneud hynny.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cael unrhyw gyhoeddiad arwyddocaol yn y datganiad, ond yn amlwg mae e'n ddiweddariad defnyddiol o'r hyn sydd yn digwydd. Dwi yn credu bod dod â gwahanol fudd-ddeiliaid ynghyd drwy'r gadwyn gyflenwi fesul sector yn amlwg yn mynd i ddod â buddiannau, i adeiladu ar gryfderau, rhannu profiadau, a chreu rhyw fath o critical mass, gobeithio, sydd yn mynd i weld y cynnydd yn y sectorau hynny rŷn ni gyd yn awyddus i'w weld.
Mae gen i gwpwl o sylwadau, wrth gwrs, fel y byddech chi yn ei ddychmygu. Yn bennaf, dwi'n pigo fyny o'r ddwy sector, o'r sector fwyd a hefyd o'r sector amaethyddol, fod yna ddiffyg cyswllt, fod yna disconnect rhwng eich dogfennau ymgynghori diweddar chi ar ddatblygu'r sector bwyd a diod yng Nghymru a 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Yr awgrym yw y dylai'r ddwy ddogfen hynny wneud mwy i gael eu datblygu law yn llaw, neu hyd yn oed i fod yn un strategaeth integredig. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ofyn i chi yw a oes yna berygl bod gwendid sylfaenol yn hynny o beth, hynny yw bod yna ddwy broses wahanol, dau ymgynghoriad, dwy ddogfen, i feysydd a ddylai fod yn mynd law yn llaw? Efallai y gallwch chi roi eich ymateb chi i hynny.
Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am dyfu cyrhaeddiad ac enw da'r sector fwyd a diod, y reach and renown yma. Wrth gwrs, mae brandio Cymreig yn ganolog i'r enw da a'r cyrhaeddiad hynny, boed yn y farchnad ddomestig neu, wrth gwrs, yng nghyd-destun nifer o'r marchnadoedd rhyngwladol ryn ni'n cael mynediad iddyn nhw. Sut felly ydych chi'n sicrhau fod brandio bwyd a diod Cymru yn cael ei gryfhau ac nid yn cael ei danseilio gan ymgyrchoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft yr ymgyrch 'mae bwyd yn GREAT Britain', sydd ddim yn gweithio yn Gymraeg o gwbl? Mae yna berygl i'r brand hwnnw lastwreiddio y brand Cymreig a'r gwerthoedd mae'r ddraig goch yn eu cynrychioli ar ein cynnyrch ni.
Rŷch chi'n sôn am heriau, wrth gwrs, yn enwedig Brexit a'r angen inni sicrhau bod y sector yn fwy cydnerth a chynaliadwy. A wnewch chi felly esbonio sut y byddwch chi'n cynorthwyo'r sector fwyd a diod yn wyneb y posibilrwydd o golli rhai o'n marchnadoedd rhyngwladol ni, a hefyd colli marchnadoedd ar yr un llaw, ond hefyd gweld mewnforion rhad yn llifo i mewn i'r farchnad ddomestig ar y llaw arall, a sut bo hynny yn risg, wrth gwrs, i fod yn ras i'r gwaelod?
Rŷch chi'n cyfeirio at sut mae'r clwstwr impact uchel yn gwneud gwaith ar wastraff pecynnu. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu, ond tra eu bod nhw, wrth gwrs, yn gallu gwneud eu rhan, mae yna lawer mwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, a dwi eisiau gwybod pryd y gwelwn ni'r Llywodraeth o'r diwedd yn dod i benderfyniad ar bethau megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, yr extended producer responsibility, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dwi'n gwybod bod ymgynghori wedi bod, mae yna drafod wedi bod—wel, mae'r amser wedi dod nawr inni weld gweithredu, does bosib.
Yn olaf, allwch chi sôn wrthyf i beth yn fwy rŷch chi'n credu y gallwch chi ei wneud o safbwynt caffael cyhoeddus, oherwydd mae hwn yn un mater dwi ddim yn teimlo bod y Llywodraeth wedi llwyddo i'w ddatrys, nag i fynd i'r afael ag ef yn ddigonol? Mae yna'n dal ormod o gytundebau bwyd a diod sector gyhoeddus yn mynd allan o Gymru. Esboniwch inni sut ŷch chi'n gweld rôl y clystyrau yma ac unrhyw ddulliau eraill sydd gennych chi, yn benodol o safbwynt y sector fwyd a diod, i wella hynny, oherwydd rŷn ni'n gwybod bod pob 1 y cant rŷn ni'n llwyddo i'w gynnal yng Nghymru yn golygu tua 2,000 o swyddi, a hynny oll, wrth gwrs, heb wario rhagor o arian—dim ond gwario'r arian rŷn ni'n ei wario yn barod yn llawer mwy effeithiol.
Diolch, Llyr, am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar ein cynlluniau ar gyfer y bwrdd diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru. Soniodd rhai pobl efallai y dylai'r ddau ymgynghoriad fod wedi'u cysylltu â'i gilydd; roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod ar wahân, ond yn amlwg mae yna orgyffwrdd. Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad ar fwyd a diod a'r cynllun gweithredu nesaf yn adeiladu ar y cynllun gweithredu presennol, sy'n dod i ben yn 2020. Yn sicr, rwy'n credu y byddwn ni wedi cyflawni'r targed uchelgeisiol iawn o £6 biliwn, i'w gyrraedd erbyn 2020—ac roeddwn i'n credu ei fod yn uchelgeisiol iawn ar y pryd—erbyn diwedd y flwyddyn hon, mae'n debyg; yn sicr, rwy'n credu ein bod yn agos iawn, iawn ato ddiwedd y llynedd. Felly, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi'r bwyd-amaeth—ac rydym ni'n defnyddio'r frawddeg honno cryn dipyn, onid ydym ni, 'bwyd-amaeth'—mae'n wirioneddol bwysig bod gennych chi'r gorgyffwrdd hwnnw. Roeddwn i'n credu mai dyna oedd y peth iawn, eu bod ar wahân, ac rwy'n sicr yn credu, yn y trafodaethau yr wyf i wedi'u cael yn gyffredinol, bod hynny wedi'i dderbyn. Ond mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n edrych ar ganfyddiadau cyffredinol y ddau, ein bod yn sicrhau bod y gorgyffwrdd hwnnw'n parhau.
Mae brandio Cymreig yn bwysig iawn i mi. Rwy'n benderfynol na chawn ni ein tanseilio gan frandio 'Food is GREAT' Llywodraeth y DU. Mae'n debyg eich bod chi'n cyfeirio at yr hyn a ddigwyddodd y llynedd yn Sioe Frenhinol Cymru. Ni ddigwyddodd hyn eleni, a hynny am fy mod i'n glir iawn mai ein ffenest siop ni yw'r neuadd fwyd, a doeddwn i ddim eisiau 'Food is GREAT'. Fodd bynnag, mae'n wir bod rhai cwmnïau o Gymru eisiau bod yn rhan o 'Food is GREAT', ac mae hynny'n gwbl briodol iddyn nhw, ond rwy'n credu po fwyaf y bydd brand bwyd cynaliadwy o'r fath yn dod i feddyliau pobl—mae'n amlwg bod draig Cymru yn bwynt gwerthu enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, rwy'n hapus iawn i barhau i sicrhau bod y ffenest siop honno yn parhau i fod ar gyfer cynnyrch o Gymru yn unig, ond, wrth gwrs, rwy'n parchu dewis pobl sydd o bosibl eisiau bod yn rhan o rywbeth arall.
O ran cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, rydym ni wedi bod yn ymgynghori. Mae fy nghydweithiwr, Hannah Blythyn, yn gwneud hynny bellach, a byddaf yn sicrhau ei bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf. Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad, ac yn amlwg, mae'n briodol bod yn rhaid i gynhyrchwyr ystyried eu rhan nhw wrth leihau pecynnu bwyd.
O ran Brexit a'r heriau a masnach yn y dyfodol, rydym ni'n gwybod bod aelodaeth o'r UE yn rhoi mynediad heb gyfyngiad i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru at 0.5 biliwn o bobl. I mi, nid oes dim a all gymharu â hynny, felly er bod ganddyn nhw, ar hyn o bryd, ryddid rhag tariffau gwahaniaethol—mae gennym ni rwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau ac felly mae ein cynhyrchwyr yn gallu allforio i wledydd yr UE yn rhwydd iawn. Rydym ni'n gwybod bod 90 y cant o allforion cig oen a chig eidion Cymru yn mynd i wledydd eraill yn yr UE, felly gall Brexit, i mi, dim ond golygu y bydd allforion yn ddrutach os ydyn nhw'n agored i dariffau a rhwystrau nad ydyn nhw'n ymwneud â thariffau. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw ein barn. Rydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni gefnogi ein sector cig coch yn benodol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny dros y tair blynedd diwethaf. Byddwch chi'n ymwybodol fy mod wedi rhoi arian ar gyfer meincnodi cig coch i sicrhau bod ein ffermwyr yn fwy cystadleuol.
Unwaith eto, mae rhyddid pobl i symud yn mynd i gael effaith ar ein cynhyrchwyr bwyd. Roeddwn i'n edrych ar ffigurau ynghylch faint o bobl—o blith y 217,000 o bobl hynny y soniais amdanyn nhw ar draws y gadwyn gyfan, faint ohonyn nhw sy'n wladolion yr UE, ac rwy'n credu ei fod dros 30 y cant. Felly, gallwch chi weld bod hynny hefyd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'n cynhyrchwyr bwyd. Felly, heriau enfawr yn ymwneud â Brexit, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'r sector.
Wrth fynd ar drywydd y ddau gyfraniad blaenorol, a oedd yn cwmpasu rhywfaint o'r hyn yr oeddwn i yn mynd i'w godi, nid wyf i'n rhannu'n llwyr hyder Andrew R.T. Davies fod pobl yn barod i roi eu harian ar eu gair. Oherwydd, yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod prynu ar sail pris ac mae llawer o bobl, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu gorfodi i wneud hynny, maen nhw yn y bôn yn prynu ar sail pris. Ac yn aml mae'r hyn sy'n ymddangos yn rhatach mewn gwirionedd yn ddrutach, gan fod bwyd wedi'i brosesu yn llawn siwgr, halen a braster dirlawn, ac, yn anffodus, rwy'n arswydo o glywed nad yw rhywbeth fel dwy ran o dair o'r holl bobl, ledled y DU, byth yn bwyta bwyd wedi'i baratoi'n ffres. Felly, rydym ni'n wynebu heriau iechyd cyhoeddus eithaf mawr yn hynny o beth.
Ond rydych chi eisoes wedi sôn am yr argyfwng dirfodol yn sgil Brexit, sydd wedi'i ohirio am nawr, ond nid yw'r bygythiad o orfod ymadael yn drychinebus â'n prif farchnad allforio a mewnforio bwyd wedi diflannu—mae wedi'i ohirio am flwyddyn yn unig. Ac felly, yn union fel y mae'r Llywodraeth sy'n ymadael—Llywodraeth y DU—yn hapus i agor gwasanaeth caffael cyffuriau y GIG i gwmnïau fferyllol mawr yr Unol Daleithiau, rwy'n ofni hefyd nad oes ganddyn nhw unrhyw amheuon ynghylch aberthu safonau bwyd ar allor cytundebau masnach rydd, fel y'u gelwir. Felly, gallai hynny olygu buddiannau ffermio o'r Unol Daleithiau, y mae cwmnïau prosesu bwyd rhyngwladol yn tra-arglwyddiaethu arnyn nhw, nad ydyn nhw'n poeni dim am y niwed amgylcheddol y maen nhw'n ei achosi i'n priddoedd, ein moroedd a'n haer, gan sathru ar fuddiannau ffermio Cymru. Felly, mae gennym ni rai heriau eithaf sylweddol o'n blaenau.
Hoffwn ddathlu'r pethau yr ydych chi wedi'u hamlinellu eisoes yn eich datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am chwech o'r wyth clwstwr bwyd a diod, ac rwy'n credu bod clwstwr garddwriaeth hefyd, ac ni fyddwch yn synnu o fy nghlywed yn eich holi am hyn, oherwydd rwy'n credu mai dyma un o'r pethau pwysicaf i bob un ohonom. Mae dros 60 o gynhyrchwyr llysiau masnachol ar gronfa ddata Tyfu Cymru. Pa gynnydd allwch chi ddweud wrthym ni amdano am eu gallu i wneud Cymru'n gynhyrchydd mwy cynaliadwy o'n llysiau a'n ffrwythau ein hunain, ac yn llai agored, felly, i ymadawiad trychinebus o'r UE ddiwedd y flwyddyn nesaf?
Rwy'n sylwi hefyd y bydd cyfarfod yfory o enillwyr cronfa her yr economi sylfaenol yn Llanelwedd, y mae Lee Waters yn mynd iddo, yn ôl pob tebyg. Mae gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa gynlluniau sydd ar y gweill i ymestyn uchelgais bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i gaffael mwy o fwyd sector cyhoeddus yn nes at adref o fusnesau lleol, a sut ydych chi'n credu y gallai arferion da gael eu lledaenu i'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rwy'n nodi yn arbennig y bu'r Athro Sonnino o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn annerch sefydliad bwyd ac amaeth y Cenhedloedd Unedig ddoe a'i fod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau bwyd trefol lleol ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ein rhwydweithiau bwyd.
Diolch, Jenny. Rwy'n meddwl mai'r pwynt yr oedd Andrew R.T. Davies yn ei wneud ac yn sicr y byddwn i'n cytuno ag ef yw—ac rwyf wedi ei weld fy hun dros y tair blynedd diwethaf—bod pobl—yn enwedig mewn archfarchnadoedd, rwy'n credu, rwyf wedi ei weld—yn chwilio am fwyd a diod o Gymru ac yn mynnu bod ein harchfarchnadoedd yn ei stocio, yn amlwg, er mwyn iddyn nhw allu dewis gwneud hynny. Bydd fy mam fy hun yn chwilio am gaws o Gymru. Ni fydd hi'n prynu unrhyw gaws arall ar wahân i gaws o Gymru, ac, yn amlwg, mae llawer o fathau o gaws o Gymru. Ond rwy'n credu ei fod yn dda iawn; anaml y byddwch chi'n mynd i archfarchnad yng Nghymru bellach ac nad ydych chi'n gweld caws o Gymru'n cael ei arddangos.
Rwy'n credu bod y ffigur a gawsoch chi—nad yw dwy ran o dair o bobl ledled y DU yn bwyta bwyd ffres—yn amlwg, mae effaith bwyd ar iechyd y cyhoedd yn cael ei gydnabod yn dda iawn, ac rwy'n credu bod gan y diwydiant bwyd ran bwysig o ran dylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddewis i fwyta ac yfed.
Fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr garddwriaeth. Yn wir, mae yna glwstwr garddwriaeth. Fel y gwyddoch chi, nid yw'n farchnad enfawr yng Nghymru, ond rwy'n credu mai un o'r cyfleoedd o 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', wrth fwrw ymlaen, yw gweld cynnydd yn nifer y garddwriaethwyr. Rwyf wedi ymweld ag o leiaf dau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, lle maent yn awyddus iawn i sicrhau eu bod yn ymestyn eu cynnig.
Nid wyf yn ymwybodol o'r digwyddiad y gwnaethoch chi nodi bod y Dirprwy Weinidog Lee Waters yn mynd iddo yfory, ond mae ef newydd gerdded i mewn i'r Siambr, a byddwn i'n hapus iawn i gael trafodaeth, os bydd yn mynd i'r digwyddiad hwnnw yfory, rwy'n cymryd, ar faes y Sioe Frenhinol.
Rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â phryderon, ar ôl Brexit, o ran pa gytundebau masnach rydd y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, ac rwyf bob amser yn dweud, os yw UDA fwy na thebyg ar frig eu rhestr, ni fyddai ar frig fy rhestr i, yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am fasnach yn sicrhau eu bod o gwmpas y bwrdd ar gyfer unrhyw drafodaethau.
Ond, yn amlwg, cynnal ein safonau uchel iawn yn y ffordd y cynhyrchir ein bwyd a diod—rydym ni eisiau cynnal y safonau hynny ac nid ydym ni eisiau i'r farchnad gael ei boddi gan fwyd rhad, oherwydd, fel yr ydych chi'n dweud, i lawer o bobl, mae pris yn sicr o fod yn rhywbeth y bydd yn rhaid iddyn nhw edrych arno pan fydden nhw'n prynu eu bwyd. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud dewisiadau iach, a hefyd rhoi cyngor a gwybodaeth a chymorth. Ac, yn amlwg, mae hynny'n rhan o'r cynnig bwyd a diod sydd gennym ni.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, ac mae hynny'n dod â thrafodion heddiw i ben. Diolch.